Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Advertising
CARPETS OF QUALITY AND EXCLUSIVE DESIGNS  '?p??'? '?ore OUR CARPETS T mere Hoor-Qovermg. Now-a Jays you wnt appearance, com bined with style, comfort, and durability. THE Manufacturers who execute our designs produce Carpets of the finest ranges and all of the highest distinction extant. THE above design, tho' crude, is intended to convey an idea of some of the cheaper varieties of CARPETS, LINO.'S, RUGS, &c., &c., whilst we invite your inspection and commands whether for a yard or two of Linoleum, a 3/11 Rug or the most expen- sive Oriental Carpet.  L)) r 9"18' BOLD l\ < V I,FvEnPOOL L \) The Leading Complete House Furnishers. FOR CASH OR OUT OF INCOME.
0 Lofft y Stabal.
0 Lofft y Stabal. XXVII. MISTAR GOLYGYDD,—Wyddoch chi beth, syr, ma'r gweision ffermydd ffordd yma'n lluchio'i hetia i'r awyr, o lawenydd fod Lloyd George yn Brifwnidog. Ac yn wir i chi, rydw i'n uno a. nhw yn y sbri—y sbri yma eofi vch. Diaist i wel, pan glwis i gynta, mi lIen ,vyd fi a rhw deimlad hyfryd oedd yn y ngyrru i i ddawnsio heb yn wbod imi. Yn wir, mi deimlwn fod yr hen Lofft yma'n dawnsio hefyd. Llawer gwaith y deudodd Jac Jos i fod o'n sicir y byddai Lloyd George yn Brifwnidog, ac y basa fo'n leicio byw i weld yr amser hwnnw. Chafodd o ddim byw miawn enawd. Ydi o'n gwbod, yn y Byd Gwyn lie mae o, am y peth wn i ddim i sicrwydd, er mod i'n tueddu i gredu i fod o ond does gin i ddim tuedd i ddadlu'r pwnc a neb ar hyn o bryd. tyiawn ryw ystyr, mi fasa'n well gin i weld y Cymro bydenwog yn mynd i'w swydd dan amgylcliiada mwy tawel na hyn. Dydi hi ddim yn beth newydd o gwbwl iddo fo fod ynghanol helyntion blinion. Mi lwyddodd i fynd iddyn nhw'n fuan wedi iddo fo fynd i'r Senedd, ae nid yn unig i fod miawn stormydd, ond i codi nhw i hun. A pha ddkvijiiw fu'n y byd yrioed nad oedd o'n medru "codi cythreuliaid," fel tasa ? Dydi dyn ddim yn ddiwigiwr os nad ydi o'n diwigio ac os bydd o'n diwigio ma'n ymddangos i'r tipin sens sy gin i y rhaid iddo wrthwynebu a newid rhwbetha sy o'i gwmpas o. A dydi pobol ddim yn fodl.on i newid fawr ar betha ae ma hyn yn dangos yn lied amlwg, dybia i,fod dynion yn gyffredinol yn Doris greddfol. Yn ol fel mae pobol wedi ymladd yn erbyn pob cyfnewid- iaOOu miawn amgylchiadau, arferion, a syniadau, mi deimla dyn ma'r gan y gallsan nhw daflu i. clona iddi fasa, Megis yr oedd yn y dechra y mae yr awr hon, ac y bydd vn wastad, yn oesoesoedd. Amen." Rw un ne ddau o broffwydi a diwigwyr fydd yn neidio allan megis o'r ogo, i ganol Ffair y Byd, ac yn gneud cyffro ofnadwy ymysg y bobol. Ac mi neidiodd Lloyd George allan o ryw ogo o ddinodedd tua godra'r Wyddfa, aeth i Senedd Lloegar, ac mi nath gynnwrf gyn- ddeiris yno'n union deg. Roedd yr hen ddwylo'n methu gwbod yn glir be i feddwl ohono fo—rhai'n meddwl nad oedd dim ond sWn gynno fo, na ddalia hwnnw ddim yn hir, ac nad oedd dim ond eisio troi trwyn arno, a chwerthin am i ben o. Fu'r syniad