Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

Iffetan y Gol.

Advertising

Clep y Clawdd |

News
Cite
Share

Clep y Clawdd | t, I sef Clawdd Orfa, I [Gan YR HUTYN ] Yr Archolledig.—Arllwysir yr archolledig ar faes y gwaed i'r gwahanol drefydd o wythnos i wythnos, fel mai ysbyty rhyfel mewn gwirionedd yw pob tref o unrhyw faint trwy Brydain i gyd. Nid yw Cymru yn ol yn ei rhan yn hyn, na'r Clawdd o un rhyw ran ohoni. Yr wythnos ddiweddaf, daeth tros gant o filwyr clwyfedig iWrecsam, a gwneir pob darpariaeth angenrheidiol ar eu cyfer. Ni fu erioed gymaint o ddieithr- iaid yn y dref ag yn awr. Mae'r Baracs a'r ysbytai yn tynnu pobl o bob ewr. Rhedeg am Fywyd.-Nid yn anfynych y gwelir haid o ricriwts yn rhedeg nerth eu carnau trwy'r dref,-sef tref Gwraig Sam, gan ei heglu hi tua'r orsaf, ac oddiyno am gartref. Holir yn ami gan yr anwybodus beth sy'n bod. Yr esboniad yw, mai bech- gyn newydd eu galw i fyny ydynt ac wedi bod dan fawd y meddygon. Da ganddynt wynebu tua, chartref gyntaf y medrant. Tynnant gryn lawer o sylw pobl y dref. Buchfrechu Moch.—Cwynir yn arw gan amaethwyr Y Clawdd oherwydd buchfrechu moch gan y Llywodraeth a hynny'n troi allan yn niweidiol ac angeuol iddynt, Cyfyd y Gadareniaid eu llais yn groch yn erbyn y golled. Disgynnodd colled echryd- us i ran un amaethwr, a hwnnw'n Ynad Heddwch gyda hynny. Galw am Dai.—Cwynir nad oes digon o dai ar Y Clawdd yma. Gofynnir am ganoedd yn ychwaneg. Daw'r galw pan y mae adeiladwyr yn brinion a'r deunydd yn ache ei bris.—Arwydd yw hyn, hwyrach, y bydd llawer mwy o adeiladu ar ol y rhyfel na ehyn hynny. Daw felly amsergwell, ond yr angen mwyaf sydd am well math o dai- rhai symlach a mwy defnyddiol. Nid yw hanner y tai sydd yn awr o fawr ddeunydd, os dim, i'r gweithwyr sy'n lletyja ynddynt. Os adeiladu tai adeilader rhai pwrpasol. Daw lies o hynny. Galw am Foch.-Dawr mochyn yn ei ol os a'r eeffyl aUan. Y cyngormwyaf cyffreclin i drigolion Y Clawdd y dyddiau hyn yw; Cedwch foeh." Bydd eu hang en or ennill y rhyfel. Wedi ricriwtio y dynion, rhaid yn awr ricriwtio'r moch. Caed Arglwydd Derby i wneud y blaenaf, rhaid cael Arglwydd Gadara at yr olaf. Pwy yw ? Dylifo i metcn.—Yn ystod y flwyddyn a aeth heibio daeth cymaint arall i fewn. i'r byd hwn ar draeth Y Clawdd yma ag a aeth allan ohono i'r byd arall. Ganwyd dau am bob un a fu farw. Ryfedd felly fod angen ychwaneg o dai ac o foch—bydd eisiau yehwaneg o wartheg hefyd, a llefrith a ffug-dethi (tits). t?Amer,ig%yn y Miri.Troir llygad eto y dyddiau hyn i'r Amerig. Buwyd yn dis- gwyl ynfeiddgar wrthi ers trc i wneud ei rhan yn ddewr a dynol yn yr ymgyreh liw» dros y gwan yn ei waed, ond yn ofer y bu pob disgwyliad. Gwell ganddi oedd aros yn "uiwtral." I Ond y math yma, o neutrality fydd ei gwarthrudd. Gwelir y bydd raid i'r Amerig ddod allan yn awr, neu golli ei lie a'i pharch ymhlith y teyrnasoedd am byth. Bydd hanes y rhyfel mawr hwn, pan ysgrifennir ef, yn llewychu'n anffafriol ar y cyfandir amhleidgar ac anwrol hwn. Y Prif yn Arfon.