Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

DAU TU'R AFON.I

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

DAU TU'R AFON.I Cyfeiriad Mr. Owen Hughes sydd yn gofalu am yr ystafelloedd cenhadol mewn cysylltiad ag eglwysi Anfield Road a Stanley Road yw 64 Carisbrooke Road, Kirkdale. Tysteb Genedlmethol Pedrog. Dyma'r tanysgrifiadau a ddaeth i law yr wythnos hon Mr. Griffith Davies, Llanuwchllyn. 2 2 0 Mr. Q. W. Owen, M.A., Liverpool. 110 Mr. W. Thomas, Birkenhead. 1 1 0 Mrs. Owen, The Willows 1 I 0 Miss Thomas, eto i 110 "Post," per Bank 0 10 6 Y Parch. O. Lloyd Jones, M.A.,B.D. 0 10 6 Mr. Ellis Owen, Wallasey 0 10 0 Eglwys BQ.drinag,llt 0 10 6 Y Parch. O. Lloyd Owen, Pont y pndd 0 10 0 Mr. J. Vaughan Hughes, Liverpool 0 7 6 Y Parch. O. J. Owen, M.A., W'Krby 0 5 0 Y Parch. T. T. Phillips, Bala 0 5 0 Mr. Wm. Jones, Fairfield 0 5 0 Y Parch. Jas. Edwards, Neath 0 5 0 Mr. Charles Williams, Liverpool 0 2 6 Mr. Wm. Roberts, Aberangell 0 2 6 Cybi 0 2 6 Cyfanswm hyd yn hyn £ 314 14 0 Wele'r englyn ddanfonodd Cybi gyda'i dan- ysgrifiad Ond rhagor na hanner coron-ar allor Ewyllys, ddyd calon Y bardd, at y Dysteb hon Gwell nag aur ga' llaw'n gwron. Nos Sadwm, Rhag. 2, cynhelir Noson Nantlle yn ysgoidy Crosshall Street, i groes- awu trigolion y Dyffryn sydd wedi sefydlu ar lannau'r Mersey yn ystod y gwasgariad, y ddwy flynedd ddiweddaf cyfle i'r rhai sydd wedi hen gynefino a, Lerpwl a'i droeon chwith a thrwstan i ysgwyd Haw a'u hen gyfeillion a'u llonni pan oddicartref. Gwel Hysbysiad. FARNWORTH, GEit BOLTON.Tachwedd 10, bu farw Mrs. Catherine Roberts, Moses Gate, yn 66 oed. Bu'n wael ers tro, ond bu farw'n hynod sydyn. Fe'i claddwyd ym mynwent Caeathro, Citernarfon, ary 14og, lie y claddwyd ei phriod, Mr. John Roberts, tuag ugain mlynedd yn ol. Fe ddaeth y teulu yma i fyw o Gaernarfon yn 1888. Bu ef yn was- anaetligar, iawn tra bu. Yr oedd Mrs. Roberts yrun mor ffyddlon hyd y diwedd, yn Grist ion pur ymmhob modd, Yrhyn a allodd hon, hi a'i gwnaeth," a'r teulu yr un modd. Ddoe (sef y Saboth), cafwyd pregetli goffa gan Mr. Griffith Jones, Lerpwl. Cynulleidfa dda.-IV.H. CYMDEITHAS LENYDDOL DOUGLAS ROAD' —Cafwyd dadl ddiddorol nos Wener diweddaf o dan lywyddiaeth Mr. Norman Morris, ar y testyn, Pa un ai mantais ai anfantais i grefydd fyddai u.1w'r eizkadau ? Agorwyd yn bur ddeheuig gan Mr. Morris Ellis a Mr. P. Griffiths. Cafwyd sylwadau pellach gan Mr. Thomas Jones, Mr. Wm. Pritchard, Mr. Hugh Owen, Mr. Evan Jones, Mr. David Jones I a Mr. Henry Hughes. Er na aed i bleidlais, aanlwg mai uno oedd dymuniad y mwyafrif o'r siaradwyr.:—R.J.J. MARW MAM YN ISRAI;,L.