Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
 MjSS? .r ?  The IDEAL of the Breakfast-room, I Dining-room, Smoke-room, Library, and Lounge. Beauty and Quality go Hand-in-Hand with us, whilst for absolute comfort and ease combined with the former, this particular chair is unsurpassable It is impossible to here explain the varied attributes of this I particular model. Call and inspect, and let it demonstrate to you how its hinged back, its sliding sen adjust? itself to any position voumay desira. iW| J -1 I 9™I9. BOLD 5TRfT-T i ,rbvÊnPôôE) The PREMIER Complete Furnishing House of the North CASH OR OUT OF INCOME. V
T IOLO 011ICBRTBEF.
T IOLO 011ICBRTBEF. Gwib i ganol y Shonis a Chymrodorion y De LLITH 5 I Yn y Barri. Nid rhyw esgus o Gymrodorion. Taf.h. 28.—I dv Mr. G. R. Jones, Doiniolen* Oxford Street, Barri, yr anelwyd o Gaerdydd brynhawn heddyw, canys efe yw ysgrifennydd y Cymrodorion. Buan y gwybum fy mod ar aelwyd gydnaws, canys clywn Gymraeg sodlau'r Wyddfa'n cleeian ohono ef a'i briod, a honno'n Gymraeg rhy lydan i wladgarwch a synnwyr byth lithro dros ei herch wyn, megis y gwna oddiar lediith fain ami i bitw gwacach ei glop. Gadawswn y slippers blewog ar ol yn Erw Wen Port Talbot, Tach. 1.5, ac a yraswn yno o'r Forth i ofyn eu fforddoli drwy'r post i Ddeiniolen G.R.J. a dyma lle'u cefais heno, ac englyn y gwalch direidus Bottwnog yn hongian wrthynt. := Trwy'r hin ddu oer, tua'r Rhoudda-slipiaist Heb slippers, tro smala Gwron dewr, a'i gorun da, 'n Syndod yn nhraed ei sana. Cymdeithas gref eithriadol ydyw Cymrodor- ion y Barri,—cryn ddeucant neu fwy o aelod- au. a degau o'r rheini'n athrawon ac athraw- esau o'r Coleg Hyfforddiadol ac ysgolion y cylch, a'u presenoldeb 3 n rhoddi oywair cydnawa i'r cyfarfod, a finnau swil yn dod o'm cragen ac yn ymollwng goreu gallwn. heb ofn na phetrnster. Fy ngwaith i pedd goll- llwng yr asvnod gwylltion eu gwaith hwy ydoedd eu dal—a'u ffrwyno. Cefais glywed Mr. Edgar Jones. M.A., yn dweyd gair ar y diwo-id yno'n ei wisg khaki, fel un o gapten- iaid y Fyddin. Difyr i mi, rhwng comfachau megis, yd.)edd crafEu ar yr amrywiaeth mawr ym mhryd a gwedd y dyrfa, a dal ar y gwa- haniaeth rhwng wynebau esgyrniog a sobr- aidd y Gogledd ac wyne au orynnach, mwy direidus a fflam-ffrwydrol -y De. Ambell Iberiad bach crychddu, ambell Ogleddwr gwineu, ac ambell Fflemin cringoch a phrun o'r tri oedd y Cymro goreu ,nid y 6 a. fedrai ddwedyd. gan mor llenyddol eu bias bob un. Nid gwag- enw mo Gymrodorion y Barri, na chymdoithas yn dod at ei gilydd i frolio a fflamvchu yn Gymraeg, ac yna'n mynd adre i'w gwadu a'i gadael i rynnu i farwolaeth ar riniog eu drysau. Ac nid eu ffordd hwy o gofio Dewi Sant ydyw cynnal cinio glwth ei saig o drud ei docyn Ddygwyl Cyntaf o-Fawrth, ac yna clecian eu bawd ar Nawddsant y Cymry hyd y cyntaf o Fawrth dilynol, a'i ebwch gwedi bwyd. Nage, ffordd