Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Ein Caned) ym Manceinion.

Advertising

10 Lofft y Stabal. -- AII

I Beicio drwy Ceredigion.I

News
Cite
Share

I Beicio drwy Ceredigion. I I Gogleddwr ynghanol I Deheuwyr. CopiAF y rhawg am y dyddyn Awst y flwydd- yn hon yr euthum o Aberystwyth i Bont Rhyd ar Fynach ar feic. Diwmod poeth, a gwres yr haul yn danbaid ac er tynnu'r got a'i rhwymo ar gym y beic, eto glynai'r crys yn y croen gan chwys wrth ddringo'rrhiwiau. Gwyddem yn dda am fynyddoedd Sir Gaer- narfon, ond dyma'r tro cyntaf i ni fod yn Sir Aberteifi ac un gwahaniaeth a'n terv ar unwaithywhwn mao ffyrdd Sir Gaernarfon gan mwyaf yn amgylehu'r mynyddoedd trwy'r dyffrynnoedd, ond mae ffyrdd Sir Aberteifi yn mynd ar eu bunion dros y myn- yddoedd. Lie bynnag y gwelent fryn neu fynydd, ymddengys i ni y dywedodd pobl Sir Aberteifi Gwnawn ffordd drostynt." Diddorol fai gwybod digon am drigolion y ddwy Sir i allu penderfynu ayw dull troellog Sir Gaernarfon a dull unionRyth Sir Aberteifi o wneud ffyrdd yn nodweddu meddwl y trigolion ? Nid oes dawn gennym i draethu am bryd- ferthweh Dyffryn Rheidiol, er i ni eistedd oriau ar y llechweddau i'w fwynhau. Dacw yrr o wari heg cochion at eu hanner yn yr afon, yn edrych yn fodlon braf, er y gwres i gyd, a'u cynffonnau yn shywio'rgwybed a'rpry' llwyd a'u poenai; a bron na ofidiem fod datblygiad y ddynoliaeth wedi amddifadu dyn o aelod a fuasai mor hwylus i swishio ymaith y gwybed a'ch poena ar gefn beic. The penalties of evolution Anhraethadwy yw prydferth. wch yr olygfa o ymyl Pont y Gwr Drwg (Devil's Bridge). Tyred a gwel yw'r unig ffordd i gael syniad am ei rhamant a'i harddunedd. Yr unig beth a'n blinai yno oedd sylwi ar raib y Sais am swllt, a'i ysfa i wneud masnach o harddwch y greadigaeth- The only way to see the falls and the Bridge is by passing through the gate and pay a shilling," ebe'r rliybliddion yinhobman. Cawsai'r Sais ei ffordd fe osodai len ar yr haul na welsid mohono heb dalu swllt Chwi gofiweh y daeth Mr. Lloyd George i'r Eisteddfod; ac un min hwyr, gwelsom y briffordd ddeugain milltir o Aberystwyth yn llawn lliwiau. Nid oes fwthyn na ffenndv am filltiroedd heb luman o ryw fath yn cy- hwfan, a gwJr, gwragedd, a phlant, ynheidiau yma ac acw ar fin y ffordd yn disgwyl amdano. Disgynasom oddiar y beic, i ofyn Beth sydd yn bod i gyfri am y flags ? ac atebwyd, Disgwyl Lloyd George 'ryn ni, mae e i arcs yn yr ardal hon heno." Gwelsom olygydd y Daily Post yn talu teymged uchel i Lloyd George am ei araeth yn Eisteddfod Aberystwyth, ac yn gosod y cyfeir- iad yn yr araeth at yr eos yn canu yn y nos, ymlilith y pethau goreu lefarwyd gan ddyn erioed. Dyfalai y Golygydd o ble y cafodd Lloyd George y syniad-" The conception of this beautiful simile "—a'r unig esboniad a gynhygiai oedd athrylith Lloyd George. Meddyliem nad oedd rhaid wrth athrylith Lloyd George igael o hyd i'r syniad. Gallasai unrhyw un gweddol gyfarwydd a barddon- iaeth GjTtnraeg fod yn gwybod am gathl ber Alun i'r Eos :— Pan guddio nos ein daear gu 0 dan ei du adenydd, Y clywir dy delori mwyn, A chor y Uwyn yn llonydd Ac os bydd pigyn dan dy fron Yn peri i'th galon guro, Ni wnai, nes torro'r wawrddydd hael, Ond canu a gadael iddo. A thebyg it' yw'r feinir war Sy'n gymar gwell na gemau, Er cilio haul, a hulio bro A miloedd o gymylau Pan dawo holl gysurwyr dydd Hi lyna yn ffyddlonaf, Yn nyfnder nos o boen a thrais Y dyry lais felysaf. Wedi deall mai Northyn o Sir Lloyd George oeddwn, mawr yr ystyrent fy mraint o fod yn ei adnabod, ac o fod wedi ei glywed. "Mi rown iunpeth am igluwed e am unweth.' ebe un. Glywoch chi'r stori am yr hen falwr cerrig wedi cael y pension ganddo ? gofynnai. "Naddo, am wn i," atebwn. Wel,"meddai, roeddganyrhen wrfeddwl mawr o Lloyd George bob amser, ac wedi i bensiwn yrhen bobl ddod i rym ac iddo yntau ddod i'r etifeddiaeth, gofynai rhywun iddo, Beth chi'n