Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

T IOLO 011ICBRTBEF.

News
Cite
Share

T IOLO 011ICBRTBEF. Gwib i ganol y Shonis a Chymrodorion y De LLITH 5 I Yn y Barri. Nid rhyw esgus o Gymrodorion. Taf.h. 28.—I dv Mr. G. R. Jones, Doiniolen* Oxford Street, Barri, yr anelwyd o Gaerdydd brynhawn heddyw, canys efe yw ysgrifennydd y Cymrodorion. Buan y gwybum fy mod ar aelwyd gydnaws, canys clywn Gymraeg sodlau'r Wyddfa'n cleeian ohono ef a'i briod, a honno'n Gymraeg rhy lydan i wladgarwch a synnwyr byth lithro dros ei herch wyn, megis y gwna oddiar lediith fain ami i bitw gwacach ei glop. Gadawswn y slippers blewog ar ol yn Erw Wen Port Talbot, Tach. 1.5, ac a yraswn yno o'r Forth i ofyn eu fforddoli drwy'r post i Ddeiniolen G.R.J. a dyma lle'u cefais heno, ac englyn y gwalch direidus Bottwnog yn hongian wrthynt. := Trwy'r hin ddu oer, tua'r Rhoudda-slipiaist Heb slippers, tro smala Gwron dewr, a'i gorun da, 'n Syndod yn nhraed ei sana. Cymdeithas gref eithriadol ydyw Cymrodor- ion y Barri,—cryn ddeucant neu fwy o aelod- au. a degau o'r rheini'n athrawon ac athraw- esau o'r Coleg Hyfforddiadol ac ysgolion y cylch, a'u presenoldeb 3 n rhoddi oywair cydnawa i'r cyfarfod, a finnau swil yn dod o'm cragen ac yn ymollwng goreu gallwn. heb ofn na phetrnster. Fy ngwaith i pedd goll- llwng yr asvnod gwylltion eu gwaith hwy ydoedd eu dal—a'u ffrwyno. Cefais glywed Mr. Edgar Jones. M.A., yn dweyd gair ar y diwo-id yno'n ei wisg khaki, fel un o gapten- iaid y Fyddin. Difyr i mi, rhwng comfachau megis, yd.)edd crafEu ar yr amrywiaeth mawr ym mhryd a gwedd y dyrfa, a dal ar y gwa- haniaeth rhwng wynebau esgyrniog a sobr- aidd y Gogledd ac wyne au orynnach, mwy direidus a fflam-ffrwydrol -y De. Ambell Iberiad bach crychddu, ambell Ogleddwr gwineu, ac ambell Fflemin cringoch a phrun o'r tri oedd y Cymro goreu ,nid y 6 a. fedrai ddwedyd. gan mor llenyddol eu bias bob un. Nid gwag- enw mo Gymrodorion y Barri, na chymdoithas yn dod at ei gilydd i frolio a fflamvchu yn Gymraeg, ac yna'n mynd adre i'w gwadu a'i gadael i rynnu i farwolaeth ar riniog eu drysau. Ac nid eu ffordd hwy o gofio Dewi Sant ydyw cynnal cinio glwth ei saig o drud ei docyn Ddygwyl Cyntaf o-Fawrth, ac yna clecian eu bawd ar Nawddsant y Cymry hyd y cyntaf o Fawrth dilynol, a'i ebwch gwedi bwyd. Nage, ffordd glewion y Barri ydyw cynnal cyfarfod i'r plant bob blwyddyn y mis hwnnw, i ganu alawon cynhesaf a mwynaf eu gwlad, i glywed hanes enwogion a merthyron Cymru, a'u cael i gystadlu ar bethau a'u gwna'n Gymry dafod a chalon. Nid ysbleddach unnos mo'u cyfarfod hwy, ond paratoir hwy ar ei gyfer ar hyd y misoedd; ac fe gyhoeddir yr alawon, y gerddoriaeth, a'r meysydd llafur cystadleuol yn llawlyfr taclus a deniadil bob blwyddyn er ID 12. Deuthim a sypyn adref gyda mi, gael i mi eu dangos a chael cyhoeddi eu tebyg ar Lannau Mersey yma, canys Os huna'r telynor dan gysgod yr Yw, Mae miwsig yr alaw hyd heno yn fyw Os drylliwyd y delyn, os torrwyd y tant, Mae'r «erddi yn aros ar wafus y plant, chwedl J. J. Williams, awdlydd