Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

-" ,;.war GOSTEG.

News
Cite
Share

war GOSTEG. Y Pregethwr sy'n cofio gortnod.—-Y mae fcrydedd Ilith ar hugain yr Hen Was wedi cyrraedd, ac a ymddengys yn ei He ddydd Iau nesaf. Dweyd hanes rhyw ddau ddyn go uchel eu lleisiau a ddaeth ato am ymgom i'w Lofft Stabal y mae yn hon, a'r ymgom honno yn troi ar bregethwyr,—gan mwyaf ar yr arabell un ohonynt sy'n cofio gormod, an yn sdn yn rhy fynych am "Cambrids" ac Ocsfford," chwedl yntau, yn ei orgraff wlad- aidd ei hun. ?- I' f ?! I- Llongyfarch a Diolcli. "Cyfaill cywir, Yn yr ing y'i gwelir." Dymuna Hugh Evans a'i Feibion gydnabod yn ddiolchgar bob cymorth a estynnwyd iddynt gan nifer mawr o gyfeillion ac ewyllys- wyr da, yn yr helynt blin a'u daliodd mor annisgwyliadwy ynglyn a'r BRYTHON, bythef- nos yn ol.—y Uuaws llythyrau a dderbyniwyd, o Lerpwl a Chymru, yn datgan gofid, a'r llu llongyfarchiadau, pan dynnwyd yr erlyniad yn ol. Mae'r BRYTHON bron ar ben ei unfed tlwydd ar ddeg. Credwn iddo fod yn rhyw gymaint o gymorth i feithrin moos a chrefydd, yn fagwrfa i'n hen iaith annwyl, ymysg ein cenedl ym mhob rhan o'r byd, ac erfyniwn am bob cymorth i'w wneud yn fwyeffeithiol yn y y dyfodol, i godi'r Hen Wlad yn ol hoi, neu'n hytrach i yrru'r. ECen Wlad yn ei blaen. Yr ydym yn mynd trwy amseroedd enbyd, ac y daejn werth gwneud aberth i gadw'r newydd- iaduron a'r cyfnodolion Cymreig yn gryfion a graenus, yn gyfrwng i ni gael cyfnewid syn- iadau ac i daflu ein hanawsterau i'r bwrdd cyfnewid, fel na bo raid i ni fod yn hollol at drugaredd y wasg Saesneg. Gwaith hawdd yw beirniadu'r wasg fel y weinidogaeth, ond gwaith anodd iawn ywein chadw'n ir a thirf, a chyrraedd y nod uchel sydd iddi. Addefwn yn rhwydd nad yw'r BRYTHON yr hyn y dy- munem iddo fod, a diau yr addefa pob cyhoeddwr a golygydd new vddiadur Cymraeg yr un peth am eu heiddo hwythau. Er hynny, credwn mai diwrnod du yn hanes Cymru fydd diwrnod claddu'r newyddiadur Cymraeg. Nid yw ein cenedl fechan eto wedi ei llwyr ryddhau o Aifft ei chaethiwed. Diolehwn i'n gohebwyr ffyddlon a wnant y gwaith o gariad ato, a da fydd gennym dderbyn pob newydd, hysbysrwydd ac aw- grym a all fod o gymorth i'r BRYTHON gyfl- awni ei genadwri. HUGH EVANS GODDEFER inni, fel pitw o olygy dd,gyflwyno'n "diolch dyfnafa mwyaf diffuant ir Ilu cyfeill- ion a darllenwyr a amlygodd eu cydyAxdeim r lad a ni yn yr helynt cyfreithiol a'n gorddiwes mor sydyn a diddisgwyl y dydd o'r blaen. Diolch hefyd am yr ail swp o lythyrau a -ddseth yma, o Dde a Gogledd, in llongyfarch a chydlawenhau a ni am y modd y dibennodd y cwbl mor chwap. Y maent yn llawer rhy luosog i'w hateb fesur un ac un, a rhaid bodloni ar eu cydnabod yn eu crynswth fan hyn. Gofid anaele i ni oedd peri'r fath fraw -a bilnder i'r Mri. Hugh Evans a'i Feibion ac nid oedd dim pellach oddiwrthym nag