Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

DRAW O R INDIA

News
Cite
Share

DRAW O R INDIA LLITH I. Y Daith a'i Henbyd- rwydd. 1 YMor a Marseilles. ERBYN hyn yr ydwyf wedi cael amser i weld y fordaith o Gymru i'r India yn ei lie a'i lliw priodol. Y mae fy nhroed wedi sangu ar odreon cyntaf bryniau Caersalem, breuddwydion a dyheadau y hlynyddoeddt a daw "fcroeon vr yrfa Yn felys i laow fy raryd. A phur droellog y bu'r yrfa ar hyd yffordd o Lerpwl hyd yma. 0 dawelweh a diogel. weh y Tu Hwnt i'r peryglon, Caf edrych ar stormydd 1:1C ornan Ac angau dychrynllyd a'r bedd, oheawydd daeth troeon yr yrfa a ni trwy ganol pethau na ddymunai Miss Aranwen Evans a minnau na neb ohonom fynd drwyddynt yr eildro, a melys yw rneddwl ein bod yn ddihangol o'u cyrraedd. Y Nefoedd Fawr dosturio wrth y rhai sydd a'u gorehwyl ar y dyfroedd peryglus y dyddiau hyn. Tybio ond mudo i'r mor Y t'rawswn wrth bob trysor oedd syniad yr hen Domos Prys o Bias lolyn ers talwm, ond taro wrth olwyth Gehenna y mae llongau bob dydd yn awr a'r mor yn eu derbyn i'w g6l anferth. Wrth edrych yn ol rhaid fuasai bod yn berffaith ddall i beidio a gweled mor rhyfedd fit'r Gofal Mawr ar hyd y daith o'r deehreu i'r diwedd. Euthom i ganol storm ddyehrynllyd yn y Werydd, ond erbyn eyrraedd Gibraltar yr oedd yno le tawel iawn. Ond serch teced y dwr, odditanodd fe wibiai y submarines sy mor chwim ag ystlum rhwng dau oleu. A thra y clywem am longau eraill TO cae] eu suddo'n fuan ar ein holau,rhywfodd yr oedd- ym ni yn dal i nolio o hyd. Yr oeddym yn eychwyn i lawr afon Lerpwl mewn ocrili gaeafol nos Lun, Hydref y 23ain, ac erbyn y dydd olaf o'r mis yr oeddym ym Mar- seilles, "tan awyr lasa haul y De." Cawsom ddeuddydd yma. Yr oedd yn Ddydd yr H >11 Saint pan laniasom, a chryn lawer o fynd a dod i'r eglwysi. Ac wrth sefyll ar riaiau rhyw eglwys a gwylio'r dyrfa yn. tyrru i fewn, tarawyd ni'n fawr gan y nifer fawr o ferched oedd yn eu du. Y maent yn nyddiau heddwch yn Ffrainc yn afrad iawn o wisgoedd duon i alaru am eu hanwyliaid, ond trwy fod nifer mor fawr yn syrthio'n awr, 'doedd odid neb nad oedd mewn gwisg o alar. Dyma Ffrainc mwy trist nag a adnabum erioed. Diau fod gweddiau taerion am derfyn y Rhyfel yng nghalon pob un oedd yn yr eglwysi y dydd arbennig hwn o weddio dros y milwyr byw a meirw. Pa mor ddiddorol bynnag fai gweld Marseilles ar adeg gyffredin, yr oedd gan- waith mwy diddorol ar adeg fel hon. Wrth gerdded ar hyd yr' heolydd anodd oedd peidio ag aros yn stond ac edrych ae edrych ac edrych ar y dyrfa yn myrid heibio. Dyma ,uniform laslwyd swyddog o Ffrainc ei hun yn ymyl Khaki rhai o'n swyddogion ni; ond nid y rheina sydd yn tynnu ein sylw fwyaf heddyw, namyn y "negro du ei liw sydd yntau mewn Khaki. Gwisg amryliw