Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

Ffetan y Gol.

MEDDYLIAU'R GALON.

News
Cite
Share

MEDDYLIAU'R GALON. Tawch Wedd. DETL ambell ieithydd ffansiol mai Tftwch. wedd ydyw ystyr Tachwedd, am ei fod, at ei gilydd, yn fis mor niwlog. Cawsom enghraifft o'r niwl ar ei drwchaf bron yr wythnosau diweddaf,-ar yr afon yn enwedig ac wrth edrych oddiar gorun Bidston ar Lerpwl dan ei chwmwl tew, cofiwyd englyn y Parch. Robert Owen (EryronGwyllt Walia) i Lundain, dan un tebyg Anoddefus gan ddufwg—yw Llundain, Ei llond o dywyllwg Diffwys yn arllwys mwrllwg,- Dinas fawr dan nos o fwg. Naw wfft i'r tarth taglyd, ac ami i frest wan yn gwichian ei phrotest yn erbyn dyfodwr mor atgas. Ond diau ei fod yntau'n dda i rywbeth, pe buasem ni'n deall labo ratory fawr ein Creawdr yn well. I Y Gwyndud hybarch. Y Parch. J. Gwyndud Jones, Penrhyn Deudraeth, yw gweinidog hynaf Bedyddwyr Cymru-y mae'n bump a phedwar ugain mlwydd oed, a dyma blic bach o'r llith- bortread ohono sydd gan Mr. Parry, Aber- dulais, yn Seren Cymru'r wythnos ddi- weclclaf Erys pob blewyn ar ei ben, sydd mor wyn gwlan, ac yn swp mawr, hardd, ar ei g(Ilpa- Mae ei olwg a'i glyw-'n rhagorol, a cherdda'n hoyw ac ysgafrlProed. Saif mor syth a ffon, er ei fod yn cario baich 85 o fiynyddoedd. Nid oes pall ar ei gynheddfau meddyliol mae ystorfa ei "gof yn anghyffredin, a honno'n berwi'n aflonydd, a hen englynion cymalog a digrif, a, gyfansoddwyd ganddo drigain mlynedd yn ol, ac eraill a ddysgodd tua'r "un adeg o waith Cynddelw, Hiraethog, Caledfryn, ac eraill, yn cael eu hadrodd "ganddo'n rhwydd a hawdd, fel pe heb yn wybod iddo'i hun." Dyna ddarlun go dda o'r hen lenor toreithiog ei sgrifell, ac a bair iddo edrych yn debyg i Kilsby. Cafodd lai nag a ddylasai o sylw gan ei enwad a'i genedl. Na phoened. Yr ochr yma y caiff llawer un ei gwpan gwynfyd a chlod gwell gan y rhai goreu a bhebycaf i Grist aros nes mynd Hwnt i'r Lien a chael drachtio o'r gwin hwnnw sydd yn Matthew xxvi, 29 Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi nad yfaf o hyn allan o ffrwyth hwn y winwyddon "hyd y dydd hwnnw pan yfwyf ef gyda chwi yn newydd yn nheyrnas fy Nhad. Dalied y Gwyndud hybarch me r syth a'i ffon, a'i feddyliau mor wyn a'i wallt. Llun Europ yn yr Apocrypha. i I Y mae gennyf fi fy marn fy hun, pe ba bwys am hynny setlwch chwilhau bwnc e) ysbrydoliaeth fel fynnoch ond y mae yna ami i berl o wirionedd gloyw yn Llyfrau'r Apocrypha, hwn, er enghraifft, o Ail Lyfr Esdras, xvi, lie y cewch cystal llun a'r un a dynnwyd o'r fel y bydd Ewrop toe, oni ddar- fyddo'r Armagedon :— Canys llawer o'r rhai sy'n trigo ar y ddaear a fyddant feirw o newyn, a'r lleill a ddiango rhag y newyn, y cleddyf a'u difetl; a. A'r meirw a