ym- yrryd gronyn & disgyblaeth y Fyddin. Gwnaethom ein rhan, hyd eithaf ein gallu, i hyrwyddo ymrestru a'r Fyddin Gymreig ac yn gyfiredinol; a dyma'r unig weledigaeth a fu gennym gyda golwg ar y rhyfel o'r dechreu nad oes dim i'w wneud bellach ond crynhoi ein north i'w hvmladd mor benderfynol a di- dori'n ol nes ei therfynu a'i chael hi a'r tra- hausion Ymherodrol a'i parodd i'r llwch am byth, gobeithio. Rhywbeth mewn llyfr a chyffes oedd -)(eichnie.eth i ni o'r blaen profiad byw ydyw heddyw a'n cred ninnau yn yr athrawiaeth yn llawer dyfnach na chynt. J. H. JONES ANNWYL J.R.-Mawr lawenydd i minnau oedd deall fod deddf yr ordeiniadau, yr hon oedd i'ch erbyn, wedi atal ei llaw.—Gyda chofion calon, coeliwch, Porthmadog EIFION WYN Cydymdeimlaf yn ddwyg a chwi a Mr. Hugh Evans yn yr helbul y gosodwyd chwi ynddo' a chydolygaf yn llwyr a'r hyn a draet.hir yn Trem II o Ddrych Pedrog yn rliifyn yr wythnoB hon. Yegol Cyngor Treforris. WM. DAVIES Yn deyrnfradwr nt fwriedgist-ti fod, Gato fyth, beth ddwedaist ? Y mwyn Jones, pa gam, myn jaist, Ai 4'r BRYTHON. wr. brathaist ? Caernarfon GWYNFOR Cyhoeddwr a golygwr, A welid dydd o'r blaen, Yn llaw yr awdurdodau, • > A'u trwynau ar X maen Ond syndod gogoneddus 4. Ni chollwyd dafn o waed, Cyhuddwyr topsy turvy A'r BRYTHONS ar eu traed. Gkmlog PLENYDD IFY ANNWYL —Llongyfarch iadati fijoedd ar eich rhyddhad.-Coflon 6L Uanrhaeadr E. TEGLA DAVIES AMfWYL PYPAILL.-—Yr wyf yn eich llon- V iryfaxch chwi a Mr, Hugh Evans yn y modd mwyaf ealonnog. Nid oes yr un newyddiadur wedi bod yn fwy teyrngnr i'r Llywodraeth na'r BRYTHON o'i gychwyniad. Llanmnlffraid W. M. JONES AITHWYL MR. EVANS A'R GOL.—Ysgrif- eanaf atoch i ddatgan fy llawenydd eich bod erbyn hyn wedi dyfodtrwy eich profedigaeth. Ymnerthed eich BRYTHON clodwiw ym Mrenin y brenhinoedd ac Arglwydd yr arglwyddi yn fwy nag erioed, dros Dduw, Dyn a Gwirion- edd, dros ei Iaith, ei Wlad, a'i Genedl.—Yn bur iawn, Mynydd IsaJ. J. H. WILLIAMS ANNWYL G YFAILr, Gwefaf wrth ddarllen Y BRYTHON heno fod yn rhaid i minnau eich llongyfarch am eich bod yn ddyn rhydd, er ddarfod i mi benderfynu, os carchar fuasai eich rhan, na bawn yn gorffwys munud awr cyn dechreu ar y gwaith o gasglu lioll ddylan- wad fy adnabyddiaeth i'ch rhyddhau neu ynteu gael gan yr awdurdodau gwladol eich trosglwyddo i gaethiwed (?) Ynys Hilbre, er jaawyn i chwi, fel yr loan enwog arall yn Ynys ) Patmos, gynt, gaelhamdden ac ysbrydiaeth i ysgrifennu llyfr Datguddiad nerydd.- LEWIS JONES (Yny-mr). Hilbre Island, West Kirby, ANNWYL OL.