Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

- Basgedaid o'r Wlad. I

News
Cite
Share

Basgedaid o'r Wlad. I .==- ¡. O'R HEN SIR, iSEF ¡SIR, ,F'ON.- Cwrdd blasus a gafwyd yn Aberffraw y dydd o'rblasn, i sefydlu'r Parch. E Sydney Morris yn fugail y gorlan Fethodistaldd yno, wa diacon hynaf yr eglwy.-», Mr. E. Parry, Bod- athro, yn llywyddu. Daethai amryw o Leyn i gwyno'vi colled am y gweinidog, ao i ddy- muno'n dda iddo yn hen ardal y tywysogion. Pregethwyd gan y Parchn. D. Foulko" Rob- erts, Rhydbaoh, a T. C. Williams, Perth- aothwy. Yn y Borth clybuwyd doniau'r Parch. Idwal Jones o'r Rhos—efe'n traethu a'i lithrigrwydd arferol ar Waldo a James Nefyn. A nos drannoeth yr oedd ym Mhen- uel, Llangefni, yn darlithio ary Tair Telyn, sef Ceiriog, Mynyddog a Thalhaearn. Y mae yn arfaeth y Parch. J. Williams, Hyfrydle (M.C.), Caorgybi, i ymddeol o'i ofalaeth weinidogaethol, ac wedi mynegi hynny i'w eglwys. Pe'r arosasai am ddwy flynedd arall, gwelsai ei chwarter canrif yno. Ystyrrid ef yn wr cadam, ao wrth edrych ar ei wyneb difrif, gwelid cadernid didderbynwyneb clogwyni Arfon. Ergyd ar ol ergyd a dderbyniodd Mr. a Mrs. Evans, Bom y Felin, Capel Mawr, oblegid ychydig amser yn ol derbyniasant y newydd am gwymp marwol eu mab Ritchie yn Ffrainc, ac wele newydd prall cyn drymed yn eu cyrraedd, i'w mab Hugh ddisgyn i'w fedd yno dan y gawod dan. Bu allan er dechreu'r alanas. Loes ar loes, ac yn gofyn nerth mawr i beidio a grwgnach. A dyna Mr. Richard Williams, y Wra ;h Ddu, Brynsiencyn, yn dod i'w ddiwedd yn y rhyfel, yn dair ar ddeg ar hugain oed. Ar ol bod ohono am ddeuddeng mlynedd yng Nghanada, croesodd y mor i Ffrainc. Dyn ieuanc nod- edig o hardd a dewr.-Yng Nghalfaria (B), Mynydd Mechell, bu cwrdd nodedig o ddi- > ddorol i dda^hlu canmlwydd yr aohos,— pregethwyd nos Fercher a dydd Iau. Yr oedd disgwyl eiddgar amdano, gorlannwyd y capel y fath fel y bu raid symud i gapel eang Jerusalem (M.C.). 30'3 nidoedd digon o le yno, oble;?id bu raid i lawer fi-kdloni i aros y tuallan i'r dfvvs. Siom i'r cyfarfod oedd i'r hen weinidog, y Parch. R W. Divvies, Pontar- dulais, fethu bod yi:) gwaeledd fu'r aohos. D rwy ei ymroad ef y codwyd y crapel newydd hardd sydd yno. Clywaom hefyd i weinidog Seion,Cefn mawr y Parch. p, R. Owen- gal ei lesteirio. Llannwyd y bwlch gan weinidog Amlwch, y Parch. E. Pritchard, Y ddau wr arall oedd y Parch. E. Williams, Froncysyllte (un o blaut yr eglwys, a gwr dwyla^h o gorff a meddwl) a'r Parch. D. Lloyd, Hebron, Caorgybi, sydd fel y brenin Da.ydd yn fawr ei barch a'i ddylanwad. Adnabyddir yr aohos fel y Garreg Fawr," a charreg drom iawn fu hi i'r hen dadau mewn aberth elent yno ar wynt a glaw, a'r aberth yn rhoi melyster yn y moddion. Cychwynn. wyd yr achos yno ym mlwyddyn