Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

0 Bant iBentan I

Gorea Cymro, yr on Oddiear…

Advertising

Clep y Clawdd sef Clawdd Offa.

News
Cite
Share

ofn newid rhag i'w praidd syrthio mewn cariad a'r gwin newydd. Hwyrach mai'r peth nesaf fydd clywed fod yr actorAlecsander wedi bod ym mhulpud Sant Paul. Buddugoliaeth y Glo-wr.Clyw glowr y Clawdd gyda boddhad mawr am fuddugoliaeth y Deheuwyr. Y maent i gael codiad o bym- -theg y cant, yn ol eu cais, yn union, gan gymryd hamdden i fynd i mewn i fanylion pethau erbyn yr audit nesaf. Bechgyn am eu pwynt yw bechgyn y Sowth. Maent yn gryfhad mawr i'w brodyr gwannach yn y Gogledd. Ar ol y rhyfel hwn fe gyfyd y glowyr yn uchel yng nghyfrif y wlad. Gwelir yn awr na ellir gwneud hebddynt, ac fe gyfyd pob un ohonynt yn ei bris. Rhaid eu dysgu gyntaf sut i ddefnyddio eu cyflogau i bwrpas byw. Y Tribunlys.-Dywedir ar y Clawdd mai'r syndod mwyaf i fechgyn y ffosydd yn'Ffrainc yw'rtribunlys. Ni wyddant beth i'w wneud a hwn. Pan geir hamdden cydrhwng yr ymladdfeydd, dadleu'r tribunals, a darllen eu hanes, y byddis. Mae comments y beehgyn yn ddiddorol iawn, fel y dywedir, ac yn true to nature i'r blewyn. Y Tanc ar y maes a'r Tribyn gartref yw'r syndod mwyaf heddyw. Yr Arch Ffoadur.—Dygwyd ffoadur milwr- ol o flaen llys Gwrecsam ddydd Mawrth di- weddaf perfchynai i'r R.W.F. yng Nghinmel Pare. Dywedai y byddai'n ffoi bob tro y j byddai angen mynd allan arno, ac'mai'r ffordd honno oedd yr hawddaf, os nad yr unig ffordd, i gael leave yn awr. Cedwir llygad arno yn y dyfodol. Caled ar y Dafarn.-Mae nefoedd a daear yn erbyn y dafarn y dyddiau hyn mae tan Duwadynameudifa. Cydioddtan dyn yn y Volts yng Ngwreesam yr wythnos o'r blaen, a daeth tan o'r nefoedd, o fellt a tharan ar draws a thrwy dafamdy yn y Bwlch Gwyn yr wythnos ddiweddaf. Gwyrthiol fu i'r teulu ddianc. Gwibiodd y mellt drwy'r simneu, gan hyrddio popeth o'u ffordd, drifflith-dra- I fflith. Ni welwyd y fath alanas erioed, ond achubwyd preswylwyr y ty, sef hen wreigan I a'i dwy ferch, yn wyrthiol. Eglur yw mai yn erbyn y ty yr oedd y storm, nid yn erbyn y j trigolion. Dyma wers i ddirwestwyr lawer, ¡ sef arbed y bobl a dymchwel y ty, sef ty I I ? -?, 11 "Sellus' irarocicl y pexn gynro nia oyenan yn ardal dawel Bwlch Gwyn. 'Steddfod Shotton.-Poth newydd yn hanes y lie newydd hwn yw Eisteddfodau. Rhyw Saeson diddawn a di-len a drigai gynt yn yr ardal hon, ond yn ddiweddar arllwyswyd cafnaid o Gymry brwdfrydig i'w plith nes lefeinio'r cwbl; ac nid cynt y daeth y Cymro na ddaeth y capelau Cymraeg a'r Eistedd- fodau i'w ganlyn. Yn awr, nidoes fawr fisheb ei eisteddfod. Fis yn ol caed un yn y Queen's Ferry eto yr wythnos ddiweddaf yn Shotton. Gwneir gwaith rhagorol drwy'r rhain. Tynnir Uu o Gymry at ei gilydd, a gwelir amgen chwaeth Cymro i Sais. Daliwch ati, Shotoniaid. Y Pwdin Plum.-Daw hwn gydag argoelion y Nadolig bob blwyddyn. A da'i weld. Yn ei agwedd allanol tebyg yw i Elhnyn a'i helmet yn gorchuddio ei gorun ond oddi- fewn nid Elhnyn yw. Dywedir ddanfon tros bum cant ohonynt i'r R.W.F. i'r wrth-fibs gan foneddwr o'r Sir, sef Sir Ddinbych. Bydd yn angenrheidiol rhoddi labels arnynt i'w gwa- haniaethu oddiwrth y shells, rhag i rai o'r bechgyn ddyfod i brofedigaeth. Fe fydd y b;.cWh !F7 yn bwdinedig iawn o hyn hyd ddi- wedd y flwyddyn. Cwestiwn, A yw plwm pwdin yn help i ymladd ? Y mgyrch Ddirwestol.