Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

YSUFELL Y BEl ROD

Cylchgrawn Danes y M.C-

News
Cite
Share

Cylchgrawn Danes y M.C DECHBEUA ein Cylchgrawn Hanes ei ail flwyddyn yn galonnog. Rhifa aelodau'r Gymdeithas a gynrychiolir ganddo yn barod 361, ac mae lie i gredu y gwerthir yn llwyr yr argraffiad cyntaf o 500 o'r Cylchgrawn, a theimla'r Golygyddion awydd argrafEu 750 o Rifyn iii. Gobeithiwn yn fawr y byddwn yn cynnal eu breichiau yn yr anturiaeth hon. Diddorol ydyw'r rhestro'ruifer a dderbynnir o'r Cylchgrawn o fewn cylch y gwahanvi Gyfarfodydd Misol a Henaduriaethau. Ac yirigyfyd y cwestiwn,—Pa fodd i gyfrif am yr anwastadrwydd mawr yn y nifer dderbynnir f Cymerer a ganlyn fel engh reifftiau Dwyrain Morgannwg, 52; Liverpool, 31; M6n, 28: Arfon, 26 Brycheiniog a Maesyfed-y rhan- nau arbennig a fu'n grud i'n Cyfundeb, 4 Ffiint, 3 Dwyrain Dinbych, 3; Trefaldwyn Isaf, 3 Manchester, 2; Henaduriaeth Maldwyn, 1. Bwriedir dwyn allan y Cylchgrawn rhagllaw yn chwarterol, ac nid yn hanner blynyddol. Credwn mai mantais fydd hyn, cedwir ni felly mewn cyffyrddiad agos a gwaith y Gymdeith- as, ceir tamaid blasus yn ami. Yn ychwan- egol at y Cylchgrawn gobeithia'r Gymdeithas allu dwyn allan, o dro i dro, adargraffiadau o bamffledau gwerthfawr sydd erbyn hyn yn brin ac yn anodd eu cael. Yn wyneb ystad I bresennol yr Ysgol Sabothol yn ein mysg fel Cyfundeb, dymunol iawn, fel yr awgryxair, fyddai cael adaigarffiad o bamffled Thomas Charles o'r Bala ar Reolau i ffurfiad a threfnu yr ysgolion Sabothol," a gyhoeddwyd ganddo yn y flwyddyn 1813. Mae cynnwys y rhifyn presennol o'r Cylch- grawn yn dra diddorol. Ceir ynddo ddwy ysgrif werthfawr ar Lyfryddiaeth, y gyntaf yn barhad o ysgrif fiaenorol gan un o'r golygydd- ion, ac yn cynnwys rhestr o'r Ilyfrap a chyfeir- iad ynddynt at Howel Harris, a'r llall yn cynnwys rhestr o lyfrau yn ymwneud a gwahanol agweddau ar hanes a datblygiad ein Cyfundeb. Gyda rhestrau fel hyn ao ym- chwiliadau y Gymdeithas i gyfnodau bore ein Cyfundeb, bydd gennym,yn y man, ddefnydd- iau lied gyflawn i ysgrifennu hanes ein Cyf- undeb fel y dylid ei ysgrifennu. Mae llawer o swyn yng Cyfarfod Misol Sir Ffiint." Enwau lawer geir ynddo, mae'n wir, ond enwau sydd yn ddiddorol, nid yn unig ar gyfrif eu bod yn arweinwyr crefydd yn y sir yn nydd y pethau bychain," ondhefyd,fel y sylwa ysgrifennydd yr erthygl, am, mai o'r graig hon y naddwyd "William Thomas," Benjamin Prys," Abel Hughes," "Robert Wynn," Noah Rees, a ♦' Gweinidog Bethel gan Daniel Owen. Mae pregeth Daniel Rowland Llangeitho a Dyddlyfr RichardTibbot a geir yn y rhifyn yn dra derbyniol, ac yn meddu ar lawer o werth hanesyddol. Tarewir dyn yn fawr gan fyw- iogrwydd dychymyg y ddau efengylydd. Mor fyw disgrifiad Richard Tibbot o'r mab afrad* Ion fel bigel y moch." Mae'r bregeth a'r Dyddlyfr yn werthfawr iawn i rai a gymer ddiddordeb yn nhafodieithoedd gwahanol rannau o Gymru a'r geiriau gwlad a ddefn- yddir ynddynt. Parha'r Parch. M. H. Jones ei erthygl ar "Sasiynau Caerfyrddin." Fe deflir yn yr erthygl hon nid yn unig oleuni ar hanes crefydd, gwelir pwy oedd yr hoelion wyth ar wahanol gyfnodau yn hanes ein Cyfundeb ,pwy a bregethai yn yr uchel-wyliau, a pha destynau gymerent. Teifl yr erthygl hefyd lawer o oleuni ar y cyfnewidiadau cym- deithasol a ddaeth dros Gymru yn ystod y can mlynedd diweddaf. Sieryd y dyfyniadau a ganlyn o'r erthygl drostynt eu hunain "Sasiwn 1823: Fel yn y Sasiynau blaen- orol, telid am ginio i'r cynrychiolwyr yn nhafarndai y dref, megis y Three Salmons, Golden Lion, a'r Now Inn costiodd £ 5-13-6 i gael benthyg cae i osod 64 o geffylau ynddo dros y ddeuddydd. Cawd digon o fara, menyn a chaws, yn rhad gan amaethwyr y gymydogaeth i ddiwallu anghenion y bobl a dyrrai i'r cyfarfodydd, a briweddwyd 60 galwyn o ddiod yn rhad iddynt gan Thomas y Malster." y Sasiwn 1827 ceir mai 64 o geffylau cynrychiolwyr a 44 o geffylau dieithriaid y bu rhaid darparu ar eu cyfer, a thalwyd i'r Golden Lion 17-4-10 am 79 cinio a £ 4-0-8 i'r New Inn am 44 cinio dros ddeuddydd y Sasiwn. Bu 16 o weinidogion yn gwas- anaethu, ond naw yn unig fu yn pregethu a thalwyd £2 cydrhyngddynt." Mae'n amlwg mai eithriad ac nid rheol oedd i'r cynrychiolwyr i'r Sasiynau fod yn llwyr- ymwrthodwyr yn ystod hanner cyntaf y bed- waredd ganrif ar bymtheg. Yr oedd y Parch. Ebenezer Richards, Tregaron, yn un o'r eithriadau hyn. Ynglýn ag amryw Sasiynau ceir y cofnod a ganlyn mewn perthynas iddo ef-" Milk for Eben. Richards-6d." Ceir pethau da yn ybennodferadeitliryn Friwsion Hanes," ac ychwanegir at ein gwybodaeth drwy'r cwestiynau a'r atebion ar ddiwedd y rhifyn. Argraffwyd y Cylchgrawn ar bapur da, mae'r rhifyn drwyddo o ran ei ddiwyg yn lan ac yn ddestlus. Gobeithio yr ychwanegir nifer sylweddol at ei dderbyn- wyr. Am bob manylion pellach ymofynner a'r Parch. M. H. Jones, B.A., Ton, Pentre. D. D. WILLIAMS

Advertising

fin Canedl ym Manceinion.…

Advertising