glewion y Barri ydyw cynnal cyfarfod i'r plant bob blwyddyn y mis hwnnw, i ganu alawon cynhesaf a mwynaf eu gwlad, i glywed hanes enwogion a merthyron Cymru, a'u cael i gystadlu ar bethau a'u gwna'n Gymry dafod a chalon. Nid ysbleddach unnos mo'u cyfarfod hwy, ond paratoir hwy ar ei gyfer ar hyd y misoedd; ac fe gyhoeddir yr alawon, y gerddoriaeth, a'r meysydd llafur cystadleuol yn llawlyfr taclus a deniadil bob blwyddyn er ID 12. Deuthim a sypyn adref gyda mi, gael i mi eu dangos a chael cyhoeddi eu tebyg ar Lannau Mersey yma, canys Os huna'r telynor dan gysgod yr Yw, Mae miwsig yr alaw hyd heno yn fyw Os drylliwyd y delyn, os torrwyd y tant, Mae'r «erddi yn aros ar wafus y plant, chwedl J. J. Williams, awdlydd Y Lloer. Daliwch chwi i hau'r had fe ofala ysbryd Dewi Sant y daw'r egin o'r ddaear yn ei iawn bryd er cymaint o sathru sydd arno gan Monsieur Richard Jones Davies. a'i epil gwrthnaws. Gwn i'r Anthropos cyfriniol ddioddef loesion dyfnion yn un o ddyffrynnoedd y Gogledd yma un tro wrth weld y dyrfa-a honno'n un bendwp !yn rhythu mor lloaidd arno ar hyd y ddarlith, ac yntau'n bwrw ei berlau goreu ger eu bron. Yr oeddynt yn y pellterau eithaf oddiwrth ei gilydd. Efe'n rhy gain i fcdru disgyn; hwythau'n rhy gleiog i fedru codi; a phawb yn ei le ei hun a fu hi'r noson honno. Ond pe deuai i ganol Cymro dorion eirias a goleuedig- y Barri, fe gaffai eu bod yn gweld ei weledigaethau, yn deall ei ddamhegion, yn brysio i gyfarfod ei ddrych- feddwl cyn iddo hanner ei ddweyd. ac yn ei sbardynnu a gwrandawiad a barai iddo ragori hyd yn oed arno ef ei hun. Delffiaid Gwlad yr Haf. Yng Nglyn Geraint, tan nawdd Mr. a Mrs. Arthen Evans, y clwydwyd ar ol y cyfarfod; a phan godwyd bore drannoeth, gwelcm fod ty ar fron y mynydd ymhell uwchlaw mwg a simnau'r porthladd islaw, a'r olygfa hardd a ymledai odditanom yn dangos darn mawr Wlad yr Haf-sef swydd Somerset-y tu arall i'r bau. Sir dlos ei bryniau a'i dolydd ond ddelffaidd iawn ei thrigolion, a'u barnu oddiwrth a glywais gan yr Archdderwydd amdanynt. Gofidio'r oedd Dyfed eu bod yn heidio drosodd i'r De. ac yn gwladychu yn y mannau a waceid drwy fudiad y Cymry i weithio am well cyflog a byrrach oriau a bywiocach cwmni ym mhyllau a gweithfeydd y trefi a lie gwelech gynt ar estyll llyfrau'r bythynod hynny gopïau da'u rhwymiad o Eiriadur Charles, Cyflavm Arjogaeth Gurnal, pZferin Bunyan, Aleqoriau Christmas Evans, Tri Aderyn Morgan Llwyd, Caneuon Islwyn, Y Gwyddoniadur, Beibl a Llyfr Hymnau, eu lie ni edwyn ddim ohonynt mwyach, canys y maent wedi cael eu disodli gan yr Handbook on Poultry Keeping, Mother Ship. ton's Prophecies, a'r Tipster, melltith arno A phelled yw'r naid o lyfrau nefolaidd y Cymro i lyirau'r Symersetyn daearol ag yw'r naid o Lyfr y Salmau i'r Daily Wail! Glewion yr Undeb. I Arthen yw ysgrifennydd Undeb y Cym- deithasau Cymraeg, ac am hwnrw a'r iaith y syrthiwyd