Y Lloer. Daliwch chwi i hau'r had fe ofala ysbryd Dewi Sant y daw'r egin o'r ddaear yn ei iawn bryd er cymaint o sathru sydd arno gan Monsieur Richard Jones Davies. a'i epil gwrthnaws. Gwn i'r Anthropos cyfriniol ddioddef loesion dyfnion yn un o ddyffrynnoedd y Gogledd yma un tro wrth weld y dyrfa-a honno'n un bendwp !yn rhythu mor lloaidd arno ar hyd y ddarlith, ac yntau'n bwrw ei berlau goreu ger eu bron. Yr oeddynt yn y pellterau eithaf oddiwrth ei gilydd. Efe'n rhy gain i fcdru disgyn; hwythau'n rhy gleiog i fedru codi; a phawb yn ei le ei hun a fu hi'r noson honno. Ond pe deuai i ganol Cymro dorion eirias a goleuedig- y Barri, fe gaffai eu bod yn gweld ei weledigaethau, yn deall ei ddamhegion, yn brysio i gyfarfod ei ddrych- feddwl cyn iddo hanner ei ddweyd. ac yn ei sbardynnu a gwrandawiad a barai iddo ragori hyd yn oed arno ef ei hun. Delffiaid Gwlad yr Haf. Yng Nglyn Geraint, tan nawdd Mr. a Mrs. Arthen Evans, y clwydwyd ar ol y cyfarfod; a phan godwyd bore drannoeth, gwelcm fod ty ar fron y mynydd ymhell uwchlaw mwg a simnau'r porthladd islaw, a'r olygfa hardd a ymledai odditanom yn dangos darn mawr Wlad yr Haf-sef swydd Somerset-y tu arall i'r bau. Sir dlos ei bryniau a'i dolydd ond ddelffaidd iawn ei thrigolion, a'u barnu oddiwrth a glywais gan yr Archdderwydd amdanynt. Gofidio'r oedd Dyfed eu bod yn heidio drosodd i'r De. ac yn gwladychu yn y mannau a waceid drwy fudiad y Cymry i weithio am well cyflog a byrrach oriau a bywiocach cwmni ym mhyllau a gweithfeydd y trefi a lie gwelech gynt ar estyll llyfrau'r bythynod hynny gopïau da'u rhwymiad o Eiriadur Charles, Cyflavm Arjogaeth Gurnal, pZferin Bunyan, Aleqoriau Christmas Evans, Tri Aderyn Morgan Llwyd, Caneuon Islwyn, Y Gwyddoniadur, Beibl a Llyfr Hymnau, eu lie ni edwyn ddim ohonynt mwyach, canys y maent wedi cael eu disodli gan yr Handbook on Poultry Keeping, Mother Ship. ton's Prophecies, a'r Tipster, melltith arno A phelled yw'r naid o lyfrau nefolaidd y Cymro i lyirau'r Symersetyn daearol ag yw'r naid o Lyfr y Salmau i'r Daily Wail! Glewion yr Undeb. I Arthen yw ysgrifennydd Undeb y Cym- deithasau Cymraeg, ac am hwnrw a'r iaith y syrthiwyd i siarad gynted y disgynnwyd i'r gadair. Ac nid gweniaith ond y gwir yw dywedyd na chafodd yr un mudiad ysgrifen- nydd mwy selog a Ilafurus a phle bynnag yr anadlo efe. yno yr a'r Undeb yn enaid byw. Y mae rhai degau o'i ganghennau draw ac yma drwy'r Deheudir gwnant waith godidog; ynddynt hwy y clywir curiad gwaed cenedl- aetholdeb pob ardal; ac ynddynt hwy y ceir hufefi y sawl sy'n carii tair duwies y Cymro- Lien, Awen, a Chan. Un peth sy braidd ar ol,fod Cymrodorion y Gogledd, ac eithrio un neu ddwy, heb ymuno a'r Undeb. Goddefwch i mi daer erfyn arnoch wneud hynny ar fyrder. sef y chwi yng Ngholwyn Bay a'r Rhyl a Llangollen a Gwrccsam (yr Efail) a Manceinion a Maehynlleth a Chilgwri a Lerpwl a Chaer a Bro Goronwy ac yn y blaen. Ceir pob cyfarwyddyd ond anfon i Glyn Geraint, Somerset Road, Barry. Cefais gopi gan Arthen o lyfr y diweddar Mr. Thomas