Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

IAtgof a Hiraeth

IIfSTAFELL Y BURDD

0 LANNAU TAF.

News
Cite
Share

0 LANNAU TAF. Dim ond gair byr y tro hwn eto, i ddymuno Blwyddyn f Newydd Dda i'r BRYTHON. Hyderaf yjcaf fwy o hwyl a hamdden i ysgrifennu wedi troad y dydd. Yr wyf ar fin. cymryd gwibdaith i Sir -Aberteifi-ffyn- honnell hynny o ysbrydoliaeth a lif i'm cyfeiriad i. Unwaith y croesaf afon Teifi i Landyssul, a chlywed yr hen iaith ynswnio yn ei hoewder cynhennid, teimlaf fy hun yn Gymro eto, ie yn fwy na Chymro, yn Gardi glan gloew. Ugain mlynedd yn ol, danfonais gerdyn i'r hen ardal o Southampton, gyda hyn o gyfeir iad Ar redeg dos at Gareg,iau,-gwron 0 Dolgarreg, treflan Ger Llandyssul, feingul fan— Dos acw i wlad y Sucan. I Walia deg hwylia di. Ac yn wir, aeth y nodyn i ben ei daith yn ddiogel. Mae Caregiau druan yn huno mewn bedd dinod arben y bryn ers llawer blwyddyn 'bellach cewch dipyn o'ihanes, efallai, yn ol Haw. Bwriadaf fynd i Ffostrasol,, pentref pwysig yn fy hanes i. Yno bydd y Siopwr Dafis ar ben y drws, yn edrych mor fires ei wyneb ag oedd ddeng mlynedd ar hugam yn ol, yn ysgol Capel Cynon. Mae'r siopwr yn wr o athrylith ae yn oracl yr ardal rhaid imi boidio a dweyd rhagor rhag y canlyniadau efallai y'm drwgdybir o geisio mwy na'm cyfran o siwgr ganddo. Mae'r ardal yn gyfoethog o gymeriadau, yn gloddfa aur i'r neb sy ganddo'r gallu a'r duedd i gloddio amdano. Beth pe bawn ddim ond enwi rhai ohonynt Shams Lhvyn- bedw, Ifan y Post, Tomos y Go', Daniel Jones Penrhiw, Nel y Rliyd, Anna Cwmbach, James Bryncynon, Cynfelyn y bardd, etc., etc., yn ddiddiwedd ac y mae'r rhai hyn yn fyw i gyd o rai ymadawedig y mae mil a mwy. o. Ryw dro, efallai y caf amser i ysgrifennu cyfres o erthyglau ar gewri'r pentref. Wrth gwrs, rhaid dewis y deri cedyni, nid y prennau crin. Hawdd iawn fuasai llenwi llyfr a sothach a budreddi, fel y gwnaethpwyd gan un adyn diras o'r ardal yn ddiweddar. Nid anurddaf lendid Y BRYTHON a'i enw na'i gyfeiriad. Ond dim rhagor y tro hwn ceisiais wneud englyn teilwng i gyfarch eich papur glan Cymreig ar ddechreu'r flwyddyn ond ni chefais gan yr Awen ond y llinellau amherffaith hyn BRYTHON glew mewn brethyn gwlad—a'i [Gymraeg Mor rhwydd teilwng gennad Ym myd dysg o'i fam a'i dad- Lien a Llafur Llynlleifiad.—S.

[No title]

Advertising