Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

PEL BO'R HWYL.

News
Cite
Share

PEL BO'R HWYL. Sef wrth blethu ambell ffoith yn gwlwm 1 am ambell Ffansi. CYMYNNU'N COED.—Y mae'r Llyw- odraeth am 'listio coedwig y Gwydr yn ardal- oedd Llanrwst a Betws y Coed, canys clywir fod cymynwyr protiadol o Canada'n dod yno i'w torri a'u cael at raid y rhyfel. Mor noethlwra y bydd yr hen glogwyniheb eu cot ucba a'u siaced fraith o dderw ac onnen, bedw a llwyfen. PHYSYOWR MEWN PULPUD.-Dy- wed Y Cymro y bu Dr. R. O. Morris, M.A., meddyg teithiol y Gofeb Genedlaethol, yn anuerch cynulleidfaoedd yn Llanbrynmair, ar iawn fyw ac iawn fwyta-ar ddeddfau iech yd y corff.. Yng nghapel Pennant y bore, M.C. y Bont yprynhawn, a'rhwyryn addoldy yr Annibynwyr. Y inae awyr Cymr'u n digon iach a bahnaidd a dylasai'r trigolion gyrraedd y cant oed bob un o ran darpariaeth Rhaglun- iaeth ar eu eyfer, ond y maerit mor chwannog i de a geriach melys a nesaf i law, ac mor rag- famllyd yn erbyn awyr a goleuni a phethau anhebcor eraill i iechyd, nes fod nychtod y darfodedigaeth yn eu pluo i'r bedd cyn hanner eu hamser. COFIANNYDD FRANCIS JONES.-Y Parch. R. Williams, Tywyn, Abergele, sydd wedi ymgymeryd a sgrifennu Cofiant y di- weddar Barch. Francis Jones. Cawsom or- mod o gofiannau yng Nghymra rhy facb o rai amwyrlleyg; ond haedda Francis Jones un, ac y mae yn ei bregethu a banes ei oes ddeunydd da i Mr. Williams. Gwr yn gwisgo yn dda yn dal yn ei flas hyd y diwedd a rhyw ireidd-dra Cymreig ar ei ddawn a'i feddyliau a'i gwnelai'n hyfrydwch o'r mwyaf ei wrando. Ac yn siarad mor araf, er mwyn cael amser i roddi blaen ar ei lioelion ac yna. wedi ei chael yn barod, rhoddi rhyw un ergyd ar ei phen nes y byddai'n sownd yng nghalon y pechadur. ODDIFEWN RHAGOR ODDIALLAN.- Nid wyf yn eofio'r testyn ond da chwi, Mr. Williams, cofiwch gael o hyd i'w bregeth ar Storm tufewn rhagor Storm tuallan, ac ynddi sylw tebyg i hyn Pan chwytho corwynt dros y wlad, fe wna dipyn o alanas weithiau. Fe chwyth ambell dwlcyn o dy a'i ben iddo fe deifl ambell goeden dal a brigog i'r ddaear fe gwymp ambell gorn simne'n deilchion; ond erys yr hen glogwyni a'r hen fynyddoedd yn eu hunfan heb gymryd y sylw lIeiaf. o'i gwynfan a'i stwr. Ond arhoswch chwi i'r ddaeargryn ddod, a dacw'ch Etna a'ch Vesuvius yn crynnii o'u corun i'w cam, a'u safnau'n eykigi'r lava ch wilboeth wrth gael eu rh wygo yn sgyrrion a'u berwi trosodd fel crochan cawl. Oddiallan at ifewnymae'r Corwynt yn gweithio, ae yn cael effaith mor fach ac arwynebol; oddifewn y cyrihyrfa'rDdaear- gryn, a dyna'rpam ygwnahi'r fath alanas. Felly chwi a finnau, 'mhobol i. Y mae cystudd corff, marwolaeth, profedigaethau a helbulon masnachol a theuluaidd, y maent yn tarfu tipyp amom ond chwythu ar ein tuallan