Mathews, M.A., Llandebie, yn gof-a-chadw o f'ymweliad a Glyn Geraint, sef Perthynas y Cain a'r Ysgol. Fe'i hysgrifen- nodd megis ar ei wely angau ac y mae'n werth ei gael petai ddim ond am y Uuniau heirdd sydd ynddo, heb son am yr apel daer ac angenrheidiol sy ganddo dros gael amgenach lie i'r cain a'r arluniol yn addysg a bywyd beunyddiol CjTnru. Dyma damaid sy'n enghraifft gywir o'r gweddill- Ni all bywyd meddyliol dyn fod yn "grwn acy yflawn, osna roddir lie i'r "Cain, Llyma yr adwy-ni all nebun byth lwyr gyfrannu o'r anfeidrol bethau Fe all fod yn foddhaus ei gyftwr-ou' boddhad yr anwybodus ydyw. Ni ellir dweyd chwaith ei fod yn ffyddlawn iddo ei hun, ac ni all byth lwyr amgyffred y Goruchaf a greodd bopeth mewn pryd ferthwch a cheinder. Ni ellir dweyd fod yr Holl- dreiddiol yn cyffwrdd a phob gallu meddyliol sydd iddo,-yn cyffwrdd a holl dannau ei enaid, os mynuwch felly, nid yw Salm ei Fywyd mewn cywair cywir na chwaith yn gyflawn. Y mae bwlch yn ei gan, adwy yng nghyflawnder ei fywyd, a lljma fwlch sydd mewn addysg heddyw. Gan yr Undeb y cyhoeddir y gyfrol anfon* wch swllt a naw at ei drysorydd, Mr. Wm Lewis, Morlais Villa, Merthyr Tydfil, ac fe roddaf fy ngair nad edifarhewch. Chwiblanu ar Gelfiaid y byd i Birkenhead. Wedi edrych yn edmygol ar gyfrolen Tom Mathews. dyma fynd i son am arfaeth yr Undeb gyda golwg ar Eisteddfod 1917 yn Birkenhead fis Medi nesaf; a 'does dim dichon peidio ag ymdroi i fras-ddweyd beth yw'r bwriad y pryd hwnnw. Gwyddis mai Mr. E. T. John, A.S., yw llywydd yr Undeb eleni, a dyna'r rheswm fod y fath beth ar droed, canys nid llywydd ffurfiol nac mewn enw mohono ef, eithr mewn gair a gwirionedd. Gan mai am yr Undeb a'i arfaeth y soniai'r Arthen a minnau, byddai'n eithaf peth dodi eu bwriadau yngtyn ag Eisteddfod Birken- head i fewn yma :— Sul, M edi 2, 1917-sef y Sul o flaen yr Eisteddfod-i fod yn Saboth o bregethu drwy holl eglwysi'r cylch, ddau tu'r afon, ar Hanes Crefydd yng Nghymru. Nos Lun, Medi 3—Croesawu'r Undeb,mewn gwledd gan y llywydd ac yno gynrychiolwyr nid o Dde a Gogledd Cymru'n unig, ond o'r holl genhedloedd Celtaidd, sef o'r Alban, y Werddon, Llydaw, Cernyw, Ynys Manaw, a'r Cymry ar Wasgar. Dydd Mawrth, Medi 4—10.30 y bore, trafod Delfrydau Celtaidd mewn Llen a Chelfyddyd am 2.30 y prynhawn, Delfrydau Celtaidd Cenedlaethol Gartref ac Oddicartref; 6,30, cyfres o gyfarfodydd dan nawdd yr Undeb yn Birkenhead a Lerpwl. Amcenir hefyd drefnu cynhadledd o Gym- deithasau y Cymry Oddicartref. Cael Dyn a Thestyn. Dyma rai testynau a awgrymir Y Seintiau Cymreig Cyntefig a'r Eglwys Gym' reig Fore, Dewi Sant, Catwg, Dyfrig, Teilo, Illtyd, Gwenfrewi, Tydfil, Gil das, Nenniup, Pelagius, Crynwyr Cymru—yng Nghymru ac yn yr Unol Daleithiau, Gerallt Gymro a'i amserau, Sion Cent, Dr. Grufiydd Roberts (Milan), Morus Kyffin, Dr. John Davies Mallwyd, yr Esgob Morgan, Wm. Salisbury, Yr Esgob Davies, Yr Esgob Parry, Sion Llewelyn o Rhigoes, Charles Edwards, Theo- philus Evans, Morgan Llwyd o Wynedd, Vavasor Powell, Walter Cradoc, Stephen