Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
———• „■ OLD pOST OFFICE (ow wm- car) lARGEST S.ELECrION LOWEST PRICES TELEPHONE 3075 ROYAL
Ein Genedl ym Maneeinion.
Ein Genedl ym Maneeinion. Dyddtadur Ion. 19-Darlith Mr. J C Davies, Rhuthyn Ion. 20-21-oymanfa'r Annibynwyr Chwet. 2 -Darlith yr Athro Miall Edwards Ebrill 21-Cymanfa y Gobeithluoedd Cenhadon y Sul Nesat. Y METHODISTIAID CALFINAIDD Moss SIDE—10.30 a 6, W 8 Jones, Amwythig PENDLETON-IO.30, 6, H P Roberts, Beanmaris HEYWOOD ST.-10.30, H P Rob erts, 6, E Humphreys VICTORIA PK—10.30, E Humphreys, 6, FASNWORTH—10.30 a 6, LEIGH—10.30 a 6, WARRINGTON—10.30 a 6, W Parry. Bolton EARIESTOWN—10.45 a 5.30, ASHTON-PNDER-LTNE—10.45 a 6.30, EGL WYS UNDEBOL EOCLES-ll a 6.30, YR ANNIBYNWYR CHORLTON RD—10.30 a 6.15. BOOTH ST—10.30 a 6.15, M Llewelyn QUEEN'S Ro AD-lO,30 a 6.15, Cyfarfod Gweddi LD. DUNCAN STREET—10.30 a 6.15, J Morris HOLUNWOOD—10.30 a 6.15, YliWESLEAID. DEWI SANT—10.30, J E Williams, 6, J M Williams R OREB-1 0 30, J M Wiiliams. 6 G Evans SEION—10.30, G Evans. 6, J E Williains BEULAH-2.30, J E Williams, 6-30. W G Jones OALIFARLA—10.30, J. Felix, 6, J 8 Williams WEASTE—10.30, W G Jones, 6.30, J Felix Y BEDYDDWYR- UP. MEDLOCK ST.—10.30, a 6, JiH Hughes LoNOSldHT—10.30 a 6.30, ROBIN'S LANE, SUTTON—10.30 a 5.30, EISTEDDFOD NOS GALA N. — Hon oedd yr wythfed a gynhaliwyd yn olynol gan Annibynwyr capol Booth Street. Llannwyd ysgoldy Moss Side (IIe'r oedd y cyfarfod) gan gynulleidfa barclius a gwrandawgar. Y cad- eirydd oedd J. R. Owen, Ysw., a. chaed anerchiad frwd ganddo. Cyfenydd, Miss Edith Williams. Arweinydd, Llew Tegid, a'i sylwadau pert a thafotrydd yn dderbyhiol iawn. Efe hefyd oedd beirniad yr adrodd, a'i gynghorion cystal a gwobrwyon i'r gwran- dawyr. Beirniadodd y pedwar pennill i'r Milwr Clwyfedig, a'r goreu o bedwar oedd Aidan Davies, Llithfaen, Pwllheli. Darllen- odd y beirniad y penhillion dylid gwneud hynny gyda phob cyfansoddiad byr. Llew Togid a feirntadai'r traethawd ar Yr Argyjung presennol a'i wersi .Y goren o dri oedd W. Jones William-, Glaslyn, Ffestiniog Adrodd (dan 16), Don't stand in the way cydradd, Edith Brown, Ashton, a Gladys "'aiiiwri bt Longsight. Adrodd (dan 1.6), Du a owyn 1, Olwen Owen, Moss Side 2, Gladys Evans, Booth Street, a'i brawd Edwin yri Sydd, Unrhyw adroddiad Saesneg cystadleuaeth benigamp: enillwyd gan Robert Brown, Newton Heath, ar y darn The Rapids (J. B. Gongh). Adrodd Y Ffoadur (Cynonfardd) Wm. Roberts, Booth Street. Barn wyd y canu gan J. E. Jones (Fancerdd Tej-fan), Lerpwl, yn fanwl, cryno, a meistrolgar. Unawd y genethod, Codiad yr Hedydd; Constance Slater, Cheadle. Unawd y beeh- gyn. Come to battle Frank M-anii el, Longsight. Unrhyw unawd i feibion 1, J. E. Thomas, Tremadog, efe yn y fyddin 2, Aneurin Roberts, Seedley, o Gor y Cambrian. Unrhyw unawd i ferched 1, Lily Richards, Bridge- water I-T-all Mission 2, Annie Malone, Higher Openshaw. Cor o ferched. Bells of Aberdovey (Fletcher), y goreu o dri Bridgewater Hall Mission, dan arweiniad J. T. Edward;, Ni