Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

O Lofft y Stabal.

News
Cite
Share

O Lofft y Stabal. • 1 XXVI MiSTAR GOLYGYDD,-Dydw i ddim heb deimlo fod LloSt y Stabal man sef>11 dros ddosbarth pwysig o bobol sy'n cael i hys- gwyd yn erwin gin y rhyfel erehyll hwn. Tasa bwys yn hynnu, ma marn i amdano fo'n bur debig i'ch barn chitha tua'r offis yna. Rhaid defnyddio pob gallu sy'n yn meddiant i lwyr orchfygu'r Caisar. Os oes neb yn meddwl na ddylid dal a ehosbi hwn a'i griw, wn i ar chwymab daear be i feddwl ohono fo. Pe gwelsa hwnnw arth wedi dengid o'i chaits, ac yn mynd yn union i ganol plant y pentra, ymddengys i mi na fedra dyn fel hwn mo'i tharb hi a hynnu am bydda fo wrth ladd un arth tu allan yn deffro un waeth-sef cydwybod—o'r tu miawn. Yn wir, mi alia dyn feddwl fod ambell ddyn mor gydwybodol yn erbyn lladd dim, fel na fasa fo ddim yn gwasgu llgoden, i frifo dim ami, hyd noed tasa fo'n i theimlo hi'n mynd i fynu rhwng i grys a'i groen o. Eto i gid, melltith o beth fasa'n i gneud hi'n angenrheidiol i golli cimin o waed dynol ag a wnaed yn y rhyfel mawr, nad ydi o eto ddim wedi gorffen i alanastra. Beth ond MeUtith fa3a'n gneud i'r byd gwareiddiedig, fel tasa, godi ar i draed i ymladd ar fora Dolig ? Beth ond Melltith fasa'n achosi i flodau cenhedloedd Iwrop gael i torri i lawr, a hynnu gan i gilidd t Mi welis i rai ffyliaid o da/nion miawn oed yn gyrru bech- gyn ifanc i gwffio-yn i hysio nhw felly. Mi fydda Jac Jos yn ddig iawh wrth y rheini, ac yn deud wrthyn nhw am gwffio a'i gilidd os oedd amyn nhw eisio cwtfio o gwbwl, a gadael llonydd i'r bechgyn. Ac mae rhw. beth yn debig yn y modd yr achosir rhyfel. oedd. Y pen hysiwr, Tad y Drwg, yn y ewffio ofnadwy sy'n Iwrop ers agos i ddwy flynedd a hanner, yw'r Caisar Wil, a chynno fo ddosbarth o ddynion o'r un ysbryd yn chwthu'n i glustia fo. Hysiwr digymar ydi'r Caisar, ac mae o wedi dysgu'r giam honno'n well o lawer ha neb o'i wrthwynebwyt. A'r gwaethaf ar i fath o ydi i fod o'n hysio cenhedlaeth o flodau ei genedl ei hun i ruthro ar eiddo cenhedloedd erill—i geisio bodloni'i drachwant a'i falchtra diderfyn. Ond mae Wil i hun yn gofalu bod o gyrraedd ergyd; Ond meddwl yr oeddwn i, wrth ddechra'jr sylwada ma, am y (Aynioii, ifanc sy wedi mynd olldar y ffermydd at y sowldiwrs. Rydw i'n clwad llawar iawn o feio arn,onni fel dosbarth. Ond falla y dylwn i sylwi ma nid y ni fel gweision, yn gimin a'r meistri, sy'n cael i beio. Wei, yn y matar hwn, ma'n rhaid gwahaniaethu rhwng y mista a'r gwas. Leiciwn i ddim gneud cam a'r meistri. Ond, yn sicir i chi, mae rhai wedi temtio gweision i ddigio wrthyn nhw. Hwy- rach mod i'n iwsio'r un ffeithiau ag fu gin i o'r bjaen ond na hidiwch-, gan i bod ultwlu wir. Wel, pan welwyd fod llaw yr aw durdodau, yn trymhau ar y rhai o oed i'r Fyddin, a ehysgod Consgripsiwn yn disgyn ar y fferm- ydd, fel ar bobman arall, mi welis i amryw bethau nath, imi synnu tipin. Mi welis sboniad ar hen ymadroddion fel "Nes pynelin nag arddwn," Mae gwaed yn dew- ach na dwr, a mi welis, syr, pan oedd perig bywyd yn y cwestiwn, fod perthynas gwaed yn penderfynu popeth bron. Mae o'n Iddigon gwir, syr, fod rhai gweision wedi gorfod mynd o'u Ilefydd er mwyn rhoi lie i'r meibion. Beth oedd o'i le yn hynnu?" ebra rhywun. Dydw i ddim yn honni y medra iapad y cwestiwn yn foddhaol chwaith. Rydw i'n teimlo fod yma rhwbath o'i le, er na fedra i j ddim gosod y teimlad miawn geiriau. Ond I meddyliwch am hyn, rwan :—Dyma ddyn I ifanc wedi cymryd at fod yn was ffarm o'i fachgendod, ac wedi rhoi i hun i'r alwedigaeth honno hyd yr amser y torrodd y rhyfel allan, ac y doth argoelion consgripiwn dros y wlad. Ond roedd rhai meibion ffermydd wedi dewis galwedigaetha mwy nillfawr a rhw baxelxua fel tasa, na gweithio ar ffermydd ac roeddan nhwtha wedi rhoi i hunain i'r galwedigaetha hynnu, fel