hwnnw ddim byw yn hir. Mi ddoth hyd noed Siambarlen i deimlo fod y Dafydd ifanc o Gymro'n debig i'r Dafydd ifanc o Hebrewr gynt-yn ddigon dewr i ymosod yn effeith- iol ar gawr. A mwy na hynnu, syr, roedd y Dafydd Gymro'n gallu eyfarfo (I A'i Oleiath, ag ymladd ag o ag arfau fel i rai o i hun- mynd o hyd braich a chledda iddo fo, a rhoi iddo drawiad am drawiad, archoll am archoll -a mwy.! A'r ffaith ydi fod Lloyd George wedi mynd i'r peth ma nhw'n i alw'n Gabinet am fod y Llywodraeth yn gweld fod yn rhaid rhoi lie i hwn, beth bynnag. A meddyliwch am i hanes o o hynnu mlaen Taid annwl, ma o'n darllan.fel arwrgerdd, chwadal y beirdd. Os gorchestion arwrol sy eisio i neud arwr- gerdd, mi deimla dyn y basa dim ond canu hanes llythrennol Lloyd George yn ddigon i I neud un. Ma hanes am Samson yn codi pyrth y ddinas ar i sgwydda, ac yn mynd a nhw i ffwrdd. Nid rw ch wara gwirion felly efo'i nerth nath y Samson o Gricieth, ond mi osododd i sgwydda dan bob swydd f yr aeth o iddi hi, ac mi gododd i safon hi'n uweh nag yrioed o'r blaen, ac roedd o'n torehi i lewis i neud gwaith oedd wedi'i sgluso gin bawb arall fu o'i flaen o. Cato ni, mi nath gyfnewidiadau yn y wlad yma Tasa chi ddim ond yn meddwl am y pen- I siwn i hen bobol, yr insiwrin etc. Wel, fol roeddwn i'n deud, diwiriwr ydi o, a chin wired ag iddo fynd ymiaen e fo'r gwaith o | ddiwigio mi gafodd i hun yng nghanol rowiau diderfyn, a mwy nag unwath bron colli i fywyd. Ond waeth i chi un gair mwy na chant, fedra -neb gadw'r Cymro dewr yma i lawr. Fasa waeth gaby allan fyddin o I sowldiwrs i geisio stopio corwynt. Efo'r duwciaid y buo fo'n feiddgar ofnadwy. Mi gwelis i o'n cau i ddau ddwrn yng ngwymad I y duwc—hynnu ydi, wrth son amdano fo miawn araeth leesiwn. Roedd hynnu'n beth newydd i ni ffordd yma, achos fydda ni byth yn son am ddyn felly ond fel "tduwc annwl. Beth bynnag, yn deud roeddwn i fod Lloyd George wedi bod drwy'i fywyd yn y Senedd miawn terfysgoedd diriwl byth a hefyd, a hynnu am i fod o'n mynnu diwigio'r hen wlad ryfedd yma. Ond fu fo rioed miawn row mor ddychrynllyd a'r un sy'n Ewrop ers mis Awst 1914-y fo na neb arall ehwaith. A be fasa wedi dwad o'r wlad yma yn yr helynt dwaetha onibae am Lloyd George ? Mi ddigwyddodd gwyrth, yn reit siwr i chi. Dyma'r dyn yr oedd Toriaid, a phobol fawr y wlad yn gyffredinol, yn melltithio'i enw fo, ac yn barod i saethu o,—ma hwnnw'n eilun gynnyn nhw heiddiw, ac mi fasan yn gneud Duwc Annwl ohono fo fory nesa. Dyma n'n dwad yn ol at y pwyn(' eto.- Mae Lloyd George yn Brifwnidog y wlad hon. Ffaith ydi ffaith. a fedar yr holl fyd byth miawn amsar na thragwyddoldab, bygwni, ddiddymu'r ffaith fod Lloyd George wedi i neud yn Brifwnidog yn Senedd Lloigar. Wel, beth am hynnu ? Yn teimlo rydw i fod Lloyd George, wrth godi i dop y Senedd, wedi gneud hynnu mor nerthol nes tynnu gwerin Cymru i gid i ryw osgo codi ar i ol o. Dyna un gwerth sy miawn i ddynion niawr ac enwog godi o wledydd, sef gneud i'r bobol o'i