i siarad gynted y disgynnwyd i'r gadair. Ac nid gweniaith ond y gwir yw dywedyd na chafodd yr un mudiad ysgrifen- nydd mwy selog a Ilafurus a phle bynnag yr anadlo efe. yno yr a'r Undeb yn enaid byw. Y mae rhai degau o'i ganghennau draw ac yma drwy'r Deheudir gwnant waith godidog; ynddynt hwy y clywir curiad gwaed cenedl- aetholdeb pob ardal; ac ynddynt hwy y ceir hufefi y sawl sy'n carii tair duwies y Cymro- Lien, Awen, a Chan. Un peth sy braidd ar ol,fod Cymrodorion y Gogledd, ac eithrio un neu ddwy, heb ymuno a'r Undeb. Goddefwch i mi daer erfyn arnoch wneud hynny ar fyrder. sef y chwi yng Ngholwyn Bay a'r Rhyl a Llangollen a Gwrccsam (yr Efail) a Manceinion a Maehynlleth a Chilgwri a Lerpwl a Chaer a Bro Goronwy ac yn y blaen. Ceir pob cyfarwyddyd ond anfon i Glyn Geraint, Somerset Road, Barry. Cefais gopi gan Arthen o lyfr y diweddar Mr. Thomas Mathews, M.A., Llandebie, yn gof-a-chadw o f'ymweliad a Glyn Geraint, sef Perthynas y Cain a'r Ysgol. Fe'i hysgrifen- nodd megis ar ei wely angau ac y mae'n werth ei gael petai ddim ond am y Uuniau heirdd sydd ynddo, heb son am yr apel daer ac angenrheidiol sy ganddo dros gael amgenach lie i'r cain a'r arluniol yn addysg a bywyd beunyddiol CjTnru. Dyma damaid sy'n enghraifft gywir o'r gweddill- Ni all bywyd meddyliol dyn fod yn "grwn acy yflawn, osna roddir lie i'r "Cain, Llyma yr adwy-ni all nebun byth lwyr gyfrannu o'r anfeidrol bethau Fe all fod yn foddhaus ei gyftwr-ou' boddhad yr anwybodus ydyw. Ni ellir dweyd chwaith ei fod yn ffyddlawn iddo ei hun, ac ni all byth lwyr amgyffred y Goruchaf a greodd bopeth mewn pryd ferthwch a cheinder. Ni ellir dweyd fod yr Holl- dreiddiol yn cyffwrdd a phob gallu meddyliol sydd iddo,-yn cyffwrdd a holl dannau ei enaid, os mynuwch felly, nid yw Salm ei Fywyd mewn cywair cywir na chwaith yn gyflawn. Y mae bwlch yn ei gan, adwy yng nghyflawnder ei fywyd, a lljma fwlch sydd mewn addysg heddyw. Gan yr Undeb y cyhoeddir y gyfrol anfon* wch swllt a naw at ei drysorydd, Mr. Wm Lewis, Morlais Villa, Merthyr Tydfil, ac fe roddaf fy ngair nad edifarhewch. Chwiblanu ar Gelfiaid y byd i Birkenhead. Wedi edrych yn edmygol ar gyfrolen Tom Mathews. dyma fynd i son am arfaeth yr Undeb gyda golwg ar Eisteddfod 1917 yn Birkenhead fis Medi nesaf; a 'does dim dichon peidio ag ymdroi i fras-ddweyd beth yw'r bwriad y pryd hwnnw. Gwyddis mai Mr. E. T. John, A.S., yw llywydd yr Undeb eleni, a dyna'r rheswm fod y fath beth ar droed, canys nid llywydd ffurfiol nac mewn enw mohono ef, eithr mewn gair a gwirionedd. Gan mai am yr Undeb a'i arfaeth y soniai'r Arthen a minnau, byddai'n eithaf peth dodi eu bwriadau yngtyn ag Eisteddfod Birken- head i fewn yma :— Sul, M edi 2, 1917-sef y Sul o flaen yr Eisteddfod-i fod yn Saboth o bregethu drwy holl eglwysi'r cylch, ddau tu'r afon, ar Hanes Crefydd yng Nghymru. Nos Lun, Medi 3—Croesawu'r Undeb,mewn gwledd