Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

•Or GOSTEG.I

DYDDIADUR, -, I

Cyhoeddwyr y Cymod 1

Heddyw'r Bore,

Advertising

[No title]

Advertising

DAU TU"R AFON.

News
Cite
Share

I Parhad o tud. 5. Owen adroddiad, Miss Ella Williams can, Glyn Jones; deuawd, Miss BIodwen Jones a Glyn Jones adroddiad, Mr. Win. Owen anerchiad gan y llywydd —Mr. J. W. Jones. Wedi ychydig saib, mwynhawyd cwpaned o de. Darllenodd Miss O. Lloyd dros ugain o lythyrau oddiwrth ein bechgyn sydd wedi ymuno a'r fyddin, yn datgan eu diolch am ein gofal amdanynt, a'r cwbl yn tystio'n eglur i'r amddiffyn Dwyfol drostynt yn y cyfyngder yr ant trwyddo. Cafwyd can gan Miss Nellie Davies dadl gan Miss Jones a Mr. 0. Morris a diolchodd Mr. George Jenkins dros y lleill am é rodd sylweddol, ac i Mr. John Jones, Cranbourne Road, am y te a'r dante-'th- ion. Cafwyd elw da i anfon ychydig eto o ddeunydd cysur i'n milwyr.—G.O.W. Gottea Gymro, ye an OddieaFtre W ARRINGTON.-Cynhaliwyd cyfarfod ynglyn a Chymdeithas Ddirwestol y Merched Ionawr 8 Mrs. R. Parry Jones yn llywyddu. Aed tiwy'r rhaglen a ganlyn Can, Cofia ddweyd y gzoir, Glynne Parry Jones. Rhangan, The Temperance Hosts are coming now, aelodau'r Gobeithlu. Can, Won't you buy my pretty flowers? Blodwen Griffith Jones. Rhangan, Gweithiwn dros yr lesu, aelodau'r Gobeithlu. Prif beth y noson oedd anerchiad Saesneg Mrs. George Dale, chwaer yn llawn sel dros achos lesu Grist. Cododd y cyfarfod i dir uchel a phawb yn teimlo ar y diwedd eu bod wedi cael lies a chalon i fynd ymlaen. Cafwyd gair gan y Parch. R. Parry Jones a Mri. R. Roberts a J. Griffiths, a diolchwyd i Mrs. Dale ar ran y Gangen gan Mrs. W. T. Williams a Mrs. J. Griffiths. Dibennwyd trwy ganu 0 cadzv ni drwy'r nos. -S.G. A ASHTON IN MAKERFIELD.-Cymdeithas rmdrechol Carmel (M.C.).—Cafwyd cyfarfod amrywiaethol nos Fercher, Ionawr 17, ac aed drwy'r rhaglen a ganlyn Ton gynulleidfaol; cAn gan Miss M. E. Thomas, Bryn Road cystadleuaeth cyfarwyddo dyn dieithr o Ashton i Lowton,-buddugol, Mr. Peter Roberts adroddiad gan Mr. Ivor Jones can gan Miss Annie Blythyn cystadleuaeth ateb nifer o gwestiynau a roddwyd ar y pryd;-buddugol, Mr. J. W. Dodd cAn gan Miss Florrie Davies, Bolton Road cystadleu- aeth Spelling B—buddugol, Mr. Rowland Parry can gan Mrs. Eluned Jones. Diweddwyd gan Mr. P. Roberts, a chanwyd ton gynulleidfaol. Mae'r holl gyfarfodydd yn llewychus lawn eleni eto, a nifer dda o aelodau—dros drigain-D. C. ROBERTS, Tsg. PRESCOT.—Nos Iau, y i8fed, caed cyfarfod amryw iaethol dan nawdd y Gymdeithas Ddiwylliadol, yn ysgoldy Ebenezer. Cynhulliad rhagorol, ac amryw filwyr yno, ac yn cymryd rhan. Cyfarfod hwyliog o'i ddechreu i'w ddiwedd. Dechreuwyd trwy ganu Dyma gariad fel y moroedd ar y don Ebenezer, a diwedd- wyd trwy ganu Dyma Geidwad i'r colledig ar y don Rhondda. A dyna ganu, Mr. Gol. credaf nad oes neb a all ganu'r hen emynau Cymreig fel y Cymry oddicartref, yn canu a'r ysbryd a'r deall. LIywydd. Mr. Robert O wen 5 cyfeilydd, Miss M. Williams, Whiston, a Cpl. Sam Evans, Pen y cae. Caed detholiad ar yr offeryn gan J. W. Whitley. Y goreu am gyfieithu i'r plant, Bronwen Jones am gyfieithu i'r rhai mewn oed, Pte. Jones, Caerdydd. Ymgom, Rhen Forgan a' I zvraig, Mr. a Mrs. Ed. Williams. Adroddiad, 111r. Moody, y fam, a'r plentyn, Pte. Davies, Colwyn. Deuawd, T Ddau Forwr, Cpl. Hughes, Bagillt, a Mr. D. J. Foulkes. Unawd, Bendithiaist goed y meysydd, Cpl. Sam Evans. Caed unawdau rhagorol hefyd gan Pte. Williams, Tre'r Ffynnon Pte. Jones, Maesteg a Mr.Robert 0 wen. Diolchwyd i bawb gan Ed. Williams. Da gennyf ddweyd fod gan y milwyr Cymreig yn Knowsley Park gor yn rhifo tua 70, ac yn barod bob amser i gynorth- wyo achos da, Cpl. Sam Evans yn arweinydd.-E.W.