Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
The IDEAL of the Breakfast-room, Dining-room, Smoke-room, Library, and Lounge. I Beauty and Quality go Hand-in-Hand with us, whiletfor absolute comfort and ease combined with the former, this particular chair is a unsurpassable- It is impossible to here explain the varied attribute* of this t particular model. Call and inspect and let it demonstrate to you how its t hinged back, its sliding seat adjusts itself to any position you may desire. t  r- n  r?T'? r«a  t t' D?<Q? ???ru?jD? )t r?jL ? t 9"t9 BOLO STtUKT ?? j U 'LIVEJ¡POOL. V a The PREMIER Complete Furnishing House of the North W CASH OR OUT OF INCOME, J L
O Lofft y Stabal.
O Lofft y Stabal. • 1 XXVI MiSTAR GOLYGYDD,-Dydw i ddim heb deimlo fod LloSt y Stabal man sef>11 dros ddosbarth pwysig o bobol sy'n cael i hys- gwyd yn erwin gin y rhyfel erehyll hwn. Tasa bwys yn hynnu, ma marn i amdano fo'n bur debig i'ch barn chitha tua'r offis yna. Rhaid defnyddio pob gallu sy'n yn meddiant i lwyr orchfygu'r Caisar. Os oes neb yn meddwl na ddylid dal a ehosbi hwn a'i griw, wn i ar chwymab daear be i feddwl ohono fo. Pe gwelsa hwnnw arth wedi dengid o'i chaits, ac yn mynd yn union i ganol plant y pentra, ymddengys i mi na fedra dyn fel hwn mo'i tharb hi a hynnu am bydda fo wrth ladd un arth tu allan yn deffro un waeth-sef cydwybod—o'r tu miawn. Yn wir, mi alia dyn feddwl fod ambell ddyn mor gydwybodol yn erbyn lladd dim, fel na fasa fo ddim yn gwasgu llgoden, i frifo dim ami, hyd noed tasa fo'n i theimlo hi'n mynd i fynu rhwng i grys a'i groen o. Eto i gid, melltith o beth fasa'n i gneud hi'n angenrheidiol i golli cimin o waed dynol ag a wnaed yn y rhyfel mawr, nad ydi o eto ddim wedi gorffen i alanastra. Beth ond MeUtith fa3a'n gneud i'r byd gwareiddiedig, fel tasa, godi ar i draed i ymladd ar fora Dolig ? Beth ond Melltith fasa'n achosi i flodau cenhedloedd Iwrop gael i torri i lawr, a hynnu gan i gilidd t Mi welis i rai ffyliaid o da/nion miawn oed yn gyrru bech- gyn ifanc i gwffio-yn i hysio nhw felly. Mi fydda Jac Jos yn ddig iawh wrth y rheini, ac yn deud wrthyn nhw am gwffio a'i gilidd os oedd amyn nhw eisio cwtfio o gwbwl, a gadael llonydd i'r bechgyn. Ac mae rhw. beth yn debig yn y modd yr achosir rhyfel. oedd. Y pen hysiwr, Tad y Drwg, yn y ewffio ofnadwy sy'n Iwrop ers agos i ddwy flynedd a hanner, yw'r Caisar Wil, a chynno fo ddosbarth o ddynion o'r un ysbryd yn chwthu'n i glustia fo. Hysiwr digymar ydi'r Caisar, ac mae o wedi dysgu'r giam honno'n well o lawer ha neb o'i wrthwynebwyt. A'r gwaethaf ar i fath o ydi i fod o'n hysio cenhedlaeth o flodau ei genedl ei hun i ruthro ar eiddo cenhedloedd erill—i geisio bodloni'i drachwant a'i falchtra diderfyn. Ond mae Wil i hun yn gofalu