Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

I GOSTEG. I

OYDOIAUUR.

Cyheddwyr y Cymod

Advertising

DkU TU'R AFOIM.

I Ffetan y Gol.

IHeddyw'r Borel

News
Cite
Share

I Heddyw'r Borel 8ej vore dydd Mercher. AM FYWYD LLOYD GEORGF, 1-Y peth brasaf a mwyaf cyffrous sydd yn y papurau heddwy'r bore yw'r newydd fod pedwar o bobl-tair dynes a dyn-wedi eu dwyn o flaen y fainc yn Derby ar y cyhuddiad o gydgynllwyn i wenwyno'r Prif Weinidog a'r Gwir Anrhyd. Arthur Henderson, A.S. Deu- ant gerbron eto ddydd Sadwrn nesaf o mawr yw'r siarad am y peth drwy'r wlad. YR HIN A'R HETH.-Clywais ddweyd mai dyma'r gaeaf caletaf ers pymtheng mlyn. edd ond ni choeliaf fi ei fod yn agos cyn galeted a'r gaeaf tri mis o rew ac eira a gaem hanner can mlynedd yn ol, pan rynnem yn yr ysgol ddi-dan, a finnau'n cael sias a chlewten gan yr ysgolfeistr am fethu gwneud fy tweis wan ar tw" yn ddigon buan am fod crepach ar fy mysedd. a thanllwyth o dan siriol a chysurus y cynhesir plant moethus yr oes hon, ond a. chlewten a chansen y meistr a'r athrawon y cedwid pawb ohonom ni'n gynnes, ac eithrio plant y ffarm o'r hon y caffai'i meistr ei ymenyn. YR HEN DDYN YN RHYNNU.- Dyma bwt o lythyr o Ferthyr Tydfil heddyw'r bore, yn peri inni ddiolch mai nid yno yr ydym y dyddiau hyn, onito mai profiad Dewi Hafesp a fyddai'n profiad ar beth cyffelyb ym Meirion :— 0 mae'n oer, dacw domen eira,—a rhew Mawr iawn os dalia Am hir ennyd, mi rynna Yn hen ddyn rhwng dannedd ia. Ond hawyr buaswn i'n meddwl fod digon o wres yn fflamio o ffwrnais enbyd Dowlais i feiriol y rhew am bum milltir o gylch. Ys gwn i pwy ydoedd yr hen gybydd hir-ewin h wnnw a gafwyd ar hin tebyg ihyn wedi rhewi i farwolaeth ar yr Arennig, a sofren rhwng ei ddannedd. Yr hen grintach cyndyn DRWY HIC MORF AIN.-Wrth deimlo gwynt y dwyrain yn torri fel cyllell drwy f'ais heddyw'r bore, mi gofiais sylw'r Hybarch Ddafydd Jones, Treborth, wrth rhyw ddyn yn y seiat yng Nghaernarfon. Gofyn iddo ddarfu D.J. a ydoedd yn dal i ysmocio. "Ydwyf," ebe'r dyn. 11 Wel, dydw i ddim yn deud faint o bechod ydyw smocio ond mi ddywedaf hyn fod y diafol fel gwynt y dwyrain ac ni welaist ti erioed drwy hie mor fain yn dy galon di y medr yr hen ddyn sydd ynot gael ei wynt." Ac wrth weld y bargod wedi rhewi a'r pwll dwr o flaen y ty yn sglefr, dyma gofio geiriau Gwilym Cowlyd Ysgoewemp, dlysau gaeaf Yng nghlustiau'r bargodau gaf, A'i wydr glo ddyd rhew glan Ar bwll dwr, a bollt arian. BATHODYN I'R GLEW.—Yv oedd y Temp. Capt. Dyfrig Huws Pennant, R.A.M.C. a R.F.A., ymysg y rhai y dyfarnwydbathodyn y D.S.O. iddynt yr wythnos ddiweddaf am eu glewder yn y rhyfel. Ei enw trifflyg yn dwyn sant cu, pregethwr eirias, a hanesydd gwyrdd ei goffadwriaeth i feddwl dyn. Pam y cafodd y tri yn ei enw, tybed ? AP IDANFRYN AR I .lJlYNY.- Y mae Mr. Gwilym Hughes, ysgrifennydd C ynghrair y Gofeb Genedlaethol Gymreig (sef gad yn erbyn y Darfodedigaeth) wedi ym. ddiswyddo er mwyn derbyn penodiad pwysig dan Gyfarwyddwr y Gwasanaeth Cenedl- aethol-Mr. Neville Chamberlain. Mr. Hughes yn frodor o Gaernarfon, mab y diweddar Idanfryn, ac wed' bod yn newydd- iadura am flynyddoedd yn Swyddfa'r Herald, Caernarfon, ac yna yn y Debeudir gyda'r South Wales Daily News. BONLLEF ^GAERNARFON.—Y mae Mr. Lloyd George wedi addo'n bendant mynd i annerch cyfarfod yng Nghaernarfon ddydd Sadwm nesaf, sef am y waith gyntaf fel Prif Weinidog. Diau y bydd yno lond y pafiliwn hyd y wasgfa eij haf tufewn, a'i lond ddeng- waith oddiallan i fytheirio am fethu cael Ile, felylleillffodusaffafredigtufewii. Ac o bob un o'r myrddiwn croeso a gafodd yn ei oes, ni chaiff yr un cynhesach na chryfach ei hip a'i hwre nag a gaiff gan bob plaid ac enwad yn hen dre'r canaries ddydd Sadwm. UGAIN 311L R. J. II.HOMAS.