-Taeltwedd 22, ar ol pedwar diwmod o gystudd, yn nhy ei merch (Mrs. Eccles, 20 Ettington Road, Lerpwl), bu farw Mrs. Elizabeth Lewis, mam ein cyd-ddinesydd adnabyddus, y Parch. W. A. Lewis, a'r Parch. H. C. Lewis, B.A., B.D., Llandudno. Ganed Mrs. Lewis.gerllaw Aberystwyth, Ebrill 28, 1837. Collodd ei phriod yn yr America, a bu'n weddw am 26ain mlynedd. Treuliodd y chwarter canrif diweddaf o'i hoes yng Ngwrecsam a Lerpwl. Yr oedd yn aelod ffyddlon o Eglwys Rydd y Cymry, Donaldson Street, a bu'n dra gwas- anaethgar i achos crefydd ar hyd ei hoes faith fel y tystiwyd yn yr angladd. Yr oedd yn chwaer hynod o ddeallus, a pharhaodd ei meddwl yn fywiog a'i hysbryd yn dirf ac iraiddhydeichystuddolaf. Bu'n fam dyner, ofahis, ac ymdrechgar. Claddwyd ddydd Sadwrxi diweddaf yng nghladdfa tref Gwrec- sam. Gwasanaethwyd yn y ty cyn cychwyn gan y Parch. J. Lewis Jenkins (Oakfield I Road); yn y capel ac with y bedd gan y Parchn. J. T. Jones, B.A., B.D. (Rhosddu), O. L. Roberts a David Davies (Lerpwl). Y galarwyr oedd Mrs. J. Crewe a Mrs. W. H. Eccles (merched), y Parchn. W. A. Lewis a H. C. Lewis, B.A..B.D. (meibion), Mri. Albert Crewe, Fred Crewe, a Trevor Crewe (wyrion), Misses Manon Lewis a Gwynefh Lewis (wyresau), Mrs. W. A. Lewis, Mrs. H. C. Lewis, a Mr. W. R. Eccles (plant- yng-nghyfraith), y Parch. James Richards, GyfEylliog (cefnder). Yr oedd yn bresennol hefyd gyfeillion o Lerpwl a Gwrecsam. Y mae mab arall (Mr. John M. Lewis) a'i deulu yn byw yn Canada. Cydymdeimlir yn ddwys a'r teulu yn eu trallod a'u hiraeth. Yr oedd holl drefniada-u'r angladd yn riwylo Mr. R. W. Evans, trefnwr angladdau, 155 Kensington.-—Gyfaill. PitiNOES ROAD Y Gymdeithas Lenyddol. -Nos Fawrth yr wythnos ddiweddaf, cawsom ddarlith wych gan y Parch. D. D. Williams ar Rhai agxoeddau • ar fywyd Oymru yn oes Elizabeth. Dangosai'r darlithvdd 61 ymchwil diwyd am yr hanes yng ngweithiau'r beirdd mewn hen gofnodion, ac mown enwau fel Coed poeth, etc. ac er mor brin oedd ei ddofnydcliai-t, cawsom ddarlith gyfoethog o wybodaeth. Bwriodd olwg ar hanes Cymru yn ei diwycliannau, eihaneddau, ei thlodi, ac ymddygiad y wladwriaeth tuag ati. Llyw. yddid gan y Parch. H. Harris Hughes, B.A., B.D., a thalwyd y diolch gan Mri. J. J. Thom- as a J. R. Morris. Yn y cyfarfod cynt darllenwyd papur da gauMiss Gwladys Evans ar y gosodiad Nad oes i Ramant a Chwedl- oniaeth hawlmewn llenyddiaeth, os nad ydynt yn rhoi gwedd biydferthach ar fywyd nag Y sydd." Drwg gennym fod y Par(.-Ii. J', Howell Evans, gweinidog yr Eg lwys Saesneg yn Orrell, yn cwyno ers peth amser, a'r meddyg wedi ei Qrcliymyn i beidio a phregethu am rai wythnosau. Ond deallwn ei fod ar ei fEordd i wella, a disgwylir y bydd yn ail afael yn ei waith yn fuan. CYMDEITHAS CYMRTX FYDD ANFIELD.