gan y llywydd ac yno gynrychiolwyr nid o Dde a Gogledd Cymru'n unig, ond o'r holl genhedloedd Celtaidd, sef o'r Alban, y Werddon, Llydaw, Cernyw, Ynys Manaw, a'r Cymry ar Wasgar. Dydd Mawrth, Medi 4—10.30 y bore, trafod Delfrydau Celtaidd mewn Llen a Chelfyddyd am 2.30 y prynhawn, Delfrydau Celtaidd Cenedlaethol Gartref ac Oddicartref; 6,30, cyfres o gyfarfodydd dan nawdd yr Undeb yn Birkenhead a Lerpwl. Amcenir hefyd drefnu cynhadledd o Gym- deithasau y Cymry Oddicartref. Cael Dyn a Thestyn. Dyma rai testynau a awgrymir Y Seintiau Cymreig Cyntefig a'r Eglwys Gym' reig Fore, Dewi Sant, Catwg, Dyfrig, Teilo, Illtyd, Gwenfrewi, Tydfil, Gil das, Nenniup, Pelagius, Crynwyr Cymru—yng Nghymru ac yn yr Unol Daleithiau, Gerallt Gymro a'i amserau, Sion Cent, Dr. Grufiydd Roberts (Milan), Morus Kyffin, Dr. John Davies Mallwyd, yr Esgob Morgan, Wm. Salisbury, Yr Esgob Davies, Yr Esgob Parry, Sion Llewelyn o Rhigoes, Charles Edwards, Theo- philus Evans, Morgan Llwyd o Wynedd, Vavasor Powell, Walter Cradoc, Stephen Hughes, Wm. Erbury, John Penry, Griffith Jones Llanddowror, Ficer Pritchard, J. Black- well (Alun), Daniel Owen, Howel Harris, Thomas Charles, John Elias, Christmas Evans, Williams o'r Wern, Williams Pant y celyn, Ann Griffiths, Morgan Rhys, Edmwnd Prys, Ieuan Glan Geirionydd,letion GwynedC,* Joseph Harris (Gomer ), John Williams (Eromanga), Griffith John, Timothy Richard, David Griffiths (Madagascar), Gwiljm Hiraethog, Lewis Edwards, T. C. Edwards, Herber Evans, Hugh Price Hughes, Henry Richard. Ac wele'r siaradwyr awgrymedig :—Esgob Tyddewi, Dr. Hartwell Jones, Dr. Maurice Jones, Ficer Aberpergwm, Lemuel James, Edmund 0. Jones, M.A. (Llanidloes), Robert Williams (Llandilo), Dr. Hyde (yr ysgolhaig Gwyddelig enwog), Mons. Mocaer (LIydaw), Mons. 'Diverres (LIydaw), Mons. Jaffrennou (Taldtr), os y bo'n rhydd o'r rhyfel; Elfed, Dr. Peter Price, 0. L. Roberts, Hawen, H. M. Hughes, B.A., Eynon, Towyn Jones, A.S., D. Stanley Jones, y Prifathro T. Rees, (Rangor), y Profit. J. Morgan Jones (Bangor), y Prifathro T. F. Roberts, Gwili, Thomas Shankland, y Prifathro Edwards (Caerdydd), y Parch. Charles Davies (Caerdydd), D. Teewyn Evans, B.A., Gwynfryn Jones, John Williams (Brynsiencyn), T. C. Willian s, John Owen (Anfield), W. Hobley, y Prifathro Prys, P. Hughes Griffiths, y Proff. D. Miall, Edwards, D. D. Williams, L. J. Roberts, M.A., Gwynn Jones, S. J. Evans, M.A,, J. Morris Jones, M.A., G. A. Edwards, M.A., (Caer) y Proff. Joseph Jones, M.A. (Aberhorddu), O. M. Edwards, M.A. Nes, rhwng y cwbl, fod argoel am gyrddau Celtaidd a chyd-genedl- aethol yn Birkenhead tuhwnt i ddim a fu ynglyn a'r un Eisteddfod o'r blaen. Dwg hyn ar gof i mi ddefod fach ddiddorol iawn a ddigwyddai bob prynhawn dydd Sadwrn yn Birkenhead ddeugain mlynedd yn ol ymysg cannoedd gweithwyr y Starbuck Car & Wagon Co. yr oedd pedwar Celt-un o Gymru ac