Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

GOSTEG.

Crhoeddwyr y Cymod Y Saboth…

Advertising

I DAU TU'R ArON. !

News
Cite
Share

I DAU TU'R ArON. CYNGERDD CANNING STREET.-Llwyddiant mawr fu'r cyngerdd a gynhaliwyd yn ysgoldy capel Canning Street nos Lun ddiweddaf. Ar waethaf yr hin a'r tywyllwch, llannwyd yr ystafell eang a chynulleidfa astud, ac yr oedd gwledd amheuthun yn ei haros. Cor Meibion enwog y Cymric ydoedd y prif atyniad, ond yn anft'odus methodd ei arweinydd poblogaidd, Mr. J. T. Jones, a bod yno, gan ei fod yn dioddef dan annwyd trwni, a cbymcrwyd ei le yn effeithiol gan Mr. R. Vraughan Jones. Synnem glywed y cor yn canu mor gryf a swynol, wrth gofio fod cynifer o'r aelodau oddicartref yn y Fyddin, a iechyd i galon ac ysbryd dyn ydoedd gwrando arnynt. Dyma'u darnau heio Excelsior, The Jolly Roger, Ar hyd y nos a Gcyr Harlech, The Old Brigade, Cydgan y Morwyr. Watchman a The Old Folks at home. Yr ofjddynt yn 11awn o ysbrydiaeth fyw. Yr unawdwyr oedd Miss Jean Mitchell (soprano), Miss Annie Hughes (contralto), Mr. James Williams (tenor), a Mr. R. J. Williams (bass), y owbl yn canu'n dda, ac wedi dethol caneuon o safon uchel, a bu raid i'r cwbl ail-ganu fwy nag unwaith. Hefyd cafwyd nifero adroddiadau campus gan Miss Anita W. Duncan. Cyfeiliwyd yn fedrus gan Miss Ella Davies, L.R.A.M. Y llywydd ydoedd y Cynghorwr D. Jackson doniol a diddan diolchuyd i'r cwbl ar gynhygiad Mr. Daniel Jones, a dinvvmvyd cyngerdd van gamp i'r pen gyda'r anthemau ccnedlaethoL CYMDEITHAS LENYDDOI. DOUGLAS ROAD.-Nos Wener, o dan lywyddiaeth Mr. Evan Jones, cafwyd dadl hwyliog cydrhwng Miss Lizzie Williams, Spellow Lane, a Mr. Henry Williams, Feltwell Road, r A ddylai pob cylch fod yn agored i gydymgais rhivng y ddau ryzo ? Ar ol agoriad pur alluog i'r ddwy ochr, aed a'r ddadl ymlaen gari Mrs. Henry Williams, Miss Susie Edwards, lri. D. Jones, T. Jones, J. J. Parry, W. H. Williams, R. W. Roberts, H. Roberts, a'r Parch. G. Wynne Griffith, B.A., B.D. Mwyafrif mawr yn ffafr agor pob drws i'r rhyw deg.—R.J.J. MARSH LANE .'A.).—Bu'r eglwys uchod yn dewis rhagor o ddiaconiaid nos Sul ddiweddaf a dyma'r brodyr a ddewiswvd Mri. J. W. Jones, 117 Peel Road; R. Williams, 137 Thornton Road; T. B. Williams, 98 Beatrice Street.-T.R. MARTIN'S LANF., I-ISCARI).-Y Sul cyntaf o'r mis cawsom wledd gan Mr. J. Hugh Edwards, A.S., oedd yn ei hwyliau goreu, er mai yn yr iaith fain y pregeth- ai. Pregethai yn y bore ar T disgyblion ar ben Myn- ydd y G-weddiie-vidiad, a'r hwyr yn rymus iawn ar y geiriau hynny yn y Datugddiad, A'r ddaear a gyn- orthwyodd y wi-,iig." Y capel yn orlawn y nos, a phawb yn teimlo cyfaredd a grym yr Efengyl. Yr oedd Mr. Edwards i ddarlithio ar r Rhylel ac wedi hynny nos Lun, ond oherwydd yr