-Y mae Mr. R. J. Thomas, Garreg Lwyd, Caergybi, wedi amlygu ei fwriad i gyfrannu ugain mil o bunnau at godi cronfa goffadwriaethol i Ogleddwyr Cymru sydd wedi cwympo yn y rhyfel. Ei fryd ef ydyw codi adeiladau helaethion ac addas ac ynddynt ddarpariaeth arbennig i ddysgu Amaethyddiaeth ac ym- chwiliad gwyddonol ynglyn a'r Brifysgol ym Mangor. Y mae'r Brenin a'r Prif Weinidog yn cymeradwyo'r peth o galon; y mae cyfarfod yn cael ei aJw yn y Rhyl Chwefrol 14, a gwahoddiad wedi ei anfon i Gymry blaen- llaw'r chwe sir yn gystal ag o Lundain, Leipwl a Manchester, ac yn y blaen. Dyma'r enwau sydd wrth y cylchlythyr galw Arglwyddi Boston, Kenyon, Mostyn, Penrhyn, Harlech y Gwir Anrhyd. J. Herbert Lewis y Syriaid Watkin. Williams Wynn Osmond Williams, Vincent Evans; Mri. D. Davies, A.S., D. S. Davies, J. R. Davies, Wm. George, David Jones (Lerpwl), W. Owen (Bl. Ffestiniog), J. E. Powell, R. J. Thomas, a'r Parch. John Williams (Brynsiencyn). Dyma ugain mil y daw bendith fawr a hir ohonynt yn y cenedi- aethau sydd i ddod. Bydd yr ugain mil a'r holl danysgrifiadau eraill a ddaw i'r drysorfa yn cael eu bwrw i'r Echwyn Rhyfel ar hyn o bryd, gan na fwriedir dechreu ar yr adeiladu ym Mangor nes bo heddweh. ANDWYO'R COED CARU.—Y mae un o fannau tlysaf a dymunolaf sir Fflint mewn perygl o gael ei andwyo, sef Hwybr braf y Leete, gerllaw y Loggerheads, Gwem y Mynydd, i fyny'r allt o'r Wyddgrug. Heidia miloedd yno'r haf o Loegr a Chymru, a thybed y gwelwyd mwy o gyplau caru a chil- gusanu ac arlunwyr gwalltog yn unman ? Y mae yno lai o droedio lawer wedi bod ar hyd ddo er pan dorrodd y rhyfel allan, a'r bobl sy'n gweithio chwarel yno yn malio dim am brydferthwch y coed a'u cysgod, ond yn barcuta fel rhyw Sion Lygad y Geiniog drwy'r coed i weld fath gerrig sydd yng ngrhombil y ddaear islaw. "fWRTH FFARWEL10 A'I BRAIDD.—Cafodd y Parch. J. H. Hope, M.A., rheithor newydd Bodel- wyddan, Dyffryn Clwyd, tea tray ariaii a phyrsaid o aur gan blwyfolion Llandegla wrth eu gadael, ar ol eu bugeilio am wyth mlynedd. Syr Wm. Williams, yswain a pherchen bywoliaeth Bodelwyddan, a'i hestynnodd iddo ar ran y tanysgrifwyr, a rheithor newydd Llaildegla, y Parch. J. W. Thomas, M.A., ymysg y dyrfa. !1ê COLLI MORGAN W ATIi[IN.-Y mae Dr. Morgan Watkin, un o Gymry ieuanc dysg- edicaf a disgleiriaf y De, wedi cael ei benodi'n athro'r Ffrangeg yng Ngholeg Johannesburg. Er cynifer o ieithoedd y medr eu siarad a'u mwynhau, y mae'n d&n byw dros y Gymraeg, a thros foddion gras yn iaith ei fam ac fe ail-flodeua Cymrodorion Johannesburg pan gyrhaeddo Cymro mor fyw yno i'w deflEro. rN TRWSIO'I TE SGI DIAU EI HUN.—Yr oedd un o bobl tloty Llanrwst yn gofyn am bar o esgidiau newydd i'r Gwarcheidwaid ddydd Llun; ond ebe'r Parch. J. Llewelyn Richards, ficer Dolrddelen J Fe fyddaf fi yn trwsio f'esgidiau fy hun bob amser." Gwr difalch a di-lol yw'r Ficer, ac yn eplesu am] i gyfarfod a phwyllgor toeslyd a'i hiwmor. DrN RHAGOR LLEW.-Dywedodd y Parch. T. C. W;U:ams, M.A., ei gaplan, wrth gynnyg tost y Llynges a'r Fydd-n yn y cn;o a roddai Uchel Siryf Mon i'r rheithwyr a gwyr y- gyfraith ym Miw- maris ddydd Llun, iddo glywed Mr. Lloyd George yn dywedyd peth fel hyn newydd ddychwtlyd o'r ffrynt.- Fy mam i ydyw mai dyn yw'r creadur dewraf 41 a wnaeth Duw erioed, ac nid yw llew ond llwfryn o'i gymharu ag ef." Wedi gweld y bechgyn yh sblo mor ddigryn ym myw Uygad angau yr ydoedd ac felly, peidiwch byth a dywedyd Llew o ddyn mwyach.

Family Notices

Advertising

O Big Y ??0 Bigy ?? Heifiad.,