yn medru Cvrr raeg, un o'r Werdd- on ac yn medru'r Wyddeleg, un o'r Alban ac yh medru'r Gaeleg, ac un o Ynys Manaw ac yn medru'r Fanaweg. Wrth noswylio bob dydd Sadwrn, cwrddent i ysgwyd 11 aw a chyfarch ei gilydd bob un yn ei dafod ei hun, a chymharu y naill Geltiaith a'r llall. Gobeithio mai copi bach in miniature ydyw cyfarfyddiad y pedwar hynny o'r cyfarfyddiad mawr a chyd- genedlaethol sydd i fod pan chwibienir ar y Celtiaid i Birkenhead fis Medi nesaf. I'r Gwely i Freudd. wydio. Wrth siarad am bethau fel hyn a'u tebyg, pa ryfedd ei bod hi'n oriau man y bore pan giliodd yr Arthen a finnau i'r gwely, i freu- ddwydio am y dydd pan fydd cangen o'r Undeb ymhob llan a phentref drwy Gymru, a phan fydd y Twrch Trwyth a'i lydnod anghynes a Die Shon Dafyddol wedi cael eu hel o'r aelwyd a'r ysgol, o'r Coleg a'r Cyngor, a Chymraeg lan, firain, gref, ystwyth, fel Cymraeg Elis Wyn, prif ryddieithwr y Gog- ledd, a Chymraeg Theophilus Evans, prif ryddieithwr y De, i'w chlywed yn clecian o Wynedd i Went. Gyda Chymrodorion Merthyr, tref Thomas Stephens, y byddis yn y ilith nesaf. Llggad y Wavor. J.H.J. I
I Drwodd a Thro
Drwodd a Thro Can Neviydd Gwynn Williams.—Y mae Mr. W. S. Gwvnn Williams, mab Mr. Pencerdd Williams, Plas Hafod, Llangollen, wedi cyfansoddi can filwrol rewydd, Only a Soldier y'i gelwir yn Saesneg, a Bachgen o Filwr yn Gymraeg. Y geiriau Saesneg gan yr awdur ei hun, a'r rhai Cymraeg gan Dyfnwal. Y mae hi wedi ei chyflwyno, drwy ganiatad, i Mr. Lloyd George. Dyma'i chydgan :— Only a soldier serving his country, Only a Comrade faithful and true Only a Briton guarding the Homeland, Only your own boy fighting for you Bachgen o filwr saif dros ei famwlad, Cartref y dewrion gloyw eu bri Bachgen o Gymro'n caru hen Brydain, Bachgen a'i galon gura i ti. Y mae'r geiriau a'r gerddoriaeth yn addas iawn i gryfhau tannau gwladgarwch ac dyneru tannau tynerweh. Yr Hapio Melltigaid. — Dywedid ym mhapurau dydd Sadwrn fod Cyngor yr Eglwysi Rhyddion yn un o gymoedd trwch y Deheudir wedi bod yn trafod y cynnydd anferth sydd at fetio a gamblo ymysg y glowyr. Clywid eu bod yn b.;tio ar lun sweepstakes hyd yn oed ar rifec i'r hymnau a roddid allan i'w canu yn y moddion. Sychu'r Tateithiau.-Diolch i'r pwy bynnag hwnnw sy'n dal i yrru'r British Temperance Advocate yma o Sheffield, ac ynddo newydd da o lawenydd mawr fel hwn :— So says the American Issue of November "25th: Michigan, Nebraska, Montana' South Dakota, and Idaho having gone into line. with other States in voting out "liquor. We learn that now 24 States have adopted prohibition and that these "contain 66 per cent. of the population and 85 per cent. of the area of the United States." Ac i'r graddau y sychont o'u halcohol a'u gwind, i'r graddau hynny hefyd y bydd modd cynneu tan crefydd yn y Taleithiau, a'r byd i gyd o ran hynny. Paganiaid y Wyddgrug.