Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

o Big y Lleifiad.

I DAU TUPR AFON..

News
Cite
Share

I DAU TUPR AFON.. PRINCES ROAD: Y Gymdeithas Lenyddol. —Nos Fawrth yr wythnos ddiweddaf, caed darlith ddiddorol a galluog gan y Parch. H. Harris Hughes, B.A..B.D., ar John Henry Newman. Y cyfarfod dan ofal Mr. J. J. Thomas, a chaed gair ymhellach gan Mri. D. R. Jones, B.A., a J. Smeath Thomas, B.Sc. CAPEL WATERLOO.—Gwahoddwyd milwyr Cymreig Litherland a'r Sniggery i dreulie prynhawn a nos Nadolig yn ysgoldy'r eglwys uchod; manteisiodd rhwng wyth a naw ugain ar y cyfle, a chynrychiolwyd pob Sir yng Nghymru ond un, ac un cynrychiolydd o'r llynges hefyd. Amcanwyd cael Noson Lawen," ac ni siomwyd neb. Fe'u croesawyd gan y Parch, wm. Henry ar ran yr eglwys, a chan Mr. Wm. Parry ar ran yr Ysgol Sul. Paratowyd te gan Mrs. Henry, Mrs. M. J. Parry, Mrs. E. W. Jones, Mrs. H. Roberts, Mrs. J. Pritchard, MissG. Rowlands, Miss M. Davies, a Miss Gwen Taylor, B.A. Yn dilyn, cafwyd cyngerdd o dan lywyddiaeth Mr. D. R. Hughes, a llwyddiant y noson lawen i'w briodoli i'w ddull meistrolgar a'i arabedd parod. Cadwodd hwyl y cyfarfod ar safon uchel. Hawdd oedd canfod fod y milwyr yn gwerthfawrogi'r gwahoddiad, a phrawf o hynny oedd eu parodrwydd i wasanaethu yn y cyngerdd, fel y dengys hyn Can, Yr Hen Qerddor, Pte. H. M. Price (S.W.B.); adrodd- iad, Pte. D. L. Jones (S.W.B.); can, Jesu, Lover of my soul, Pte. R. S. Hughes (S.W.B.); adroddiad, Pat yn mynd i Lunden, Pte. D. J. Jones (S.W.B.); can, Yr Ornest, Pte. H. H. Hughes (S.W.B.): adroddiad, Y Llifeiriant, Pte. J. Williams (R.W-F.),; can, The Mighty Deep, Pte. J. R. Thomas (S.W.B.) adrodd- iad, Ymweliad yr Ysbeilwyr, Pte. W. Hughes (R.W.F.) can, Star of Bethlehem, Pte. Lloyd Jones (R.W.F.); deuawd, Gwys i'r (lad. Ptes. Jenkins a Thomas (S.W.B.). Canwyd penhillion gan Corporal Hughes (R.W.F.); canwyd Y Golomen TVen gan Miss Rachel Jones, a Cymrufach i mi gan Mr. P H. Jones. Trefnwyd cystadleuon mewn araith ddifyfyr, dadl ddifyfyr, ateb cwestiynau, enwi ton, barddoni, canu brawddeg, etc., etc. nid anghofir yn fuan atebion pert a doniol y Pte. D. L. Jones. Y mae amiyw o'r milwyr oedd yn bresennol wedi bod wyneh yn wyneb a'r gelyn un ohonynt wedi mynd trwj'c* encil o Mans, Loos, Neuve Chapelle, a'r Somme. LJawenychid gweld un sydd wedi ennill Military Medal,, sef y Pte. Roberts (R.W.F.). Dyma, atebiad un o'r bechgyn i'r gofyniad Pa bryd v terfyna'r rhyfel ?'* Pan fydd Prydain Fawr a'r gwlcdydd sy'n ymladd gyda hi wedi rhoddi eu hymddiried yn Nuw." Fel hyn y canodd un o'r milwyr I r eyfarfod: Mae gwrando bechgyn Cymru Yn adrodd ac yn canu. A Hughes mor ddigri' gyda'i wits, Yn ymlid fits o'r neilltu. Cyfeiliwyd gan Miss G. Rowlands, Miss V. Henry, a Corporal Hughes, a rhoddodd Mr. J. W Davies wasanaeth g rem off on. Dyma lythyr a ddaeth i law arolygwr yr Ysgol Sul (Mr. W. Parry) oddiwrth y Pte. Hugh Owen (S.W.B., a'i gartref yTn Mhorth dinorwig), o Ffrainc, dyddiadig Rhag. 17 Cefais Ysgol Sul a phregeth Gymraeg heddyw Proff. J. O. Thomas y Baja. yma'n gwasanaethu. Mae yma lawer iawn o Gymry a chwrddais ag amryw a fu'n derbyn caredig- rwydd a. chroeso yn Waterloo. Carem i gyd son amdanoch yna. Credaf yn gydwybodol fod eich gwaith wedi bod yn foddion i gadw llawer bachgen rhag colli ei ffordd. Mae yma lawer o ganu hen emynau a thonau, ac yr oeddwn yn meddwl heddyw, beth, tybed, a ddywedai yr hen Wm. Owen, Prysgol, pe gwyddai fod yna ugeiniau o fechgyn Cym ru yn canu