— Nos Fawrth, y 2lain cyf., cynhaliwyd cyfar- fod blynyddol yr uchod, o dan lywyddiaeth Mr. Evan Williams. Darllenodd Mr. J. Vaughan If. ughes, yr ysgrifenn,ydd arianno], adroddiad boddhaol. dros ben, yn dangos y swm o £ 126 7f, lId. mewn derbyniadau, a gweddill mewn Ilaw ar derfyn y flwyddyn o 4/11. Yr oedd holl fuddiannau (assets) y Gymdeithas yn 361,049 98. Id., a'r dyledion (liabilities) ond £ 8 9s. 9d. Rhif yr aelodau, a chyfrif y rhai oedd yn y fyddin, oedd 300, Casglwyd y swm o £50 tuag at Gronfa'r Mil- wyr clwyfedig, i'r hon yr oedd Mr. Vaughan Hughes yn drysorydd, ac anfonwyd 130 o barseli allan i'r ffrynt, a chynhaliwyd cyfar- fodydd adioniatdol i'r milwyr unwaith bob wythnos. Diolchwyd yn wresog i'r swyddog- jon am eu Uafur ymroddgar gan Mri. Hy. /Jones, C.D., ac Arthur Venmore, ac ail ethol- wyd hwynt. Wedi hyn, cafwyd rhaglen benigamp o ganu, adrodd, ac actio, trwy gar- edigrwydd Mrs. H. E. Jones. Y datgeiniaid oedd Misses L. Read a Lily Humphreys, a'r Mri. R Vaughan Jones a Sam Evans, gyda Miss.M. Evans ar y delyn, Miss Mabel Jones wrth y berdoneg, a Mr. J. W. Jones fel ysmal- iwr doniol. Dibenwyd gyda sketch ddigrifol odiaeth, Id on Parle Frixncais ycyrneriadau yn cael eu chwarae yn gelfydd ryfeddol fel y canlyn Major Regulus Rattan, Mr. Arthur E. Jones Victor Dubois, Mr. J. W. Jones, Mr. Sprig gins, Mr. Arthur E. Clarke Mrs. Spriggins, Miss Edith F. Sharpe Angelina, their daughter, Miss Winifred A. Thomas Julia, wife of Major Rattan, Miss M. Watter- son Thomas Anna Maria, a maid of all work," Miss Marjorie Thomas. Diolchwydi'r cadeirydd, Mrs. H. E. Jones, a'r artistes, gan Mr. Richard W illiams a Dr. Chas. Edwards a chlowyd y gweithrediadau a chwpanaid o de melys yn yr ystafell uwchben. CYMDEITHAS LLEN A CHERDD CHATHAM STREET.—Nos Fawrth, Tachwedd 21, cafwyd darlith gan y Parch. David Adams, B.A. Grove Street, ar Theodore Watts-Dunton a Chymru. Cafwyd darlith dda ac adeiladol, ac fe ddyfynnodd y darlithydd ambell i ddarn yn dangos edmygedd Dunton o olygfeydd Cymru a theithi meddwl a hynafiaeth y Cymry. Yn wyneb y sylw a delir i Watts-Dunton ar hyn o bryd, yr oedd y ddarlith yn hynod amserol. Diolchwyd gan y Mri. R. E. Jones a Glyn Davies. Llywyddid gan y gweinidog, y Parch. R. R. Hughes, B.A.-R.E.B. COFIO MILWYR GAN EU CYDWEITHWYR.- Tua diwedd mis Hydref, ar awr ginio, cyfarfu gweithwyr Mri. Morris a Jones, Ltd., whole- sale grocers, o dan lywyddiaeth Mr. Lloyd Hughes (cashier) i ystyried beth allent hwy wneud i'r milwyr fel rhodd Nadolig ar ol trafodaeth hwyliog, pasiwyd eu bod yn ym- gymeryd a chael Christmas hamper i'r rhai o'r staff oedd wedi ymuno, gan gynnwys yr office a'r warehouses, eu nifer yn agos i 70. ac fod y casgliad i'w orffen Tachwedd 18fed, pedair wythnos i gasglu. Y swm a gasglwyd yn agos i £40. Mae'r llwyddiant i'w briodoli i'r modrt deheuig y darfu i Mr. Lloyd Hughes hwyno'r cyfarfod, ac i yr. Hedley am ym- gymeiyd a gwneud ei ran gyda'r perchenog- ion a chyda meistriaid a'u clod mor hysbys a'r Morrisiaid, nid yw'rllwyddiant isynnu ato. Da gennym weld fod deuparth ysbryd eu tad wedi disgyn ar y meibion rhacllon.Evan Jones. TEML GWALIA, EDGE LANE.