-Canfasiwyd yr Wyddgrug 0 dy i dy gogyfer a'r bythefnos o genhadaeth arbennig a gynhelir yno lonawr 8-20, dan nawdd yr Eglwysi Rhyddion a dyn a'r gwir hyll arswydus a ddaeth i'r an lwg o'r ymweled a'r cwestiynno :—Fod pum milo bobl yn y dref mai dwy o'r pump sy'n mynd i addoli, rhwng Llan a Chapel, Pabyddion a phawb ac fod y tair mil gweddill yn baganiaid noethlymun o ran mynychu dim moddion gras, na byth yn tywyllu fcy Dduw. Tybed fod y bai i gyd ar un ochr yn hen dref gu Roger Edwards ? Y rhain sy'n pregethu ynglyn a'r Genhadaeth bythefnos y Parchn. Wynn Davies a J. Howell, y Rhos J. Roger Jones, B.A., Lerpwl; Henry Rees, Dolgellau R. T. Roberts, Llanarmon; J. E. Davies, Tre'r Ffynnon a D. Gwynfryn Jones, Fflint. Manv Disyfyd.-Dyna a fu rhan Mr. Wm. Davies, gorsaf-feiptr Conwy, a fu farw mewn eiliad bron yn un o ystafelloedd yr orsaf honno pan gyda'i waith ddydd Gwener diweddaf, gan adael gweddw a dau fab, a'r ddau yn y Fyddin. Daeth yno o Fostyn, ac yr oedd yn un o sidesmen eglwys y plwyf. Yr las ddwyn.—Mewn achos o ladrad oedd gerbron llys chwarter Sir Gaernarfon, ddydd Gwener diweddaf, dadleuid dros y cyhuddedig ei fod yn rhy wan ei bwyll i fod yn gyfrifol am ei weithredoedd, ac fod yr ias ladrata'n glefyd mor gleptomanaidd arno nes na wyddai ddim ei fod yn gwneud. Caed ef yn euog ond gollyngwyd ef i ofal ei berthynasau dan rwymau i ddod gerbron eilwaith os bernid bod achos. las ddofn yw'r ias ddwyn, ac anodd iawn ei thynnu unwaith y bo ym mysedd dyn. Rhag ofn dweyd gormod.- Yr oedd Cyngor Bangor ar fin pasio penderfyniad yn llon- gyfarch Mr. Lloyd George ar eigodiad yn Brif Weinidog Prydain, pan gynhygiodd Mr. T. J. Williams fod newid y geiriau Cymro mwyaf yr oesoedd yn Gymro mwyaf yr oes hon." A geiriau'r gwelliant a basiwyd, rhag bod yn rhy fanwl wrth lathennu eneid- iau. Maldwyn W en.-Nid oedd dim un achos i'w drin yn Llys Chwarter Sir Drefaldwyn yn y Trallwng ddydd Iau diweddaf a mynegai cadeirydd y fainc, Mr. Marshall Dug dale, falched oeddynt fod y Sir mor lan. Llawer llai o yfed a fu, dyna'r achos, a llawer llai o bob anfoes, dyna'r eff-aith. Da iawn, hen Sir S.R. ac Ann Griffiths. Fandaliaid Ban-flor.-Cwyiiai.r Henadur Mathews, cadeirydd pwyllgor llyfrgell y ddinas honno, fod rhyw fandaliaid anystyriol yn torri darnau allan o'r papurau a'r cylch- gronau ae yn eu handwyo o ran eu gwerth a'u golwg. Ac ambell gylchgrawn—megis y Journal of Fttucatioii-yn cael ei ladrata na byth ei ddychwelyd. Fe ddygai'r rhain Foibl pe caent sylltyn wrth ei wystlo. 0 Lwynau Cromwell. Yr oedd y Mr. Oliver H. Jones, Castell Fonmon, a fu farw ddydd Iau Iau diweddaf, yn gadeirydd Llys Chwarter Morgannwg, yn dirfeddianydd a bargyfreith- iwr, ac yn disgyn yn syth ddiamwys o lin a gwaed Olifer Cromwell, a chanddo dwmpath o greiriau'r Gwerinwr digyffelyb hwnnw, y byddai'n well génnyf fod dafn o'i waed coch ef ynof na phe glesid fy ngwythi gan waed gla. a blysig aristocratiaid y byd. Un bunt ar bymtheg Cricieth.