ddaeth ond un Cdr Cymysg i ganu Teyrnas. oedd y ddaear, er fod ail wobI"; ac yr oedd cor Tyldesley, tan arweiniad John Hughes o Fon. yn wir deilwng o'r wobr, a benthyg am flwydd- yn y gwpan arian y rhaid ei hennill deirgwaith cyn ei meddu. Cyfarfod rhagorol iawn drwy- dd), inwy derbyniol ac uwch ei safon nag o'r blaen, ac vn anrhydedd i'r pwyllgor, yn enwedig i yindi-echion diflino Mr. H. O. Daviep. (Fallowfield), yr ysgrifennydd. Rhoed i'r ddwy iaith hefyd eu lie eu hunain heb droi gwegil ar y fiaill er mwyn y Hall; ac yr oedd Llew Tegid mor gartrefol gyda'r ddwy ag ydyw'r eog gyda'i ddwr liallt neu groew. DYSG YN GYNTAF.—Rhywbeth tebyg i hyn fydd testun darlith Mr. J. C. Davies i'r Gymdeithas Genedlaethol Dylanwad dat. blygiad addyig ar nodweddion cenedlaethol. Camgymeriad yw cyhoeddi rhaglenni cym- deithasau heb y cwbl o'r testynau. Dichon y maddeuir i Mr. Davies oherwydd ei brysur- deb, a'i orgyfla-wnder o destynaii. o bob math. Daeth vma. air o Gymru un o'r dyddiau diweddaf yn dweyd y caiff Cymvy Manceinion treat wrth wrando Mr. Davies. Cofiwn hefyd mai addysg yw pwric pwyaicaf y dydd, hyd yn oed yn y rhyfel. Dywedodd un gwr Parch- edig yng nghyfarfod diweddaf y GymdeithaB, fod Germai-i, trwy y i-hyfol, yn gwneud ymdrech anghyffredin i yrru addy g ymlaen, ac nad esgeulusocld ddim ar y gwaith fel, pan derfyno'r helynt, y bydd hi'n barod i wynebu'r byd. Gyda llaw, nid yw popeth fel y dylent fod gydag athrawon ysgolion tlyddiol y eyleh yma o eisiau codi'r cyflog £20 y flwyddyn, a chan fod gwrthnysigrwydd i ganiatau'r cais bygythient streic, a'r certificated yn barod. i hynny, ond yr un- certificated am aros yn eu lie. Mae rhyw adran weithiol yma o hyd yn ceisio hawlio codfr cynog, gan fygwth streic bob tro. Da fyddai cofio fod un cyflog yn anghyf- newidiol, ni fu crioed ac ni fydd byth yn 13 nac yn uwch, ac ni allwn ei wrthod,— cyflog pechod. AM FENTRO FR FODRW Y.—(Jytnyl- odd y rhyfel obeithion goreu llawer merch ieuane, nes bod dydd y briodas megij yn dra- gwyddol bell. Mor bapus i'r gwrthwyneb yw I gweled yr ieuenetid sy'n mynnu coron cariad trwy ganol yr anawsterau. Ddydd Ian di- weddaf, priodwyd Mr. E. R. Evans o'r Bala, fferyllydd a fu yn Ninbych a thrachefn yn Nottingham, ond yn awr gyda'r R.A.M.C. ar y Transport Service, gyda Miss Emily Hughes nierch Mr. Wm. H.igbes, Fairlawn Street, Moss Side, sy'n athrawes yn un o'r ysgolion dyddiol. Lion a llwyddiannus fyddo 'u siwrne heb drofeydd jiryder na chysgod gofid. Esmwyth fyddo'i fordeithiau. ef, a clioded y mor ei wTychyn ar y gelyn a faidd agoshau ato, er m wyn Bmily ei wraig. YN HIRNOS Y BEDD.-rPrist ic-twii i ddimwa-in gyda cherbyd achosi marwolaeth lVIe. Hugh Williams, Rusholme, ysgrifennydd y Manchester Carriage Co., ac efe yn ei gyflawn nertb. ac iechyd, yn. ddim ond 50 oed. Bu farw ddydd Gwener, a eh la ddwy d ddydd Mawrth. Chwith meddwl fod ei gorff lluniaidd yn nhawelwch oer y Southern Cemetery. Nerth a nawdd fyddo i'r weddw a'r plant hi a'i merch yn aelodau o eglwys Moss Side, a'r mab yn y Fyddin ors tro.