—Mae DyffrynMaelor. yn ymbaratoi am ymgyrch ddirwestol fawr Disgwylir y Canon Mastennan a Mr. Lief Jones, A.S., i annerch, heblaw'r Barwnig Herbert Roberts a'r amryddawn E. T. John. Yn awr yw'r adeg i draflyncu y Fasnach i ddifaneoll. Mae ei thranc wrth y drws. Deellir y ceir dau gyfarfod mawr: un yng Ngwrecsam a'r Hall yn y Rhos, wrth gwrs. Eisieti Nyrsus Gartref.-Gwneir gwaith tra rhagorol gan y Nyrsus sydd gartref, fel y rhai oddicartref, y dyddiau hyn. Mawr ganmolir Nurse Lewis, Gwersyllt, am ei gwaith. Cred y pwyllgor y bydd yn rhaid cael un nyrs arall yn ychwanegol ati i gyflawni'r holl waith. Mae cynnydd mawr yn y lie hwn, ymhob ystyr. Nid oes brinder arian ychwaith. Mae'r ysgrifennydd Griffiths yn egriiol dros ben, a rhoddwyd iddo bumpunt yn ei law fel offrwm diolch am ei lafur. Cildwrn reit dder- byniol erbyn y Nadolig. Cyfarfod Mawr y (,q f Gyfarfod Mawry n.-iNiae pobl y Cefn yn drwm ar gefn y ddiod. Gwahoddasant Mr. Wilson, ysgrifennydd diflino yr Alliance, i'w hanner h, a chaed cyfarfod brwdfrydig nas I anghofir yn fuan. Siaradwr penigamp yw Mr. Wilson, nid yn ami y olywir ei well. Dywed <dd ffeithiau geir won am anfadrwydd I v ddiod gadarn yn ystod y rhyfel presennol. Dylid eael gan y, gwr hwn fynd dr.)s yr holl wlad, i argyhoeddi pob copa o wallgofrwydd I yfed. Colli'n Hadroddwr.-Bwrn deall syrthio J o Peleg Lloyd Parry, gynt o'r Lodge, yn j Ffrainc. Yr oedd Peleg yn adroddwr glow 1 pan yn y wlad yma, ac yn byw ar y Clawdd yma gyda'i ewythr wr pur, Mr. John Morgan. Aeth Peleg drosodd i New Zealand dipyn o amser yn ol, a chaed colled yma ar ei ol. oblegid fiafrddyn a defnyddiol oedd. Garw yn awr o'i syrthio, ac yntau ar do riad y rhyfel wedi ymrestru ymhlith yr Anzacs. Mae hiraeth dwfn ar y Clawdd ar ei ol ymhlith Ilu mawr o'i garedigion annwyl. Cydymdeimlir yn fawr a Mr. a Mrs. Morgan, y Lodge, Brym. bo. Tywyllwch a Goleuni y Rhos.-Mae tywyll. wch y Rhos wedi taflu goleuni rhyfedd ar amryw bethau'n ddiweddar. Ar y dech reu yr oedd gonnod o oleuni, a gorfu cosbi pobl y capel. Wedi hynny, fe ddaeth tywyllwch ar bethau, a dywedwyd llawer mewn dallineb. Drachefn ie ddaeth gwawr o rywle, a gosod- wyd. pethau a phersonau yn eu lie yn y llys yr wythnos ddiweddaf. Mae'r tywyllwch dieithriol hwn yn peri helbulon lawer. Bryd y codir y blinds ? Medals Rif y Gwlith.-Disgynna Medals ar fechgyn y Clawdd am eu gwrolwaith yn y ffosydd, fel cawodydd trymion o wlaw Cym- reig. Dewrion bawb, ac ni fydd mynwes yn fuan heb fathodyn neu riban. Nid yw Cymry yn ol yn un lie. Mae pawb yn gweld eu rhagoriaeth ond Saeson cibddall. ac y mae'r Sais yn dech reu agor ei enau'n awr mewn syndod, a'i lygaid gan edmygedd. Darlithwyr y Clawdd.-Yr Wyddgrug Pedair Crefydd Fawr y Byd, gan y Parch. A. Shipman Rhos y medre Alcohol, gan y Parch. E. K. Jones, Cefn. Llanrhaeadr: Y Beibl a'r Rhyfel, gan y Parch. Ward Williams, Gwrecsam. Brymbo Cydivybod a'r Wladwriaeth, gan y Parch. Talwm Jones. Johnstown Kilsby Jones, gan y Parch, Thomas Jones, ?Rhostyllen. Llangollen Eglwysi Cadeiriol Cymreig, gan y Parch. ? D. T. James, M.A. Rhos (A.) Ochr ?oH Bywyd, gan y Parch. T. Idwal Jones., Gwyliau'r Clawdd.-Brymbo (A.) y Parch T. E. Thomas a'r Parch. W. Daniel. Bwlch Gwyn (A.); y Parchn. H. W. Parry a George Jones, Rhos. Llangollen (E.L.) y Parch. D. Edward Davies, Brymbo. ,()-