argyfwng bu raid gohirio hyd nos Wener, ac aeth y darlithydd at ei waith i'r Senedd bore dydd Llun ond nos Iau, caf- odd y Parch. T. Price Davies bellebyr oddiwrtho, fod Mr. Asquith wedi gnhv cyfarfod o'i bleidwyr yn Llundain nawn dydd Gwener, ac y buasai yn amhos- ibl iddo ddod. Lhvvddodd Mr. Davies 1 gael y Parch. S. R. Jenkins, Seaforth, yn ei le. Darlithiodd ar The Romance of the Royal Welsh Fusiliers, yn odiaeth o ddiddorol. Ei hamcan oedd cael cysuron i'n milwyr a'n morwyr, a throdd allan yn llwyddian- nus iawn. Y cadeirydd oedd Mr. Thos. Morgan, Wallasey, a gwnaeth ei waith yn anrhydeddus a hael. Diolchwyd gan y Parch. T. P. Davies a Mr. R. H.Jones,a therfynwyd trwy i Mr. Tom Roberts arwain y gynulleidfa ar ganu Hen Wlad fy Nhadau a Ditto gadzw/r Brenin.-E.H.R. TÓIL GWALIA, EDGE LANE.—Nos Fawrth yr wythnos ddiweddaf, cafwyd can, 0 rhowch i mi bregeth Gymrae?, gan y Chwaer Olwen Hughes adroddiad" y Chwaer Dora Jones. Cystadleuaeth adrodd ystori, goreu—y Br. W. Williams. Anerchiad rhagorol ar Ddirwest gan Corpl. Davies. Adroddiad o'r Ddos- barth Demi a gynhaliwyd yn Stanley Road gan y Brodyr H. Davies a G. Davies. Canmolent y wedd levvyrchus sydd ar y Demi yn Stanley Road gresyn na chyfyd ychwaneg o Demlau i weithio dros yr achos. Llawenydd digymysg oedd derbyn Mr. David Roberts, Kensington, o'r newydd. Croesawyd ef gan y P.D. a r tsr. u. Davies, M. Uavies. a GJyn j Roberts. Cyfeiliodd y Chwaer Phyllis Edward., Llywydd, y P.D., Br. J. M. Evanq.-C),niraes, PRINCES ROAT), r Gymdeithas Lenyddol.Nos Fawrth yr wythnos ddiweddaf, darlithiai'r Parch. Tecwyn Evans, B.A., i ystafellaid lawn, ar brif emynyddes y byd,—Ann Griffiths. Caed gair a diolch gan Ilri. R. Lloyd Phillips a J. J. Thomas, a chan y Parch. H. H. Hughes, B.A.,B.D., llywydd y cyfarfod.-Gobeb. Y PARCH. JAMES SALT YN EGLWYS DEINIOL SANT, Upper Parliament Street.-Dylai'r Efengylydd hwn, fel negesydd y Genhadaeth Genedlaethol, gael derbyniad croesawgar yn y ddinas hon, oblegid pwy na wyr am ei ddoniau melys a'i ddylanwad mawr fel pregethwr grymus a phoblogaidd ? CYFARFOD CYSTADLEUOL EGLWYS STANLEY RD. —sef i'r plant, Rhag. 6. Mr. R. Vaughan Jones yn arwain; Misses Blodwen Jones a Jennie Schieman yn cyfeilio; Mr. G. W. Hughes, G.'& L.T.S.C., yn bamu'r canu Miss Enid Parry yn delynores a Miss Aerona Griffiths yn ysgrifennydd. Dyma'r enillwyr Traethawd Annie Jones a Katie Roberts. Eto, Treat y Plant: Glyn Jones. Cerddoriaeth Unawd, Tn Nyfjryn Clvuyd: i, Hannah Roberts 2, Glyn Jones. Nos Calatt Gwennie Jones. T Deyrn Pur Alice Richards. Canu PenilJion Dora Jones. Unawd ar y berdoneg, Arabesqzie i, Alice Richards; 2, Tudor Davies. Eto, Botidoletto 1, Hilda Owen 2, Martha Roberts. Ear and Rhythm Test 1, Enid Parry; 2, Hilda Owen a Gwennie