Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

IAtgof a Hiraeth

IIfSTAFELL Y BURDD

0 LANNAU TAF.

[No title]

News
Cite
Share

MYNNODD y Parch. David Jones, M.A., fleer Gorsedd, Tre'r Ffynnon, gael ei gladdu yn ei hen ardal, sef Nant Cunlle,SirAberteifi, ddydd Iau. Y mae'r Parch. D. Thomas, B.A. curad Dinbycli, wedi cael bywoliaeth Pentrefoelas, sy'n werth £ 250 yn y flwyddyn. Pan oedd gwasanaeth claddu'r diweddar Mr. Thos. Jones, Downhill, Bagillt, ar ganol cael ei gynnal yng nghapel Salem (W.), ddydd Mercher, dyma air fod ei chwaer, I Mrs. Bagshaw, wedi marw. Y hi'n weddw, a'i brawd a hithau'n cydfyw. Llanelwy, ebe'r Esgob Edwards, yw'r ddinas leiaf ym Mhrydain, canys nid yw ei phoblogaeth ond 1,833 ac eto i gyd, y mae cynifer a phedwar cant o 'i bechgyn wedi mynd i'r Taro Mawr dros eu gwlad. Mewn gwewyr y mae trefi glannau'r moroedd oblegid diofryd y Llywodraeth i gwtogi'r trenau. Clem a chaledisy'n wynebu llawer teulu, a blaidd Newyn yn dangos ei ddannedd gwynion drwy lawer drws. Cadweh lygad ar Doris Williams, merch Mr. a Mrs. Davd Williams, Soar, Llanfihangel, Nantbran, gynt, canys y hi sydd wedi ennill y wobr flaenaf yng Ngholeg Clarke, Llundain, allan o 'chwe mil o ymgeiswyr, sef am draeth- awd ar Uchelgais. Nid yw ond un ar bym- theg oed. Y mae'r Parch. Ddr. Oliver, Tre Ffynnon, wedi ymddiswyddo fel bugail yr eglwys Anni. bynnol. Daeth yno yn 1873. Fe'i hordein- iwyd yn 1854, ac y mae felly wedi bwrw deu- ddeng mlynedd o deugain yn y gwaith. Brodor ydyw o Lanfynydd, Sir Gaerfyrddin. Efe oedd cadeirydd yr Undeb Annibynnol yn 1903; ac efe a fu'n ysgrifennyddCynghrair Eglwysi Rhyddion y Gogledd am yn hir Y mae'n Ilenor a phregethwr a chenedlaethol- wr o fri.

Advertising