deflir dlan fel tail, ac ni bydd neb i'w cysuro hwynt canys y ddaear a anrheithir, a'i dinasoedd a fwrir i lewr. Ni adewir neb i lafurio'r ddaear, ac i'whau. Yprennau a roddant ff rwyth, a phwy a u cynhaeata hwy ? Y grawTiwin a addfedant, a phwy a'u sathr ?' canys pob man fydd yn ddi-bobl. Fel y dymuno'r naill wr weled y llall neu glywed ei leferydd ef. Canys o ddinas y gadewir deg, a dau o'r maes, y rhai a ymguddiant yn y tewgoed ac yn ogofeydd y creigiau. Fel ped fai dair neu bedair olewydd wedi eu gadael arbob pron mown perllan olewydd. Neu fel pan gasgler gwinllan, y rhai a chwiliant y winllan yn ddyfal a adawant rai o'r grawnwin ar eu hoi. Felly yn y dyddiau hynny y gedy'r rhai a chwilio eu tai hwy a chledd- "iYf, dri neu bedwar ohonynt. A'r ddaear a adewir yn anghyfannedd, a'i meysydd a heneiddiant, a'i ffyrdd a'i holl lwybrau a dyfant yn llawn o ddrain, am nad ymdeithio neb drwyddynt. Y moryn- ion ieuanc a alarant heb briod-feibion iddynt, y gwragedd a wnant gwynfan h eb eu gwyr, a'u merched a alarant am nad o oes amddiffynwyr iddynt." Syniad arswydus fyddai gweld Ewrop mor wag o bobl a hyn Fel y dymuno'r naill wr weledyllallneuglywedeileferyddef." Onid oedd Esdras yn froddegwr cryf Cymraeg Cyfrif.01, I Y cyfaill craff J.W.B. o Wallasey a yrrodd hwn yma, gan feddwl y bycldai'n ddiddorol i ni. Wei, y mao felly, a diau y bydd i chwithau :— The Staffordshire children's counting-out rhyme, which was published in the' Echo a. few days ago (say T.W.G.) seems to me to show a marked Celtic influence. The rhyme ran as followsl:- Ainy, tainy, tethery, fethery, fim, SithurA, lithum, dithum, do rum, dik, Ainy dik, tainy dik, tehery dik, fethery dik, bunkit, Ainy bunkit, tiny bunkit, tethery bunkit, fethery bunkit, jaggun. In Welsh the numbers one to twenty run Un, dau tri, pedwar, pump, Chwech, saith, wyth, naw, deg, Un-ar-ddeg, deuddeg, tri-ar-ddeg, pedwar ar-ddeg, pymtheg, Un-ar-bymtheg, dau-ar-bymtheg, tri-ar- bymtheg, pedwar-ar-bymtheg, ugain. Nid eu hela i gyd i Gymru a gafodd yr hen Gymry, pan drechwydhwygany Saeson, eithr eu cadw man yr oeddynt, nes ymhen cenedl- aethau lefeinio'r gelynion. Tybed ai dyna'r pam fod cystal lleisiau a chorau yn swyddi Stafford a Yore ? Ac nid oedd bugeiliaid Cumberland (Cumber land, bro'r Cymry ) wedi I, darfod cyfrif eu defaid yn Gymraeg rai blyn- yddoedd yn ol, beth bynnag. Yng Ngwlad Daniel Owen. Dyma ddau neu dri o bethau diddorol i ni —sut bynnag amdanoch chwi-a welsom yn yr Wyddgrug a'r cyffiniau wrth dreulio egwyl fer yno dair wythnos yn ol. Tariem dan nenbren y Parch. J. H. Williams a'i briod ym Mynydd Isaf, o fewn rhyw filltir a hanner i'r dref. Ffwrdd a ni yno'rprynhawn, gan alw i weld y bwthyn lie ganed Daniel Owen-No. 