bod o gyrraedd ergyd; Ond meddwl yr oeddwn i, wrth ddechra'jr sylwada ma, am y (Aynioii, ifanc sy wedi mynd olldar y ffermydd at y sowldiwrs. Rydw i'n clwad llawar iawn o feio arn,onni fel dosbarth. Ond falla y dylwn i sylwi ma nid y ni fel gweision, yn gimin a'r meistri, sy'n cael i beio. Wei, yn y matar hwn, ma'n rhaid gwahaniaethu rhwng y mista a'r gwas. Leiciwn i ddim gneud cam a'r meistri. Ond, yn sicir i chi, mae rhai wedi temtio gweision i ddigio wrthyn nhw. Hwy- rach mod i'n iwsio'r un ffeithiau ag fu gin i o'r bjaen ond na hidiwch-, gan i bod ultwlu wir. Wel, pan welwyd fod llaw yr aw durdodau, yn trymhau ar y rhai o oed i'r Fyddin, a ehysgod Consgripsiwn yn disgyn ar y fferm- ydd, fel ar bobman arall, mi welis i amryw bethau nath, imi synnu tipin. Mi welis sboniad ar hen ymadroddion fel "Nes pynelin nag arddwn," Mae gwaed yn dew- ach na dwr, a mi welis, syr, pan oedd perig bywyd yn y cwestiwn, fod perthynas gwaed yn penderfynu popeth bron. Mae o'n Iddigon gwir, syr, fod rhai gweision wedi gorfod mynd o'u Ilefydd er mwyn rhoi lie i'r meibion. Beth oedd o'i le yn hynnu?" ebra rhywun. Dydw i ddim yn honni y medra iapad y cwestiwn yn foddhaol chwaith. Rydw i'n teimlo fod yma rhwbath o'i le, er na fedra i j ddim gosod y teimlad miawn geiriau. Ond I meddyliwch am hyn, rwan :—Dyma ddyn I ifanc wedi cymryd at fod yn was ffarm o'i fachgendod, ac wedi rhoi i hun i'r alwedigaeth honno hyd yr amser y torrodd y rhyfel allan, ac y doth argoelion consgripiwn dros y wlad. Ond roedd rhai meibion ffermydd wedi dewis galwedigaetha mwy nillfawr a rhw baxelxua fel tasa, na gweithio ar ffermydd ac roeddan nhwtha wedi rhoi i hunain i'r galwedigaetha hynnu, fel y gweision ffermydd i'w rhai nhw. Rwan, syr, pan ddoth y rhyfel i ysgwyd mor a thir, tref a gwlad, mi gymrodd cyfnewid- iada mawr le ynglyn a'r gwahanol safleoedd hyn. Mi welwyd rhai meibion ffermydd yn dwad adra'n swta reit, ac yn dechra stumio at waith ffarm. Ac, yn ddigon gwir roeddan nhw'n dysgu'n bur gyflym-fel y gellsid disgwyl i rai wedi i magu miawn tai ffermydd. Wrth gwrs, fe wyddai'r ffarmwr y gwir reswm pan oedd o'n galw'r meibion adra, gwyddai'r meibion pam roeddan nhw'n dwad, a gwyddai'r gweision yr un peth. Prin y ceid mistar i ddeud wrth i was ffydd- Ion am ymadael, oleiaf heb deimlo rhwbath tebig i euogTwydd—pan yn gwbod yn i galon y gwir achos am hynnu. A meddyl- iwch am deimlad y gwas wrth droi 3maith, ac yn gwbod yn dda i fod o, yn bur debyg, yn cael i droi i wymad y perigl yr oedd y mab ffarm yn ceisio'i sgoi wrth fynd a'i le a'i waith o. Roedd y mab ffarm wedi dewis ei gylch, a'r gwas ffarm wedi dewis i un yntau; ond pan ddoth perigl i gylch y mab, ac y tybiodd fod mwy o ddiogelwch yng nghylch y gwas, bu raid i'r gwas fynd