Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

1o Big y ''Lleifiad.

DAU TU"R AFON.

News
Cite
Share

DAU TU"R AFON. WATERLOO: T Gymdeithas Lenyddol.-Dadl fyw- iog gafwyd nos Wener ddiweddaf, sef A yd'yw'r Eglwys wedi cymeryd y safbzeynt briodol ynglyn a'r Rbylel ? Agorwyd yn ddeheig gan Mr. H. D. Lloyd Thomas ar yr ochr gadarnhaol gwrthwynebid ef gan Mr. John P. Thomas, a chafwyd areithiau brwd gan Mri. J. Lewis, H. Roberts, W. S. Roberts, J. Lloyd, J. W. Davies, ac R. O. Jones, tra y caed ychydig eiriau'n gyffredinol gan y cadeirydd (Mr D. R. Hughes) a chan lywydd y Gymdeithas (y Parch. Wsxi. Henry). Yn y bleidlais cafwyd fod y mwyafrif yn tybio fod calon yr Eglwys yn ei lie yn y cyfwng mawr, ac unodd y ddwyblaid ar y diwedd i ganu Dy dangnefedd Dyro inni yn barhaus. Yr Ysgol Sabothol.-Gobeithiol a chalonogol dros ben ydoedd yr adroddiadau chwarterol a blynyddol a gyflwynwyd y Saboth diweddaf gan yr ysgrifennydd (Miss Gertrude Taylor), ac adlewyrchent gryn glod ar yr aroiygwr (Mr. Wm. Parry) ac arolygwr y plant (Mr. E. H. Roberts). Gwych clywed fod yr ysgol- heigion wedi cyfrannu'n agos i ddeugain punt yn y casgliadau wythnosol a'u bod yn parhau yn ea haelioni tra bo galw am noddi croeso bob Sul i'r milwyr Cymreig o Litherland a Hall Rd. Bendith arnynt, ac ary milwyr hwythau am barhau yn ffydd- Ion i'r hen arferion er mewn pelldref. Dylasai'r enwau a ganlyn fod yn hanes angladd Mr. T. A. Lloyd yn ein ihifyn diweddaf, sef yno'n cynrychioli'r Gymdeithas Genedlaethol Mr. David Jones (cadeirydd) Mr. Robert Roberts, Y.H. (trysorydd) Mr. R. Vaughan Jones (ysgrifennydd); a'r Mri. Hugh Owens, Arthur Venmore, ac E. E. Morris. MARW MAM YN ISKAEL.—Ddydd lau diweddaf, bu farw Mrs. Wm. Jones, Monfa, Bootle, a LIwydiarth Fawr, Llannerch y medd, yn 72 mlwydd oed. Gwraig addfwyn a charedig gwreiddyn y mater ganddi er yn ieuanc iawn. Ni chymerodd ran mor fiaenllaw gyda gwaith cyhoeddus yn yr eglwys na thuallan ag y buasid yn dymuno, oherwydd ei bod o ysbryd encilgar a swil ond ni fyddai raid bod yn ei chwmni yn hir i weled ei bod yn cymeryd diddordeb byw iawn ym mhob peth a'i duedd i ddyrchafu dynoliaeth ac i gynorthwyo'r gwan. Ond yn ei chartref y gweld hi ar ei goreu, yn ei gofal am ei phriod a'i phlant. Ni wyddom am neb a lanwodd y gair mam yn well. Magodd chwech o blant; plannodd egwyddorion crefydd ym mhob un ohonynt, gofalodd na chafodd yr un ohonynt dyfu fyny'n falch a choeg a gad- awodd y chwech ar ei hoi, yn gynhysgaeth i ddyrchafu crefydd a moes. Gallodd ddweyd wrth eu gadael na oddefodd erioed y brofedigaeth leiaf oddiwrth yr un ohonynt, a chafodd fynediad helaeth i mewn i lawen- ydd ei Harglwydd. Genedigol ydoedd o Ros y medre, merch y diweddar Mr. Evan Hughes, a fu'n cadw masnach helaeth yno ac yn wr adnabyddus a blaenllaw am lawer o flynyddoedd. Cynhaliwyd gwasanaeth ym Monfa nos Sul am 8.50. Arweiniwyd gan y Parch. O. Lloyd Jones, M.A.,B.D., a chymer- wyd rhan gan y Parch. J. D. Evans, Garston. Yr oedd yn bresennol y teulu, a nifer o gyfeillion a blaenoriaid eglwys Stanley Road. Canwyd nifer o emynau, tan arweiniad Mr. Robert Jones Gadawodd ei phriod mewn galar dwfn, ond yn ymostwng yn dawel i ewyllys ei Dad Nefol tri o f eibion-yr Henadur O. K. Jones, Y.H., Mri. Robert Arthur Jones a Glynne Jones—i gyd yn Bootle a'r cj ffiniau a thair o ferched,—Mrs. A. R. Fox, West Kirby Mrs. Jones-Roberts, Pen y groes; a Miss Marion Jones, mewn hiraeth dwfn am fam ofalus. Bore dydd Llun, cymerwyd ei gweddillion