Advertising
Prynir Dodrefn Outright. Distance no object. Sales by auction on owners' premises. GREETHAM & SON (Est. 1848). Auctioneers, 27 Newington, Liverpool; 18 Rydal Bank & 106 Liscard Road, Lisca Tel. 646 Royal. Telephone.-Andeld. log llS5 KENSINGTON, LIVERPOOL. R. W. EVANS. FUNERAL DIRECTOR. All Orders personally attended to throughout. I P. Lloyd Jones FUNERAL DIRECTOR, 364 Stanley Road, L'pool. TELZPHONE-Z61 BOOTLK. TELEPHONE—S75SIANFIELP. I J. T. JONES, i runeral Undertaker, -— IL» V £ .IV *40 Aubrey Street, EVERTON? and 55 BMct Rea LIVERPOOL, Funerals personally arranged to all parts* J. HUGHES — Tailor,— ✓ 20 Oxton Rd. I U'RKENHEADy^/  Ladies' ? /? /Costumes x   ?  c ?=-? Perfect Fitting Guaranteed. PILOTS' CONCERT. PHILHARMONIC nta,I., Mr. KINGSTON JONES was responsible for some ol the BEST FEATURES of the entertainment.-Courier. XMAS CONCERT, CEFN MAWR, 1917,—The recitals. both Welsh and English, by Prof. Kingston-Jones, ewere the feature of the evening .He is a born entertainer He was enthusiastically recalled aftc- each item.—Cein Cb-onzc,c. KINGSTON-JONES Gold Medallist, Professor of Elocution Concerts- fcntertainer-Adjudicat c r Entertainments given by self for whole evening (2i hours) in Welsh or English. English Programme includes PART I—" Story of Enoch Arden (Tennyson), full of drama, pathos and human interest; lastingij hours PART II includes dramatic & humorous, Recitals, and a selection of Recitations at the piano. Concert promoters may select any of the following for Part I in place of Enoch Irden- "Toetber" (John CRenham). "The Going of the White Swan" (Sip G. Parker) U A Golden Wedding" (Delectable Duchy) Send for Press Opinions and Testimonials from various Churches, and specimen Programme. Welsh Programme will appear next-week, PUPILS IAKEN TERMS MODERATE, 27 Clifton Road East, Tuebrook;, LIVERPOOL. G. w. nUGU[S,o. « L.T.S C Unntnidd t Can* VW Mihnptl At-C. Prtnsds Xetf,), Arweinydd Cymanfaoedd Cano, Beirniad, ac Arholwr. Parotoir Ymgeiswyr at Dystvegrifau uwthmt Coleg y Bolla. Hen Nodiant a Solffa. 70 KINGSLETZROAD LXRPVO J. HALTON MORRIST Popular Welsh Tenor,. For terms, apply 7 GRAMPIAN ROAD, Fairfield, LIVERPOOL Athrofa Aberystwyth (UN O'R COLEGAC TM MHRIFYSGOL CTMBU). Prifatbraw-T. F. ROBERTS, M.A., LL.D. DECHREUA'R Tymor neW ar My<M DMercher, Hydref 3ydd, 1917. Paratoir yr 6frydwyr ar gyier Arholiadau Prifysgol Cymn. Cynygir amryw o ysgoloriaethau (amryw 0 honynt yn gyfyngedigi Gymry) y Swyddya boa. Cymer yr arholiad le yn Aberystwyth ar y IMod o fis Medi, 1917.. Am fanylion pellach, ymofyner a J. H. DAVIES, M.A. Cofrtslrydd ANWRD, PESWCH, fINFLUENZA-Use j rhain gyda ni bob amser. Pair hinaawdd gyf, fod Uawer a ddioddef oddiwrth Beswch, Broachkk, Pat, Dolur Gwddf, Crygni, Caethdra, DiSyg Anadl. Y mae'r hen feddyginiaeth DAVIES'S COUGE MIXTURE eto ar y blaen, ac yn cad ei gwertfc- fawrogiyn fwy nag erioed, bob amser wrth law, yxt- felys, yn cynhcsu y frest, ac yn rhyddhau'r phlegm. Bydd dose mewn pryd yn -ddigon. is. i id. a N' (pottage, 3d.)