alltm i neud lie i'r mab ddwad i fiawn. Rwan, syr, rydw i'n teimlo fod rhwbath gwael yn fan yma. Mi wn i am un ffarmwr na ddaru o ddim swero'i feibion i ddwad adra, a ddaru nhwtha ddim tynnu arno fo am gael dwad. Roeddan nhw'n barod i neud i rhan o'r lie cafodd y rhyfel nhw yno fo, deled a ddelai. Ac roedd pobol ffordd yma'n teimlo fod rhwbath nobl iawn yn hynnu. Ac wyddoch chi beth, syri? mi ddangosodd rhai meistri— dim ond chydig, hyd y gwn i, ac hyd rydw i'n credu—gryn ddifaterwch am weision o fltten y tyrbiwnals. Roedd rhai ffaimwrs wedi cadw gwas ne ddau efo'r meibion, achoa na fedra nhw ddim cario petha mlaen hebddyn nhw. Beth bynnag i chi, pan alwyd yr achos o flaen y tyrbiwnal, ac y cododd y flarmwr i roi i apel ger bron, ac y tebodd o'r cwestiwn-" Pwy sydd arnoch chi eisio i weithio ar y fiarrn-pwy o'r-tri yma ?" A'i apad o oedd ma'i ddau fab- gan adal y gwas allan yn gyfangwbwl. Mi faswn i'n meddwl y gallsa'r mistar ddeud fod arno fo eisio'r tri, achos ma'n bur sicir nad oedd o ddim yn cadw gwas cs nad oedd arno'i isio fo. Chydig, meddaf eto, o droion felna y clwis i amdanyn nhw ond ma dyn yn teimlo mai hen dro gwael oedd hwn. Lapio'r eiriolaeth am y ddau fab, ac heb daflu cimin a chwr y fantell dros y gwas. Pa ryfedd i'r gwas hwnnw deimlo nes y penderfynodd adael i fistar o hynnu allan, deled a ddelai ? Ond ma rhai'n dwrdio gweision fferraydo- fel y g wnant feibion ffermydd o ran hynnu- am beidio a bod yn barod i neidio i'r Fyddin Wel, mi addefa'n bod ni dipin yn llwfr. Llwfr yda ni hyd noed i ymladd drwy lecsiwn am yn howlia-diodda hyd yr eitha, ac hyd nes bo pawb arall wedi cael i tro, fel tasa. Pau gaffo'r gwas ffarm i dro yn y Wladwriaeth, mi allwch fod yn sicir na fydd neb arall i ddwad ar i ol o. Am y glowyr, a'r chwrelwyr, a'r seiri coed a. cherrig, a'r plastrwrs, a'r tlwriaid, a'r paintiwrs, a'r doc" wyr a'r gyrwyr eetbydau-wel, ma nhw wedi arfar ymladd ar hyd y blynyddoedd, ac agos wedi gneud rhyfel gartrefol yn y wlad ma pan dorrodd yr Armagedon allan. Ond caru heddwch rydan ni, ac am unrhyw bris. Ond, wrth derfynu, mi leiciwn i (fdeud nad ydw i ddim yn meddwl fod nemor neb- mwy na rhai o nosbarth i-yon awyddu neidio i arfogaeth rhyfel erbyn hyn, wedi gweld i beth y mae'n arwain. Siarad gwyn, ydi i un ddeud i fod o'n mynd i'r rhyfel o fodd i galon. Y neb ddyfyd beth felly. mae o'n deud yr un pryd nad ydi mynd i ryfel yn ddim aberth iddo. Mae'r dyn sy'n gneud aberth yn mynd yn erbyn ryw duedd- iadau cryfion, ne ni fyddai lie i aberth ddwad i fiawn o gwbwl. Cydwybod yn erbyn teimlad, dyletswydd yn erbyn hunan- fwynhad—yn y fan yna y mae'r llwybyr a gerddir gan Aberth. Ac mae nifer go dda o weision ffermydd yr ardaloedd yma wedi cael v llwyhyr hwn I HEN WAS. I
Ffetan y Gol.