—Nos Fawrth yr wythnoddiweddaf, derbyniwyd Mr R. Lewis a Mr. R. 0. Williams yn aeiodau o newydd. Cafwyd gair o groeso iddynt gan y Brodyr Glyn Roberts a Griffith Davies. Cafwyd cystadleuaeth dan ofal y Br. Glyn Roberts, sef darllen rhan o'r Ysgrythyr cydradd oreu, y Chwaer A. Jones a'r Br. W. Williams. Hefyd adroddiad. Our Folks, yn rhagorol, gan y Br. J. E. Davies. Piano- forte solo gan y Ch waer Phyllis Ewdards, a chan, O'r Niwl i'r Nef, gan y Br. O. H. Wiil- ams. CyfeiliwvdganyCiiw.ier Lliy Edwards a'r Br. R. O. Williams. Llywyddwyd gan y P.D., y Br. J. M. Evans.—Cymraes. WATERLOO Ymweliad y Prit Lenor- Y Parch. D. D. Williams, David Street, wrth gwrs,—yrhanesyddmanwl, y lienor coeth, a'r darlithydd dihafal. Nis gallai Cymdeithas Lenyddol Waterloo agor ei thymor yn well na thrwy gael darlith boblcgaiddMr. Williams ar Gymru yng i-tgoleuni y Penhillion Telyn, a daeth eynhulliad da ynghyd. Llywyddid gan y Parch. William Henry, a gwelsom yn y cyfarfod nid yn unig aelodau'r Gymdeithas leol, ond amryw gyfeillion llengar o ardaloedd eraill. Am y ddarlith nid oes angen dweyd iddi ddiddori pawb, a'n cred ywydeffry chwilfrydedd amryw o'r aelodau i fynd ar ol rhai o'r cwestiynau godwyd gan y darlithydd. Buom am awr fer yn gwrando hanes y Pen- hillion, ac yn treulio noson lawen yng nghegin fawr yr Hafod Lom, Pawb a'i bennill yn ei gwrs, Heb son am bwrs y cybydd a blin oedd gennym i'r terfyn ddod mor fuan. Eglurid y ddarlith gan Miss Alwena Roberts A.L.C.M., fu garediced a dod drosodd o Seacombe i roddi ami gainc ar ei thelyn, ac i chwarae'r tannau tra canai Miss Gwen Taylor, B.A., yn ei dull swynol a meistrolgar, rai o'rhen benlxillion genid gan yrhen Gymry, ac a ddyfynnid gan y darlithydd. Diolchwyd yn gynnes i Mr. Williams a'r Misses Roberts a Taylor, ar gynhygiad Mr. Hugh Roberts, a-c ategwyd gan Mr. J. P. Thomas a Mr. E. H. Roberts. Dyma englyn gyfansoddwyd gan un oedd yno :— Hwyl iawn gadd y telyii(ir,-ar ddarlith Oedd orlawn o'r llenor; O'i ras hael rhaid y rhoes lor. Gan talent i Gwen Taylor. Nos Wener, Rhagfyr 8fed, bydd Miss Gertrude Rowlands yil trefnu Noson gyda Ceiriog. Dechreuir am 7.45. DRas EI WLAD.—CofEhawyd yn dyner yn yr Ysgol Saboth61 a'r oedfa hwyrol yn Water- loo y Sul am y brawd annwyl Evan Jones, Ferndale Road, fu farw o'i glwyfau yn Ffrainc. Bachgen o Dy croes, Mon, vdoedd, a daliai swydd mewn ariandy lleol. Coleddid syniadau uchel am ei gymeriad gan bawb o'i gydnabod, a cliydymdeimlir yn ddwfn a'i rieni trallodedig ym Mon. WRTH HEBRWNG MR. HUGH. PARRY.