Hughes, Wm. Erbury, John Penry, Griffith Jones Llanddowror, Ficer Pritchard, J. Black- well (Alun), Daniel Owen, Howel Harris, Thomas Charles, John Elias, Christmas Evans, Williams o'r Wern, Williams Pant y celyn, Ann Griffiths, Morgan Rhys, Edmwnd Prys, Ieuan Glan Geirionydd,letion GwynedC,* Joseph Harris (Gomer ), John Williams (Eromanga), Griffith John, Timothy Richard, David Griffiths (Madagascar), Gwiljm Hiraethog, Lewis Edwards, T. C. Edwards, Herber Evans, Hugh Price Hughes, Henry Richard. Ac wele'r siaradwyr awgrymedig :—Esgob Tyddewi, Dr. Hartwell Jones, Dr. Maurice Jones, Ficer Aberpergwm, Lemuel James, Edmund 0. Jones, M.A. (Llanidloes), Robert Williams (Llandilo), Dr. Hyde (yr ysgolhaig Gwyddelig enwog), Mons. Mocaer (LIydaw), Mons. 'Diverres (LIydaw), Mons. Jaffrennou (Taldtr), os y bo'n rhydd o'r rhyfel; Elfed, Dr. Peter Price, 0. L. Roberts, Hawen, H. M. Hughes, B.A., Eynon, Towyn Jones, A.S., D. Stanley Jones, y Prifathro T. Rees, (Rangor), y Profit. J. Morgan Jones (Bangor), y Prifathro T. F. Roberts, Gwili, Thomas Shankland, y Prifathro Edwards (Caerdydd), y Parch. Charles Davies (Caerdydd), D. Teewyn Evans, B.A., Gwynfryn Jones, John Williams (Brynsiencyn), T. C. Willian s, John Owen (Anfield), W. Hobley, y Prifathro Prys, P. Hughes Griffiths, y Proff. D. Miall, Edwards, D. D. Williams, L. J. Roberts, M.A., Gwynn Jones, S. J. Evans, M.A,, J. Morris Jones, M.A., G. A. Edwards, M.A., (Caer) y Proff. Joseph Jones, M.A. (Aberhorddu), O. M. Edwards, M.A. Nes, rhwng y cwbl, fod argoel am gyrddau Celtaidd a chyd-genedl- aethol yn Birkenhead tuhwnt i ddim a fu ynglyn a'r un Eisteddfod o'r blaen. Dwg hyn ar gof i mi ddefod fach ddiddorol iawn a ddigwyddai bob prynhawn dydd Sadwrn yn Birkenhead ddeugain mlynedd yn ol ymysg cannoedd gweithwyr y Starbuck Car & Wagon Co. yr oedd pedwar Celt-un o Gymru ac yn medru Cvrr raeg, un o'r Werdd- on ac yn medru'r Wyddeleg, un o'r Alban ac yh medru'r Gaeleg, ac un o Ynys Manaw ac yn medru'r Fanaweg. Wrth noswylio bob dydd Sadwrn, cwrddent i ysgwyd 11 aw a chyfarch ei gilydd bob un yn ei dafod ei hun, a chymharu y naill Geltiaith a'r llall. Gobeithio mai copi bach in miniature ydyw cyfarfyddiad y pedwar hynny o'r cyfarfyddiad mawr a chyd- genedlaethol sydd i fod pan chwibienir ar y Celtiaid i Birkenhead fis Medi nesaf. I'r Gwely i Freudd. wydio. Wrth siarad am bethau fel hyn a'u tebyg, pa ryfedd ei bod hi'n oriau man y bore pan giliodd yr Arthen a finnau i'r gwely, i freu- ddwydio am y dydd pan fydd cangen o'r Undeb ymhob llan a phentref drwy Gymru, a phan fydd y Twrch Trwyth a'i lydnod anghynes a Die Shon Dafyddol wedi cael eu hel o'r aelwyd a'r ysgol, o'r Coleg a'r Cyngor, a Chymraeg lan, firain, gref, ystwyth, fel Cymraeg Elis Wyn, prif ryddieithwr y Gog- ledd, a Chymraeg Theophilus Evans, prif ryddieithwr y De, i'w chlywed yn clecian o Wynedd i Went. Gyda Chymrodorion Merthyr, tref Thomas Stephens, y byddis yn y ilith nesaf. Llggad y Wavor. J.H.J. I

I Drwodd a Thro

I Y Gweithiwr a Chostau'r…

Advertising