Jones. Modsilaior Test, i, Myfaiiwy Jones a John Lloyd'; 2,Gwennie Jones, Dora Jones a Willie Lloyd, Adrodd Baner eitl Gwlad: II, Tudor Davies; 2, Dorothy Jones 3, Hilda Owen. Mary facb groes i, Maggie Davies 2, Dorothy Hughes; 3, Hannah Roberts. Dtcy law Eluned Davies. Pencil sketch, # Motor:Amhulallce.. t, Herbert Pierce; 2, Herbert Jones & a Howell Jones. Plasticine Modelling: 1, W. GlynJones; z, Fred Griffiths 3, W. J. Owen 4, Enid Parry. Home-made Toffee i, Hilda Owen 2, E. Lloyd. Painting, Sprig of Holly: Howell Jones. Llawysgrif, R. Glyn Jones. Arholiadau Ysgrythyrol: dan 9:1, Maldwyn Davies 2, Eluned Davies. Adrodd y Deg Gorchymyn: 1, Maggie Davies 2, Hannah Roberts. Dysgu Allan: dan 8: Eluned Davies. Safon III: Maldwyn Dav- ies, Jennie Owen, Jennie Lloyd. IV: Hannah Roberts, Gwennie Jones. V Glyn Jones, Edward Owen, Martha LI. Jones. VI: Maggie Davies. VII: Tudor Davies, Dora Jones. VIII 1 Katie Roberts. IX: Alice Richards, Adeline Hughes, May Richards, Blodwen Davies. WATERLOO Noson gyda Cheiriog.-Dyna oedd flurf cyfarfod dlweddaf Cymdeithas Lenyddol Water- loo, a chafwyd hwyl dan gamp. Y chwaer lengar, Miss Gertrude Rowlands, a ddarlithiai ar athrylith prifardd telynegol Cymru,gan ddangos ei ddylanwad arhosol ar fywyd a barddoniaeth Cymru a'n dyled iddo yn herwydd yr hyn a wnaeth i gadw'r hen alawon Cymreig rhag mynd ar ddifancoll. Adroddai a dar- llenai Miss Rowlands ddamau prydferth o waith y bardd, ac nid oedd darn anniddorot yn y ddarlith o'i rhagymadrodd gwych hyd at y diweddglo. Cynorth- wyid hefyd mewn canu ac adrodd gan amryw gyfeill- ion Mr. John Lewi s yn adrodd r Llytbyrgod, a'r Preifat Ivor Lloyd r Garreg Wen, tra y canwyd Ti wyddost betk ddywed fy nohalon, gan bedwarawd-Mrs T. W. Pierce, Mrs. J. P. Thomas, a'r Ilri. W. S' Roberts a J. P. T bomas; Yr Eneth Ddall gan Miss Rachel Jones Breuddzvyd y Bardd gan Miss Gwen Taylor, B. A., a Bugail yr Hatod gan Mr. R. II. Jones. Buom hefyd yn crwydro drwy ardd Dinas Bran ac ar Fynydd Aberdyfi yng nghwmni Myfanwy a Hywcl ac Alun Mabon a Menna, ac heibio ami i Nant y Mynydd cyn cychwyn ohonom "'Tuag Adre' Gyda'r fath wledd, nid rhyfed'd fod y cyn- hulliad yn fawr ac y diolchid yn gynnes, gynnes, i Miss Rowlands a'i chynorthwywyr caredig. Mr. John Lloyd a lywyddai, a chafwyd ychydig sylwadau ar y diwedd gan y Parchn. Wm. Henry a J. O. Jones (Llandderfel), a'r Md. H. D. Lloyd Thomas, D. R. Hughes ac E. H. Roberts. Darllenodd Mr. Roberts ddyfyniadau o Ivthyrau rhai o'r bcchgyn yn Ffrainc yn dymuno'n dda i'r Gymdeithas. Cartref 'Oddi- eariref i'r Mxlzvyr ddydd Na(lolr* g .