- Wedi pymtheng mis o gystudd blin, a ddiodd- efwyd ag amynedda sirioldeh mawr, bu farw'r brawd annwyl ac adnabyddus uchod. ddydd LInn, yr 20fed cyfisol, yn eigartref yn Walton. Efe'n 67 mlwydd oed, ae yn fawr ei barch gan bawb o'i lu cydnabod. Collodd bywyd Cym- reig y ddinas yma and i golofn gadarn y flwyddyn hon, ac yr oedd Mr. Parry yn un o'r amlycaf a chryfaf yn eu mysg. Un o blant Mon oedd ein diweddar gyfaill, ac ni fu neb a'ihanwylai'n fwy. Ganwyd a magwyd ef yn ardal Rhos y Meirc-h, mewn t-y o'r enw Llain y Delyn. Yr oedd yn un o dri mab. Bendith iwyd ef a chartref crefyddol, ac yr oedd ooffa, dwriaeth ei rieni yn ddylanwad sancteiddiol yn ei fywyd hyd y diwedd. Treuliodd flyn. yddoedd cyntaf ei yrfa grefyddol yn eglwys AnnibjTinol Rhos y Meirch, yng nghladdfa yr hon y gorffwys llwch yr enwog William, Pritchard, Clwch dernog, ac eraill o dduwiol ion Mon. Yno y meithriniwyd y parch i Dduw a'i gysegr a'i Air a arosodd ac a dyfodd yn ei enaid drwy gydol ei oes. Daeth i Lerpwt yn wr ieuanc, ac ymaelododd yn eglwys Great Mersey Street, lie y eyflawnodd wasanaeth amlwg a sylweddol fel diacon ac arweinydd y gan. Saer coed ydoedd wrth ei alwedigaeth, a dilynodd y grefft honno am ysbaid o amser, mewn gwahanol rannau o'r ddinas. Ymhen. amser, penodwyd ef yn agent yn swyddfa Mr. W. O. Elias, a pharhaodd i lenwi'r swydd hon hyd y dydd y pallodd ei nerth. Yn 1873 priododd ag un o aelodau eglwys Netherfield Road (M.C.). Bu'r uniad yn un ffodiis o'r ddeutu, ac ym Mrs. Parry cafodd ein cyfaiU briod oedd rnewn perffaith gydymdeimlad a'i weithgarwch dros grefydd a dirwest. Gan- wyd iddynt bedwar o blant, ac v mae dau ohonyht heddyw'n fyw. Y mae'r mab, y Parch. Hugh Parry, yn weinidog gweithgar a chymeradwy yn eglwys Annibynol Seisnig Ellesmere. Yn 1904 symudodd y teulu i eglwys Marsh Lane, ac yn ystod y 12 mlynedd diweddaf bu Mr. Party yn gwasanaethu'r eglwys hon fel diacon medrus a doeth. Yr oedd wedi ei ddonio a galluoedd uwchlaw'r cyffredin. (1) Un o'r pethau cyntaf a gan- fyddid mewn ymgom ag ef oedd bywiogrwydd a chraffter ei feddwl. Yr oedd meddwl ac ymddiddan am bethau mawrion crefydd a bywyd mor naturiol iddo ag anadlu. Ac yr oedd cyfarfod a gwr o gyffelyb ysbryd yn amheuthun o'r mwyaf yn ei olwg. (2) Yr oedd yn siaradwr llithrig a diddorol dros ben, 0 ganlyniad, gwahoddid ef yn ami i lwyfan eisteddfodau a chyfarfodydd cyhoeddus eraill. Rhoddodd ei wasanaeth yn fvnych iawn i hyrwyddo Dirwest yn y wlad, a bu'n arweinydd Eisteddfod y Temlwyr Da, (3) Nodwedd amlwg arall a berthynai iddo oedd ei arabedd diwenwyn a'i hiwmor iach. Gwelai'r doniol a'r digrif o bellter ffordd, a llwyddai i gael ei wrandawyr i gyfranogi o'i weledigaeth a'i ddifyrrweh. Erys ami i frawddeg ffraeth a phert a phwrpasol o'i eiddo yn ein cof ani flynyddoedd lawer. (4) Yr oedd hefyd yn gerddor- gwych a gwnaeth lawer i berffeithio moliant y cysegr. Yroedd ganddo lais da, a chanodd lawer yn ei ddydd yng ngwahanol gapeli Cymreig y ddinas. Claddwyd ei weddillion brynhawn dydd