Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

T IOLO 011ICBRTBEF.

I Drwodd a Thro

I Y Gweithiwr a Chostau'r…

News
Cite
Share

I Y Gweithiwr a Chost- au'r Rhyfel. Beth a fydd ar ol hyn ? Mah enw Mr. E. T. John, A.S., ,-n adnabyddus fel un 0 gyflogwyr llafur mwyaf Gogledd Lloegr, ac fel un sy'n awdurdod ym myd masnach. Wrth annerch ei etholwyr yn Nwyrain Dinbych yr wythnos ddiweddaf, rhoddodd ffeithiau a ftigyrau tarawiadol iawn ynglyn a'r Rhyfel,—ei gost, y ffordd i gael heddwch, a pha beth a fydd ar ol hyn. Dywedodd fod treuliau'r wlad hon yn y Rhyfel am yflwyddyn gyllidol bresennol yn cyrraedd y swm anferth o ddwy fil o filiynnau o bunnau ( £ 2,000,000,000). Mae hyn, ebe fe, yn fwy na £ 40 ar gyfer pob pen o boblogaeth y wlad, neu dros £ 200 ar J'yfer pob teulu yn y deyrnas. Pe cyfrifid cost y rhyfel o'r dech- reu ddwy flynedd a hanner yn ol. byddai-r symiau ofnadwy uohod yn cael en dyblu. Yr oedd Mr. Bonar Law, Canghellor presennol y Trysorlys, wedi dweyd na fedrai hyd yi oed Prydain Fawr ddal o dan y trenliau hyn dros amser amhenodd. Rhaid fyddai i'r ddyled enfawr efEeithio ar bob dosbarth yn y wlad. Pan a'r rhyfel heibio, ceisia'r eyfoeth-gion osod pen trymaf baich y ddyled ar yfgwydd- au'r gweithwyr. Cei iant hwythau rwystro hynny. Ond os llwydda llafur yn yr ymdreoh yn erbyn dwyn y baich, golygai'r ymdrech lawer o anghydfod rhwng cyfalaf a llafur, yn ogystal ag mewn deddfwriaeth. Rhaid fydd- ai gosod pob gewyn ar waith i chwyddc cyiinyrch gweithfaol y wlad rhoi atalfa ar wastraff ymhob cyfeiriad, ae yn enwedig ar y £ 180,000.000 a werir bob blwyddyn ar ddiod- ydd meddwol. Rhaid hefyd aildrefnu'r dull presennol o arosod baich y trethi ymherodrol. yn ogystal a'r modd y rhennir cynnyrch llafur rhwng meistr a gweithiwr. Rbaid fyddai cadw'r cyflogau i fyny a lie bo angen, rhaid fydd codi'r cyflogau i safon a geidw'r gweith- iwr ,a'r sawl a f o't, dibynnu arno mewn sefyllfa gysurus, gan ganiatau iddo hefyd hamdden digonol at anghenion corff a meddwl. Dyna raid ddod gyntaf allan o gynnyreh llafur y deyrnas ac o'r g wed dill; ar ol cyfarfod. ag angen mawr y gweithiwr yn unig y gall y Wladwriaeth a Chyfalaf hawlio eu rhan. Condemniai Mr' John y cynhygion a wneir i ostwng safon y derbyniadau ar y rhai y gellir codi treth yr inewm, 3Si ddylai, ebe fè, fod toll o gwbl ar angenrheidiau bywyd. Er galluogi'r wlad, ar ol y rhyfel i gyfarfod » galwadau enfawr dyled y deyrnas, rhaid fydd lleihau yn fawr, os nad llwyr ddiddymu, traul militariaeth ac arfogaeth y ccnhedloedd i gyd. Amhosibl fyddai gwneud hynny oni fyddai telerau'r heddwch a wneid yn gyfiawn ac yn rhesymol. Hanfod mawr y werin ymhob awlad fyddai diarfogiad cyffredinol. Dylai'r werin wrthod rhoi i na theyrn na gwladwein- ydd y moddion a'u galluoga i gyhoeddi rhyfel mwyach.

Advertising