a fedrant hwy ar y goreu ond os pechasom, ac y gwnaethom gam a gwr yn eifater, dyna Gydwybod yn dechreu pigo, dyna Ddaeargryn moesol yn hel o'r tufewn, ac yn chwythu lava euogrwydd a barn nes dinistrio pob dedwyddwch a gadael yr enaid yn adfail. Dyna ichwienghraifft o feddwlCymro aphe clywsech ei oslef ac y gwelsech ei ystum ef wrth ei ddywedyd, ni fuasech chwithau ddim yn ei anghofio ychwailh- Caffed gofiant teilwng ac os gellwn eich helpu, Mr. Will- iams, mewn unrhyw ffordd, fe'i gwnawn ar fy mhen, canys yr oeddwn yn caru Francis Jones. AM EI PHRYNNU.—Dywed rhai o'r papurau fod Mr. Lloyd George yn gryf o blaid p rynnu'r Fasnach Frag, ac fod aelodau eraill o'r Cyfrin Gyngor a'u gwynt o blaid yr un peth. Rhaid imi ddweyd fy mod innau-ni waeth pwy ydwyf, bitw distadl-—-o'r un fam I yn union, er mai betruso'n hir a bod yn troelli megis rhwng dau lif ar y pwhe, megis y mae llawer eraill yn troelli'r un fath, a'r rheini'n ddirwestwyr mor gyson a chydwybodol a neb ohonoch. Y gwir yw, gydweithwyr annwyl, nad oes dim gobaitb cael buddugoliaeth ar y Fasnach Felltigaid drwy'r un moddion arall, ac y rhaid achub y eyfle diaH sydd wedi dod heibio inni yn s.iil y Rhyfel i'w chael i afael y Llywodraeth o grafangau'r ewmialau na faliant fwy am ystyriaethau moesol nag a falia co rwynt mewn gwybedun. Cydier ynddi o ddifrif a rhodder bys a bawd Cyfraith ar bwll ei gwynt. CYSTRAWENWR ABERYSTWYTH- Y mae Df. David Samuel, M.A., prifathro Ysgol Sir Aberystwyth, yn disgyn o linach a llwynau'r Cymreigydd hyglod Edward Sam- uel ac nid rhyfedd, felly, mai Camgymeriad- au mewn cystrawen Gymreig oedd testyn ei ddarlith ar aelwyd Cyrr rodorion Machynlleth y nos o'r blaen. Geiriau Cymraeg, wedi eu gludio yn ei gilydd a chystrawen Seisnig, sy'n merwino clust dyn fwyaf o ddim heddyw; ac yn peri i ddyn golli gras yn lle'i gael mewn ami i oedfa. Daliwch i chwynnu, D.S., nes bo gwenith yr iaith yn gwbl lan o efrau'r estron. DILYN-YDD ELIAS JONES.-YParch. W. R. Williams, Carneddau, fydd dilynydd y Parch. Elias Jones fel bugail eglwys M.C. Gymraeg y Drenewydd. £ 1,802.—dyna'rswie a adawodd y diweddar Barch. Ossian Davies, Llundain. ar ei o], Pe buasai'n fragwr, buasai'n £ 1,802,000. LLANARMON A'I CHEIRIOO. Y mae'rt dda iawn gennyf weled y fflam yn cael ei hail ennyn dros i Lanarmon gael cofgolofn i Ceiriog ym mnentre'i febyd. Yn) y dylai fod ar bob cyfrif ac ni fyddis yn llonydd bellach nes ei chael. Disgwyliaf weld ei weddw- Mrs. beiriog Hughes-yn y De'r wythnos iion, ac a gaf glywed beth ydyw ei syniad hithau. Yn ol llythyr Mr. R. Vaughan Jones yn Y BRYTHON fis yn il, y n ee decpunt ry-ewn IIp w ers blynyddoedd; gobaithiaf weld hwnnw'n bumcant cyn dydd cynnal Eistedd- fod Genedlaethol 1917, lIe hwyrach y ceir cyfle f. i goroni'r ymdrech