lau diweddaf yng nghladdfa Anfield. Cafodd angladd tywysog, ac yr oedd y dorf fawr a ddae1 h ynghyd-yn cynrychiolipobenwada dosbarth yn y cylch, heblaw cyfeillion o fannau eraill-yn dangos parch dwfn tuag ato ef a'i deulu, a'r lie cynnes oedd iddo yn serch ei gydwladwyr, a phawb o'i gydnabod. Gwasanaethwyd yn y ty gan ei weinidog, v Parch. Albert Jones, a'r Parch. D. Adams, B.A. Cymerwyd rhan yng ngweddfil y gweithrediadau gan Pastor George Wise, oadd yn gymydog agos iddo, ac yn edmygydd mawr ohono. Dilynwyd gan y Parchn. T. Price Davies, O. Evans, D.D., ac O. L. Roberts. Y galarwyr oedd Mrs. a Miss Parry (gweddw a merch), y Parch, a Mrs. H. Parry (mab a merch.yny-nghyfraith), Miss Parry, Rhos-y- meirch; Miss Parry, Bootle (nithoedd); Mr. Morris Parry, Caer (cefnder), Miss L. Jones, Mrs. Albert Jones, Mrs. H. Martin, Mrs. E. Roberts, Mri. W. O. Elias, C. F. Elias. R. Hughes, Lindforth, J. Owen, E. Hughes, J. Hughes, H. Foulkes a Mri. T. Roberts, H. Martin, L. Jones, a J. W. Griffiths (cyd-ddiaconiaid); hefyd y Parchn. John Owen, D. Powell, W. Thomas (Marsh Street), J. Vernon Lewis, M.A.,B.D., a G. J. Williams. Ymhlith y cannoedd o gwmpas y bedd yr oedd llu mawr o ffyddloniaid Marsh Lane a Great Mersey Street, yn ogystal a'r cyfeillion can. lynol Mri. R. Thomas (Tabernacl), R. Dav. ies, Salmon Evans (Park Road), J. Davies (Martin's Lane), a holl staff a gweithwyr swyddfa Mr. W. O. Ellis. Derbyniwyd llythyrau oddiwrth y eyfeillion a ganlyn, yn gofidio'u bod yn methu dod i'r angladd y Parch. E. B. Jones, Gwalchmai; Mri. R. IV Williams, Rockfield Road; J. E. Williams, Garmoyle Road Edward Roberts, Allington Street, a Mrs. Williams, Menai Bridge. Yr oedd rhyw 18 o wreaths yn addii rno'r arch, ac wedi eu danfon gan y teulu eglwys Marsh Lane Mr. W. O. Elias a'r teulu Mr. a Mrs C. F. Elias staff H. a T. Williams Mr. E. Hughes a'r teulu Mri. Jones a Hughes, Pym Street Mrs. Green Mrs. Edwards a'r teulu Mr. a Mrs. McKenna hen denantiaid Mr. Gostage a Mrs. Barnes; Mr. a Mrs. Noble Mr. a Miss Quayle Mr. a Mrs. Williams a'r teulu Mr. W. Parry a'r teulu Mr. a Mrs. Wilcot Mr. a Mrs. Samson. Wrth ffarwelio a'n diweddar gyfaill gweddfwn ar i Dduw fen- dithio popeth yn ei fywyd sydd yn symbyliad ac ysbrydiaeth i Gymry ieuaine eglwysi'r cylch i roi eu goreu ar allor gwasanaeth Duw. -A.J. EGLWYS ANNIBYNNOL LiSCARD. -Mae'F eglwys uchod wedi cyfrannu £ 14 os. 5d. at gronfa'r Daily News i ddarparu pwdiii Nadolig i'r milwyr. Fel hyn y cafwyd yr arian casglodd y plant £ 11 88. 5d. yna cyfran- nodd y gweinidog 5 ar gyfer pob punt, sef £2 178., nes gwneud y cyfanswm. Gwelir hefyd y ceir yno odfeuon arbennig y Sul nesaf, pryd y pregethir yn Saesneg deirgwaith gan Mr. J. Hugh Edwards, A.S. Bydd ef yn darlithio hefyd nos Lun ar The IVar and Afterwards. Gwel hysbysiad.

Advertising