Waterlw, a'r wlad yn dryfwl o derfysg. Ac wele ei gan- mlwyddiant yn cael ei ddathlu yn swn Armagedon fwyaf Ewrop. Lawer blwyddyn yn ol, bu'r Parch. L. W. Lewis (Lector), Bootle, yno'n bugeilio. Ond ni fu'r aohos yn gwisgo gwedd fwy calonnog a llewychus nag ydyw heddyw, ar ei ganfed flwydd, yn adnewyddu ei n ;,rth fel yr eryr, dan weinidog- aeth y Parch. W. P. Taomas, sydd a dyfodol disglair o'i flaen. D'sgynned ysbryd y tadau ar y plant. Caed tywydd dymunol, a phawb wrth eu bodd.-Llygad Ago-red. TREFFYNNON.—Cynhaliwyd cyngerdd gwych yng nghapel Rehoboth nos Fercher, y 15fed, pryd y sicrhawyd gwasanaeth Dr. Caradog Roberts i gatiu'r orga,.i, a'r canor- iori Mr. David Ellis, Llundain Miss Annie Davies, Manchester a Miss Minnie Williams, Treffynnon. IJannwyd y capel eang hyd yr ymylon, a gwnaeth yr organydd a'r canorion eu rhan yn dra chanmoladwy. Dylid crybwyll fod Miss Williams—un o blant Rehoboth— wedi gwneud ei rhan yn rhagorol, a chafodd dderbyniad croesawgar gan ei chyd-drefwyr. LLENORION Y TOW YN.-Dyma gopi o raglen Cymdeithas Lenyddol Towyn, sef Towyn Meirionydd, am y gaeaf hwn :— Ein gwledd o'r diwedd y daeth,—w^r haelion, Arlwywch goginiaeth,— Aeron lien, pur win a llaeth, I'n llonni gan y lluniaeth. Dyger.seigiau da, gwresogawl—eiria>.i Peroriaeth hyfrydawl; Coder dysglau, meiliau mawl, I'r byrddau gan wyr ba-rddawl.-Alitit. CYMDEITHAS UNDEBOL TOWYN, 1916-17- Llywydd y Parch. Hywel O. Jones is- lywyddion, Mri. J. Geufronydd Jones, D. O. Jones, Hugh Williwn, trysorydd, Mr. Wm. Evans pwyllgor, y Parchn. T. R. Jones, T. Gwilym Roberts, R. Davies, B.A., Mri. J. Maethlon James, Jacob Rowlands, Hugh F. Jones, E. Howells, J. H. Tnomas, John Price, Mrs. Humphrey Williams, Mrs. Gwilym Roberts, Mrs. E. E. Jones, Misses Ethelwyn Williams, Maggie M. Jones, M. J. Dd.vies. Ysg., W. Pryce Williams. Hyd. 30-Cyfar- fod Agoriadol anerchiad gan y Llywydd can gan Mrs. Humphrey Williams anerch- iad, Deffro, mae'n ddydd! gan Mr. H. Williams cyatadleuaeth Adrodd unawd arycrwth gan Mr. Hubert Davies cyfeilvdd, Miss J. Evans, L.R. A.M. Ta-h. 13—Darlith, Rhai o nodweddiony Cymro, gan y Parch. j Gwilym Roberts. 20—Y Wefus Bur, Mr. H. F. Jones; Yr Ysgol Sabo'hol, Mr. Ja-ol) Rowlands. 27-Noson Gerddorol Dr. Parry, Mr. H. W. Griffiths J. Ambrose Lloyd, Mr. H. Morgan Jones R. S. Hughes, Mr. D. O. JonesJ(Tyddyn du) David Jen- kins, Mr. J. Lloyd,-L.T.S.C. Rhag. 4—Cyfar- fod Amrywiasthol, dan ofal Mri. E. Howells a John Price. ll-Y Cad. Gordon, Mr. Edward G. Evans Arglioydd Kitchener, Mr. W. J. Williams Arglwydd Roberts, Mr. Harry J. Pugh Florence Nightingale, Miss Gwladys Williams Edith Cavell, Miss Blodwen Morris. 