Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

I Trem I-Beth am AmericaP…

Trem 11-MLIe i amen Wilson.I

Trem lll-Ty ar y Tywod.

News
Cite
Share

Trem lll-Ty ar y Tywod. Mae ystyr ymha un y cytuna'r Cynghreir i iaid a Dr. Wilson-ei ddelfryd o heddweh, ao hyd yn oed y cynllun a ddygai'r holl wledydd- gytundeb cadam a'i gilydd i sicrhau cadwr- aeth ohono wedi unwaith ei sefydlu. Ond mae'r Arlywydd yn s6n am godi adeilad mawreddog heb gymryd na sail na defnyddiau i briodol gyfrif. Y mae, yn sicr, yn fua- wybyddu safle Prydain Fawr yn y rhyfel ac mor wir a. hynny safle Germani. Ceir yn ei ddatganiadau ormod o'r oracl, a rhy fychan o'r bamwr a fynnai brofi tystiolaethau. Dywed fod y Galluoedd gwrthwynebol, y naill fel y llall, yn honni'r un pethau gyda golwg ar heddweh y byd, ac yna â'n mlaen i gymhwyso' osodiad fel petai wirionedd. Ond os mynna gymhwyso'i gasgliadau, dylasai fod wed profi ei gynseiliau. Yr oedd digon o dystiol- aethau diymwad yn ei gyrraedd ef, fel y maent hefyd yn amlwg i'r holl fyd. Eithr pan fo Dr. Wilson yn bwrw'i ddedfryd ar gyfrifoldeb cymharol y pleidiau yn y rhyfel, tyn len dros y gorfiennol, ac anwybydda holl gyflawniadau Gwlad y Caiser. A phaham hyn ? Paham y myn yr Arlywydd gau ei lygaid ar y ffeithiau anhebcor i ffurfiad barn gywir ar y mater mawr hwn ? Paham y myn anwybyddu annyngarwch ac anfoesoldeb Germani, a bod mor fyw i bob cysgod o wasgiad Prydain ar fuddiannau materol America ? Pan feddylir am agwedd Dr. Wilson yn y drafodaeth rhyngddo a'r gwa. hanol wledydd, yn enwedig yn ddiweddar, gan gofio hefyd y modd yr ymddygwyd at y Cynghreiriaid gan wledydd eraill a elwid yn niwtral, anodd peidio a drwg-ameu Washington yn awr. Arwyddion sydd ym mynegiadau diweddaraf Dr. Wilson o ddyn yn llithro fwy-fwy i ochri at Germani. Pa fodd y gall neb ameu ei bartiaeth pan sonia am "heddwch heb fuddugoliaeth "—pan y mae un blaid wedi gwneuthur aberth o gen- hedloedd eraill er ei mwyn ei hun, a'r llall yn aberthu ei hun er mwyn eraill ? Pa ddiben sydd mewn s6n am unrhyw gytundeb a chenedl a ddiystyrodd bob rhwymedigaeth foesol i gytundeb yr Hague ? Ac a ellir meddwl am y dyn a anwybyddai'r pethau sydd A gwahaniaeth rhyngddynt "—pethau mor sylfaenol ac eglur-fel dyn i ymddiried ynddo ? A'r hyn sy'n ddifrifol yw, fod y dyn hwnnw'n Arlywydd Gweriniaeth yr Unol Daleithiau, ac, o angenrheidrwydd, yn fawr ei ddylanwad ar boblogaeth y wlad fawr honno. Y ffaith ddiamheuol, mi gredaf, yw fod yr hyn a fynogir gan yr Arlywydd yn cael eiddirymu gan yr hyn a edy heb ei fynegi. Ty ar y tywod fydd unrhyw heddweh y ceisir ei adeiladu oni chloddir am y sylfaen i lawr o tan Belgium, Serbia, a chreulonderau'r gelyn o Germani ar dir a m6r. Rhyfedd na welsai Wilson fod sylfaen heddweh yn ddyfnach na' trychmeb a lyncodd y Lusitania i'w grombil.. Ebr y Salmydd, Gwaelodion y dyfroedd a welwyd, a seiliau y byd a ddinoethwyd." Ond y "gwaelodion" a'r "sylfeini" ywlv pethau na cheir golwg arnynt yng nghynllua yr Arlywydd o Ewrop a byd newydd. Dywed ef y byddai i heddweh heb fuddugoliaeth ddiffodd y Uid rhwng y Galluoedd gwrth- wynebol, ac i heddwch trwy fuddugoliaeth ei gadw i gynnu. Golygiad anwynebol a chyf- eiliornus o agweddau moesol a phwysicaf y sefyllfa yw hwn. Paham y cymemi'* ganiataol y gallai cydwybod foesol Belgium, a'r rhai a safodd drosti hyd at waed yn erbyn y gorthrymwr creulon, anghofio'r cam, a bod- loui i heddwch na fynnai gydnabod y cam a wnaed ? Mae cynhygiad Wilson mor wrthun, mewn.ystyr foesol, ag a fuasai i *v a gwraig be.1derfynu drwy f6t cynhadledd a oeddynt i garu ei gilydd neu beidio. Mae heddwch yn y rhyfel hwn yn bwnc o gyfiawil- der a dyngarweh, ac i gael ei benderfynn gmm ansawdd calon ac ysbryd, ac nid trwy ryw gytundeb allahol a fo'n diystyru cydwybod foesol-fel y gwnaed gan Gennani o'r cyck- wyn hyd yn awr. Yr hyn a bair inni hydee yn y Cynghreiriaid yw eu bod yn penderfyna cloddio hyd at y graig ar yr hon y mae sail ddiogel i DemI Heddwch yn bosibl, er druterf yr ebyrth a olyga hynny. Materdifrifoliaws fyddai i'r Unol Daleithiau droi'n weithredol yn erbyn y Cynghreiriaid, ond yn ol agwedd Dr. Wilson, ni ddylai fod yn achos o syndot i neb os felly y bydd yn y man. A'r America*- iaid yn sdn cymaint am Golofn Rhyddid I

Clep y Clawdd

Advertising