Ffetan y Gol. Cofted pawb fo'n an/on i'r Ffeiar mai dyma' gair sydd ar ei genau: I Nithio'r Gau a NYTHU'R Gwir. Daioni cudd a diglochtar. I I At Olygydd Y Ekython I SYH,-Y mae'n rhyfedd fel y mae'r rhyfel wedi troi sylw pawb i raddau mwy neu lai at grefydd a Duw. Y mae rhyw s wn crefydd hyd yn oed yn ysgrifeniadau Mr. Bottomley, a chyfansoddodd res o benhillion yn ddiwedd ar fel datganiad o'i gredo, Dyma ddiwedd y pennill olaf :— To put in highest place O'er all the peoples of the earth The Anglo-Saxon race, Nid oedd dim yn cynhyrfu'r gwr hwn yn-fwy na bod y Germaniaid am roi eu hunain yn ben ar lioll lwythau'r ddaear ond dyma yntau'n hawlio'r un peth yn hollol i'r Saeson. Wedyn, wrth ateb Esgob Llundain, dywed "We do 'not want a nation on its knees,' but on its pride and resolution." Pride," ai e ? Sut 7ydywedodd 0 "Pwy bynnag gan hynny 'a'i gostyngo ei hurtan," etc. Crybwyllaf hyn yn unig er dangos y dryehfeddwl rhyfedd sy gan y gwr hwn am grefydd—gSvry dar- llenir ei ysgrifau gydag awch gan filoedd--yi-i enwedig ar y Sul. Ond ymddengys i mi, syr, fod y dynion hynny sydd wedi bod trwy'r tan, ac wedi gweld pethau mawr, wedi cael gweledigaeth gliriach o'r Gwirionedd. Ni a glywsom rhyw dine newydd yn llythyrau dihafal y caplaniaid hynny yn Y Brython yn ddiweddar, Nid oes swn na sect na phlaid yn y rheiny; a gwrandewch y Llyngesydd Beatty- NVh(,n England can look out on the future withhurnble eyes and a prayer on her lips then we can begin to count the days to- wards the end." Felly po nosaf yr aiff dyn at yr amgylchiadau ofnadwy yma, y mae ei olygon ysbrydol fel rheol yn mynd yn gliriach, a'r pethau gwir fawr a phwysig yn dod i'r amlwg. Y mae Ffrainc yn y ffwrn, ac wedi gorfod llosgi llawer o bethau sal oedd ynglyn wrth ei chrefydd ac ni wn i ddim, Syr, nad oes gennym ninnau fel Cymry lawer o le i wella. Teimlo y byddaf fod ein crefydd wedi mynd yn rhywbeth seremoi-iiol iawn, yn rhoi gormod o bwys ar y moddion yn lie ar yr amcan dynion wedi mynychu rhyw hyn a hyn o gyfarfodvdd, yn gosou eu iiuraiu.ar ryw binacl uwchlaw pawb, fel rhai wedi cyf- lawni pob dyletswyddond o edrych ar bethau'n iawn, nid yw'r cyfarfodydd hyn, ac hyd yn oed darllen y Beibl, ond "moddion gras i'n helpu i wneud gwnith oddiallan yn y byd. Pe mynychai bob cyfaifud, nid yw hynny o angenrheidrwydd yn ei wneud yn golofn yr achos ac mi gredaf ii, syr, fod gormod o glodfori o lawer yn ein heglwysi ar y dynion hynny sydd wedi ymgyfoethogi mewn rhyw ddrll cyfrin (a dweyd y lleiaf) a thrwy ffyrdd nad ydynt yn gofyn safon moesol Hehel iawn i fod yn llwyddiannus ynddynt. Credaf y dylai ein gweinidogion fod ar dir digon annibynuol i fedru dweyd y Drefn with y rhain fel ag y dywedant hi mor ddioaid with y rhai "iselradd." Cyfyngir yr ymadrodd Llestri'r Demi i ryw un neu ddau o bethau, tra pe buasem ni yn y cywair priodol y gwelsem fod pob offervn yr yrr.afio ein llaw ynddo yn un o'r rheiny. Fel y dywedodd yr Hen Wall yn rhywle yn ei ddull gwreiddiol ei hun Yr wyf mor ddifrifol wrth afael yn y bensal yma a phetaswn i yn gafael mewn cwpan cymun. Wel dyna fo Hefyd, cyfyngir rhoi at yr achos i ryw fymryn o enfilops. Syr, a