Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

Trs.m I-O! Heddwch.

News
Cite
Share

Trs.m I-O! Heddwch. DYNES o'r onw Roland—os iawn fy nghof —pan ddienyddid hi ym Mharis-a droes at ddelw Rhyddid, ac a ddywedodd, 0 Ryddid, y pethau a wneir yn dy enw di! Teimlai fod ei dienyddiad yn watwareg ar y ddelw. Ac mae rhywbeth tebyg yn codli i feddwl dyn heddyw gyda golwg ar yr hyn a wneir yn enw Heddwch. Ni fu gwerth Heddwch yn oes neb sy'n fyw, mae'n débyg, mor uchel ag y mae ym mam pawb ohonom er pan ddechreuodd y Rhyfel erchyll hwn ar ei yrfa ddinistriol; ac mae ei vverth yn codi fel y parha'r galanafitra alaethus i fynd ymlaen Fel y cy nhy dda'r go lied ar fywydau a th rysor, fl3 ddangosir yr un pryd werthfawroced fai heddwch. 0 ddedwydd ddydd, pa bryd y daw ? Yr ydym yn dyheu amdano, yn gweddio amdano, ac, mi gredaf, fod Prydain Fawr yn gweithio erdd",—yn brwydro drosto, yn ol fel y deallaf fi ei safle. Yn wir, mae pawb yn proffesu bod mewn carwriaeth a Heddwch erbyn hyii,y gwledydd sy mewn rhyfel a'i gilydd, a'r gwledydd niwtral yr un modd. Ymddengys fod pawb, bellach, yn cashau rhyfel, pawb yn ymysgwyd oddiwrth y cyfrifoldeb amdano, ac yn dywedyd, Nid y fi ddaru Ac eto, fel y meddylia dyn am y sefyllfa, o'r dechreu hyd yn awr, naturiol y delir eco Madam. Roland, "O Heddwch, y pethau a wneir yn dy enw di

Trom li-Proffes Wag.

ITrem IIU-Dilyn Heddwch.

Advertising