iawn ydyw eiddo'r Zouaves. Y mae ganddynt lodrau fflamgoch Jlydain Ilac a chot fer las a brodwaith o edau melyn drosti a chlamp o dyrban uchel llydan am eu peniiau., Golwg hardd sydd ar yr Indiaid ac osgo ac edrych- iad ymladdwyr amynt o'u sawdl i'w corun tyrbannog. Rhai byrion ydyw'r milwyr o Japan, ond troediant yr heol yn dalog fel pe'n dweyd, Gwlad iach ie, ond gwyl- iwch ei sarnu Ond pwy yw y rhai hyn, cryn ugain ohonynt, sydd yn dod heibio inni pob ei gaib a'i raw a'u hwynebau'n guchiog, a milwr yn cerdded o'u hoi a'i fidog ar ei wn ? German prisoners sibrydir wrthym. Ant hwythau heibio. Haul ar wyneb y mor, ond syb- marin oddi tano. Gadawsom Marseilles yn y tywyllwch Tach. 2. Gwyddem wrth droi allan ein bod yn dod i'r darn pcryclaf o'r siwrnai i gyd. sef rhwng Marseilles a Port Said. Gwelem oddiwth bapurau a gawsem ym Marseilles fod llong ar ol llong yn cael eu suddon hollol ddirybudd a chtywem am rai eraill nad oedd eu henwau ar gyfyl y papurau. Ond prin oeddym yn sylweddoli'r peryglon nes y gwelsom yr Arabia druan yn cael ei dyrnod angeuol. Ceisiwvd ein goddi- weddyd gan submarine fwy nag unwaith, a thaniwyd arnom. ond methwyd a'n taro. Ac yn ystod y, dyddiau hyn yr oedd y mor mor dawel a'r Mor Gwydr a'r haul wrth ei fodd yn codi perlau a phob gem disglair ohono wrth ddawnsio drosto yn ei gyneftn rodfeydd. Pwy a ddyfalai fod Bechadur ar wyneb daear ?" Ond y pechaduriaid sydd dan y mor sy f wyaf enbyd ar hyn o bryd ac nid ar wyneb daear, ae yr oeddym i gael profiad o hyn eyn pen nemor o ddyddiau. O! yr oedd y Mediterranean yn odidog—yn y bore pan chwaraeai'r awel mor ysgafn a phe'n crwy- dro drwy ardd Dinas Bran gyda'r nos pan elai'r haul i wely'r heli fel cerbyd Elias a'r fantell gocli wrth syrthio oddiar ysgwyddau'r proffwyd yn gwrido nef a daear a mor. A phan ddeuai'r Iloor wylaidd i armnmrr lli yr oedd fel breuddwyd angel ieuane. Ac ar hyd llwybrgwyny Hoer arjy dwr yr hedai'r I meddyliau'n swp mawr ohonynt, hen a newydd; meddyliau am gartref a Chymru, am India a'r bywyd newydd yno, a minnau banner ffoirdd rhwng y naill a'r llall. Llawer sgwrs gawsom hefo'r ddau fachgen Cymraeg sydd yn Quartermasters ar y City of Marseilles, sef David Evans o Nefyu a J. E. Williams o Rostryfan. Yn ami iawn yr oedd geiriau Eifion Wyn ar y wefus :— O'm hol yr oedd fy Ynys Wen A'r mor o'i chylch yn gan i gyd O'm blaen yr oedd yr Eidal deg, Lie mae yr haf yn haf o hyd. O'm hoi yr oedd eyfandir byw— ICyfandir bywyd newydd dyn O'm blaen yr oedd yr Aifft, mor hen Na wyr yn iawn ei hoed ei hun." A thrwy'r cyian ni wyddem beth a ddi- gwyddai o awr i awr, na pha beth a ddeuai'r bore inni wrth fynd i orffwys. Cawsom ein cadw rhag pryder ac ofn yn rhyfeddol iawn, b, chawsom dawelwch meddwl i gredu