a chyfarfod arbennig. Syr Goscombe John fydd y delwedydd, goteitbi-) ac os caniateir i Iedfegyn fwrw'i awgrym, dyma hi fod Syr G-)scoml.e yn gwneud y golofn oddiar y llun sy'n dangos Ceiriog fel y byddai ar ddydd cynnal Eistedd- fod-ac yn ei wasgod wen. Pob llwydd i'r mudiad, ac ahoffwn gael byw i fynd amhapur a mhensel efo mi i Lanarmon ddydd y dad- orchuddio wrth waelod gallt Pen y Bryn. Dit u y bydd J.D,R. yn > hefyd, efo'i bapur a'i bensel yntau a rhyng ->m ein dau, fe geisiwn gostrelu hufen yr hyn a ddywedir am Brifardd Telyn y Cymry ae i-rn y dylanwadau a berodd iddo gyfodi o Lanarmon rhagor t'r un Llø-n arall. Gobeithic y bydd y teql gyn drun wedi cael dychwelyd o'r rhyfel erbyn hynny, gael iddynt hwythau gael tr^n rhad ac am ddim gaa y Llywodraeth i ddod yip. OYFFIO GLIN GWEDDI.—Yv oedd y Private Richard Willia-i s, B.A.,Be hesda—y coffli&i Min Ogwen mor dyner yn Y BRYTHON diweddaf am ei farwolaeth yn Ffrainc—yn enghraifit (,'r Iliaws bechgyn disglair eu doniau a cnrefyddol eu hysbryd sydd wedi eu galw o aelwydydd glanaf Cymru i aberthu bywyd er mwyn eu gwlad. Efe oedd awdur y gosteg penhillion dwypion i'w ryfeddu a fu yn un o'n rhifynnau am ei gydymaith a laddywd rai w-v-thnosau -)'i flaen,-Pte. Glyn Gough Williams, Birkenhead codwyd y penhillion bynny i'r Drych, America, ac y maemeddyliau a theimladau." Rich io" am "Glyn" wedi teithio'r byd yn grwn bellach. Ni wn i am yr un gymeradwyaeth arall i fechgyn fel y rhain na'r ddau bennill a ganlyn o fysg y pedwar ar bymtheg a ganodd Ceiriog l'r Milwr na ddychwel Mae cofio'th'rinweddau^fel milwr a Cl nat- Yn ion Yn hafaidd bolydru trwy brudd-der ein calon, Yn taflu goleuni tros leri7dy goffhad. Fe'th ddysgwyd yn fore tun Dduw dy riepi- Ond cyffiwyd y gliniau /fu'njplygu mewn gweddi Yr haeam i elyn dy Dduw a dy wlad. Gorffwysa, fy nghyfaill, yng ngwychter dy fedd, ? Ar filoedd disgynned dy ysbryd;, Ond bwried rhyfoloedd i f)roedd olhedd, ..itA dyn i heddycl ol ddedwyddyd. 1 DWYFIL MON.—Ffrwyth y rhes Q ffoiriach-jwnble sa leE-a gynhaliwyd draw ac yma drwy Sir Fon, dan nawdd CymdeithaB Gnes Goch y Ffermwyr—fu hel yn dyn ar ddwy fil o bunnau at yr aracan elodus hwnnw. OWEN PARRY^A'I SWYDD.-Y mae Mr. Owen Parry, Plas Newydd, wedi cael ei ben 'di'n llyfrgellydd Cricieth yn ddilynydd i Mr. J. Barnes Ellis, a aeth i Landudno. Swydd go bwysig yw hon, ac arnoch eisiat rhywun wyr beth ydyw beth mewn llyfr, ac yn gallu awgrymu'n o dda, ac nid yn gatalog- ydd deddfol a diamcan yn unig. Cymhellwch hwy i ddarllen ambell lyfr Cymraeg yn[" Nghricieth yna, Mr. Parry, canys clywed a ddarfum i am un lyfrgell gyhoeddus, mewn tref fwy na Chricioth," fod yn rhaid iddynt ail rwjrmo rhai o'r nofelau mwyaf merfedd a gwagsaw bob rhyw chwe mis, gen f)d or cloriau'n garpiau oblegid y mawr draul a galw oeid amdanynt, ond clasuron cewri lien a meddwl y byd yn g)rwedd ar eu hestyll, a' yn edrych fel mummies perargoledig dan eu haen o lwch. MR. HUGHES, ANGORFA.