Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

?'TT' 'Er'

News
Cite
Share

 ?' T T' 'E r <r? PWT GOSTEG. 1 Llitboedd d Lloffl.—Dyma'r bedwaredd ar hugain o Lithoedd Llofft Stabal yr HEN WAS wedi cyrraedd, a honno'n llith ddofn ac athronyddol iawn y tro hwn, sef ar y pwnc dyrys a dreiniog hwnnw Y Da ynteu'r Drwg yw'r dyfnaf mewn dyn ? Deil y fantol yn deg o bobtu ond ar du'r Da y try'i glorian yn y diwedd, ac fod cyfiawnder a thrugaredd yn fwy gwreiddiol hyd yn oed na phechod gwreiddiol, er mor hen a dwfn hwnnw. I ddangos mor ddwfn yw'r diddordeb a deimlir yn ysgrifau'r Hen Was, a'r lies mawr sy'n deillio o'u doethineb iach a'u hiwmor dan gamp, clywais ddarllenydd cyson arnynt yn eu defnyddio i brofi ei bwnc yn yr Ysgol Sul y Saboth diweddaf, sef ar bwnc cysegredigrwydd rhag-gyfeill- ach, a pheidio a gwneud caru'n sbort," chwedl Philosoffar y LIofft. Daw'r 24am ddydd Iau nesaf. Meudwy Caerludd. Y mae ganddo ef ysgrif feirniadol ar rai o donau Ilawlyfr Cymanfa Ganu Genedlaethol Aberystwyth. Fe ddaw honno, a'i hambell gyngor ac awgrym i Bwyllgor Birkenhead at Gymanfa 1917, yn Y BRYTHON nesaf. Gwaedd y De.-Diotch i Mr. Haydn Lewis, llywydd Cymrodorion Port Talbot, am ei bwt; anfoned yn amlach, canys y mae gwyr y De o fannau eraill yn gwaeddi am fwy o le yn Y BRYTHON. Caffed amynedd ei pherffaith waith fe geir mwy o leiddynt hwy a Chymry'r Gogledd pan ddarffo'r rhyfel ac y diffoddo'r tan digasedd a dialgarwch sy'n mygu mor hir ac mor uchel o ffwrn y Cyfandir. Cawod y Bwriadau Dwyfol Oddiuchod a'i diffydd wedi'r cwbl, ac nid cawod bwledi dyn. I Ganol y Shonis,-Bu'r Merlyn ar 'sgawt ddeg diwrnod drwy ganol Shonis y De'r wythnos ddiweddaf a'r gynt; ac er fod ei garlam yn gyflym, a'r hin yn niwliog, fe welodd amryw bethau y byddai'n anodd ganddo bddb t dweyd gair amdanynt, hydyn oed o'u gweld ar gip. Fe ddechreuir hanes y trotyr wythnos nesaf.

---- RHAUFYRI

C Kiddwyr -y Cymod I

Family Notices

- 1 ,II Cydymdeimlo.

Basgedold olp Wlad.I

I YN EISIAU.

Advertising