fod popeth yn iawn beth bynnag a ddi- gwyddai, ac fod popeth yn cydweithio er daioni yn y pen draw pa mor anhebyg bynnag y bo'r olwg arnynt. | Un o'r boreau tawel distaw hyn, heulwen ar !y dwrs glesni digwmwl uwchben, oedd dydd LIun Tach. 6, pan ddeuthom ar draws yr Arabia. Gan fod yr hanes wedi bod yn bur gyftawn yn y Statesman ni raid imi ofni ei adrodd yma. Llong hardd, perthyn i'r P & O. yjjoedd. yn cludo mails trymion a gwerthfawr a ehannoedd lawer o deithwyr o Awstralia a'r India i Lundain. Gwelem ar y grtrwel y liner fawr a chryn ddwsin o frychau ar y dwr a thair o longau bach eraill yn troelli o gwmpas. Wrth ddod yn nes gwelem mai cychod y P. & O. oedd y brychau, mai trawlers oedd y llongau bychain ac fod y liner ei hun yn deehreu suddo o'i hoi. Wrth ddod yn nes fyth gwelem ferched a phlant a dyn ion yn y cychod a phob un a'i lifebelt amdano. Dyma dri c 'r cychod yn cyfeirio atom ni. Erbyn hyn yr oedd pawb ohonom ninnau, yn ol gorchymyn y Capten, a'n lifebelts amdanom a phawb ar y dec. Rhyfeddwn at dawelweh y bobl yn y cyc hod, 'doedd neb yn gwaeddi na neb yn wylo yr oedd hyd yn oed y plant yn dawel. Dyma rywrai ar ein Hong ni yn galw allan "Are we do-wnhearted ?" a daeth yr ateb yn ol No yn groew ond nid yn gryf. Arafodd ein llong ni ac arhosodd. Yr oedd tair submar- ine yn y fan a'r lie, un wrth yr Arabia, a'r ddwy arall yn ei gwneud amdanom ni; ond wrth weld y cychod yn dod amdanom arhosodd y Capten, a chan alw arnynt i frysio a pheidio a cholli munud rhoed ysgol raff i lawr i'r dynion a chodwyd y merched a'r plant i fyny o'r cychod trwy roi rhaff o dan eu ceseiliau. Yna'r oeddym yn codi'r trueiniaid--134 ohonynt—saethwyd torpedo arnom, ond trwy drugaredd methodd ni. Anodd peidio a defnyddio g'eiriau cryfion wrth feddwl am erchylltra y fath weithred, —agor tan ar long oedd yn achub bywydau pobl o'r Hong golledig. Apeliai un o swydd ogion yr Arabia oedd yn un o'r cychod am i'r Capten beidio ag arcs i'w codi; y medrent hwy wneud y tro am gryii ddwy awr eto, ac y deuai un o'r trawlers i'w nol rhywbryd. You're a fool to stop, Captain. Think of your own passengers. For God's sake, don't stop!" "I can't leave you. oedd atebiad Captain Dowse, "but hurry up!" Erbyn hyn yr oedd y submarine oedd o gwmpas yr Arabia wedi rhoddi torpedo arall ynddi; ac wedi codi i fyny yn syth yn gyntaf, i lawr a hi ar ei phen yn union Wedi codi'r bobl o'r cwch olaf, dyma roi pob gewyn oedd yn yr hen long ar waith a chyn bo hir yr oeddym filltiroedd lawer o'r lie. Dyddiau annifyr iawn. oedd y rhain i bobl yr Arabia; er fod popeth allesid wneud yn ca,el ei wneud i'w cysuro a'u hymgeleddu. Yr oeddynt wedi colli popeth ond eu bywyd, ac yr oedd- ym ninnau yn mynd a hwy yn ol i Port Said, a rhaid oedd iddynt