Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

Trem 1- Ymweliad Mr. E.T.John,A.S.

Tram !t-Not!o'r Niagara.

News
Cite
Share

Tram !t-Not!o'r Niagara. Wel, mae'r Arglwydd Wilson, o'r diwedd, ac America'n gyfiredinol gydag ef, yn ym- ddangos fel pe wedi penderfynu cymryd safle newydd a phendant yn erbyn haerllug- rwydd a bygythion barbaraidd Germani. Cyhoeddir fod y cysylltiad diplomataidd rhwng Washington a Berlin wedi ei dorri, ac y bydd i'r llysgenhadon o'r naill, wlad a'r lIalI gyrchu adref ar fyrder. z Datganiad Germani o'i bwriad barbaraidd i suddoo, llongau masnach hyd yn oed y gwledydd niwtral, a barodd y symudiad hwn; ac ymddengys fod un long *Americanaidd— yr I-lousatonic--eisoes wedi ei suddo, ond y manylion ar hyn o bryd heb eu cael. Llamodd y lliaws i'r casgliad fod gwaith yr Unol Daleithiau yn torri ymaith y cys- ylltiad diplomataidd a Gerrnanin gyfystyr a chyhoeddi rhyfel yn ei herbyn. Ond camgy-meriad yw hynny. Wedi'r profiad a gafwyd yn ystod y rhyfel presennol o'r trafodaethau rhwng Washington a Berlin, anniogel fyddai tynnu casgliadau'n rhy barod. Gyfrwysed yw'r Ellmyn, ac mor dra awyddus yw Dr. Wilson i osgoi rhyfel, fel nad yw'n amhosibl i ryw gymedroliad ar y bygythion erchyll ar ran polisi Germani beri i'r Ty Gwyn ymlonyddu unwaith eto, Ond, yn ddiamheuol, mae'r sefyllfa bre- sennol wedi dwyn Berlin a Washington i agwedd fwy penderfynol yng ngwrthwyneb i'w gilydd nag y buont o gwbl, ac yn ei gwneuthur yn anodd iawn i Dr. Wilson ymgadw rhag cymryd ochr weithredol yn y rhyfel oni fydd i'r Caiser dynnu'n ol ei fygythiad ar y niwtraliaid. Yn ei araith swyddogol, dangosai Dr. Wilson amharod- rwydd i gredu y byddai i Germani gyflawni'r anfadwaith o dorri ei chytundeb ag America. Eto, o tan hyn oil, fe wyddai'n burion beth a wnaethai Germani a gwledydd ereill, ac hyd yn oed ag America ac os oedd ystyr i'w araith o gwbl, fe olygai ddiffyg ymddir- iedaeth yn yr ymrwymiad a wnaethai Berlin gyda golwg ar longau niwtraliaid— ar ol i'r Sussex gael ei suddo. 0 ran dim cydwybod a fedd, ni faliai'r Caiser fotwm corn am dorri unrhyw gytundeb ag America mwy na'r un wlad arall. Beth sydd yn ei wegil, fel cymhellydd i'r bygythiad diwedd- af, nid hawdd bod yn sicr. Beth bynnag, gellid meddwl am un o ddau beth arbennig —naill ai ei fod yn gobeithio buddugoliaeth er gwaethaf America neu ei fod yn ar- gyhoeddedig nad all mwyach obeithio budd- ugoliaeth, ac y byddai tynnu'r Unol Daleith- iau'n ei ben yn help i leihau ei ddarostyngiad yn gymaint ag iddo ymladd, yn ymarferol, yn erbyn yr holl fyd. Dywedir fod afiechyd angeuol wedi neddiannu'r nofiedydd enwog, Capten Webb, ac mai ei amcan yn ceisio disgyn trwy drochion Rhaeadr y Niagara ydoedd—os y llwyddai, da; ond os na lwyddai, y buasai iddo, o leiaf, orchuddio ei ddiwedd a. chlod y gwron. Gall fod cyfuniad o'r ddau deimlad ym mynwes y Caiser—gobaith buddugoliaeth, neu yntea o leiaf orchuddio ohono ei gwymp a dis- gleirdeb y dewr a ymladdai yn erbyn yr holl 1 fyd.

Tram -lll-Y Prif Wainidog.

Advertising