Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

Ffetan y Gol.

News
Cite
Share

Ffetan y Gol. Cofied pawb foti arifcti i'r Ffetan mai dyma'r gair sydd ar ei genau:- NITHIO'R GAU A NYTHU'R GWIR. Ai cywir y dyfaliad ? At Olygydcl Y BRYTHON ANNWYL SYR,—Ar ol darllen ysgri ddiddorol a ehywrain J.D.R. yn Y BRYTHON diweddaf, yn Portreadu Pregethwr a fu'n pregethu'n ddiweddar yn un o addoldai Llyn- lleifiad, wedi troi a throsi yn ein meddwl rai o brif bregethwyr ieuainc Cymru, deuthom i'r casgliad mai'r Parch. Howell Harris Hughes, B.A.,B.D., gweinidog poblogaidd a pharchus y Tabernacl, Bangor, yw'r gwr a bortreadid. Fe'i ganed yn Lerpwl, a bu'n gweinidogaethu am rai blynyddoedd gyda'r Saeson yng Nghroesoswallt cyn mynd i Fangor. Dy- munem ddiolch yn gynnes i J.D.R. am ei ysgrifau blasus a diddorol, o dro i dro, ar dudalennau'r BRYTHON. Melys, moes mwy. —Yr eiddoch yn bur. Gwrecsam J. H. OWEN Llanarmon a'i Cheiriog. At Olygydd Y BRYTHON SYR,—Difyr iawn i mi, ryw fis yn ol, oedd darllen llythyr y cyfaill caredig R. Vaughan Jones yn eich eolofnau, ar ol bod ohono am dro yn yr hen bentref bach anwylaf yn y byd i mi, sef Llanarmon Dyffryn Ceiriog. Neges ei lythyroedd ceisio codi tani i gael rhyw arwydd gweledig yn yr ardal mai yn an.aethdy Cymreig yr olwg Pen y bryn y ganwyd Ceiriog, mab i Phoebe Hughes, y fam a lefarodd y frawddeg ddiangof honno Ti wyddost beth ddywed fy nghalon." Yn sicr ddigon, gwych o orchwyl fyddai gosod cof- golofn iddo yn y fan; meddyliais i fwy nag unwaith y buasai ar waelod yr allt, ym mhen draw y bont, yn Jmyl y pentref, yn lie da bur i'w chyfleu. Buasai yno newn lie amlwg, yn gyrchfan pererinion lien, ac yn ysbrydiaeth i lu ieuenctyd agH'ru..wynhad a'r fraint o ganu Nant y Mynydd ac adrodd Alun.Mabon. Byddai'r golofn ar lan yr afon Ceiriog bron, ac yng ngolwg Cwiri wrth ochr cwm yn gorwedd, Nant a nant yn cwrdd ynghyd II A chlogwyni gwyllt aruthredd Wyliant uwch eu pennau'n fud. Diolch yn fawr am y llythyr a gododd y peth i'r gwynt, ac i chwithau am ei gyhoeddi.—Yr eiddoch, Bootle J.D.R. I Diridano ac yn y blaen. At Olygydd Y BRYTHON SYR,—Yr wyf wrthi hi ers rhai blynyddoedd bellach yn casglu geiriau a dulliau yrnadrodd a glywir ar dafod y werin ym Mon. Y ffordd oreu i lwyddo yn y mater yw mynd i sgwrs efo hen bobl-goreu po hynaf y bôut-ond gofalu na boch chwi ddim yn dywedyd beth fo eich neges, onite chwi a'u dychrynwch ac a'u teflwch oddiar eu hechel, a bydd yn anodd cael dim ganddynt. Cynmvys fy rhestr liaws o eiriau ac ymadroddion y carwn gael help rhai o'ch darllenwyr dysgedig i ddehongli eu hystyr a clod o hydi'w bonedd. Beth yw has ygeiriauhyn'?—(1) Strytin. Felynayseinir y gair ym Mon, ond weithiau clywir strut. Paid a gwrando ar ei strytin," Mi fu wrthi hi'n deyd ei strytin am all an o hydau," term go ddiystyrllyd am stori dyn, rigmarole, tittle- tattle. (2) Gythau. Mae arnaf eisio mynd i g'thau ngwallt," "Mary, c'tha ngwallt i," Mewn rhai rhannau o'r Sir than a glywir, Tha ngwallt i," cribo, trin, trefnu, gwneud. Ni wn o bethau'r byd beth yw bonedd y gair hwn a glywais ganwaith gynt. Hyd y sylwaf, thau gwallt merch yn unig y byddys. (3) Chwadal. Gymaint doethach oedd John chwadal ei gefnder," "Meddyliwch am fan- teision y bobl ifanc chwadal yr hen bobl." "Yrhen gyfamod chwadal y newydd." Fel y gwyddys, y mae chwadal arall i'w glywed yn ami, ond chwedl yw'r chwadal hwnnw ond ystyr y chwadal yr ymholaf yn ei gylch yw rhagor, o'i gymharu a. (4) Diridano. "Mae Wil yn beth diridano iawn," 'Ntydi Tomos Tomos yn greadur diridano iawn. Gwys fod y dyn diridano yn un eithaf dymunol i fod yn ei gwmni. Hwyrach y dylem oil amcanu at fod yn bobl ddiridano. Un diddan, siriol, nwyfus lawen, a thipyn o ysmalhawch yn ei sgwrs, yw'r diridano. Pe gofynnech i ddyn o Fon egluro i chwi ystyr y gair, rhywbeth i'r perwyl uchod a gaech. A glybu rhai o'ch darllenwyr ddywediad tebyg i hwn, Byw ar ddannedd y giybin ? Os do, ffasiwn fyw yw hwnnw ? Byddwn ddiolchgar am ateb i rai o'r holion hyn.—Yr eiddoch, etc., Valley, Mon. R. HUGHES. Cleian: Pastwn Gwyddel I At Olygydd Y BRYTHON I SYR.—Yn Y BRYTHON am Dachwedd y 9fed, gofynnid an. esbomad ar y gair cleian oedd yn yr hen bennill yng ngholofn y Bara Brith. Yn fy nhyb i, gwna un o'r geiriau dilynol y tro i'w egluro pastwn, ffon gref, glas onnen, gwroden, iordan (y Deheudir), neu osmynnwch, bastwn Gwyddel (sh-illelagh). I. BROTHEN J

MEDDYLIAU'R GALON.

AR GIP.

Advertising