—Bu Mr R. E. Rugbes, Angorfa, Dinbych, farw ddydd Mawrth yr wythnos ddiweddaf, yn naw a thrigain oed. Yn ben y Bar e v byddai cyn ymneilltuo flynyddoedd yn ol sc yn ynad heddwch y fwrdeisdref er 1899 ac ar fainc y Sir er 1904. Brodor o Gaergybi ydofdd, a brawd iddo ef a adaw)dd dden- mil o bunnau at dlodion tre'i febyd. Yr nodd Mr. Ruglie- wedi llenwi ami swydd gyhoeddus,—yn eu mysg, yn ymwelydd a'r GWE llgofdy sydd ar gyrrion y dref, ac yn wr tyner ei deimladau a eharedig a hael iawn ei galon. Yr oedd ei briod wedi ei ragflaenu ers blynyddoedd, a mab a ery-s i alaru wndan). Cleddid ddydd Gwener diweddaf ao ym mhridd M6n, yn ymyleiliengartref, y mynnodd gael gorwedd NUN 0 HEATONIAID DYFFRYN CLWYD.-YR un diwmod a Mr. Hugher y br Mrs. Griffith, Garn. Henllan. farw. Y hi'n briod Mr. W. D. W. Griffith, Y.H., yn dair ar dde, a thrigain oed a1 yn ferch y diweddar Mr. John Heaton, Plas Reaton-teulu pur hysbys yn Nyffryn Clwyd, sydd a gwaed cynifer o wladychwyr Normanaidd ac arall yn ei brif deuluoedd, disgynyddion rhai ohon. ynt wedi troi'n gymwynaswyr godidog i'r Hen Wlad, megis Salisbury, Middleton, ac yn y blaen. Dyna ffordd Rhagluniaeth o gael eu holafiaid i dalu'n ol am feddiannu'n gwlad ar y cyntaf. CYRR A HDD Y CANP.-Nid oes un ran o'r wlad lie y mac'r bobi yn byw'n hwy, at ei gilydd, na Lleyn. A dyma un arall olionynt -Mrs. Ellen Williams, Llannor, naill du i Bwllheli-wedi marw'n gant oed ddydd Mawr h yr wythnos ddiweddaf. Gwraip fferm ydoedd hi, ac yn medru darllen heb wydrau a cherdded heb ffon hyd y diwedd. Ei chof hefyd yn gryf fel gefyn, a medrai adroddpethau ddeg aphedwarugainmlynedd yn ol fel pe buasent wedi digwydd ddoe. Diau mai un rheswm am hirhoedledd pqbl Lleyn ydyw hyn eu bod yn byw mewn rhanbarth sydd ar dipyn o encil oddiwrth y byda'iruthr; eubodsrncymrydeu byd mor hamddenol a diffwdan; eu bod wedi arfer byw ar uwd rhynion a stwns ffa ac yn cael anadlu awyr mor ddi-fwg oddiar y flriddoedd sweet ac amaethyddol sydd o gwmpas Cam Fadryn a Bryn Deufor a Rhoshirwaen a Thydweiliog a Barn Bodfean a'r Eifl a'i thri pig. GWRAIG TY IIWLCYN.—D\aia hen chwaer arall a gwytnwch Lleyn ynddi ydyw gwraig T9' Bwlcyn, Dinas,—sef cartref olaf y Parch. Robert Jones, Rhos Lan, awdur Drych yr Am.oeraedd.-Rithau'n anelu'n deg am y cant oed, ac a'i cyrhaedda hefyd os ca fyw rhyw flwyddyn neu ddeunaw mi8 arall. Fe'i cwrddais-ary Ion gerllaw'r ty beth amser yn ol, ac yn picio i nol neges i'w mereh a'i basged ar ei braich. Bu ei thad a'i mam fyw i gyrraaedd y cant neu fwy. A'n helpo ni, silod Uwyd a brau y trefl yma Ac yn LIeyn y mae'r iaith Gymraeg yn debyg o fyw hwyaf hefyd, canys y mae hi heb ei darostwng gan fursendod y ffug-ddiwylliant sy'n deifio glannau'r moroedd ac yn barugo a rhewi Cymreigiwch trefi fel Rhuthin a'i thebyg. CWYMP Y DEWR.