feddwl o Lloyd George nawr, AVi-n. Hwmphre ? '0, fe iw'r dyn gore fu ar y ddaear erioed,' atebai Wm. yn chwap. Gan lb wyll,, g an b wyll,' ebe'r holydd, fe fu Un perffaith ar y ddaear wyddoch, ac ma pawb yn cydsynio mai efe yw'r dyn goreu fu ar y ddaear erioed.' Nage wir,' ebe Hum- phre, Lloyd George yw e. Mae'n wir fod y Llall yn gaddo coron rywbryd, ond mae Lloyd George yn ei thalu hi bob wythnos.' Nid gwaith hawdd yw deall cyfarwyddiadau pobl garedig Sir Aberteifi i ddyn diarth. Cystadleuaeth dda oedd honno a arferem gael yn yrhengyfarfodydd llenyddol ym Mhenllyn —cyfarwyddo dyn diarth o'r ftesion i ryw ffermdy ddwy neu dair milltir draw drwy amryw drofeydd ar dde ac aswy. Crwydrais drwy Aberteifi, a gorfum holi llawer am y ffordd nes cael fy argyoheddi fod mawr angen aatx y gystadleuaeth o hyd, i fagu pobl a fedr roi cyfarwyddyd mwy pendant na dweyd, "Mlaen i lan ar y rhewl hyn." Gwir fod rhai i'w cael a gymerent drafferth i egluro yn eu hiaith hwy amrywiol droeon yr yrfa Wrth holi am le yn ymyl Llangeitlio, atebodd hen wreigan bert fy nghwestiwn am y ffordd i'r lie a'r lie trwy ofyn cwestiwn arall Ych chi'n perthyn i'r gwr yno ? "Nag ydw," atebwn. Wel, ych chi'r un flewyn ag e yn gowir, meddai. Wedi ateb amryw gwestiyn. au ynghylch y lie y deuthum ohono, ac osgoi ateb un neu ddau o gwestiynau ynghylch amcan fy ymweliad a'r lie yr holwn" yn?ei gylch, o'r diwedd cydsyniodd yr lion wreig-an i'm cyfarwyddo "Ewch i bant ar hyd y rhewl hyn nes dowch chi at y felin yng ngwaelod y rhiw. Yna mi gewch glwyd goch ar y llaw dde, a rhewl fach gul yn mynd i lan rownd y cnwc, ewch ar hyd honno a mi ddowch yn gowir at y ty." Ryfeddib lawer wrth deithio drwy'r rhan hon o'r wlad wrth feddwl am y cyrchu a fu am flynyddo odd lawer o b o b rl-t an o Gymru i'r Ilecyn-hwn--Llangeitlio. Nid bach o waith oeaa beicio yno o Aberystwyth—beth raid fod y llafur o gerdded yno o Sir Gaernarfon a Neirionydd ? Clywais un gwr mawr yn dweyd wrth ateb cwyn rhywrai fod pregeth- wyr Cymru wedi dirywio, fod ygwrandawyr wedi dirywio llawn mwy. Hawdd credu mai gwrandawyr ardderchog oedd pobl a digon o zel ynddynt i gerdded diwrnodiau i glyjved yr Efengyl. Deuent yn dyrfa, wedi ymuno yma ac acw ar y ffordd. Ami y byddai Daniel Rowlands yn rhodio min yr afon, ac yn clywed sain eu can a'u moliant wrth ddynesu, a dywedai: Dyma nhw yn dod a'r Nefoedd hefo nhw." Er cofio cyfnewidiadau'r amseroedd, a chymryd popeth i ystyriaeth, methwn ym. ysgwyd, wedi'r cwbl, oddiwrth y syniad fod rhyw ddylanwad goruchnaturiol yn cyfrif am wyrth y miloedd gwrandawyr o bob rhan o Gymru a ddeuai i Langeitho i glywed Daniel Rowlands bob Sul pen mis. Cyfnod rhyfedd oedd hwnnw ar Gymru, ac nid oes dim gwell i allu amgyffred rhywfaint arno na darllen Marwnad Williams Pant y celyn i Ddaniel Rowlands :— f Ifs Pan oedd tywyll nos trwy Frydain, Heb un argoel codi gwawr, A thrwmgwsg oddiwrth yr Arglwydd Wedi goruwch guddio'r Hawr, Daniel chwythodd yn yr udgorn, Gloyw udgorn Sinai fryn. Ac fe grynnodd creigiau cedyrn Wrth yr adsain nerthol hyn. Pump o Siroedd pennaf Cymru Glywodd y taranau mawr, < A chwympasant gan y dychryn Megis celaneddau i lawr Clwyfau gaed a chlwyfau" dyfnion, Ac fe fethwyd cael iachad N es cael eli o Galfaria, Dwyfol ddwfr a dwyfol waed. A mi'n myfyrio fel hyn amy g*r a fu'n I deffro Cymru o'i thrymgwsgr wele gerflun gwyn, hardd, ohono'n dod i'r golwg, yn v fynwent fach wrth ochr y capel ar fin y ffordd. Cerflun nodedig ydyw, yn gadael argraff arhosol ar y meddwl o dtlifrifoldob ysbryd a nwyd sanctaidd y pregethwr am achub ei gyd-ddynion. Yn ei wenwisg y delweddir ef, ac ar y garreg odditano v mae'r geiriau a ganlyn :— O Nefoedd Nefoedd Nefoedd buasai dy gonglau yn bur wag onibae fod Seion yn magu plant i ti ar y ddaear." Pwyntia'r Haw at y Nefoedd, a'r wyneb yn goleuo wrth edryoh fry ym myw llygad" y Nefoedd wrth ei ohvfarch. I D.M.

Advertising