-Huc;H DAVID, Chemist, Machynlletjj SARZINE BLOOD MIXTURE. CROEN lACH A GWAED PUR.-Dyna yr hys., y mae Sarzine Blood Mixture yn ei sicrhau, a dim. arall. Nid yw yn honni gwella popeth fel Yankee Patent Medicines, ond os blinir chwi gan groea, afiach, ysfa, pimplet, toriad allan, tcurvy, dokiriar; pendduynod, etc., yn tarddu o waed drwg ac amhur, mynnwch botelaid o Sarzine Blood Mixture gan y druggist nesaf atoch, 21. 9d. y botel, neu gyda 34 at y cludiad yn ychwanegol oddiwrth y perchenaog- HUGH DAVIES, Chemist, Machynlleth.  ._H_r- o a boooonciQODaaoDDDDoaono ????????s □ I Haif.dozbestE?ctro.ptated? C a 6UMEA GOLD WEDDWt RIH8S Half-doz best Electro-plated yf q 13 from 7/6 60/- j | &foT at0 KTgh C Q BALL-S-.LUCKY ENGAGEMENT RINGS at prices to suit all 0 e '? — ————————————————— 4, ci C BALL'S LUCKY WEDDING RING DEPOT, C C3 Finjer-Size Cards Post Free 33, London RODDY LI VERPOOLT □ ODDQOQOOOODDODOONDDDDDDOQ.O CYFEIRIAD NEWYDD (Change of Address) D. R. JONES (Alaw Madog), 25 RadstocK Road, Liverpool. Dealer in PIANOS, ORGANS, and HARMONIUMS, MUSIC PUBLISHER, &c. Catalogues Free oa sip plication. Terms Cash, or on easy payments to suit Customers, Orders by Post are promptly attended to. Tuning and Repairing aaSpeciality. Town and Country visited. Dwy gin Newydd yn barod, Pris Swllt yr un. Trwy'r Post, 1/1. 4¡Saf i fyny dros dy Wlad (Stand for thy Country), W. T. David. Sop. neu Tenor. u Mab y Milwr (The Soldier's Son), D. E. Williams, C.R .A,.M. Contralto neu Bass. Geiriau Cymraeg a Saesneg. Hefyd, y mae i hon eiriau cys*egredig, Jerusalem, Newydd (The New Jerusalem). -W"H. For Bedsteads and Bedding. W. WHITTLE SON & STOTT, LTD., 116, 1.18 0 120 WHITECHAPEL, LIVERPOOL. 000 Telephone 2137 Royal. Y ■ ■■
Wrth Golli Drem ab Dremhidydd.…
authors, in like happy circumstances, to stalk forth with an air of assured pride and dignity. In the case of Mr. Gomer Will- iams these small, foolish, amusing, but pardonable graces of men were remarkable only for their complete absence. I never knew any man to whom the irrmaterial rewards, the so-called embroideries of authorship, were of less concern. The last important task to which he devoted his industry was a work held up by the war. It is tentatively called The Masqueraders," and consists of an enormous body of material—enough to set up twenty novelists with plots for the period of their lives. Mr. Gomer