cwmpas nhw drychyd i fynu hefyd, a theimlo bod i heneidia nhw'n dechra, magu esgyll, fel tasa. Mi glwis i rai'n deud, flynyddoedd yn ol, pan naed Tom Ellis yn Chwip, ma nid y fo oedd y Cymro cynta i fod miawn swydd yn y Llywodraeth—fod amriw wedi bodein hynnu, o dro i dro. O'r gora ond mi nath Tom Ellis a Lloyd George rw gamp na nath neb o'i blaen nhw. Pob parch i Osborne Morgan ac Arglwydd Tredegar dynion rhagorol oeddan nhw, a da y gwaith naethon nhw. Ond, wedi'r cwbwl, doedd y rheini ddim yn perthyn i'r un dosbarth a Tom a Dafydd. ae roedd i ffordd nhw i'r Llywodraeth yn fyrrach a rhwyddach. Y peth gogoneddus yn Tom Ellis oedd iddo fo fedru swabio, fel tasa, chwip ffarmwr cyffredin am Chwip y Llywodraeth yn y Senedd, ac agor llwybyr o yffiyl Llofft y Stabal i ymyl y Cyfrin Gyngor. Nid o'r fan yma y cychwynnodd Osborne a Thredegar, ond o ddosbarth oedd yn byw yn Ilawar iawn gosach i'r Senedd, ac yn llawar iawn pellach o'r hen Lofft yma. A Lloyd George Diaist inna hefyd, mae o wedi gneud hi, tuhwnt i bawb a phob peth Ac rydw i'n dal i ddeud, yn reit stowt, y dylai pob sowl o werin y deyrna,s hon, ac yn enwedig gwerin Cymru, luchio'r het ora sy gynnyn nhw i'r awyr, a gweiddi nes bo'r Wyddfa, a Chadar Idris, a Phlimlimon, a Banna Brycheiniog, a'r wlad i gid yn dis- pedain, "Dafydd am byth Fedra i'n y myw beidio meddwl am dano fo ond fel un ohonom ni, y bobol gyffredin, a'i gartra cynta fo tan unto a Llofft y Stabal. Ac un bluan yn igap o ydi bod o'i hun yn cydna- bod hynnu, a'i fod o wedi dal pob llwyddiant gafodd o heb altro dim yn i naturioldeb. Rydw i, yn y nydd, wedi gweld rhai dynion yn meddwi ar chydig bach o ddyrchafiad, —dim ond i codi nhw i sedd ar y Cyngor Plwy ne'r Cyngor Sir. Yn boeth y bo'r tacla penwan, ebra fi. Druan ohonyn nhw yn ymyl Lloyd George Mae o wedi profi fod yn bosib i fachgian cyffredin i amgylch iada ddringo cin uched a bod yn Brifwnidog Lloigar. Mi fuo'r Toriaid gynt yn edlito iddo ma rhw gyfreithiwr bach o Gymro o'r wlad oedd Ond yn dangos i gwiriondab i hun yr oeddan nhw wrth neud Ilyiinu, fel y ma nhw'n barod i gydnabod heiddiw. Ond mi glywis y dwrnod o'r blaen fod y Germaniaid yn edliw hynnu iddo fo rwan. Wel, yr hyn sy'n destun i ffyliaid i ddylorni o, dyna sy'n gneud i mi-a phob dyn call arall-roi mwya o glod iddo fo. Dydi edliw peth feI hyn ddim ond dangos yn gliriach yr anawstera oedd ar ffordd Lloyd George, i'w swydd. Mi nath y giwed a edliwient beth felly i gora'n i erbyn o, am i bod nhw,,4 anfodlon i'r werin godi i awdurdod yn y tir. Ond mi fethwyd i gadw fo'n ol. Fel tasa chi'n meddwl am eryr yn codi o'i nyth, ac yn ymsaethu trwy gwmwl i wymad haul, "felly y sgynnodd Lloyd George trwy ganol gwrthwynebiada i ddisgleirdab safle'r Prifwyii,dog. Ac fel gwerinwr a gwas ffarm, rydw i'n falch fod un ohonon ni wedi codi i'r entrych fel hyn, ac agor llwybyr, na fedar neb i gau o eto, i f o c hv, fechgyn y gwaelodion fynd i fynu ar i ol o, —os bydd y gallu a'r plwc ynyn