Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

IIF GOSTEG. I

OYDDIADUR. I

Gyhoeddwyr y CymodI Y Smboth…

Advertising

Clep y ClawddI sef Clawdd…

News
Cite
Share

Clep y Clawdd I sef Clawdd Offa [GAN YR HUTYN.] I Eisteddwch Eto !-Gofynnwyd i'r cyd- gadeirydd, set Mr. R. Sauvage, cadeirydd Pwyllgor Addysg Tref Gwrecsam, ddal i eistedd yn ei gadair am flwyddyn eto. Cyd- syniodd yntau a hynny. Mae'r gadair hon wedi bod yn o anesmwyth yn ddiweddar Digwyddodd rhywbeth i'w springs hi, ac fe aeth rhai o'r pigaii i ghawd y cadeirydd C'ododd ohoni, ac nid eisteddai yn ei ol nes ei gwneud eto yn gomfforddus. Bu cryn lawer o drosi a thrwsio ar y gadair am ysbaid ond credir yn awr ei bod mor gomfforddus ag erioed, a bodlon yw'r hen gadeirydd i eistedd stem eto ynddi. Gwr da yw'r Cadeirydd Addysg, ond os ymhelir ag ef, mae yn berygl iddo fod i fyny a'i enw. Fit go ryfedd.-infae pob math o bethau y dyddiau hyn, newydd a hen. Cafodd rhyw ddynes fath ar ffil o'r ffasiwn newydd yn nhref Gwraig Sam, sef oeddhonno, ffit ahoglau diod ami. Wir, nid mor newydd hon hefyd cyffredin iawn ar y Clawdd yma. Fit of drunkenness y goilw'r Sais hwynt ac y mae efe'n gwybod, hen law ydyw yn y peth hwn. Math o ffitiau costus iawn ydynt. Dirwywyd rhyw greadures yn y dref i bumswllt ar gyfrif un o'r rhai,u heblaw costiau eraill i ddwyn y ffit oddiamgyleh. Gwyliwch y ffitiau yma, bobl Nid ydynt yn ffit i neb dynol eu cael. Nag ydynt, wir! Chwarae Triwant.-Ffodd rhyw filwr y dydd o'r blaen i gael golwg ar ei fam cyn dychwelyd yn ol i faes y frwydr. Yng Nghamp Kinmel yr oedd, yn gwella o'i glwyfau, ar ol bod allan dan gawod greulon yrhun., Feadylasai'rbechgyngaelffarwelio a'u mamau. Pwy a wyr nad dyma'r tro ilaf i'r truan hwn osod Ilygad ami ? Pa beth bynnag ddigwydd, fe fydd gan y fam hon goffa tyner o'i bachgen a ffodd o'r gwerysll" milwrol er mwyn cael uncip arall ami. -ae miloedd o filwyr dewr yn y ffosydd heddyw a roddent bopeth am weld eu mamau, a mamau hefyd am gael un olwg ar eu bechgyn annwyl. Amser rhyfedd fydd hwnnw, When the boys come home." Rhyfedd y dod yn ol.-Daeth tyrfa o filwyr clwyfedig yn ol o faes y gwaed dan eu harchollion i Wrecsam y dydd o'r blaen. Rhyfedd y gwahaniaeth rhwng mynd allan a'r dyfod yn ol. Pa sawl clwyfedig sydd wedi dyfod i mewn i'r dref hon yn unig oddiar ddechreu'r rhyfel ? Rhaid eu bod yn llu mawr erbyn hyn. A dyfod y maent o hyd. GoJwg pruddaidd iawn sydd ar y dychMsledig- ion ond erhynny, nid oes neb yn isilfb ?gd. Credir y ceir buugoliaeth lwyr maeso law. Daeth y diweddamf hyn yn syth o'r Somme. Milwyr y Clawdd dan eu briw.-Daw hanes dyddiol am friw rhyw filwr neu gilydd tua'r Clawdd yma. Bydd 61 y brwydrau hyn ar y genhedlaeth hon, ac ni ddileir hwynt nes daw cenhedlaeth arall i mewn. Mae bechgyn annwyl Mr. Parry, Acrfair, wedi eu clwyfo'n arw, a chlywn eto am fab Mr. Llewelyn Jones, yr Wyddgrug. Hefyd mab annwyl yr hy- barch J. E. Powell, Gwrecsam. Dymunwn iddynt y gwellhad goreu posibl dan yr am. gylchiadau. YDdawns yn ogof lladron.-Gwelir mai nid y goreuon sydd yn mynychu'r dawnsiau. Cyhuddir rhai o ladrad ynddynt, ac hefyd fe ddigwydd gwaeth lawer tro. Ofnir fod y dawnsiau hyn yn myned yn amlach ar y uiawaa Y ayaaiau nyn, a gwneir y riiytei yn es?us drcs eu cael mema ami fan. Rhaid fvdd codi rhyfe! yn erbyn y rhain eto. Gosodwyd hwynt i lawr gan ein tadau co dir hwynt yn awr eilwaith gan ddosbarth mwyaf iselwael cymdeithas. A fydd plant y tadau yn ddigon cryf a gwrol i'w gosod i lawr eto, tybed ? Mae'n llawn bryd codi i'w herbyn. Mae Popeth yn dda. "-Felly fe ddywedir y mae hi yn y Fron, sef y Fro-ncysyllte. Cenid hynny mewn cydgan yng Nghyfarfod Ysgolion Sul dosbarth Llangollen, ac yr oedd hwyl fawr ar y canu ac ar bopeth o ran hynny. Pobl ryfedd iawn yw plant Shon Gorff. Canant fod popeth yn dda ar ronser ofnadwy a dychrynllyd fel y presennol. Eglur iawn ma.i nid yn y byd hwn y maent hwy'n byw. Yroedd y cyianod yn dda odiaeth, a gwnaeth J y llywydd, sef y Pencerdd, ei waith yn l'hag- orol a'r Parch. Wm. Rowlands, y cateceisiwr, I j yntau ei orchwyl yn ganmoliaethus. Bechgyn am Syrtifficets.