-Dyma ragor o lanciau dewfron Cymru sydd wedi cwympo ar faes y rhyfel: Sergt. David Pierce mab ffarm o Feddgelert, y trydydd o fechgyn y pentref i golli eu bywyd, a'r tri'n unig fachgen eu rhieni. Ar goll ydyw'r hyn a ddaeth i'w gartref am Capt. Wm. Rudd, mab Mr. G. P. Rudd, Plas Tan Graig, Be.ddgelert, Dringodd yn dda er pan ymunodd. Y mae dau o lanciau'r Groeslon, Sir Gaernarfon, wedi cwympo pte. Robt. Edwin Roberts (yn Liscard, Sir Gaer, cyn ymuno), a Pte. W. H. Hugbes-pronli,3 ironmonger yng Kghaernar- fon cyn ei symud i Lundain. Y ddau'n per- thyn i'r R.W.F., o'r un pentref, ac yn cael eu lladd o fewn diwrnod i'w gilydd. Lladdwyd Pte. Rd. Williams, Llanrug, yn Ffrainc, Tachwedd 7 y mae llanc arall o'r un Llan- Pte. J. O. Jones, Cae rhos-yn gorwedd yn wael mown ysbyty yn Ffrainc. Ymladdodd ef ym mrwydr ofnadwy Coed Mametz. Bu'r Corp. O. Jonah Owen, Llanberis, farw mewn ysbyty yn Birmingham y dydd o'r blaen. Yntau wedi eiglwyfo yng Nghoed Mametz, yn 35ain oed, ac yn bur hysbys ym myd y gan. Deuwyd a'i weddillion adref i'w claddu, a dyna fawr oedd y dyrfa. Y mae'r Signaller J. R. Jones, Pen llyn, Caernarfon, yn gorwedd yn glwyfedig o'i glun yn Ffrainc. Newydd groesi'r mor yr ydoedd. TEIMLAD PAPUR ARALL.Nid bob amser y mae pobl y papurau yn caru ei gilydd yn rhyw angerddol iawn—y mae clefyd eiddigedd a gwrthymgeisiaeth yn un hysga a'u hoeri y naill at y Hall. Ond dyma enghraifft i'r gwrthwyneb o'r Seren gan y N odwr wythnosol o Lerpwl "Tynnu Cyhuddiad yn ol.Dyna fu hanes ein cymdogion a'n cyfeillion, sef "golygydd a pherchennog Y BRYTHON. "Rhyw wythnos yn ol fe'u cymerwyd i fyny ar ryw gyhuddiad par hed ysgrif a ymddangosodd yn Y BRYTHON yr wythnos cynt, pa un yn ol tyb rhywun ydoedd drosedd yn erbyn rhyw ddeddf neu gilydd. Yn tydio'n rhyfedd iawn "ni a gawn feddwl beth a fynnom, ond nid bob amser y mae'n ddiogel rhoddi mynegiad o'r meddwl. Mae yn debyg mai anhawdd fnasai cael dau mwy teyrngaiwl i'n brenin a,'n gwlad na "golygydd a pherchennog Y BRYTHON, "ond pa beth hynnacj ydoedd natur y trosedd, mae pawb sy'n darllen Y "BRYTHON wedi gweled yr ysgrif dros- eddol, a phawb wedi Pfurfio barn amdani. Mae yn dda iawn gennyf fl. a "phawb ar a adwaenant y deuddyn hyn, i'r holl gyhuddiadau gael eu tynnu yn "01 heddyw (ddydd Llun). Yr oeddwn "yn deall wrth lais Mr. Evans heddyw ei fod yntau yn llawen. Llongyfarchwii y ddau." MYND I FYD Y SYIAVEDDAU.