nhwtha. Ond mae gin Lloyd George job ofnadwy ar i law y tro yma, oes yn sicir i chi. Wel, rhowch- bob help iddo fo, ebra fi. Mae'n amlwg i fod o am blygu i holl nerthoedd i un peth ar hyn o bryd, se f i ddal y Caisar. Rhwydd. hynt iddo fo. Mae rhai'n dechra dyfalu beth wna fo ar ol y rhyfel, ac yn awgrymn y gall o droi'n Dori. Cauwch ych penna, da chi, a pheidiwcn a siarad lol. Mae'r Cymro anfarwol o Gricieth wedi gneud digon yn y gorffennol i beri i mi gredu nad eiff o byth yn wrthnebwr i'r gweithiwrs gael i hawlia teg, Ac yn wir i chi, rydw i'n dychmyoju gweld yr hen Lofft Stabal ma'n cael i diwigio cin bo hir bellac h. I HEN WAS, I
! SOL. HICOTtTREF.
SOL. HICOTtTREF. Gwib i ganol y Shonis I a Chymrodorion y De LLITH 6 I —4*— i Colli cip ar Mrs. Ceiriog I Hughes. Gadewais y Barri ganol dydd ddydd Mercher, Tach. 29, gan ddisgyn yng Nghaer- dydd ar fy ffordd i Ferthyr at y nos. Flys cael cip ar Mrs. Ceiriog Hughes oedd arnaf, ond erbyn galw yn siop Mr. Cadle, ei mab- yng-nghyfraith, dyna glywed fod gweddw'r Prifardd Telyn wedi cilio'n ol i fyw i'w hen gartref yn Hwlffordd. Siom go fawr ydoedd hon, canys byth oddiar y seiat a gafwydgyda hi a'r plant yng Nglyn Ceiriog adeg agor Neuadd Goffa, Beirdd y Berwyn, ,gwyddem fod ei chof yn gloddfa o gofion am brif feirdd a llenorion ac Eisteddfodwyr Cymru ers hanner can mlynedd, ac y caw- sem ddeunydd dwy a thair llith. ond eu hysgwyd ohoni. A chofio iddi briodi yn 1861, yr oedd hi'n hynod sionc ac ieuanc ei gwedd yng Nglyn Ceiriog, a hyderaf fod yr hoen a'r afiaith yn dal wrth araf lithro i lawr gallt yr eiuioe, Ys gwn i a ydyw'r llun a, ganlyn o fam Ceiriog ganddi ? Fe'i cefais yn fenthyg gan Mr. J. D. Roberts, Sidney Road, Bootle,—un o fechgyn Llan- armon sy'n addoli'r bardd, ac sy'n barod i sythu drosto fo a'r Llan yn erbyn pob bardd a Llan aralT drwy Gymru, dyna i chwi Ymhle, ys gwn i, y gwelsoch hen Gymraes rywiocach ei gwedd na hon ?— G-welwch y wep gadarn, y. brooch a'r tei, a'r nerth a'r tiriondeb sy'n cyd-dywynnu o'i dau lygad. Y Hun wedi ei dynnu gan Mr. John Owen, Broad Street, y Drenewydd, a dichon mai ar ymweliad a Cheiriog pan oedd o yn orsaf-feistr Caersws yr ydoedd ei fam. Ac ebe'r Llyfrbryf amdani yn ei Monograph campus i Ceiriog ei mab Phoebe Evans oedd enw morwynol y fam. Merch Ty'n y fedw ydoedd, ffermdy ar fin yr afon ychydig yn is i lawr yn y cwm <c na'i chartref dyfodol. Yr oedd tipyn o natur prydyddu yn nheulu Ty'n y fedw, "yn enwedig yn JohngEvaii- ewythr Ceiriog frawd ei fam. Treuliodd hi rai o flynyddoedd ei hieuenctyd yn Lloegr, "pan ddysgodd Saesneg yn dda ae nid oedd yr iaith honno yn anhysbys ar aelwyd Penybryn. Yr oedd yn ddynes llawer mwy deallgar a gwybodus na'r eyffredin,-yn gyfarwydd mewn llysiau, ac yn hysbys o'u natur a'u rhinweddau. C-,wasai-iaethai hefyd ar alwad yn dra charedig fel meddyges ac o ganlyniad mewn plwyf mynyddig ac anghysbell fel Llanarrpon, a'r meddyg agosaf yn byw saith miiltir oddiyno, yr oedd yn