y gweision ffermydd i'w rhai nhw. Rwan, syr, pan ddoth y rhyfel i ysgwyd mor a thir, tref a gwlad, mi gymrodd cyfnewid- iada mawr le ynglyn a'r gwahanol safleoedd hyn. Mi welwyd rhai meibion ffermydd yn dwad adra'n swta reit, ac yn dechra stumio at waith ffarm. Ac, yn ddigon gwir roeddan nhw'n dysgu'n bur gyflym-fel y gellsid disgwyl i rai wedi i magu miawn tai ffermydd. Wrth gwrs, fe wyddai'r ffarmwr y gwir reswm pan oedd o'n galw'r meibion adra, gwyddai'r meibion pam roeddan nhw'n dwad, a gwyddai'r gweision yr un peth. Prin y ceid mistar i ddeud wrth i was ffydd- Ion am ymadael, oleiaf heb deimlo rhwbath tebig i euogTwydd—pan yn gwbod yn i galon y gwir achos am hynnu. A meddyl- iwch am deimlad y gwas wrth droi 3maith, ac yn gwbod yn dda i fod o, yn bur debyg, yn cael i droi i wymad y perigl yr oedd y mab ffarm yn ceisio'i sgoi wrth fynd a'i le a'i waith o. Roedd y mab ffarm wedi dewis ei gylch, a'r gwas ffarm wedi dewis i un yntau; ond pan ddoth perigl i gylch y mab, ac y tybiodd fod mwy o ddiogelwch yng nghylch y gwas, bu raid i'r gwas fynd alltm i neud lie i'r mab ddwad i fiawn. Rwan, syr, rydw i'n teimlo fod rhwbath gwael yn fan yma. Mi wn i am un ffarmwr na ddaru o ddim swero'i feibion i ddwad adra, a ddaru nhwtha ddim tynnu arno fo am gael dwad. Roeddan nhw'n barod i neud i rhan o'r lie cafodd y rhyfel nhw yno fo, deled a ddelai. Ac roedd pobol ffordd yma'n teimlo fod rhwbath nobl iawn yn hynnu. Ac wyddoch chi beth, syri? mi ddangosodd rhai meistri— dim ond chydig, hyd y gwn i, ac hyd rydw i'n credu—gryn ddifaterwch am weision o fltten y tyrbiwnals. Roedd rhai ffaimwrs wedi cadw gwas ne ddau efo'r meibion, achoa na fedra nhw ddim cario petha mlaen hebddyn nhw. Beth bynnag i chi, pan alwyd yr achos o flaen y tyrbiwnal, ac y cododd y flarmwr i roi i apel ger bron, ac y tebodd o'r cwestiwn-" Pwy sydd arnoch chi eisio i weithio ar y fiarrn-pwy o'r-tri yma ?" A'i apad o oedd ma'i ddau fab- gan adal y gwas allan yn gyfangwbwl. Mi faswn i'n meddwl y gallsa'r mistar ddeud fod arno fo eisio'r tri, achos ma'n bur sicir nad oedd o ddim yn cadw gwas cs nad oedd arno'i isio fo. Chydig, meddaf eto, o droion felna y clwis i amdanyn nhw ond ma dyn yn teimlo mai hen dro gwael oedd hwn. Lapio'r eiriolaeth am y ddau fab, ac heb daflu cimin a chwr y fantell dros y gwas. Pa ryfedd i'r gwas hwnnw deimlo nes y penderfynodd adael i fistar o hynnu allan, deled a ddelai ? Ond ma rhai'n dwrdio gweision fferraydo- fel y g wnant feibion ffermydd o ran hynnu- am beidio a bod yn barod i neidio i'r Fyddin Wel, mi addefa'n bod ni dipin yn llwfr. Llwfr yda ni hyd noed i ymladd drwy lecsiwn am yn howlia-diodda hyd yr eitha, ac hyd nes bo pawb arall wedi cael i tro, fel tasa. Pau gaffo'r gwas ffarm i dro yn y Wladwriaeth, mi allwch fod yn sicir na fydd neb arall i ddwad ar i ol o. Am y glowyr, a'r chwrelwyr, a'r seiri coed a. cherrig, a'r plastrwrs, a'r tlwriaid, a'r paintiwrs, a'r doc" wyr a'r gyrwyr eetbydau-wel, ma nhw wedi arfar ymladd ar hyd y blynyddoedd, ac agos wedi gneud rhyfel gartrefol yn y wlad ma pan dorrodd yr Armagedon allan. Ond caru heddwch rydan ni, ac am unrhyw bris. Ond, wrth derfynu, mi leiciwn i (fdeud nad ydw i ddim yn meddwl fod nemor neb- mwy na rhai o nosbarth i-yon awyddu neidio i arfogaeth rhyfel erbyn hyn, wedi gweld i beth y mae'n arwain. Siarad gwyn, ydi i un ddeud i fod o'n mynd i'r rhyfel o fodd i galon. Y neb ddyfyd beth felly. mae o'n deud yr un pryd nad ydi mynd i ryfel yn ddim aberth iddo. Mae'r dyn sy'n gneud aberth yn mynd yn erbyn ryw duedd- iadau cryfion, ne ni fyddai lie i aberth ddwad i fiawn o gwbwl. Cydwybod yn erbyn teimlad, dyletswydd yn erbyn hunan- fwynhad—yn y fan yna y mae'r llwybyr a gerddir gan Aberth. Ac mae nifer go dda o weision ffermydd yr ardaloedd yma wedi cael v llwyhyr hwn I HEN WAS. I

Ffetan y Gol.

Advertising