53 —a'r unig dy yn yr heol ag iddo dwll derbyn llythyrau. Saeson sy'n byw yno'n awr, nac yn deall dim ar iaith Mari Lewis nac ar gyng- horion Wil Bryan. Gyferbyn ag o, wrtho'i hun ar dipyn o go diad tir, pur ddel, y mae'r ty helaeth a gododd y Nofelydd iddo'i hun at dreulio nawn ei oes ynddo, ond y methodd ag aros ynddo fawr, ac a aeth i letya at Mrs. Evans yn fwy i fewn yn y dref. Cafodd bob ymgeledcl a charedigrwydd yno gan Miss Jones oedd yno'n housekeeper. Gwelsom hi hedd- yw, yng nghapel Bethesda, a chawsom rai manylion amdano oedd mor werthfawr' am y deuent o lygad y ffynnon. Y hi a'i gwyliodd arhyd ei gye.tudd a'i ben ar ei braich hi y bu farw ac yntau, i ddangos ei ddiolch- garwch am ei thirioni, a adawodd royalty dau o'i lyfrau-Y Dreflan a Straeon y Pentan-yn gymunrodd yn ei ewyllys iddi. Un o Lan Ffestiniog yw Miss Jones, ac yn falch ryfeddol o gael ei clewis gan Ragluniaeth i'r gwaith o esmwytho gobennydd creawdydd anfarwol Rhys Lewis, Y Siambr Snec- Peth arall a welsom y tro hwn ydoedd y siambr fach snec honno sydd yn y Mostyn Hotel. Yr oedd a wnelo'r diweddar fardd ac Eisteddfodwr pybyr Andreas o Fon (Mr. Brereton) a'rgwesty aphan ddaeth yrWyl Genedlaethol i'r Wyddgrug yn 1873, neilltu- odd yr ystafell hon yn hollol at wasanaeth y pwyllgor nid oedd hawl i neb ond yr ethol- edigion eisteddfodol frathu ei ben iddi; paentiwyd y cyswyneiriau a ganlyn ar ei phedwar pared, ac y maent yno'n blaen hyd h eddyw Heb Dduw heb ddim Wrth ben y A Duw a digoll j drws. Mold National Eisteddfod, 1873. Y Cymry a'u Gorsedd am Byth. England, Scotland, Ireland and Wales. Y Gwir yn Erbyn y Byd. Ac wrth eistedd ynddi heddyw'r prynhawn, ehedai meddwl dyn at ambell i siambr gyffelyb sydd yn Llundain, lie y cwrddai Shakespeare a Marlowe, Dryden a Phope, Johnson yr haul a Boswell ei leuad, ac eraill 0 hynny hy d h eddyw3i straeo a chynghaneddu i ladd y neb a fynnent a chadw'r neb a fynnent yn fyw, a rhoddi'r byd a'r betws llenyddol yn ei le. Ond y mae Dirwest a Barddas yn llawer nes at ei gilydd heddyw, o drugaredd ac nid mewn tafam y cyferfydd Pwyllgor Ei&teddfod Birkenhead, ond mewn High School. Bor beirdd a bir a bwyd, ebe rhyw walch direidus am fan cyfarfod cyffelyb yn y Deheudir dair neu bedair canrif yn ol, gan gil-awgrymu lie bynnag y byddai bardd, mai yno hefyd y byddai bir a bwyd. Ond chwarae tog cofiwch eu hoes a'u harferion Dirwest heb ei geni, a Llwyr- ymataliad yn cael ei ystyried yn chwilen bechadurus ac nid yn ras. Ystyr y gair bor, yn ol y Geiriaduron, ydyw focus, set cyd- gyfarfyddiad pelydrau, ac ymhle y caech air gwell i ddisgrifio'r Twr Tewdws o athrylith ac anaxth gwladgar oedd o amgyich rswrdd y Mostyn yn 1873 ? Y mae'r byrddaid yn y bedd bob un ond Mr. Alun