gym- "doges werthfawr. Estynnwyd iddi oes hir a defnyddiol goroesodd ei phedwar -Ligain mlwydd a chasglwyd hi at ei "phobl yn lonawr, 1884. Tua saith mlynedd yn ol, gwelais yr hen Gymraes radlon yn myned ar gefn ei merlyn trwy bentref GljorCeiriog a chreclwn y buasai a c h redwn ybuasai "amI i fam bendefigaidd yn rhoddi ei sidanau, ei modrwyau, a'i thlysau, yn gyfhewid am wisg'wladaidd yr amaeth- wraig ddysyml o Benybryn, a bod hefyd "yn achlysur canu Ti wyddost beth ddywed fy nghalon.' Yr oedd hi'n orael o wraig a hyd heddyw, ymysg hen drigolion y fro, dibennir dyryswch yn ami trwy ddywedyd Wel, fel hyn ac fel hyn y byddai Phoebe Hughes yn arfer dweyd ers talwm." A dyna ben .1 Cofied Mrs. Ceitiog Hughes fy mod yn eiddgar I ddisgwyl am y pecyn papurau—gweddillion anghyhoeddedig ei phriod gyda'r I post un o'r boreau nesaf yma, ac na chaiff hi funud o lonydd nes y'u caf. I Siarad ag ysbryd I John Wesley. Cwrddais y Pryce-Williams hawddgar, o'r Porth heddyw eto, megis y gwnaethwn y diwrnod cynt ac euthum gydag o dow- dow drwy adeiladau gwychion Prifysgol Caerdydd, gan weld rhai o drysorau'r Amgu- eddfa Genedlaethol sy'n cael eu cadw yno. Yn eu mysg, dyma weld pulpud y bu John Wesley'n pregethu ohono. Dyma oedd arno This desk was used by The Rev. John Wesley M.A. when he preached at Pant-Glas, Bedwas in the year 1749 and presented by Samuel John Pride of Cardiff Shipowner. to the National Museum of Wales June 20. 1913. Dyma rai meddyliau a iasai drwy'm corun wrth sefyll a sbïo ar yr hen grair cu Pa beth na roddaswn am weld y John digyffelyb yn esgyn i'w bulpud, ac yn traethu ar y testyn cyfoethog hwnnw Daeth yr awr i Gwn y buost yn ddyn cadarn dros dy fain o'th athrawiaeth ond pe ftiwset godi o'th fedd a dysgu digon o Gymraeg i fedru darllen a mwynhau LlestrVr Trysor—(sef y gyfrol Feiblaidd-feimiadol a sgrifennodd deuddeg o facwyaid mwyaf cyfarwydd ac amlwg y blynyddoedd hyn o adran Gymreig y Cyfimdeb mawr a sefydlaist ti)—gwn, fe wn yn eithaf mai tydi fuasai'r cyntaf un i gydnabod ei gwir a phlygu i'w ffeithiau, ac a wnaethet hynny gan lawenhau a llawenydd mawr wrth weld dy facwyaid Cymreig yn sgleinio a dringo i ben ysgol proffwydi a phregethwyr yr Hen Wlad, yn lie bod ar ei gwaelod, o ran dysg a Chymreigiaeth. Bum yn sefyll ym mhulpud leuan Gwynedd yn y Groes Wen ym mhulpud Islwyn yn y Babell, Mynwy ac ym mhul- pud Williams yng nghapel y Wern, ac a deimlwn rhyw iasau rhyfedd yn cripio drosof wrth sefyll man y safent hwy a gafael yn y Beibl y gafaelent hwy ynddo ceisiais gael y meddyliau hynny mewn geiriau lawer tro yn Y Brython, ond a fethais ddweyd eu hanner. Y mae f'enaid yn ysu ynof am gael neidio i hwn heddyw, ond y geiriau must'nt touch yma neu ryw- beth tebyg sydd ar dy bulpud yn fy ngwa- hardd rhag cael yr hyfrydwch hwnnw, canys y mae rhyw dynfa ryfedd ynof at y pulpud bob amser, ac a garaswn gael esgyn i hwn. lieddyw i weld a gawswn dipyn o'.th gadernid argyhoeddiadol di, heb s6n am draean o'th