—Yr oedd £ 16 48. 9d. yn weddill o dderbyniadau Eisteddfod Criccieth ddygwyl y Bocsio ac fe'u cyflwynwyd i drysorfa'r Groes Wen, a gychwynnodd y Cadfridog Owen Thomas at gyfreidiau'r milwyr Cymreig. Rhy briodol.-Y mae ynadon Caergybi wedi bwrw Sarah Jones, 7 Harp Street, a Wm. Jones, un o wyr y Llynges, i sefyll eu prawf yn y frawdlys am briodi a'i gwr cyntaf, Wm. Parry, yn fyw. Morfa Mawr Caer.—Yn Nhrybinlys yr Wyddgrug, ddydd Iau diweddaf, dywedodd Mr. Ledsham, wrth ymbil am ollyngdod i ddau o'i weithwyr, fod ei gwtoni ef yn ffarmio cryn ddeng mil o aceri o dir ar forfa Sealand, ar odre Caer. Yr oedd llawer ohono'n dir gwlyb a chorsiog ond tua dwy fil o aceri yn dwyn cnydau. Porai 2,400 o ddefaid ar y glastraeth, heblaw tua chant o wurtheg. Y mae yna lawer iawn o dir ar lan afon Caer y gellid ei sychu a'i droi'n borfa i filoedd o anifeiliaid ac yn enllyn a chynhaliaeth i fil- oedd o ddynion. Nid yw'r hen Ynys yma fawr o glap i gyd mewn cymhariaeth i wled- ydd y Cyfandir; ond y mae yma fwy o wasrtafiu ac esgeuluso ar dir nag yn yr un ohonynt. Darnau mawrion ohoni yn barad- wys ffesants a phaunod, a ninnau'r werin wirion yn diodde'r cwbl mor slafaidd a di. gynnyg. Ganu'n well o hyd.Bydd pobl Henllan, a Chymru igyd, yn falch o glywed fod y soprano hysbys, Madame Laura Evans- Williams, uedi cael ei galw ar fyr rybudd y nos o'r blaen i ganu yn un o gyngherddau Madame Clara Butt yn Reading, oblegid absenoldeb un o'r cwmni. Canodd mor dda nes y eyflogodd Madame Clara Butt hi yn y fan a'r He i fynd gyda'i chwmni hi ar daith o lonawr y 14eg ymlaen. Dyma anrhydedd fawr i'r Gymraes, a phrawf y gall hi ddibynnu ar ei haeddiant ei hun if ynd i fyny heb grefu am bwff yr un papurydd chwannog am gil dwrn gwyn a melyn dan ei ewinedd. Y mae hi'n un o ganorion cyflog- edig Eisteddfod Birkenhead 1917.
I Y Gweithiwr a Chostau'r…
I Y Gweithiwr a Chost- au'r Rhyfel. Beth a fydd ar ol hyn ? Mah enw Mr. E. T. John, A.S., ,-n adnabyddus fel un 0 gyflogwyr llafur mwyaf Gogledd Lloegr, ac fel un sy'n awdurdod ym myd masnach. Wrth annerch ei etholwyr yn Nwyrain Dinbych yr wythnos ddiweddaf, rhoddodd ffeithiau a ftigyrau tarawiadol iawn ynglyn a'r Rhyfel,—ei gost, y ffordd i gael heddwch, a pha beth a fydd ar ol hyn. Dywedodd fod treuliau'r wlad hon yn y Rhyfel am yflwyddyn gyllidol bresennol yn cyrraedd y swm anferth o ddwy fil o filiynnau o bunnau ( £ 2,000,000,000). Mae hyn, ebe fe, yn fwy na £ 40 ar gyfer pob pen o boblogaeth y wlad, neu dros £ 200 ar J'yfer pob teulu yn y deyrnas. Pe cyfrifid cost y rhyfel o'r dech- reu ddwy flynedd a hanner yn ol. byddai-r symiau ofnadwy uohod yn cael en dyblu. Yr oedd Mr. Bonar Law, Canghellor presennol y Trysorlys, wedi dweyd na fedrai hyd yi oed Prydain Fawr ddal o dan y trenliau hyn dros amser amhenodd. Rhaid fyddai i'r ddyled enfawr