gaf fi roi enghraifft neu ddwy o bethnu eraill a olygaf fi fel yn rhoi at Ei achoa ? Gwelais weithiwr un diwrnod oer yn mynd i'w foes ac yn rhoi ei dipyn cinio i hen wreigan dlawd, newynog, ac yn gwneud heb ddim ei hun Ni fydd hanes am y weithred honno mewn un adroddiad daearol, ond fe fydd ar gael yn y Croniel Mawr y dydd liwnnw." Llawer o hanesion sydd ar gael am bregethwyr, ond nid oes yr un wedi glynu yn fy nghof fifel yr hanes hwnnw am Dr. Herber Evans yn tynnu ei gob uehaf mewn rhyw stesion ar noson oer, ac yn ei rhoi am frawd anghenus. "A gafodd y Dr. annwyd ? ebe chwi. Dyma fel yclywais y Parch. P. Hughes Griffiths yn dweyd Ni fydd ambassadors cariad byth yn cael annwyd, canys nid yw hunan yn bresennol ar y pryd." Bravo Mr. Griffiths. A wy. ddoch chwi beth, Mr. Gol ? Pan yn pasio -railings y Southern Hospital yn ddiweddar, ni allwn lai na meddwl am brifardd Cymreig a fu yno yn helpu hen wreigan dlawd i godi basged o chips ar ei phen. Bobl bach dyna i chwi culture. Y mae llawer o bobl o'r nod- wedd yma yn aros yn ein heglwysi eto, ac os ewch chwi neu fi i dywydd garw fe ddeuant at ein drysau fel engyl yn y nos. A mi yn meddwl y pethau hyn, ac yn rhodio hyd un o strydoedd y dref yma, digwyddais sbio i ffenestr siop, a dyma bennill a welais ar un o'r cardiau Too many gods, too many creeds, Too many ways that wind and wind, When just the art of being kind Is all the sad world needs. Yn gymaint a'i wneuthur ohonoch i un o'r rhai hyn," etc. DANIEL 0. JONES 17 Sef ton Square, LerpvÆ Coch yr Wden. Oc. I I Ai Olygydd Y BRYTHON I Syrt,-Da gennyf weld fod egluro hen eiriau a broddegau Ilafar gwlad yn cael croeso yn Y BRYTHON; i'r sawl a gymer ddiddf rdeb yn y cyfryw y maent ynflasus neilltuol, a gallaf fi'n un ddywedyd—Meljs, moes mwy. Faint o ddarllenwyr Y BRYTHON a wyr, tybed, beth a olygir wrth Goch yr Wden ? Mynych y clywais fy nhaid yn dywedyd mai hoff iawn fyddai ganddo fynd i'r Greig Ddu, Trawsfynydd, tua chanol Gorffennaf (un, o farchogion y nodwydd oedd wrth ei alwedig- aeth, ac ai yno'n achlyaurol i "chwipio'r gath," yn ol arfer y dyddiau hynny). Cai yno Goch yr Wden a thatws newyddion wedi, eu tyfu yn y fawnog, blasusfwyd o'r fath a garai feddyliwn, sef cig gafr wedi ei halltu a'i sychu, Edrydd Pennant yn ei Tours in Wales am yr hung goat neu Goch yr Wden a gafodd ar ei ymweliad a Chwm Bychan gan un o hen Lwydiaid y llehwnnw. Yrnddengys felly fod "Coqh yr Wden" ddyddiau a f ewn cymaintbri ym mynydd-dir Gorllewin Meirion ag yw Welsh Mutton J dyddiau hyn. Dail tafod y merchcd. Dyna y gelwir dail y r aethnen yn yr ardal hon. Efallai y gall rhywun o'ch gohebwyr ddywedyd a arferir yr un enw arnynt mewn ardaloedd eraill. Y mae crynnu fel dail yr aethnen yn hen ddihareb Gymreig, ac fel y gwyddis y mae'r awel leiaf o wynt yn ddigon i ysgwyd y dail hyn ac ymddengys y cred rhai fod awel cyn lleied a hynny'n ddigon i ysgwyd tafodau'r rhyw ferywaidd. Eraill a dybiant nad oes angen awel o gwbl i'w hysgwyd ond ni feiddiaf fi ddim dywedyd hynny, Mr. GoL, rhag ofa y canlyniadau. Dyna, fe ddichon, paham y tybia trigolion yr ardaloedd hyn fod dail t afod y merched yn enw cymwys ar dclail yr aeth- nen.