rym a'th eneiniad- Ond mewn cadair fach isel, wichlyd a di-glust- og y'm gosodwyd i ond a ddysgais hyn r ynddi: y dylai pawb fodloni ar ei le, os Duw a'i gosododd yno. F'fo'r penilliwr telyn. I Fe ddwedais lawer o bethau eraill wrth ysbryd John Wesiey, ond rhaid eu cadw hyd rhyw dro eto, canys y mae'n bryd troi am y tren i Ferthyr. Cyrhaedd- wyd tua phump y prydnawn a phwy oedd yno'n disgwyl ond Mr. W. O. Jones (Eos y Gogledd), sef ysgrifennydd Cymrodorion y dre, a chanwr penhillion ami i Eisteddfod Genedlaethol heblaw un 1917. Gwr o Flaenau Ffestiniog y fo, fel y gwyddoch ond rhagluniaeth wedi ei. daflu i'r De o bwrpas i gadw'r delyn a'i phenhillion yn fyw, canys y ma,e o yn dallt (y mae dallt mor iawn a deall medd yr Athro. John Morris Jones) yr hen ganu i'r dim, a chanddo lais wedi ei wneuthur gan Natur y n arhennig ar eu cyfer, sef o'r chwaon a chwyth dros yl Manod a'r Moelwyn, ac sy mor sweet rhagor y wich a ddaw drwy beipiau ac ystumiau y voice trainers celfyddydol o'r trefi. Wedi lluniaeth ac ymgom, mynnais ganddo'm diddanu ymhellach a'i ganu melys, a chlvwn iasau hyfryd yr hen amser gynt yn fy ngherdded fel trydan wrth wrando arno'n cwafrio t Can y Bachgen Diog y byddai llawer o ganu ami tua Maentwrog a'r ardal flynyddoedd yn ol. Dyma'r geiriau—ond fod dim dichon cael gair na symbol i ddangos goslef ac ystum lIaw a llygad yr Eos Neithiwr yr euthum i dy fy Thad, I geisio nhad, i dy fy Nhad, I geisio'n rhad fy nghinio. v ""w •W A dim o'r bwyd ac yno ni chawn, Ac am na bawn ac yno ni cliawn ■f s Ac am na bawn yn gweithio. Mi gododd y Mam i roi mi fwyd 7' Fy machgen llwyd, i ro'i mi fwyd Fy machgen llwyd, tyd heibio. f Mi gododd fy Nhad ac atom i'r Ilawr F A phastwn mawr, ac atom i'r llawr A phastwn mawr, 'ni ddwylo. ? Ø: /<íf; ¡; !II'.< Yr ysgub i Mam, a dyma hi'n wald 0 hald i hald, a dyma hi'n wald 0 hald i hald yn waldio. |. 1 Fy Mam a ro'i ffat, a Nhad a ro'i ffat Ond 'toeddan nhw'n ddigri o ffat i ffat Ond toeddan nhw'n ddigri'n ffatio. 'Roedd'n well gen i gael gweled hyn, Na siwgwr gwyn gael gweled hyn Na siwgwr gwyn. i nghinio. Pob pennill yn hwy na thair llinell wrth eu canu, a y llinell gyntaf yn cael ei chanu ddwy- waith fel hyn I Roedd yn well gen i gael gweled hyn Na siwgwr gwyn gael gweled hyn Roedd well gen i gael gweled hyn Na siwgwr gwyn i nghinio. Teimlwn fy hun ym Maentwrog" ers meityn, ac yn methu'n lan a dygymod a dodo swn hedda hamdden yr amser gynt i 'r byd chwyrn sydd heddyw ym Merthyr, megis yn mhobman arall. Ond dod fu raid, ac anelu erbyn wyth i ystafell gwrdd y Cymrodorion. Ond cyn mynd, diolchwyd i Mrs.W. 0. Jones am ei thiriondeb, a sbiwyd yn llygad ei mebyn swat oedd wedi ymgladdu yn ei home lesson wrth y bwrdd, s'yn llawn o'r un ias gerddgar a'i dad, ac sy'n mynd gyd- ag o i'r darlithiau i'w ddilyn ar y tannau. Y mae gobaith felly awl benilliwr ot-o at y yfodol. I Ynghanol y Defald I Gwlanog. Teimlais yn odiaeth o gartrefol ar aelwyd y Gymdeithas, canys un o'r rhai