Jones, y cerddor- lenor pedwar ugain mlwydd oed a mwy sy'n treulio'i brynhawn ar odre'r dref, ac yn araf- ddisgyn i lawr gallt yr henaint dan sbio drach ei gefn ar y blynyddoedd dedwydd a dreuliodd wrth Eisteddfoda a chanu yn yr Wyddgrug. I O'r naill le i'r llall. I- Cafwyd ymgom hefyd a Mr. David Arthur, yr alltud o Geredigion a fu'n cyd-deilwra a Daniel Owen yn yr gweithdy am ddeuddeng mlynedd, ac a fedrai ddywedyd yn dda ac yn ddiddan iawn amdano. Gwyr craff a chofus fel efe sydd yn gwneuthur yr Wyddgmg yn werth cerdded iddi i loffa ffeithiau y byddai'n resyn eu gollwng i ebargofiant. Ond y mae'n diolch pennaf yn ddyledus i'r Cynghorydd Thos. Roberts am fynd a ni i bobman diddorol yn y dref a'i hamgylchoedd. Y mae popeth o bwys yn y dref a'i dynion yn ei ben, a chanddo yntau y galon a'r medr i'w dweyd wrth bawb a ofynno ganddo. Diolch yn fawr i chwi, Mr. Roberts, am hebcor cymaint o'ch amser gwerthfawr i dywys y merlyn chwil- frydus o gwmpas rhyfeddodau Metropolis Dyffryn Alun. 0 ie, gwelais y ty-ond ei fod wedi ei ail wneud odd\ar hynny—lie ganed John Blackwell (Alun) ym Mhont Erwyl ar gyrion y dref, ac a syllais yn hir ar hen gartref y llyfnaf o'n holl feirdd. Gwelsom Eglwys y Plwyf, ac a wleddem ar ei hardclwch ø'i symbyliad i ddefosiwn buom wrtli fedd Richard Wilson yr arlunydd bydenwog, ac a resynem i wr a welodd y fath lwyddian.t i phoblogrwydd a chyfoeth orfod dibennu ei oes mor dlawd a diystyrllyd. Dyma'r hyn sydd ar garreg ei fedd The Remains of Richd. Wilfon, Efqr Member of the Royal Academy of. "Artifts. Interrd, May 15th, 1782. Aged 69. 0 foreu'i yrfa eirian,—rhoi oleu Ei athrylith allan, Darluniaj, dilynai'n Ian I'r linell ar ol anian. Yn Haw ei oes bu'n llesol—dyg iddi Deg addysg grefyddol; A'i gywair waith geir o'i ol A syna'r oes bresenol." Gwelswn gofgolofn Daniel Owen droeon o'r blaen, ae a siaredais lawer a'i ysbryd ef ac Ellis Edwards wrth eistedd un tro ar y fainc gerllaw iddi asbio ar ei wyneb cu a'i het Gym- reig ei chantal. Ond heddyw oedd y tro cyntaf imi weld y painting hardd o Ambrose Lloyd a roes ei fab-Mr. C. F. Lloyd, Mus. Bac., Newcastle—yn rhodd i dre'i febyd, ac sydd ynghrog yn ei phrif adeilad. Cyn cau'm nodyn' amyud o'r Wyddgrug, goddefweh im ■■■■■ V; ddiolch i'r Parch. G. Parry Williams, M.A., am ei groeso, ac i'r chwiorydd dirwestol am eu cwpanaid a'u croeso hawddgar. Yr oeddwn fel petaswn i'n cIywed atal dywedyd Roger Edwards wrth fod ym Methesda, canys clywais dipyn ar y pregethwr a'r golygydd campus hwnnw. Y mae rhyw bersonoliaebh -rhyw inditiduality-yn perthyn i drefi fel i bobl; rhyw mental and moral atmosphere, chwedl y Saeson ewch i Lansannan, a dyna aroglsweet Wm. a Henry Rees i'w deimlo yn y funud; ewch i