efEeithio ar bob dosbarth yn y wlad. Pan a'r rhyfel heibio, ceisia'r eyfoeth-gion osod pen trymaf baich y ddyled ar yfgwydd- au'r gweithwyr. Cei iant hwythau rwystro hynny. Ond os llwydda llafur yn yr ymdreoh yn erbyn dwyn y baich, golygai'r ymdrech lawer o anghydfod rhwng cyfalaf a llafur, yn ogystal ag mewn deddfwriaeth. Rhaid fydd- ai gosod pob gewyn ar waith i chwyddc cyiinyrch gweithfaol y wlad rhoi atalfa ar wastraff ymhob cyfeiriad, ae yn enwedig ar y £ 180,000.000 a werir bob blwyddyn ar ddiod- ydd meddwol. Rhaid hefyd aildrefnu'r dull presennol o arosod baich y trethi ymherodrol. yn ogystal a'r modd y rhennir cynnyrch llafur rhwng meistr a gweithiwr. Rbaid fyddai cadw'r cyflogau i fyny a lie bo angen, rhaid fydd codi'r cyflogau i safon a geidw'r gweith- iwr ,a'r sawl a f o't, dibynnu arno mewn sefyllfa gysurus, gan ganiatau iddo hefyd hamdden digonol at anghenion corff a meddwl. Dyna raid ddod gyntaf allan o gynnyreh llafur y deyrnas ac o'r g wed dill; ar ol cyfarfod. ag angen mawr y gweithiwr yn unig y gall y Wladwriaeth a Chyfalaf hawlio eu rhan. Condemniai Mr' John y cynhygion a wneir i ostwng safon y derbyniadau ar y rhai y gellir codi treth yr inewm, 3Si ddylai, ebe fè, fod toll o gwbl ar angenrheidiau bywyd. Er galluogi'r wlad, ar ol y rhyfel i gyfarfod » galwadau enfawr dyled y deyrnas, rhaid fydd lleihau yn fawr, os nad llwyr ddiddymu, traul militariaeth ac arfogaeth y ccnhedloedd i gyd. Amhosibl fyddai gwneud hynny oni fyddai telerau'r heddwch a wneid yn gyfiawn ac yn rhesymol. Hanfod mawr y werin ymhob awlad fyddai diarfogiad cyffredinol. Dylai'r werin wrthod rhoi i na theyrn na gwladwein- ydd y moddion a'u galluoga i gyhoeddi rhyfel mwyach.
Advertising
EVERY WOMAN SaoBLD eenda stamps for our 33 page Illustrated Book < containing valuable information how alllnelularities and Suppressions may be entirely avoided or removed by simple means. Recommended byemiaent Physicaact as the only Safe, Sure and Genuine Bemedy. Never fail Thousands of Testimonials. Bstablished iSiS, Mr. PAUL BLANCHARD cloost IIADIot. nxtfttne Lanr. I ONEQN COOK & TOWNSHEND Warm Wool Comforts for Soldiers and Sailors. Splendid collection of Bigh Quality Goods at £ >* Popular Prices. Wool Socks 1/ 1/6, & J/Jlr ppoarir Khaki Wool Mitts, 1/- & 1/6 pair Natural Wool Body Belts, I/Beach Balaclava Sleeping Helmets 1/11 and 2/6 each. Cardigan Jackets, 4/11, 5/11 & 6/11. Special line of Men's Khaki Cardigan Jackets, 6/11 each Men's Army Grey Shirts 3/11 & 5/11 each Men's Khaki Shirts 4/11 & 5/11 each. Special Prices quoted for Church Guilds etc Byrom St. & Dole St., LIVERPOOL. Liverpool Guardian Trade Protection Society 'Phone 4865 Bank. Wires Precaution" The Oldest Provincial TRADE PROTECTION SOCIETY A MUTUAL SOCIETY Governed by a Board of Honorary Directors. or terms write-F, MEATUER, Secretary, c 41 North John Street, Liverpo