cyntaf a welwn ymysg y dyrfa oedd John Lewis, Cromwell Street, a'i briod, a gwyddwn na chawn ddim cam os medraief a'i ddau ddwrn ei rwystro. Ac yn y gadair yr oedd Mr Edward James, gwr y gyfraith oer mae'll wir, ond a'i galon yngynnes aChymreig iawn a chanddo ddigon o synnwyr cystal a stl,, i agor y llidiart i'r darlithydd heb fynd i gerdded a phori'r holl faes o'i flaen. Ac yn eistedd yn ymyl John Lewis, dacw Tom Price, y cerddor ae awdwr Dewch i'r Frwydr ae yn y blaen Ab Refin, y bardd graenus. llyfndew o Aberdar a ff rw j'dro dd mor gy wir ei gynghanedd ar y diwedd Jones, un o gysodyddion Y Tyst, a map Meirion mor ddigamsyniol ar ei wyneb, ac acen Dolgellau mor amlwg ar ei Gymraeg, er cyd y mae ym Merthyr yma, ac yn "porthi'r" pregethwr ,ei oreu las am ei fod yntau'n un o aelodau'r hen grefft pigo llythrennau; Evan Jones Troed y Rhiw, selog ddisyfl dros fwyd llenyddol yr Hen Wlad, ac a gerddai i Begwn y Gogledd cyn y byddai hebddo, mewn papur a chylchgrawn loan Bydir, sef yr hen fardd barfog a phatriarchaidd yr olwg y bu Sarnicol yn son mor ddiddan amdano yn ei nodion 0 Lminau Taf, y fo a'ideithiau pell ar for a thir y byd hwn, heb son dim am ei deithiau pellach fyth i fyd yr ysfcryd, canys Spiritualist yw'r loan liybareb a'r Parch. Seymour Rees, gweinidog ieuanc llengar ei fryd, ac a gred fod dafn o awen a gwreiddioldeb yn werth sachaid o lythrennau gradd. Ac felly, rhwng y rhain ac erail oedd yn y dyrfa, ilid rhyfedd imi (:Ieimlo'nl' berffaith gartrefol a chynnes—mor gynnes a'r hen wraig honno a aeth i'r seiat a gedwid gan Ebenezer Morris, un o seraffiaid yDe yma. Be sy gynnoch chi heno, Mali Rhys ?" ebe'r pregethwr. Dim bydheno," ebehithau. Wel, pam ac i beth y deuthoch i'r gy- feillach ynteu a chwitha heb ddim ?" "Wel, dyma pam," ebe Mali, "Er mai dafad lom ydwyf, na fawr o wlan fy hun, mi fydda'n lico stwffio i ganol y defaid eraill yma sy mor wlanog o nghwmpas i ac yn teimlo'n gynnes ryfeddol yn eu canol," nes mynd a gwynt Eben er cymaint dyn y fo. Ac megis Mali, felly finnau, canys pa mor brin bynnag o wlan y fi a'm darlith, yr oedd digon o'r cnu cynnes ar ybobl dda'u ham- yr,-edd oedd yno'n gwrarido. Rhwng John Lewis a Dafydd Jones. Ciliwyd o ganol y Cymrodorion i dreulio'r noson dan nawdd Mr. a Mrs. John Lewis yn Cromwell Street, a chan mai gwr difalcji y fo, nac yn malio ffeuen am glod papur, fe'i codaf i olwg y wlad am funud fan yma, am ei fod o'n gystal enghraifft o'r Cymro yn ei bethau goreu heb ei bethau salaf. Da y gwn y bydd yn ddig enbyd wrthyf am wneud ond ni fydd hynny onid prawf arall o'r peth a ddywedwyd amdano. :¡Y rhai sydd yn ceisio sydd yn cael," ebe rhyw air ond fe wn i am uneithriad i'r gwirioneddhwnnw, canys os gofyn dyn imi ei ganmol yn Y arython, ni wnai h ddim peidied a. gofyn ac yn'tau'n ei haeddu, fe gaiff, pe bai raid gwthio Hond colofn a hanner o'r lleill dros yr erchwyn er mwyn i'r swil a'r anhunan- gar gael lie. Y mae John Lewis yn ganwr a lienor. Go ychydig