Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

I Trem I-Beth am AmericaP…

News
Cite
Share

I Trem I-Beth am AmericaP BETH bynnag all fod y gwahaniaeth rhyngom a Blatchford ar fater o grefydd,—ac y mae'r gwahaniaeth hwnnw'n sylfaenol a hanfodol i'r mwyafrif ohonom,—rhaid i bawb addef ddarfod iddo ddeall a rhagddywedyd arfaeth- au Germanigydagolwg ar wneuthur rhyfel yn well na nemor neb arall yn ein gwlad o leiaf, efe a gyhoeddodd ei fam ar y mater yn fwyaf llawn ac eglur, ac a apeliodd yn fwyaf uniongyrch a grymus at y bobl yn gyfiredinol Ni fynnai efe honni fod dim craffter pro-- ffwydol yn ei fynegiadau, nac iddo gael at ffeithiau nas cyhoeddesid eisoes gan awdur- dodaumilwrolapholibicaidd; ondfeffurfiodd ef ei farn, a thynnodd ei gasgliadau oddiwrth y ffeithiau cyhoeddedig mewn modd mor Hawn a phendant fel ag i daro'r meddwl cy- ffrodin naill ai i gredu ac ofni, neu anghredu a gwawdio. O'r diwedd, fe ddaeth y rhyfel ei hun ymlaen i egluro a chadarnhau ysgrifau Blatchford. 0 ran y ffurf a gymerodd yr ymosodiad Germanaidd ar y cyntaf—gydag eithriadau mewn manylion—fe brofwyd mai nid breuddwyd coeg, .eithr rhagwelediad clir, oedd gan y dyn rhyfedd hwn. A phan gyhoeddwyd cyfieithiad o lyfr cyntaf Bern- hardi ar ffordd Germani o wneuthur rhyfel, fe welwyd mor gyson ydoedd a rhagfynegiad Blatchford, ac a'r modd y cychwynuodd y Caiser ar ei ymgyrch ofnadwy. Rhagfarn ddall a fynnai atal y clod dyledus i unrhyw un ar bwnc neilltuol am fod neb yn gwahan- iaethu oddiwrtho ar bwnc arall, er i hwnnw fod y pwne pwysicaf mewn bod-crefydd. I wneuthur chwarae teg a'r dyn hwn, rhaid cydnabod ei fod yn sefyll dros ddelfrydau dynol uchel, ac yn ca3hau gormes a thrais ymhob ffurf. hyd yn oed gan swyddogion milwrol, heb s6n am anfoes a barbareidd-dra'r Germaniaid o ddechreu'r rhyfel. Mae o'n hen filwr ei hun, a hynny'n ychwanegu at ei awdurdod wrth sgrifennu ar faterion per- thynol i'r rhyfel.

Trem 11-MLIe i amen Wilson.I

Trem lll-Ty ar y Tywod.

Clep y Clawdd

Advertising