—Mi welaf eich bod chwi a Mr. Evans wedi hod" o flaen eich gwell Mi welaf hefyd eich bod eich dan wedi dod yn rhydd". Congrats. filoedd Diawst pan welais i yr ha-io- gyritaf yr oeddwn i'n ofni y bua°ai'r Uinell?.1! anfarwol (?) o'r u Hogen Goch yn applicable to your case: Fe ddwedodd Mr. Raffles, A'i wyneb fel y waL- For three months into Kirkdale And let you off I shall. Wel, mae'n dda gen i feddwl y cewch chwi eistedd am dipyn eto yn Y Gadair Wiehlyd," a nyddu ysgrifau yn Y BRYTHON, yn lie gwneud mats neu bigo ocwm. Petaswn i mewn trwbl o ryw fath fase fo ryfedd yn y 1 byd, ond "bl«enoriaid Methodtis (ag i mi gam-ddyfynnu Wil Bryan). Wel, AIV1 well that ends weU." Llanelli RESOIN Cymdeithas Lien a C'herdd Eglwy* M.C. Chatham Street. 117 Chatham Sti-eet, Liverpool, Nov. 15, 1 ílí), DEAR SrRs,-At a meeting of the above Society on Tuesday evening last, when the friends from Grove Street joined hands with us to have an Inter-Debate, it was unanimously decided that I should write on behalf of both Societies to offer yon our heartiest congratulations upon the withdrawal of all charges in the Police Court Case against you as editor and publisher of Y BRYTHON. We sincerely hope that you may have the privilege of being the editor, and Mr. Evans of being the publisher, of such a valuable paper as Y BRYTHON for a great many more years.—Believe me, yours most sinceiely, s ROBT. E. ROBERTS, Sec. ANNWYL SYR,—Ofivwn yn fawr golii'r BRYTHON, a buasai yn chwi'h iawn golli eich ysgrifau blasus a diddorol, n'ch man nodion chwi ac eraiU. Hir oes i chwi r BRYTHON. J. JONES (loan Brothen). J. ANNWYL JE AITS.—Llongyfarchiadau fi Yr oeddwn yn hoffi'r BRYTHON bob ftrnser, ond yn fwy yn awr nag erioed. Diolch mfti i Bootle ac nid i Dale Street y rhaid i mi gyfeirio fy llythyr. Coed Talon. J. E. WILLIAMS 0 Dale Street i'r Senedd. Naid go fawr oodd o Lys Dale Street i'r Senedd, ond dj^na'r naid a neidiodd Y BRY- THONyr wythnos ddiweddaf, niegis y dengys y darn a ganlyn o godir o'r Daily News am ddydd Sadwrn diweddaf "NEWSPAPER PROSECUTION. "Mr. E. T. John (L., Denbigh, East) asked in the Commons what are the "grounds upon which the publisher and the editor of the BRYTHON newspaper are being prosecuted, whether the attention of the Government has been called to the "fact that the Observer in last Sunday's issue stated that the present situation in the Near East is the result of the lament- able mismanagernont of the Allies' "chances, both on the Danube and in Macedonia, and suggests that no more blunders were left tÎ be perpetrated in the Near East, and if so whether the Govern- ment propoRe to take any action in this "Mr. Samuel, the Home Secretary, replies in the Parliamentary papers ae follows As regards the BRYTHON I am informed by the Director of Public Prosecution that, while ihe police were, in his opinion, justified in the action taken by them, he has, in view of all the circumstances, decided not to continue "the prosecution. As regards the Observer, the answer is in the negative.

I dydimarur,-.

IGrhocddwyr y Cycnod Y Saboth…

CHWITH AT609

Goreo Gymro, yr an Oddiea.…

LLADD A CHLWYFO I

[No title]

Advertising