Williams was a true Celt, as that term is understood in connection with the Brythonic branch of the race, in height, colour, shape of head, character of mind. Twenty-five years ago he was a frequent contributor to the Liverpool Mercury," instructing us on questions affecting his compatriots, from politics and religion to beautiful and fragrant aspects of an ineom Iparable folklore, thereby helping the mere Saxon to understand that of which birth had denied him a knowledge. And, curiously enough, J the last words he ever penned were written to me, a week or so ago, bearing oil the | Celt's dream of Heaven, that mysterious land of everlasting youth lying across a stretch of water in the West, where the j isun reposes at fall of day and there is no night. Do, fe sgrifennodd lawer i oleuo'r paganiaid Seisnig am y Cymry a'u lien, a gwnaeth ei ran ladd y rhagfarn a gyfyd o anwybodaeth a inympwy. Ysgrifennoddnofel Gymraeg Llyw- elyn ab Iorwerth, ac yr oedd ei adolygiad ar Enoc Huws yn Y Gymrú yn feistrolgar iawn, a g welais yn llaw'r Llyfrbryf y llythyr diolch a gawsai oddiwrth Daniel Owen wedi iddo'i ddarllen.- Drem an DremhidjtM (sef gweled- ydd y Mabinogion, y dywedir ei fod mor foinglust a hyn "Gwelai wibed. n yn y bore yn codi o'i lwth yn Blathaon, Gogledd Pry- aind, ac yntaw yn y Gelliwig, yng Nghernyw, sef Cornwall. Dyna i chwi batrwm o briodox- edd i fod yn eiddo newyddiadurwr, onite 9) y galwai ei hun yn Y Cymro, a dyma i chwi -damaid o'i lith yn rhifyn Chwefrol 22, 1894 Wrth ysgrifennu, rhed y ccf yn ol flynydd" ocdd at noson hyfryd pan eisteddem mewn tv yn Toxteth Park, wrth yr un bwrdd a Mr. Isaac Roberts, Mr. Hall Caine, a Mr. Wm. Tirebuck—seryddwr a dau nofelydd a'r t-ri yn aelodau o'r hen Notes and Querie, Society, ac wedi gwneud eu marc yn y byd Y mae Mr. Tirebuck wedi cyffwrdd a Chymreigyddiaeth yn ei Sweetheart Gwen, ac hwyrach y ceir gweled cyn bo hir destyn Cymreig yn cael ei drin gyda grym, tan- beidrwydd, a chydymdeimlad Celtaidd gan Mr. Hall Caine. Dyna bedwar oddeutu' r bwrdd (1) Dr. Isaac Roberts, yr astronomydd enwog, o Ddinbych i ddechreu, o Lerpwl wedyn, yna o Ddeheu- barth Ltoegr, efe'n gorwedd ym mynwent Flaybrick Hill, Birkenhead, a rhywbeth dwyieithog tebyg i hyn (dyfynnaf o'm cof) ar garreg ei fedd :— Heaven within us iE,, and we have the power to dwell in it all the days of our life unless we wander to cibau gweigion ffol, yn lie dewis y rhan dda yr hon ni ddygir oddiarnom. (2) Hall Caine, un o brif nofelwyr ei oes, y dyn mwyaf a godotjd Ynys Manaw, ac a wyr maint am Gvmru drwy gyfarfod a Gomer jaulams. (3) Wm. Edwards Tirebuck, yn- tau'n Gyn, ro o du un o'i ddau riant, ac yn prysur ddringo i reng flaehaf nofelwyr ei ,ddydd pan gwympodd i'r bedd pan ar ymagor i'w ogoniant uchaf. (4) Gomer Williams ei hun, sylwedydd ar y tri arall, a'u cyfarwydd- wr ar bethau Cymreig a Cheltaidd, ac yn fodlon bod yn Ddrem ab Dremhidydd mor anamlwg ei hun er mwyn iddynt hwy fod yn y golwg Brodor o Abergele ydoedd Gomer Williams I ond un anodd cael gafael arno i wybod dim manylion am ei deulu na'i yría-rhyw Drem ab Dremhidydd cyfriniol a diflannol ydoedd yn hynny fel ymhopcth arall. Yr oedd yn wr o ymddangosiad hardd: cnu o wallt crychddu rhyw loewder yn ei lygad, fel y sydd yn llygad pawb ag awen a gwreidd- ioldeb ynddo yn hyddysg A hufen llenydd- iaeth nofelaidd a beirniadol Lloegr; ac yn xrtalio mwy lawer am lwyredd a chywirdeb ei waith nag am ddim clod nac elw a ddygai iddo. Dyna'r rheswm iddo fod gymaint o'r golwg—o oltwg y ddaear felly. Gresyn fod ei gydwladwyr mor ddieithr iddo a gresyn fod y lienor mor ddidal am ei waith rhagor eraill mewn byd mor anwastad ei glod a'i gydnabyddiaeth a hwn. Wedi ysgrifennu'r uchod, cefais air oddi- wrth el ferch, Mrs. Gwendoline Morrison, yn l:tlw'm sylw mai ym Mhensarn, Abergele, y ganed ei thad ac iddo ysgrifennu'r rhain heblaw a enwyd uchod Blodwen Rees, a story of the Cursing Well, Old Goodison's Crime, Dairy OirPs Revenge, a lliaws o straeon byrion eraili. Cafodd lythyrau o bob parth o'r wlad gan bobl oedd wedi darllen ei Privateer*. Golygodd Dicky Sam-papur beirniadol a Ilym ei gnk) a'i bwyth i bopeth a ystyrrid yn jEamwri a gwe-i 'hredoedd y tywyllwch ond codwycl cyfraith athrod arno, a chan nad oeld cyfalaf wrth gefn, aeth y cyhoeddiad i'r wal ymhen rhyw bum neir chwe rhifyn. Rhedodd ei stori Blodwen Rees am rifynnau lawer o'r Cardiff Time*, a lluniau hcnno'n or ycwhanegu llawer at ei swyn a'i doniolwch. A dyna'i Story of the Cursing Well, Old Goodison"s Crime, Dairy Girl's Revenge. a llawbr o straeon byrion eraill yn dangos mor d,ireithiog oedd ei bin. Ond y gyfrol a geidw'i enw rhag angof fydd The. Liverpool Privateeg-s bydd darllen ar honno cyd ag y bo hanes Lerpwl a'r Gaethfasnach ar gael. Diau fod ei hawdur bellach wedi cael hyd i'w hen gyfoedion y Notes and Queries Society mewn amgenach man, ac yn cael gwell goleuni a chroywach atebion i'w cwestiynau dyrys. Goreu Cymro, yr an Oddieartre FARNWORTH, OER BOLTON.—Nos Lun, sef nos Calan, cynhaliwyd cyfarfod adloniadol rhagorol. Cymerwyd y gadair gan J. H. Da vies, Ysw., Pendleton, a gwnaeth ei waith yn ddeheig iawu. Cymerwyd rhan gan y rhai a ganlyn Canodd parti o'r lie dair gwaith, dan arweiniad Mr. Thomas Parry. Canodd dosbarth Mr. J. W. Parry don Yr Hyfryd lVlad, a chan ystum, We Red Cross Nurses. Adroddiadau gan Miss M. T. Williams, Yr XJwd Poeth Miss G. Williams, A Mortifying Mistake, a