Lanfair Talhaiarn, a dyna chwi'n teimlo presenoldeb ffri a rhadlon leuan Brydydd Hir a Thalhaearn dyna Ddinbych a'i Thwm o'r Nant a'i Thomas Gee; a champ i neb sy'n Gymro gwerth ei halen droedio heolydd yr Wyddgrug heb deimlo fod Roger Edwards ac Ambrose Lloyd a Daniel Owen a Glan Alun. yn troedio'n ddau a dau o bobtu iddo. I At Wr y Delyn i Dreuddyn Adref a ni i'r Mynydd Isaf at y nos, ac i'r Gymdeithas Lenyddol-nefoedd dyn bob amser lie bo hi'n un debyg i Gymdeithas Moria yng Nghaernarfon ers talm. Pistyllodd y glaw hyd ganol dydd drannoeth ond dyma'r wawr yn agor ei llygad glas a ninnau'n dau yn troedio hyd i Dreuddyn, lie y mae'r Parch. T. Miles Jones, egwan o nerth ond awenawl ei lygad, yn bugeilio tair o ddiadell- oedd y Corff yn nyddu darlithiau ar y delyn a'n hen benhillion, heb feddwl gronyn yn llai o delyn a Sahnau Seion wrth wneud hynny ac yn cadw'r cenllif Seisnig rhag gubo pethau gwellnaf, ef ei hun oddiar y ffordd. Y mae ganddo ef well siawns nag sydd gan efengyl- ydd Mynydd Isaf, canys y mae'r Treuddyn yn uwch i fyny, ac un sal fu'r Saesneg erioed am ddringo gallt a mynydd. A'i gweld hi'n colli ei gwynt ar y topiau yma oedd yn gwneud y gwpaned yn nyth Miles Jones mor felys ei bias. Gwelsom y pafiliwn campus-ac ynddo le i ddal wyth cant o bobl-sydd wedi ei godi ynglyn ag addoldy'r Treuddyn. Hwnnw'n corrugated iron, wedi ei lwyfannu a'i feincio a'i gadeirio'n hafal i dd-in sydd ar Lannau'r Mersey yma ac yn cael cynnal Eisteddfod a Chymanfa Ganu a Dramau ynddo, fel bo'r galw. Cronfa Gynorthwyol y Corff wedi cyfrannu canpunt at e; draul, a'r adeilad yn glod i bybyrwch y gweinidog ac i weledigaeth ei braidd a'r ardalwyr. Dyna hen Gymro diddan yw Llwyd Ty'r Capel, ac yn tywallt siarad a mi mor ddilol a diragymadrodd e phe'n fy adnabocl ers trigain mlynedd. Gwell ffordd o'rhanner na'r rhith-funudio gnvneud-a gosod sydd mor boenus o oer a gwastad. Fe alwaf heibio'r hen Lwyd eto gynted y caf gyfle, ermwyn ei glywed yn ail fynd dros stori y erocodeil honno. Cerbydu'n ol i'r Mynydd Isaf, a dychwelyd drannoeth drwy Fwcle, a synnu sut erioed y medrodd EIfE d ac Emrys James gadw'u hawen mor lan ei haden mewn lie mor llawn o Saesneg a llwch glo. Ac wrth adael Gwlad Daniel Owen, a cherdded i lawr am orsaf Bwcle, dacw weld Morfa Mawr Caer yn dod i'r golwg, claow Fro Maelor a Chyda'r Clawdd, sef Clawdd Offa, sy'n edrych oddiyma fel hem ddu ar odre gwisg Cymru Lan, lie y mae'r ddwy iaith yn ymafiyd codwm ers cyd, a'r hen Gymraeg, er cymaint yn hyn na'r Saesneg, yn dal ei hanadl mor wyrthiol. I ni, y mae'r olwg ar y ddwy yn ymaflyd codwm megis y gwelem sarff atgas y boa constrictor yn cyrdeddu'n farwol am wddf llew myngfras. I Llygad y Wawr J.H.J.

AR GIP.

Advertising