—Pobl fflamgoch efo I pob mynd yw pobl y Brymbo. Gwnant yn dda odiaeth efo'r cynllim igynhilo argyfer amcanion rhyfel. Dywedir fod dros banner mil o syrtifficets rhyfel eisoes wedi eu prynnu ganddynt. Well done, wir Ond gofalwch beidiorhoi'rarianigydi'r rhyfel. Maeeisiau ychydig at waith yr Arglwydd: Os anghofi- iweh hyn fe ddaw tryinach pwn arnoch, sef dyrnod y Talwrn uchel ei gorun. Y Ddiod ar (Ian.-T-)rrodd tan allan yn Folts y Wynnstay Arms y dydd o'r blaen, a buasai wedi ysgubo popeth o'i flaen onibae am y Cwnstabl Edwards, yr h W 11 mewn pryd a welod y mwg. Proffwydoliaeth, mae'n debyg, yw hyn o'r hyn sydd ar ddyfod, sef y gwneir i ffwrdd yn ddioed a'r Vaults, ac a'r tafarndai maes o law. Rhaid iddi ddyfod i hyn. A gweddillawer un heddyw ydyw Cerdd ymlaen, nefol dan, Cymer yma feddiant glan. Dywedir fod y golled -dr,,vy'r tka yn rhyw hanner can punt. Major neu'r Parch.—Gwelir fod y Parch. Peris Williams wedi ei wneud yn Fajor. GWna Mr. Williams waith da yn-ihlith y milwyr allan. yn Ffrainc, a sieryd y milwyr a ddaw i gy- ffyrddiad ag ef yn uchel ohono. Ond cas beth" gan y Clawdd yr hen deitlau bydol hyn ar bregethwyr. Hyderaf mai'r Parch." Peris Williams fydd ef, Ac nid Major. Edrych y Major yma'n hyll wi-th enw gweinidog Efengyl. Estronol sain yw i glust Cymro. Cancr y Ci-tawd.-Da y gwnaeth y Dr. Drinkwater godi y mater hwn i sylw'r dydd o'r blaen yn y dref. Dywedodd bethau ofnadwy. Cododd hwynt o, Report y Royal Commission on Venereal Diseases. Dangos- odd yn eglur berygl y wlad, ac ystad anfoesol pethau yn ein plith. Er mai Lloegr yw'r bechadures fawr yn hyn, nid yw Cymru yn rhydd o bell ffordd. Dywed ffeithiai-i. bethau atgas iawn am lawer rhanbarth yng Nghymru lan. Rhaid codi llais ar lwyfan a phulpud yn erbyn y mawrddrwg hwn. Dywedir hefyd mai diota sydd yn arwain yn bennaf i hyn, a daw pethau yn llawer gwell wedi atal y ddiod. Ond ni Nmit hynny'r cyfan. Dywedir fod iniloedd o'n milwyr yn dioddef oddiwrth y pla hwn, ac fod yn rhaid eodiysbytai pwr- pasol ar eu cyfer. DioleVt i'r Dr. am godi sylw a.t y peth vma, Dirtvest.—Hwyrach na fu cymaint o bre- .gethu dirwest ar y Clawdd yma erioed na'r Saboth o'r blaen. Mae Dirwest wedi cael sylw mawr yn ystod y rhyfel, ac i gael mwy eto yn y dyfodol. Yr oedd y pregethu, meddir, yn danllyd, a Ilym dros ben. Teimlid fod gan bob pregethwr genadwri wresboeth oddiuchod. Yroedd y cynulleidfaoedd mewn mwy o gydymdeimlad a'r pregethwr nag a fuont erioed o'r blaen, ac y mae hynny'n siarad cyfrolau. Mae arwyddion amlwg ym mhob cyfeiriad am well pethau yn y dyfodol buan. Gu-yliau]r Clawdd.—-Rhos (A.), y Parch. D. Miall. Ed\yards, M.A., Coleg Aberhonddu; (B), y Parch-. E. Mitchell, Rhos (pregeth Dirwest). Brymbo y Parch. Charles Jones, Gwrecsam (Dirwest). Southsea (C.), y Parch.. Peter Price, D.D:, Rhos. Wern (C.), y Parchn. J. Talwm Jones ac 0. J. Owen, Rhos. Gwersyllt (C.), y Parchn. J. Milton Williams, Froncysyllte, ac Evan Roberts, Pentrefoelas (E.L.), y Parch. D. Edwards Davies, Brymbo. Darlithiau\r Clawdd.—Johnstown Pre- gethwyr Qd, gan y Parch. E. B,owell, B. A., B, D. Rhos. Rhos Crefydd Tennyson, gan y Parch J. P. Griffiths, B.A., Rhos Ochr Arall Bywyd, gan y Parch. Idwal Jones, Rhos. Bwcie Rhamant y Cennad, gan y Parch. D. Ward Williams, Gwrecsam. Glanrafon (W.),: Y Gwyrthiau, gan y Parch. J. Meirion Jones. Llangollen Ben Bowen, gan Dyfnallt,

Advertising