—Diwrnod mawr yn nhref Caernarfon ac yn Arfon drwyddi a Chymru i gyd o ran hynny, oedd dydd, Sadwrn. Y Prif Weinidog, a hwnnw'n Gymro, am y tro cyntaf yn rhoi annerch fel y Prif i'w gydwladwyr. Mae'r Clawdd yn glep i gyd ar gyfrif y peth. Disgwylir mae araith uniaith fydd drwyddi, sef yn hen iaith y Brython. Faint i ftvyta.-Ryfedd fod rhaid dweyd wrth ddynion pa faint neu pa cyn lleied i'w fwyta. Ond felly* y rhaid y dyddiau hyn. 'Does ddadl amdani nad ydys yn bwyta llawer gormod er ein lies. Dylid gwneud rheol nad oes i fod fwy na thri phryd yn y dydd yn awr. Hefyd dywed y Llywodraeth nad oes neb i gael mwy na phedwar pwys o fara y pen yn wythnosol. A pha angen y sydd am gigoedd? Byddis yn well hebddynt, Y cigfwytawyr yW'r yfwyr mwyaf, meddir. Hwyrach y dysg y rhyfel hwn ni sut a pha faint i'w fwyta. Dywedwch wrth y Kaiser beth ar y gloch yw. —Cyn dychwelyd yn ol i wynebu'r Ellmyn megis y bu am fisoedd lawer, cymerodd eigydweithwyryng ngwaith dur Brymbo gyfle i roddi anrheg o oriawr i'r Pte. Ernest Jones, Highfield, Broughton. Gwr ieuanc a ennill serch pawb a ddaw i gyffyrddiad ag ef yw Ernest, ac yn fachgen crefyddol hefyd i'r earn, ac o deulu cyffelyb. Dymunwyd yn dda iddo gan ei gydweithwyr a gollyng- wyd ef, gan hiraethu am ei ddychweliad diogel. Cymru uchel ei moes.-Rhoed gair uchel i foes Cymry'r Gogledd gan yr Ynad Atkin ym Mrawdlys yr Wyddgrug ddydd Sadwrn diweddaf. Nid yw Cymru yn ddidrosedd fel y mae'r gwaethaf, ond rhagora mewn moesau ar unrhyw wlad arall bron. A hyn yw tystiolaeth pob brawdlys a Barnwr diragfam, boed Sais boed Wyddel. Eto i gyd, pardduir Cymru gan wehilion brwnt o flwyddyn i flwyddyn. Daw Cymru eto'n lanach fyth, yn neilltuol felly wedi cloi drws y dafarn. Troseddau Milwyr.—Gwelir fod nifer tros- eddau y'milwyr clychweledig yn cynhyddu'n gyflym. Beth yw y rheswm am hyn ? Beth a fedrir ei wneud i'w atal ? Gwelir oddiwrth hyn ddylanwad andwyol rhyfel ar foesau y i beehgyn ofnir fod amser garw o'n blaen pan a'r rhyfel heibio. Yn Eisiau-Dwy fil o Wei,)tidogion. Geilw y Y.M.C.A.am ddwy fil o weinidogion yr Efengyl i'w chynorthwyo. Gwna y Gymdeithas hon waith da dros ben. Can- molir hi gan y milwyr oil. Ar yr un pryd camsyniad yw anfon allan weinidogion efengyl ag y mae cymaint o'u hangn.garref ar hyn o bryd; Fe wna y gweinidogion hyn fwy lawer o les gwiripneddol ymhlith eu praidd. Gellir cael ereill na allant ymladd i wneud y gwaith hwn. Mae -rweinido-uon yn amharu eu waith eartref mewn ffordd anadferadwy drwy ei adael ar hyn o bryd. Gartref y mae gwneud gwaith-cofier hynny. Y Rhos o ddifrif.-Mae y gwaith dirwestol wedi ei ail gychwyn o ddifrif yn y Rhos y flwyddyn newydd hon, ymhlith y plant a'r bobl. Mae'r Bands of Hope mewn llawn gwaith, ynghyda Chymdeitbas y Merched. Penderfynner cael do ar ddrws y dafarn ac os oes mwy o angen am hyn mewn lleoedd na'i giJydd yRhos a Gwrecsam yw'r mannau hynny. Y Nietzche Ba,rnol.-Bu'r Athro J. Young Ifans, M.A., B.D., yn awr o'r Bala, ar Y Clawdd yr wythnos ddiweddaf yn darlithio ar Athroniaeth yr Hen Nic. Q-çVf llygad- graff a thyn ei fawd yw'r Athro. Adnebydd ef yr Ellmyniaid hyn yn ddiwyro, a neb gwell nag efe. Caed hwyl 'rwy'n siwr! -0-

Basgedaid o'r Wlad.