-Trefnp, Ysgol Sabotho! a Chymdeithas Lenyddol Waterloo i wahodd milwyr Cymreig y ddau wersyll yno i de brynhawn dydd Nadolig, ac i gael cyfarfod cartrefol iddynt rhwng te a swper pawb mewn hwyl a ffwrdd a hi." Bwiiedir agor yr vstafelloedd yn y prynhawn, trefnu te o 4 hyd 5, a chynnal y cyfarfod am tua 6 ar gloch. Daw amryw o gyfeillion i gyn- orthwyo drwy adrodd a chanu.ond ceir hefyd nifero gystadleuaethau a diau y bydd y milwyr yn barod i gymryd rhan drwy'r cyfarfod fel ag i'w wneud yn lhvyddiant perffaith. DOD ADREF FARW.—Dyna hanesj Mr.J R. O. Pritchard, unig fab Mr. a Mrs. Wm. Pritchard, 56 Orient Street. Arferai fynd i'r mor gyda'i dad. Cymerwyd Bob yn wael tua chanol yr haf, a hynny yn y Hong a thrwy daer erfyniad y tad, can- iatawyd iddo gael aros yn y llong, a bu ynddi am rai wythnosau syn dioddef, er yn cael pob caredigrwydd. Daeth adref, a hawdd oedd i'r craff ganfod fod yr hen elyn wedi ei farcio. Y tair neu ychwaneg o wyth- nosau dhvedt'ac, fe'i hanfonwd i'r Hospital, Linacre. Yno y bu farw, yn 271 mJwydd oed. Claddwyd ei weddillion, hynny ocdd yr hen nfiechyd wedi ei adael, prynhawn Sadwrn, yng nghladdfa Anfield. Gwasanaethwyd gan y Parch. G. Wynne Griffith, B.A.,B.D. Yr oeddym yn meddwl mai ekyno y clywsom y weddi fwyaf eff(hhiol a glywsom erioed. Mac'n cydymdeimlad yn fawr iawn a'r teulu, yn arbennig y fam. Dyma'r trydydd claddedigaeth o'r ty hwn ojfewn yr ychydig fisoedd diweddaf.—dwy ferch, Nellie a Clara, y naill a'r llall wedi priodi, a .chanddynt ill dwy blant bychain, ac erbyn hyn Vv cwbl ohonynt 0 dan nawdd y nain. Deallwn hefyd fod ym mwriad Bob briodi fis Ebrl] ne^af. a mawr yw galar ei ddyweddi druan. Y claddu o dan ofa! Mr. P. Lloyd Jbnes.—D. Jones. Y DnVEDDAR MR. ROBERT ROBERTS, BARKLEY DRIVE.—Bu ef farw nos Fercher- ddiweddaf, yn 57 mlwydd oed. Brodor oedd o Langwm. mab y di- weddar Hugh a Margaret Roberts, Brynnanau. Daeth i Lerpwl 32 mlynedd yn ol, gan vmaelodi yn eglwys Stanley Road,lie y bu tri o'i frodyr o'i flaen. Pan sefydlwyd eglwys Peel Road, symudodd ef a'i frawd, Mr. Hugh Roberts, yno, a bu'r ddau'n weith- gar yn casglu at y capel newydd, a buan Ý daethant yn golofnau dan yr achos yno. Mae Mr. Hugh Roberts yn flaenor yno ers llawer o flynyddoedd tua 30 mlynedd yn ol dewiswyd Mr. Robert Roberts yn flaenor y gan. Yr oedd llawer 0 gerddoriaeth yn ei natur, a chafodd y fantais o eistedd tf rth draed un o'r athrawon goren, y diweddar Thomas Roberts, Llangwm gynt, a Phrion wedi hynny. Prynhawn dydd Sadwrn, daeth tyrfa luosog i hebrwng ei weddill- ion i fynwent newydd Bootle. Gwasanaethwyd gan y y Parchn. R. W. Roberts, B.A.B,D., a W. Henry Sylwodd Mr. Roberts y teilyngai deyrnged dda o'n parch, pe am ddim ond ei 32 mlynedd o wasanaeth ffyddlon i'r L. & N.W. Railway, 30 mlynedd 0 was- anaeth fel arweinydd y canu yn eglwys Peel Road, a chyflawnodd y swydd anodd honno a deheurwydd mawr. Meddai feddwl agored. Pan awgrymid ryw