—Yr eiddoch yn wir, IEUAN AP lOAN Clymblaid y Cyfoethogion i ladd Ymnetlltuaeth a Rbyddfrydiaetb. SYR,—Cyhoedda rhai o'r papurau dyddiol Toriaidd a fu'n flaenliaw yii. yr ymdrech lwyddiannus i ddymchwelyd Gweinyddiaeth RyddfrydolMr. Asquith, fodmudiad mawr ar droed i h ollti'r Blaid Ryddfrydol yn y deyrnas drwy gyffelyb foddion ag a ddefnyddiwydgan Chamberlain a'r Undodwyr Rhyddfrydol yn 1885. Dyxna'r ffeithiau fel N'Li. datguddir mewn papur Toriaidd blaenllaw Fodo leiaf drigain o aelodau Rhyddfrydol yn Nliy'r Cyffredin a'u bryd ar ymysgar oddiwrth y BIaid Ryddfrydoi ac ymgysylltu a'r Undebwyr (Toriaid) y rhai, medd y papur Toriaidd, "sy'n wir werlnwyr. Maent ar fedr ffurfio Plaid Newydd yn annibynnol ar y Blaid Ryddfrydol, ac yn wrthwynebol iddi. Cyn- hwysa'r Blaid newydd nifer o wyr cyfoethocaf y deyrnas, yn Rhyddfrydwyr a Thorlaid. Maent yn sefydlu swyddfa ganolog i'r blaid, gyda thrysorfa fawr, a'r holl beirianwaith at ymladd mewn etholiadau." Nid ydynt am ymladd yn erbyn yr un Tori, eitlir pan elo sedd Ryddfrydol yn wag, ac y daw unrhyw gefnogydd i Mr. Asquith a'r Hen Blaid Rydd- frydol allan fel ymgeisydd, gwrthwynebir ef gan yingeisydd a ddewisir gan yBlaidNewydd. Golyga hyn oll, medd y papur Toriaidd, rwyg helaethach yn y Blaid Ryddfrydol nag a achoswydgan Chamberlain yn 1885. Taenid si ers tro fod hyn yn y gwynt, ond dyïna'r mynegiad swyddogol cyntaf o'r eynllun a ddatguddiwyd i'r cyhoedd. Ofnaf, Mr. Gol., fod amseroedd enbyd o'n blaen fel Cymry ac fel Ymneilltuwyr, ac y gweddai i ni fod ar ein gwyliadwraetli rhag fod truce y Rhyfel yn cael ei draws- ddefnyddio i lunio brad ein rhyddid a'n genedigaeth fraint. Beth meddwch chwi ?--Yr eiddoch vn bryderus, AR Y TWR. Ein Caiser nt, sy'n nes adref. At Olygydd Y BRYTHON SYK,—Y mae'n haws gan ddyn weithiau ddweyd ei feddyliau mewn mydr ac odl nag mewn iaith rydd ac yn haws gennyf finnan ddatgan fy nghasineb at y dafarn a'i diod ar lun can fel hon nag mewn pros toeslyd Mae gennjnn ninnau Gaiser, Un cryf, creulona'n fyw. A gais ymwthio'n feiddgar Dan seiliau gorsedd Duw Ddvngarwr pur, a wyddost ti Yn awr pwy yw ein Caiser ni ? Y Fasnac-h Feddwol ffyrnig Yw Caiser mawr ein gwlad. Y Caiserbrwnt Prydeinig, Teyrn Mamon, twyll, a brad Mae ei gadernid oesol ef Yn syiiriil'r b '(],, yn siomi'r Nef. Llofruddio'r plant diniwed, A lladd y mamau trist, 1 Mae'n ddigon calon-galed I faeddu brodyr Crist; Creawdr ing a dagrau li',— Troi'r dydd yn nos mae'n Caiser ni. Dinistrio mae ei fintai Gartrefi annwyl, cIyd. Mae'n cadw y gwallgofdai A'r tlotai'n llawn o hyd 0 bechu mawr 0 oerllyd gri Sy'n uffern feddw'n Caiser ni M:aer Nef yn colli dagrau A phrudd-der yn ei lief, Wrth weld y celaneddau Ar faes ei ryfel ef Waredwr dyn, a elii di Ddjrmchwelyd sedd ein Caiser ni ? Y ni, nid yr a-ngylion, A raid ei roi i lawr, 0 gloewed Duw'n golygon I weld ei ddrygau mawr Oleuni'r Byd, 0 dangos di Ddichellion llawn ein Caiser ni. Hwn ydyw'r Caiser gwaethaf, Archelyn Duw a dyn, Gorchfygwn hwn yn gyntaf, Y Cadarn drwg ei hun Rho ddewrder yn dy blant, ein Rhi, I ddiorseddu'n Caiser ni. —Yr eiddoch, yn ddirwestol ddisyii fel eh with au, J. H. WILLIAMS (Canwy). Mynydd leaf, yr Wyddgrug. John Owen, y Gyffin, Conwy. I At Olygydd Y BRYTHON I SYR,-Yl' wyf ers peth amser wedi bod yn ceisio cael tipyn o wybodaeth am y gwr athrylithgar sydd a'i enw uwchben y pwt llythyrhwn, ond wedimethu dod ar draws ond y peth nesaf i ddim. Y mae yna gwpl 0 erthyglau byrion yn Y Fwyell (o dan olygiad y diweddar Eglwysbach), ond methaf a chael dim ychwaneg. Clywais fy nhad yn son llawer amdano, a phob amser fel un o bregeth- wyr mwyaf y cyfnod hwnnw. Fe'i rhoddai yn y rheng flaenaf gyda John Elias, Williams o'r Wern a Christmas Evans,—a hynny ar ol clywedpob un ohonynt laweroeddo in,citliiati. Tybed a oes rhywun yn awr yn fyw a'i elyw- odd ? Os medrwch chwi, syr, neu rai o'ch darllenwyr hynaws, estyn cynhorthwy imi byddaf yn dra diolchgar.—Yr eiddoch, etc. lilhitchurelb, Caerdydd,, JOHN DAVIE8 Cadair Gymraeg-Saesneg I Pont y Pwl. I- At Olygydd Y BRYTHON I SYR,—Gofynnir yn ami iawn pie ymysg prif enwogion Lleegr y safai Islwyn, Ceiriog, be Eben Fardd- Ble hefyd y saif beird d Cymru heddyw wrth ochr beirdd Lloeir ? Wel, nid yn ami y gallant dynnu torch ar yr un maes. Mae'r cwbl bron o gyfansoddiadau barddonol ein Heisteddfodau Cenedlaethol yn yr iaith Gyrnraeg, a da hynny ond y mae ym Mhollt. y pwl Gadair Eisteddfodol y gall CyrAro neu Sais ymgeisio amdani. Mae'r gystadleuaeth ddwyieithog wedi ei chynnal ers saith mlynedd; a phob tro o'r saith, cyfansoddiad Saesneg aeth a hi. Bu'r testynau'n gyfryw a fuasai'n apelio at awen Cymro. Dyma liwy Abaty Tintern, Afon Wysc, Heddwcb. Rhyfel, Y Goedwig, Y Diffeithwch. Yn sicr. dylai y rhestr hon o feirniaid fod wrth fodd ealon Cymro J, J. Williams, W. J. Gruffydd, Berw, Crwys, ac Elfed. Rliyw un waith y daeth cyfansoddiad Cymraeg gwerth son amdano. Mae cystadl- euaeth eto y Pasg nesaf. Y tegtyn yw'r enwogion y mae cofgolofnau wedi eu cedi iddynt gan Arglwydd Rhondda. Y beirniad yw Elfed, a'r wobr yw cadair (rhodd Argl, Rhondda) a dau gini. Ble. tybed, y daw beirdd Cymraeg y tro yma, ar destyn mor gydnaws ?—Yr eiddoch yn gywir, Pont y pwl. R STEPHEN Men Ddyddlyfr Eliasaidd. To the Editor of Y BRYTHON Sik,- On a recent holiday in Anglesey I spent a few days at a farmhouse, and in the course of a wet afternoon I took down a few books from the bookshelves in the parlour of my host, and one of these was the diary of a well-known but long since deceased farmer one of the Elias family and to me this diary first excited my curiosity, then my interest. and I was compelled to jot down one or two morals, which, with your permission, I would suggest might be put in print. This old patriarch must be classed as a descendant of the Patriarch Job, whose fascinating history- reads more in our modern days like a ro- mance, a dialogue, or a debate, on the wisdom and Providence of God in the affairs of men. But to my story :-The record opens thus; Chwifor4, 1827 Llyfr Tudynau Pregethau a Brycthwyd yn Garaglifn Phvyf Llan- badrig Mon yn Dichra Cadw Cyfris. Dudd ychod 1827 Chwifor 4th Hugh Jones Llanerchymedd Yn Salm 32 1. and proceeds with the dates 11th, 18th, 21st, 28th, with the names of the preachers and the texts of the