ohonom ni'r Cymry sy'n weddol wastad yn y ddau, canys rhai rhemp o cldi-raen am ysgrifennu a llenydda yw Plant y Gan at ei gilydd, er fod rhai eithr. riadau gloewon i'r rheol honno. Ac y mae llawer iawn o'n llenorion mor bendwp a meipen am gerddoriaetji, ac yn greaduriaid mor fulaidd ac anfelys wrth bopeth ond a fo yn eu rhrych hwy'n Inmain. Yn anodd gwybod prun o'r ddau yw'r anghyfiawnaf -y canwr diwybod am len ynteu'r lienor diwybod am ganu. Sut bynnag. nid un o'r bobl un-lung hynny mo John Lewis. eithr a'i lung ganu a'i lung lenydda y naill cyn gryfed a'r llall, nes bod ganddo farn dda yn y ddau fyd. Felly wedi cyfranogi o'r arlwy flasus a huliodd Mrs. Lewis ar y bwrdd, dyma Mr. David Jones—hen gyfaiU mynwesol y Lewisiaid—yn eistedd un ochr i'r tanllwyth, John Lewis a'i briod yr ochr arall, a finnau mor fawr fy anrhydedd yn y canol, yn gwrando geg a chlust ar gwestiynau John Lewis ag un glust, ar atebion DafyddJories a'r llall, ac ar le Mrs. Lewis wrth nodio'iphen yn gymeradwyol i ambell reswm a sylw, a'i Nage, wir pe sy siwr ydio dro arall, pan ddyfemid pwy oedd y pregethwr goreu yng Nghymru ar hyn o bryd. Wedi pender- fllU un cwestiwn. byddai'n rhyhwyr glas i John Lewis ail Iwytho 'i getyn ac nid ei lenwi fel gwair llac mewn preseb y byddai ond fel pressed beef, er mwyn iddo ddal i danio a mygu nes y byddem wedi setlo'r pwnc nesaf a ddeuai i'r bwrdd. A hoffech wybod pwy oedd y rhes pregethwyr a osodwyd ar ben y p61 yn Cromwell Street y noson honno- WelshGuards yr Efengyl ? Hoffi ? hoffem Wel, ni chewch chwi ddim, er cymaint a yswclx, achos buasai'n well i chwi wybod rhywbeth anhraetliol bwysicach, pe buasai lie i'wrhoi^ef y brasluniau o'u gwalianol ddulliau a doniau, a'r dyfyniadau o'u pregethau, a geid gan Dafydd Jones a John Lewis a finnau'n cadw chware teg goreu medrwn i i rai o'm dewisol bulpudyddion innau, l'hag i mi fynd ormod i ganlyn Hi hyotledd y ddau Sowthyn dihys- bydd. Gan fod John Lewis mor gryf yn y ddwy lung, llwythwyd catiad arall ac aed wedyn i son am gorau a chanorion, a chododd ami i arweinydd a chyrranfa a chystadleuaeth Eisteddfod o gloddfa'i got. gan sbio weithiau arnom ni oedd yn gwrando ac yna ar y colofn- au mwg yn cyrdeddu'n rliaffau aroglus i nenfwd y gegin ac yna drwy'r parlwr i fyny'r llofft a thrwy'r ty i gyd, canys yr oedd bellach yn ei afiaith, ac yn pwffian »wy fyth wrth son am Fynyddog a Llew Llwyfo a. Charadog ac Ernlyn bach a Harry Evans, ac yn neidio i'w drydedd hef wrth adael yr arweinwyr a'r cerdclorion a dod yn ol i ddib ennu'i ddegfed catiad a disgriflad o lais a phregetli David Saunders neu Mathews neu Homo Ddu neu Wm. Rees ac ami i Hoelen Wyth arall. Hawyr bach nid oedd neb wedi clvwed pendil y cloc mwy na phe buasai wedi sefyll; a rhwng dau bwffiad John Lewis dyma weld ei bod hi'n rnhell bell ar y nos, y pendil wedi mynd fel gwennol gwehydd, a finnau flys a throi'r doc a'i wyneb at y pared a thaeru'r cliciwr cyflym ei fod yn dywedyd Rhagor ar tudal 5