Miss M. L. Williams. Cyfarchiad Calan. Unawd gan Miss B. Parry, Home cafodd encor a chanodd Until. Caed dwy gystadleuaeth i rai dan 12 oed, canu Bugail Israel ar y don St. Oswald 1, G. William- 2, Florence Wolfendale a M. L. Williams ac E. L. Parry yn gyfartal ac am adrodd y naw adnod cyntaf o'r Diarhebion iv 1, G. Will- iams, M. L. William?, ac E. L. Parry yn gyfartal. Beirniaid Mri. J,. Roberts a LI. Williams, Bolton. Humourist,MY. H. Eging. ton. Cyfeiliwyd gan Miss M. Jones, Bolton. Caed ychydig seibiant ar ganol y cyfarfod, pryd y mwynhawyd cwpaned o de a lluniaeth r ac ymgom felys, dan ofal Mri. J. W. Parry ac E. A. Williams, a Misses A. Jones a M. B. Hughes. Cyfarfod gwir dda, a phawb wedi ei fwynhau. Diolchwyd i bawb gan Mri. R. Humphreys a T. Parry. Diben iwvd trw.N ganu Hen Wlad Jy Nhadau. SILOH, WniSTON.- CynhaUwyd y te parti a'r cyfarfod amrywiaethol blynyddol ddydd Calan. Llywyddvvvd yn fedrus gan Mr. David Roberts, Ken- sington, Lerpwl, a rhoef anerchiad buddiol, ac estyn- nodd rodd dywysogaidd at y achos. Yn ol ei arfer, daeth y veteran R. O. Williams atom, a chydag e, Misses Jenny Jones, Blodwen Owen, a Mr. leuan Jones, a chyleiliwyd gan Miss Eluned Roberts-y cwbl o Edge Lane. Aed drwy'i rhaglen a ganlyn ?4T&n at Ieszi Cvstadleuaeth adrodd i rai dan 10 oed. Awn at lesu I; Eluned Hughes; 2, R. T. Williams; 3, Elsie Jones William Street, a gwobrwywyd y gweddill- Edgar Williams, Robbie Jones, Edie Jones, Mostyn a Joseph Roberts. Carol gan Miss Blodwen Owen. Cystadleuaeth cyfieithu dwy frawddeg, i bob oed 1 fcyfartall, Pte. W.'S. Jones a Joseph Jones, Rainhill. Can gan Mr. leuaii Jone-, Pzvy fel ty inam P Can gan Miss Jenny Jones, Neges y Blodeuyn. Cystadleu- aeth canu, i rai dan 14, Cenhadon bach ym ni 1, Elsie Jones, Kemble Stieet; 2, Gladys Jones cydradd 3, Mary Jones a Miiiam Jones. Ymgom rhwng Mri. Moses Roberts, Walter Fairhurst, ac E. Hywel Jones, Tmtveliad Evan Hughes a Manceinion. Cystadleuaeth adrodd, j-rai dan 14, yr emyn 0 nefol addfwyn Oen 1, Miriam Jones; 2, Edna Jones. cydradd 3, Mary Jones ac Elsie Jones, Kemble Street. Can gan Miss Blodwen Owen, Angels ever bright and fair, a Breuddwyd y Frenhines yn encor. Ymgom gan Mr. R. O. Williams, Tomos Bardey, ac yn encor, Helbnlon Mr. Coddle a'i briod. Can gan Mr. Ieuan Jones, O'r njzd 1V mi. Cystadleuaeth cyfieithu gciriau, i rai dan 14: gwobrwywyd y cwbi, Edna Jones, Bronwen Jones, Gladys Jones, Miriam Jones, R. J. Fairhurst ac E. Hayes Jones. Can gan Miss Jenny Jones, T Plentyn a'r Gzvlith. Cystadleu- aeth araith fyrfyfyr, Brasolivg ar fywyd Lloyd George il Pte. W.S Jones. Cyflwvnwyd diolch i'r cyfeillion car dig am eu gwasanaeth cymeradwy gan Mr. R. Lloyd Thomas. Teimlid ein bod