welliant iddo, cymerai ef i fyny ar unwaith heb rwgnach. Yr oedd yn gymeriad dymunol, gwr car- edig, parod iawn ei gymwynas i bawb. Yr oedd ei ofal am ei deulu'n fawr. Dysgodd ei blant fel y dylai tad wneud. Meddai ffydd gref yn yr Efengyl"; yr oedd grym neilltuol yn ei weddiau. Mae'n colled yn fawr ar ei ol. Gedy weddw, dau fab, ac un ferch, mewn galar dwfn ar ei ol. Ei fab hynaf yn y Fyddin, ond a gafodd ddod adref i gladdu ei dad. Nawdd y Nef fyddo drostynt yn yr awr dywell. Trefniadau'r angladd yng ngofal Mr. P. Lloyd Jones, Stanley Road.-Ei hen gyfaill Hugh Evans. Fel hyn y canodd Ap Lleyn i'w ymadawiad :— 0 fyd blin a'i ynfyd bla-áwyddodd Am Heddwch y Wvnf a, Ni gfiri yn awr esgynna Yn y Ner dyner a da. KINGSTON YN DIDDORI'R SAESON—Wedi clywed yr adroddwr cnwog yn Oakvale, penderfynodd cyfeill- ion capel Saesneg Stanley ei gael ef a'i briod dalentog yno nos Sadwm cyn y ddiweddaf, i agor y tymor yng nglyn a'r Brotherhood. Amheuthun i'r Saeson yw clywed Cymro 0 athrylith yn adrodd campweithiau'u prif awduron, fel y profai'r ystafell orlawn. Real treat (ys dywedent) oedd ei glywed yn rhoddi recital o Enoch Arden. Hynod fedrus ydoed-d hefyd gyda rhannau eraill y rhagien, y chwareus ag ynddynt crgydion marwol i arferion a syniadau cyfeiJiomusyr oes. Da gennyui ddeall fod elw' sylweddol wedi ei sicrhau, yr hyn fydd yn galondid Fr FrawdoHaeth weithgar. CYFARFOD MISOL LERPWL.—Yn Crosshall Street, Rhagfyr 0. Mr. J. Bellis yn y gadair. Hysbysodd Mr. Jas. Venmore, Y.H., mai'r swm a ddisgwylid i eglwysi'r Cvfarfod Misol gyfrannu at y neuadd, yn Cinmel oedd £ 100 ac fod bron yr holl eglwysi, gan gynnwys yr eglwysi bach dan ofal y Genhadaeth Gartrefol, wedi gwneud eu rhan, ei fod wedi derbyn jfiu 5s. 5d., ac y gwneld gwaith ardderchog yn Kinmel Hall.—Yr wythnos weddio wedi ei threfnu i ddechreu Rhag. 31 y Cyfarfod Misol nesaf i'w gynnsl Rhagfyr 27.—Pasiwyd i anfon.cydymdemlad c ewythr H. H. Roberts (David Street) a theulu Evan Jones (Waterloo), y ddau wedi syrthio yn y rhyfel; ac A'r Parch. R. Aethwy Jones, M.A., a'r Parch. J. Evans (Beaconsfield Street) yn eu gwaeledd. -Adroddiad o Gymdeithasfa Connah's Quay gan y Parch. J. Williams, Huyton Quarry. Y Gymdeithas- fa'n dymuno sylw'r Cyfarfodydd Misol at Addysg Grefyddoljry Plant yn yr ysgolion beunyddiol, a Chenedlaethol/r Fasnach Feddwol. Dilynwyd gan y Parch. O. J. Owen, M.A., a Mr. J. Williams, David Street. Sylwodd Mr. Lewis Roberts fod prif organ y Cyfundeb yn hynod unochrog ar y mater Dirwestol, ac y dylem gael trafodaeth,bwyllog ynfy Cyfarfod Misol, fel y gallem arwain yr eglwysi. Pasiwyd i'r Pwyllgor Dirwestol drefnu hynny. Sylwodd y Parch. J. Hughes, M.A., fod yn ofidus ganddo glywed yng Nghymru yr wythnosau diweddaf nad oedd Ilawer o athrawon yr ysgolion yn gymamt a chydnabod Duw mewn gweddi wrth agor yr ysgol ar ben bore. Pasiwyd 1 gyflwyno'r genadwri i bwvllgor addysg y Cyfarfod Misol.