sermons preached. I was impressed with the wide area from which the preachers were drawn Anglesea, as a matter of course, holding first place but Wrexham Aberdyfi, Bala, Harlech rendered their tribute. Not only the dates, and the preach. er and his subject, but one further note thus August 27 1833 (613) Robert Williams LIan. ystumdwy Yn Mat 5 12. This latter entry was reminiscent of a modern national hero who made himself famous in almost every channel open to the energy and activity of our complex modern eivilisation-a great hero, administrator, statesman, popular orator, and if need be preacher and prophet, the No. (613) being the consecutive number of the sermon, and went on in this manner till December 29, 1850 (2121), thus we come to the close of almost a quarter of a century. What may be described as the second record begins without the consecutive No., thus lonawr 5 1851 John Charles Tabernacle Yn 1 Thess. 5 — 3. And so on down to December 31, 1878, when the record closes. Thus the long period of over half a century. It was a great delight to mark the clear caligraphy and as the years passed it was noticelable that a degree of shakiness could be traced as this.old father in God put on record what doubtless was to him a great privilege to worship Godin his sanct- uary. Cyfarfod Misol was noted on several dates, .Feby. 6 & 7, 1865 Bethlehem and on one occasion Apl 5 1854, there is a record of no fewer than 5 services at the opening of the new chapel at Bethlehem. June 20 1845 Henry Rees, Liverpool Yn Salm 23 5. July U, 1873 Hugh Jones, Liverpool 2ndCor. 5 — 8. Nov. 2, 1873 Hugh Jones Llanerchemydd 2nd Cor. 5 1 presume these two latter preachers were the late Dr. Hugh Jones, recently deceased, and his father, who must, have been a very old man and it is remarkable that he preached the first sermon on the record fully 46 years before the record closes. But enough. The records show how absorbing an interest this worthy old saint took in the services of God's house, and serves to emphasiseh ow important he considered it was to feed his soul on tho Bread of Life, and ought to be an example to the present generation to do likewise. We hear too much these days of the decline of the pulpit, but in this record the pew speaks of an interest not fleeting but continuous. I question very much if the pulpit is declin- ing. I believe the standard is well ahead of the hearer, in the clarity of its reasoning and appeal, not so sensational, perhaps, but certainly much more logical, and perhaps more critical int-Ilis critical age. The preach- er must. appeal to the intelligence of his hearers. I wonder if the hearers really interest themselves as this old leader did. Let us be quite candid with ourselves: do we manifest a tithe of the interest in Divine things, or is it in deference to custom that we have a bowing acquaintance with the Thing that rfiatters in the long run? "Let him who thinketh he standeth take heed lest he fall. "Yours, BODEWRYD
Advertising
Pence Envelopes FOF CHURCH COLLECTION Good Quality. Correctly Numbered bv Special Machine. Hugh Evans Sons. Brython Office, Liverpool.