yn cyfarfod dan amgylchiadau eiihriadol, nid yn unig yn hanes ein gwlad, ond yn hanes yr achos yn ein plith. wedi colli dau o'n swyddogion er y Calan diweddaf,—yr hen bercrin diddan Thomas Tw;ss yng nghyflawnder ei ddyddiau, a'r amryddawn John Ellis Jones yn anterth ei nerth a'i ddefnyddioldeb. Adroddodd Mr. R. O. Williams eiriau Ceiriog yn effeithiol, 9"1 nid wyt, fy tnrawd anvjylaf, a therfynwyd cyfarfod da trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau, Mr. 'R. 0. Williams yn arwain.—J.W. ASHTON-IN-MAKERFIELD Cyfarfod Cys'adlevol y Calan, 1917, Carmel (M.C.).—Cynhaliwyd cyfarfod llwyddiapnus iawn eleni eto, fel arfer. CymerWyd y gadair gan George W. Edwards, Ysw. (eghvys David Street, Lerpwl), ac arweiniai y Cyng. Job Roberts. Cloriannwyd yr ymgeiswyr eleni gan y gwýr a ganlyn Lien, y Parch. Edmund Griffith, Lerpwl, a'r Parch. Enoch Rogers, Ashton awen, Mr. Wm. Parry, Bolton; areitheg, Mr. J. H Jones, Gol. Y BRYTHON; cerdd, Mr. G. W. Hughes, G. & L.T.S.C., Lerpw] arlunio, Mr. W. E. Sutton, C.M.,Stubshaw Cross celfyddyd, Mrs.R.ParryJones, Warrington, a Mr. Rowland Parry, yr asiedydd, Ashton. Cyfeihvyr, Mri. Arthur Evans ac Arthur Jones, Ashton. Wele'r buddugwyr Prif draethawd, Rhyfel a Christionogaeth Mr. W J. Williams, B!. Ffestiniog. Eto, i rai dan 21, Peryglon a Phwysig- noydd Cyfnod leuenitid Miss Florrie Williams, Caer- dydd. Ateb cwestiynau ar y Maes Llafur dos. dros 25, Mr. James Williams eto dan 25, Mr. J. H. Jones. Cyfieithu Mr. W. J. Williams, Bl. Ffestiniog. Penillion, TroediPaeth Saul Mr. Evan Williams (Glyrl Myfyr), Bl. Ffestiniog^ Englyn, Cam Cynta'r Baban Glyn Myfyr. Canu Penillinn, i rai dan 18, ar yr alaw Lhvyn Onn 1, Phoebe Jones 2,13eatlice Williams; 3, Glyn Jones. Unawd, mynd, ty mant I, Barbara Roberts 2, Gwennie Roberts. Her-unawd Mr. Peter Roberts. Cor plant, M eddy I' iatt am v Nefoedd Cor Miss Maggie E. Thomas, yn cael ei arwain gan Llew Arfon, oherwydd jfwaeledd Miss Thomas. Parti heb fod dros 12 0 rif y don Treldraeth parti Peter Roberts. Unrhyvv jddeuawd, Mrs. O. R. Jones a'i chwaer Miss Edit Davies Parti heb fod drcs 25 o rif, T Ganan shd (Ambrose Lloyd) Brythoniaid," dan arweiniad Mr. Arthur Evans. Arlunic, i fechgyn dan 10 i, John Thomas 2, J. W. Roberts 5 3, J. Thomas. Etc, i fechgyn dan 15: i, Andrew Rogers; 2, Robert Hughes 3, Andrew Rogers. Photo frame Mr. Robert Hughes, Hemin, i enethod dan 12 1, Eleanor Roberts': 2, Maggie J. Roberts 3, Lizzie Edwards. Diolcbiadau gan y Parch. Enoch Rogers ac O. If. Jones. Y mae llwyddiant y cyfeirfod yn ddvledus i'r ysgrifennydd gweithgar, Mr. Griffith Jones. [Anghofiodd ein gohebydd roddi enwati r rhai buddugol ar adrodd, a diolchem amdanynt at y rhifyn nesaf.-Y Goi..j.