fynd. dros yr un rhan beryglus unwaith eto cyn pen nemor o ddydd- iau. 0 hyn i ddiwedd y daith, yn ol gorch- ymyn, rhaid oedd cludo'r lifebelt i bob man i fwyta ac i orffwys. Doedd dim ond y dim i ninnau fod yn yr un cyflwr a hwythau. IDiolch i Dduw a Capten Dowse am 1 wared igaeth. Prjiihawn dydd Mercher bu gwasanaeth byr o ddiolch i'n Tad am ei drugaredd fawr tuagatom—tuagatynt hwy fel teithwyr yr Arabia yn cael dianc a'u bywydau yn ddiogel, a thuagatom ninnau, yn cael y eyfie i'w hachub heb dderbyn niwed ein hunain. Nid anghofiaf y cyfarfod hwnnw yn y Dining Saloon byth. Os bu diolch pur erioed, yma y bu, Ymhlith y rhai a achubwyd yr oedd Caplan Eglwysig o'r enw Mr. Robins a chymerodd yntau gyfran o'r gwasanaeth ynghyda'r ddau genhadwr Ysgotaidd oedd gennym ni yn barod ar y Ilong. Na, nid anghofiaf y canu a bwrdwn y gweddiau. Diolch am y waredigaeth fawr a fu. ymbil am ras i ymgysegru rhagllaw. Mewn gair o anerchiad dywedodd Mr. Robins ein bod yn diolch i Dduw a dyn. Fod son yn yr Ysgrythyr am ryw ddyn nad aeth yr ochr arall heibio ond a arhosodd i weini ym. geledd. Y Samaritan trugarog a'r gwr nad aeth yr ochr arall heibio oedd Capt. y City of Marseilles. Mynegwyd diolch- garweh pawb i'r Capten dewr am ei ofal gan rai o'n teithwyr ni ein hunian. Rhoddwyd anerchiad iddo wedi ei harwyddo gan bawb ar y Hong heblaw anrheg. Gwell ganddo ef i'r arian fynd i gyllid y cymdeithasau er cynorthwyo gweddwon ac amddifaid morwyr. Teimlai pawb fod yma ddyn. Y mae wedi suddo dwy submarine yn barod, ac y mae'r gelyn ar ei warthaf ers talwm. Cyrhaeddwyd Port Said yn ddiogel nos Fercher, Tach. 8, am hanner nos yng ngolau gwyn y lleuad. Dyma fy nghip cyntaf ar y Dwyrain a phorth y bywyd newydd. Diolch arn gael dod yn ddiogel cyn belled. Diolch am, eich gweddiau. Yr wyf eisiau diolch i bawb ohonoch am i chwi ein dilyn ar hyd y daith a'ch gweddiau a chwithau yn cyd-weithio mewn gweddi fu'r hanes. Gwyddem yn dda fod llawer iawn o gofio amdanom beunydd, beunos. Teimla,f fel pe bai rhywun yn gweddfo drosof," meddai Martin Luther rhyw dro. Dyna'n profiad ninnau-yn arbennig ar nos Lun cyntaf yn y mis. Yroedd eich gweddiau yn dariaa ac yn astalch inni rhag saeth y dydd dychryn y nos. A chan i chwi ymbit cymaint ar ran ein diogelwoh, a wnewch chwi ddiolch hefyd oherwydd fod prawf ar 011 prawf yn dod i chwi a minnau mai oalon Tad J mewn gwirionedd sydd dan Lywodraeth y Byd. Onibai fod deddf i weddi, a braint ddwy- fol ddinacad, Byth ni ddysgai'r Iesu i ddynion ar eu deulin ddweyd—' Ein Tad.' Onibai fod gweddi gywir yn ei gwisg o lian main Yn cael drws y nef yn agor, ofer loes y goroji ddrain. J. HELEN ROWLANDS. Mission House, Sylhetr Assam, India. Rhagfyr 19. 1916.

Advertising

I rSUFELL Y BEIRDD

Advertising