i Lime Street Station i'w rhoddi i orffwys ym meddrod y teulu ym mynwent Llangwyllog, Mon, lie y gorwedd cenhedl- aeth ar ol cenhedlaeth o hynafiaid yr Henadur Wm. Jones. Claddedigaeth gwadd. Gwasanaethwyd yn Llangwyllog gan y Parch. Kyffin Williams. Y galar- wyr oedd yr Henadur W. Jones (priod), Miss Jones (merch), Mrs. Thomas (chwaer), yr Henadur O. Kendrick Jones (mab), Mrs. A. R. Fox (merch), Lieut. R. A. Jones, Mrs. Jones Roberts (merch), Mr. Glynne Jones (mab), Mr. A. R. Fox (mab-yng-nghyfraith), Mrs. Kendrick Jones (merch-yng-nghyfraith), Col. H. Jones-Roberts (mab-yng-nghyfraith), Mrs. Glynne Jones (merch-yng-nghyfraith), Mr. Edwin Hughes (brawd), Miss Eleanor K. Jones (wyres), Mr. Staley Fox (wyr), Mri. J. Jones a Daniel Jones (brodyr yr Hen. Wm. Jones), y Parch. O. Lloyd Jones, Mr. a Mrs. R. O. Jones, P. Lloyd Jones, Aim Lloyd Jones, Llewelyn Lloyd Jones J. Elias Jones Robert Jones. Y trefniadau yng ngofal Mr. P. Lloyd Jones, Stanley Road. YSGOL SVL CHATHAM STREET.-Cynhaliodd yr uchod ei chyfarfod blynyddol nos Fawrth, yr 16eg cyf. Cadeirydd, Mr. J. W. Rowlands, Maesllydan. Cynulleidfa gref, un o'r cyfarfodydd rhagoraf, a daeth talentau disglair mewn canu ac adrodd i'r amlwg. Gwasanaethwyd fel beirniaid gan y Parchn. T. J. Rowlands, M.A.,B.D., G. Roberts Jones, B.A.,B.D., D. Adams, B.A., R. R. Hughes, B.A., Alri. Isaac Roberts, R. J. Hughes, R. E. Jones, H. Gordon Hughes, T. J. Thomas, a gwobrwywyd iel y canlyn Arboliadau I bob oed Mr. J. S. Pritchard. I rai dan IS 1, Miss Gwenda Lloyd Jones 2, Ali-S Rowlands a Miss Betti Lloyd Jones. I rai dan 15 I, Miss Maggie Rowlands 2. Master Elias Rowlands. I rai dan 13 I, Nina Hughes 2, Master Osborne Hughes a Miss Enid Hughes 3, Miss Millie Row- lands. Cerddoriacth: Unawd i blant dan 14: I, Ivor Jones a Gwyneth Lloyd Jones 2, Ethel Roberts ac Evan Griffiths. Pianoforte Solojt Nina Hughes ac Ivor Jones. Y parti o wyth a gano oreu Buddugoliaeth Parti dan arweiniad Mr. R. H. Williams. Her-iinawd I, Mr. Tom Williams a Miss Dilys V. Williams 2, Miss Buddug Lewis. Berdi- oniaetb tri phennill ar Heddwch byd-eang Mr. David Owen. Englyn Yr Ysgol sui Mr. T. Lloyd. Jones. Adrodd I rai dan 10 1. Ethel Roberts 2, Thos. Lloyd Jones. I rai dan 16: 1, Elias Row- lands 2, Maggie Rowlands. Her-adroddiad s 1, D. R. Owen 2, Nancy Davies. Cyfititbu i'r Saesneg I, Miss Maggie Rowlands a Miss Buddug Lewis. I'r Gymraeg I, Mr. Alun T. Owen. Dar- llen darn heb atalnodau Miss Maggie Rowlands, Dra"tinv. of an Airship Miss Gwyneth Lloyd Jones. Llenwi i mewn eiriau coll mewn cmynau Miss K. Jones, Miss M. Jones, Mr. John Roberts. PerfToim. io unrhyw ddarn dramavddol neu ddadl dadl gan- Miss I.aura Powell Jones a Miss Ellen Evans.—R-E.R. TEML GWALJA, EDGE LANE.-Nos Fawrth yr wythnos ddiweddaf, cafwyd cyfarfod rhagorol Pianoforte solo gan y Chwaer Phyllis Edwards. Can, Bugeiles y Wyddfa, y Br. Griffith Davies. Darllen papur, Dirwest yn amser Rhyfel, y Chwaer Evans, Botanic Road. Can gan y Br. O. H. Williams. Can, Devjch i'r frwydr, y Chwaer Olwen Hughes. Araith ddifyfyt dan ofal y Chwaer Mamie Jones goreu, Br. Alfred S. Jones. Can, Y Plentyn a'r Gwlith, y Chwaer Jenny Jones. Cyfeiliwyd gan y Chwaer Doris Halton Morris a'r Br. R. O. Williams. Llywydd, y Br. J. E. Davies.—Cy?a?. Llywydd, GUILD WEBSTER ROAID.Tonawr 17, wedi seibiant'y Gwyliau, ail gychwynnwyd cyfariodydd y Guild trwy gynnal cyfarfod adloniant. Cymerwyd rhan fel y canlyn Pianoforte solo gan Miss Peggy Parhad ar tudal. 6.