18—Pa un ai mantais ai anfantais fyddai uno'r enwadau ? Ilantais-Mr. John Williams, Anfantais—Mr. J. Geufronydd Jones. lonawr 1—Ymgomwest a Chyfarfod Amrywiaethol, dan ofal Misses Dora Morris a Mattie Jonathan. 8—Darlith. 15-Daniel Owen y dyn, Mrs. Humphrey Jones Daniel Owen y llenor, Miss Williams, Idris House Bob Lewis, M'ss J. Jones, Tremafon Wil Bryan, Miss Thomas, Berwyn House. 22- Cyfarfod Amrywiaethol, dan ofal Mri. W. Allen Jones a J. H. Thomas. 29--John Penry, Mrs. Gwilym Roberts Morgan Llwyd o Wynedd, Mrs. H. Williams; Vavasor Powell, Miss Roberts, Traeth euraidd; Howel Harris, Mr. Joseph Jones, B.Sc. Chwef. 5-Y Tribunlys, y Parch. Gwilym Roberts a Mr. Maethlon James, Y.H., i ofalu am y gweithrediadau. 12-A ydyw'r iaith Oymraeg yn werth ei chadw'n fyw ? Cad.- Mr. William Evans, Nac.Miis Ethelwyn Williams. 19—1, Llyfrau Cymraeg difyr a da, Miss Tryphena Williams; 2, Emynwyr Cymru, Miss Lena Edwards; 3, Y Beibl Cymraeg, Miss Gwladys Morgan 4, Y Nofel Gymraeg, Miss J. Evans, Garthgwyn. Mawrth 1—Cyfarfod Cystadleuol: cynhygir 2/6 o wobr am y Rhaglen oreu ar gyfer Cyfarfod Cystadleuol. W AENF A WR.-N.)s Fercher, cafwyd cyf- arfod i'r Marconi, Cefn Du. Wele restr o'r rhai gymerodd ran yn y cyfarfod cainc ar y piano gan Mr. Waldon Davies, yr hwn oedd hefyd yn cyfeilio, ynghyda Mr. H. Roberts. Caed adroddiadau gan Miss Mailt Williams, Penygroes, a Mr. Evan RcberLs, Tan y merddyn, Waenfawr. Canodd Mri. William R. Roberts, Rowland Roberts, Waldon Davies, Mrs. E. Williams, Waenfawr; d^.dl gan Mi s Mallt Williams a'r Milwr Hugh Davies. Djuawd ar y piano gan H. Roberts a Rowland Roberts. Diolchwyd gan y Milwr G. R. Jones a'r Parch. R. E. Owen. COEDLLAI: Darlith y Tair Telyn.- Dyna a gafwyd yng nghapel y Bedyddwyr, nos Fercher, Taohwedd 15, gan y Parch., Idwal Jones, y Rhos. I ni ,drigolion y Goror, sy 'mron anobeithio cadw'n hiaith yn fyw amserol iawn oedd tonic Idwal i fywiogi'n hysbryd. Yr ydych chwi y Lleifiaid eisoes wedi ca-jl noson gyda'r delyng an wrparchedig o ymyl y Clawdd, a chynghorwn chwi eto, os am fwyd blasus a gwir Gymreig, i waiodd y gwr firaeth a dawnus o'r Rhos i ddod yna a'i Dair Telyn. Dyna dda oedd ei deyrnged i Islwyn, ao r oedd ei ergydion i'r gweilch hynny sydd am wadu iaith eu mamau yn deilwng o'r French 45's. Morfin oedd yn y gadair, ac ni welais mohono erioed A golwg mor hapus arno, ond pa ryfedd, ei fwyd o, onite ? Diolchwyd gan y Mri. J. E. Williams a D. Jones, Hersedd. Peidiwch â bodm Hhir heb alw eto, Idwal; hwyrah y cawn Y Pre- gethvv a'r Gwrandawr,—yr ydych eisoes wedi sierhau lliaws o'r olaf ar gyfer hynny.— Gohebydd. O'R HEN DREF, SEF CAERNARFON -Ni chaewydhen F.