—Cenadwri o Webster Road yn gofyn am frodyr yno ar y i7eg o'r mis hwn i gynorthwyo'r eglwys i ddevvis gweinidog. Penodwyd y Parchn. J. Owen, G. W. Griffith, Mri. R. Roberts, Y.H., a J. Hughes (Princes Road).—Cenadwri o Seacombe fod eu gweinidog yn ymadael, a llythyr oddiwrth y Parch. Lodwig Lewis yn gofyn am gyflwyniad i Gyfarfod Misol Dwyrain Morgannwg. Datganodd y llywydd golled y Cyfarfod Misol ac eglwysi'r cylch yn ym- adawiad Mr. Lewis. Cynhygiodd y Parch. O. J. Owen, M.A., ein bod yn rhoi llythyr calonnog iddo. Gofidiwn ei golli ar ol chwarter canrif o wasanaeth ffyddlon. Ccfnogwyd gan y Parch. J. Hughes llon- gyfarchai Mr. Lewis ar ei fynediad yn ol i'w hen Gyfarfod Misol yn y Dedeudir, ac i cglwys Cruglas-mam eglwys Abertawe yno y'm bedydd- iwyd, ac yn y fynwent honno y gorwedd llwch fy nhadau—R. Lumley a David Howells. Datganodd Mr. T. Humphreys Jones ofid eglwys Seacombe o'i golli, a'u dymuniadau goreu iddo. Mae'r eglwys dros bedwar ugain oed dau weinidog fu yno o'r cychwyn -Richard Lumley a'r un sydd yn ymadael. Diolch- odd Mr. Lewis am deimladau da'r Cyfarfod Misol ac eglwys Seacombe, a'r arwydd fod ei weinidogaeth yn cael ei gwerthfawrogi. Daeth yma'n bur ieuanc. Credaf i mi gael cenadwri traddodais hi'n hollol ddi dderbyn-wyneb.—Dewiswyd y Parch. O. Lloyd Jones, M.A.,B.D., a Mr. T. Humphreys-Jones, Sea- combe, yn llywyddion am y flwyddyn nesaf.—Dar- llenodd Mr. R. W. Roberts adroddiad Pwyllgor yr Ysgolion Sul; y Parch. J. D. Evans adroddiad Pwyllgor y Cynghorwyr Mr. Lewis Andrews (Princes Road) wedi ei ddewis i gylch y cynghorwyr adroddiad pwyligor lleoi y Genhadaeth Gartrefol gan Mr. Robert Evans achos newydd wedi ei gychwyn yn Neston pwyllgor cynrychiolwyr yr eglwysi gan y Parch. W. Henry. Pasiwyd i ddiolch i Mr. J. Hughes (Princes Road) am ei lafur yn trefnu'r cy- hoeddiadau am y pum mlynedd diweddaf.—Adrodd- iad am y gwaith mawr a wneir ymysg y milwyr gan Mr. D. Jones Hughes, mewn cysylltiad a brodyr a chwiorydd o fysg y gwahanol enwadau. Rhoddwyd te a chroe-o i 2,400 o filwyr y flwyddyn ddiweddaf y gwaith wedi ei ddechreu etu y gaeaf hwn, a thros 700 o"J,filwyr wedi eu'croesawu Gwariwyd dros £ 80 y llynedd mewn ffydd y deuai'r arian i mewn, ac ni'n siomwyd. Awn ymlaen eto eleni: gweithia'r chwiorydd yn ardderchog. Mae eu llafur yn werth- fawr i'r milwyr ac i grefydd. Trefnwyd i'weinidog a chwaer ymweled a'r ysbytai lie mae clwyfedigion. Hanes y milwyr yn Lathom Hall gan y Parch. E. J. Evans, ac yn Knowsley gan y Parch. J. Williams, Huyton. Datganodd y Cyfarfod Misol lawenydd wrth glywed am y llafur cariad hwn. — = f

Advertising