Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

WIT GOSTEG.

Cyh ^eddwyp y Cymod YjSaboth…

Llyfrau Cyfrifon Ysgol Sul.

Ffetati y Gol.I

.-0-Basgodaid olp WI ad.

Advertising

I IDAU TU'R ArON.

News
Cite
Share

Parhad o tud. 5. Maurice Jones (priod), Miss Mary Jones (merch) Mr. Maurice E. Jones (mab), Miss Lala Jones (merch); Miss J. Jones (chwaer), Mr. Rt. Jones, Llansannan Mrs. Jones, Prestatyn Mr. Rowlands, Llanrhaeadr Mrs. Evans, Bootle Mrs. M. E. Jones (merch-yng- nghyfraith), Mr. Pritchard, Caergybi Mr. Thomas, Mr. Roberts a Mrs. John Jones. Gorchuddid yr arch a blodeudyrch, a chludid ar ysgwyddau Mri. Edward Hughes, J. Jones, John Evans a David Williams. Cydymdeim ir yn ddwys a'r tenlu yn eu trallod am briod mor hawddgar a mam mor ofalus, ac yn arben- nig a Mrs. Jones (mam vrymadawedig), yn ei gwendid a'i llesgedd, dan y brofedigaeth. Gwasanaethwyd gan/v Parch. G. Roberts Jones, B.A..B.D. Trefn- iadau'r angladd yng ngofal Mr. J. T. Jones. EGLWYS WFSLFAIDD OAKFIELD.—Fel arfer ers tros hanner can mlynedd, cynhaliodd yr eglwyS uchod ei chylchwyl flvnyddol ar ddiwedd yr hen flwyddyn a dechreu'r un newydd. Nos Sadwrn, Rhagfyr 30, bore a nos Sul dilynol, pregethwyd gan y Parch. Thomas Hughes, Porthdinorwig, cadeirydd Ail Dalaith Gngledd Cviairu, a phrynhawn dydd Sul earwya gwasanaeui gwtrtniawr y rarcn. u. K. jones., B.A.,B.D., Fitzclarence Street. Nid oedd y cynull- iadau'r rhai mwyaf, ond yr oedd y weinidogaeth yn dda odidog yn yr holl odfeuon. Cafodd y gwranda- wyr wledd ysbrydol a fydd yn gymorth sylweddoI iddynt ar daith yr anial. Am hanner awr wedi deg nos Sul, cynhahwyd Waichnight. Y capel yn Hawn hyd yr yinylon. Er wedi cael profiad gwcddol faith o'r cyfarfodydd hyn ni fuom erioed mewn un mor ddefosiynol ac awyrgylch mor ysbrydol. Cafwyd unawdau priodol gan Miss Evelyn Pritchard a Mr. M. W. Humphreys, Garston. Nid oedd encores yn cael eu caniatau, onite buasent yn sicr o gael cu galw yn ol bob tro. Geneth ieuanc yw Miss Piitchard, ond eisoes wedi gwneud enw iddi ei hun, a chredwn fod iddi ddyfodol gwych. Mae Mr. Humphreys yn adnabyddus ddigon fel ccrddor medrus ac uchraddol ers llawer o flynyddoedd bellach, ond yn gallu canu cystal ag erioed, ac yn dal i fyny ei boblo.grwydd. Cafwyd anerchiad amheuthun dros ben gan y Parch. Thomas Hughes, ac ni tllid meddwl am ddim mwy pwrpasol. Mae Walchmgbt o'r fath yn werth colli awr neu ddwy o gysgu er rawyn bod ynddi. Dydd Calan, am hanner awr wedi saith yn yr hwyr, cynhal- iwyd cyngerdd, y capel unwaith eto'n orlawn, a Mr. W. F. Howell, London Road, yr. gadeirydd. Yn sicr, ni chafwyd erioed weil cyngerdd am swllt. Yr oedd y cwbl o'r datgeiniaid "mewn hwyl. a phawb wrth eu bodd yn gwrando arnynt. Gwetreiddiwyd y gynulleidfa gan Miss Alice Edwards, Gronant, a Miss Annie Davies, Penrhyndeudraeth. Nid vw'r gyntaf a nodwyd yn adnabyddus yn y ddinas,- credwn mai dyma'r tro cyntaf, neu efallai yr ail dro, iddi ymddangos ar y Ihyyfan yn Lerpwl, ond yn sicr nid yr olac. Nid oes angcn dweyd dim am Miss Annie Davies,—mae eisoes yn dra adnabyddus yn Lerpwl a Gogledd Cymru fel canores o'r radd flaenaf, ond ni chanodd yn well eiioed na Nos Calan 1917. Bn raid i'r ddwy ddodynol bob tro, er ei bod wedi rhedeg yn bur hwyr cyn y diwedd. Gyda hwy yr oedd Ap Heli a Mr. Sam Evans, a gwnaethant eu rhan yn ganmoladwy, gan roddi bodlonrwvdd cyffredinol. Cafwyd violin solo gan Miss Morfudd Hughes, yn dangns gallu a medr neilltiiol, ac yn amrywiaeth priodol. Madame Gladys Williams oedd yr elocutionist, acy mae ei henw'n ddigon o sicrwvdd ei bod wedi ychwanegu'n sylweddol at fwyniant a gvverth y cyfarfod. Galwyd arni yn ol bob tro yr ymddangosodd, ac nid oedd modd mynd vmlaen heb iddi ateb i'r alwad. CaEwyddcllawd ar y piano gan Miss Eilonwy Simon a Miss Gwen Fraser. Miss Nellie Lewis, Bootle, oedd yn cyfeilio,—nid oes angen dweyd iddi hi gyflawrii ei gwaith yn y modd goreu'n bosibl, ac i fodlonrwydd y canorion a'r gvnulleidfa. Terfynwyd cyngerdd rhagoro! trwy ganu Hen "Flad fy Nhadau a Dux galwo'r Brenin. PRIODAS.—Yng nghapel M.C. Anfield Road, bore dydd Mawrth, priodwyd Miss Helen Davies, unig ferch Mr. a Mrs. John Davies, Caertyddyn, Pen- caenewydd, PwllheTI, a Lieut. R. B. Roberts, R.N.R., isfrvn, Pw'lheli. Gweinyddodd y Parchn. D. O. Tudwal Davies, Rhosesmor (cefnder y briodferch), a J. Owen. Miss Bessie Roberts (chwaer) oedd y fOflvyn, a Mr. Gwynedd Davies, Caerfyddin (brawd), v gwas. Y wraig ieuanc wedi bod yn wasanaethgar iawn yng ng-hand Pencaenewydd, a rhoi llawer o'i hamser i baratoi cysuron i fiiwyr yr ardal. Hir oes a phob bendith iddynt. Cyfranogwyd o'r boreufwyd yng ngwesty'r L. r:o/ N. Western.-R.Y.G.