Deemster a Bryn Calfaria yn Ffrainc ar brynhawn Saboth fe synnai, y mae'n sicr, ond y mae eu canu'n cynnal ein calon, ac yn fendith inni oll.Yr Oedfa Gan Nos Saboth ddiweddaf (Rhag. 21), yng nghapel Waterloo, ar derfyn yr oedfa, aed drwy raglen gerddorol. Canwyd unawdau a deuawd gan Mri. Harry Lewis, Nelson, a Josiah Thomas, L.R.A.M., Abertawc, a chwaraewyd damau ar yr organ gan Miss Vera Henry. Rhodd- wyd boddhad mawr i bawb oedd yno, a chasglwyd yn agos i dair punt at gronfa St. Dunstan Hostel er cynorthwyo'r milwyr sydd wedi colli eu golwg yn y rhyfel. Cafwyd anerchiad pwrpasol iawn ar Emynau Cymreig gan y Parch- D. D. Williams. Wele'r rhag- len Emynau, Peraidd ganodd ser y bore a Wele cawsom y Messiah. Unawdau gan Mr. Harry Lewis, Llaisyr 1 esu a'r Pennilladroddai fy nhad gan Mr. Thomas, unawdau, Lead, kindly Light, a Friend. Gan y ddau, deuawd Watchnmn, what of the night ? Gan Miss Henry ar yr organ, How lovely are thy du ell- ings a'r Hallelujah Chorus. Y Cyfarfod Cystadleuol Rhagfyr 26, cynhaliwyd Cyfar- fod Cystadleuol yn ysgoldy'r capel cynhull- iad da a chyfarfod rhagorol. Arweiniwyd gan Mr. W. Parry. Y buddugwyr fel y caiily-n Traetliawd i bob oed. Ail Enedigaeth, Miss Blodwen Davies a Mr. E. H. Roberts yn gyfartal i rai dan 16,. Y Mor a'i wersi Enid Roberts. Arholiad Ysgrythyrol dan 21, 1, Dilys Lloyd. Dan 14 1 Enid Rob- erts 2, Olwen Jones; 3 Howell Jones. I Dan 12: 1 Cecil Jones: 2 Gwyneth Rob- erts 3 Eifi Hughes. Dan 10 1 Ceridwen Davies a Myfanwy Roberts. Dysgu Allan dan 21 1 Dilys Lloyd 2, Catherine Hughes. Dan 14 Iry, Enid Roberts. Dan 12: 1 W.G. Williams: Gwyneth Robert: 6, Trevor Jones. Her-unawd Miss L. Wynne Evans. Dan 16 Cenhadon bach ym ni I Kowell Jones; 2 Dolly Hughes; 3 Enid Roberts. Genethod dan 1 Dilyn Iesu I Eifi Hughes 2, Dilys Hughes; 3 Gwyneth Roberta. Bechgyn dan 1" Lyndhurst 1 Cecil Jones; Rowell Jones 3 Trebor Jones. Plant daa 8 Diriott A rglwydd Icsu Maurice Jones. Adrodd Job xxviii 1 Olwen Uoyd; 2, Blodwen Davies. 0 dan 16 Heddyw: 1; Gwyneth Roberts; 2 Dolly Hughe.. Dan 12, I on awr l, Edward Davies a Gwyneth Roberts 2, Menna Roberta ac Eifi Hughes. Dan 8, Gweddi 1, Gwyneth Davies 2, Olwen Thomas. Cyfieithu i'r Saesneg Mr. E. H. Roberts, Mrs. Hugh Roberts i'r Gymraeg: Miss M. Thomas, Mr. Hugh Hughes. Chwe phennill, Gwirfoddolwr: Mr. O. Jones. Englyn, Gwrthwynebwr Cydivybodol Mr. Watkin Morgan. Dictation 1, Olwen Jones 2, Enid Roberts. Crayon 1, Gwyneth M. Roberts; 2, L. Humphreys. Map 1, Richard Thomas ■ 2, Howell Jones. Dialogue Gymraeg 1, Enid a Gwyneth. Morgan. Toffee: Olwen Jones. Observation test: 1, Prichard Thomas 2, D. T.Davies. Beirniaid adrodd, etc., y Parch. R. W. Roberts, B.A.,B.D. canu, Mr. J. D. Jonee. EGLWYS ANNIBYNNOL PARK ROAD.— Bore dydd Nadolig, am 11, daeth eynulleidfa gref i uno mewn mawl ac addoliad i Dduw am ei ddawn anhraethol. Arweiniwyd yr holl wasanaeth gan y Parch. J. Vernon Lewis, M.A.,B.D. Darllenodd rannau dethol a chyfaddas o broffwydoliaeth Mica, ac arwein- iwyd mewn gweddi gan yr Hybarch Ddr. Owen Evans. Cymerodd Mr. Lewis Salm xl, 7-8, yh destyn, a gyfieithiai ei hun fel hyn Wele fi wedi dyfod; yn rhol y llyfr yr ysgrifennwyd fy nyletswydd—hyfrydwch i mi yw gwneuthur dy ewyllys Di, 0 fy Nuw, a'th gyfraith Di yw y peth dyfnaf ynof." Fel arfer, aeth Mr. Lewis i enaid y gwirionedd a ddysgid yn y geiriau, a ehymhwvsodd wersi buddiol ac amserol oddiwrtho. Yn ddios, y mae gweinidog galluog Park Road yn un o Parhad ar tudal. 6. —

Advertising