— Dyma air o'r America fod Pastor Russell, oedd mor hysbys fel efengylydd ddau tu i'r Werydd, wedi marw a mynd i fyd y sylwedd- au,?fel y byddai'r hen bobl yn galw'r Bvd Tragwyddol wrth9ei gyferbynnu a. Byd' y Cysgod a'r Diflannu. Yr oedd rhyw ynni digyffelyb bron'ynddo, a gallu i'wgadwei hun a'i genhad "eth dan lygad y byd. Ni wyddai beth ydoedd y.3wildod, e chredai mewn cipio pob cyfle a defynddio pob cyfrwng i gadw'i grochan i ferwi. Prynnodd Dabernacl onwog Henry Ward Beecher yn Brooklyn., a phre- gethai bre,etha.u pendant a. dogmataidd o'r fan honno, as a gyhoeddid mewn eynifer a phum cant o bapurau'r byd bob wythnos Teithioddo amgylch y byd efo'i diorania, cine, ma, ni yn y blaen, i ddysgu ei ddamcaniaeth friglwyd a hesp am Greadigaeth y Byd mewn rhes o luniau byw, a'r rhai hynny wedi eu lliwio o bwrpas i greu sôn a syndod. Bu'r shou hon ganddo yn Albert Hall, Llundain, a gwerthai filoedd ar filoedd o'r esboniada,t- esboniadau, wir!ar y.Beibl i'r bobl hygoelus a'u prynai. Yr oedd ei lun i'w weld ar pob poster a phamffled ao arall a gyhoeddai; ac yn ein byw y medrasom feddwl yn uchel iawn o neb a ddyry ei lun o'ch blaen ymhob man. Nid ydys yn barnu dim am y dyn,-Un arall sy'n gymwys i wneud hynny—dim ond Bon am ei ddull Americanaidd o ganu ei glodl. Byd y Sylweddan a'n dengys i gyd yn iawn. Ni wolsom yr un o bregethwyr Cmyni'ii dangos y cinema yn lie dangos Crist, llfJ,0 yn angliysegru'r Groes a'r llunian byw. GWISGWCH YN BLAENACII.—Y mae rhyw Woman Economist yn y?grifennu, i'r Post (Lerpwl) yn erbyn y gwisgo gorwych a gwastraffus ,welir er flloedd. o ferched y ddinas ar adeg pan y m3'r Llywodraeth yn gwaeddi cymaint a n gynhildeb ar bob llaw. Y mae'n bryd, ebe hi, dod a'r peth dan gyf- raith mewn rA'yw ffor(ld'nou'i gilydd, "canys y màe'r dosbarthiadau ucliaf yn gwisgo'n boenus o wa^traffus." Wei, y mae'r TVoman Economist yn berffaith iawn ond y mae hi'n I gofyn peth go ff.wr pan. yn gofyn am i'r chwiorydd batch a phenchwiban hyn wisgo'n blaenaoh. Nid oes dim yr un reddf gryfach drwy'r crcad i gyd na'r reddf sydd ymhob creadur i ymbincio ac ymharddu, o'r gloyn byw i fyny heibio'r paun a'r bird of paradise hyd at y benywod ffasiynol sy'n syhwian heibioch hyd heolydd Paris. Gresyn na fodlonent ar wisg blaen ond dii r il a graenus arwydd o brinder prydferthwch ydyw gorfod benthyca cymaint o help i ymddangos felly o stop y milliner a'r apothecari, JOlIN DAFIS, NERGWY8.—Patriarch ffraeth a gwreiddiol oedd y diweddar Barch. John Davies, Nerewys, SirFflint. Hen lane, a chanddo bwt i'r benywbd ymhob pregeth bron. Yn Llyfr y Diarhebion y porai amlaf, ond un tro pregethai ar yr adnod yn yr Hen Destament sy'n dweyd fod yr hwn afyddpi wedi priodi yn cael gollyngdod (exemption) rhag gorfod mynd i ryfel am flwyddyn; a hynny," ebe'r lien bwythwr o Nercwys, am- ei fod eisoeg mewn digon o ryfel a'i wraig gartref." -()-

Dwy Oedfa. I

Advertising