%relkiiad Czieriiar' nwedi'r ewbl. Cymerwyd hi ar brydles gan y Cyng- horydd John Pritchard, a chafodd ddiolch calon y gwerthwyr yn y farchnad ddydd Sadwrn am gymryd y cam pwysig hwn. Y mae rhai o'r niilwyr sydd yn aros yma yn ganorion gwych. Yng nghapel Salem (A.), canodd y Sapper Charles Lead kindly Light nes gwefreidd;o pawb. Erbyn hyn y mae dros drigain o fechgyn Caernarfon wedi eu lladd yn y rhyfel.- Dewiswyd y rhain yn flaenoriaid yn Engedi (M.C.): Mri. R. E. Evans, Bron Eifion O. Jones, New Street; J. E. Jones, Llanbeblig Road a J. Rowlands, Bro dawel, Y mae'r cyntaf yn fab-yag-nghyfraith i'r diweddar Ddr. John Hughes (Lerpwl a Chaer. narfon).Er y rhyfel erch, ceir fod amryw- o Gymdeithasau Llenyddol y dref wedi dech- reu ar eu gwaith gaeaf. Dyma grynhodeb o'r modd yr agorwyd rhai ohonynt Pendref (A.) anerchiad gan y gweinidog, y Parch. Camwy Evans, ar Patagonia un oddiyno yw. Engedi anerchiad rhagorol gan y gweinidog, y Parch. J. Owen,M.A. Salem (A.), Caarsalem (B.), ac Ebenezer: Social, neu yn ol yr hen bobl, Cwrdd Clebran.-Y Gwyn. OROESOSW ALLT.-CYJÙlaliwyd Cyman- fa Ganu y Saboth diweddaf yng nghapel Hennon arweinydd, Dr. Caradog Roberts,; y capel a> festri'n llawn. Rhoddwyd un- awdau a denawdau rliwng y tonau y cerdd- orion oedd Mr. Ja :k Ellis, Croesoswallt Miss Gwenonwy Griffith, Nefyn; Private J. Hughes, o'r Park Hill Camp, a Mr. J. T. Pritchard. Un o'r cymanfaoedd goreu a afwyd yn y lie erioed, a'r milwyr yno'n cyd- addoli a chydganu mewn hwyl nefolaidd, a hynny'n eu hatgoffa am eu cartrefleoedd. Dcallwn fod Miss Annie Davies, Penrliyn- deudraeth, a Miss Gwenonwy Griffith yn canu nos Iau yn Park HaU Camp, i ddidd^nu'r milwyr. WYDDGRUG Capel M.C. Maes y Dref — Cynhaliwyd cyngerdd iiehraddol n,)s laii ddi- weddaf, at yr achos yn y lie. Cadeirydd, Taos. Jones, Ysw., Woocllands cyfeilydd, Miss M. J. Parry, A.R.C.M., Llys Ifor. Gwasanaethwyd gan y canorion a ganlyn soprano, Miss Parry, L.L.C.M., Llandudno Junction Mrs. Daivier, Blaenau Ffestiniog tenor, Mr. Peter Edwards, Gwersyllt bariton Mri. W. A. Griffith, Gwersyllt, a DJovid Rob- erts, Wyddgrug bass, Mr. R. Gwynfab Hughes, Wyddgrug a pharti dan arweiniad Mr. J. Foulkes Davies. Adroddwyd gan Miss Dllys Rich ac Albert Rich. Noson ddifyr, y canorion ar eu goreu, encoriwyd y cwbl, a'n dymuniad yw cael eu clywed yn fuan eto. Y capel yn orlawn.—Gwrandawr. GOSEN, GROESLON.-Dolchaf am ofod fechan i roddi cipdrem ar lafur a llwyddiant y Parch. W. Walters, ein gweinidog, am y tair blynedd y bu'n gweinidogaethu yn yr eglwys uchod. Gan ei fod yn gerddor da, a phleser mawr ganddo i gyfrannu addysg yn y cyfeir- iad hwnnw, y mae wedi bod o fendith amhris- iadwy. Y tymorcYiltaf ymgymerodd â dysgu egw) ddorion cerddoriaeth iddynt, ac enillodd pob un ohonynt ddwy dystysgrif. Yr ail dymor ymgymerodd a dysgu cantawd Joseph, a berifornvwyd ar derfyn y tymor. Trodd allan yn llwydd'ant mawr, a chafwyd eJw sylweddol. Y tymor diweddaf draAefn, ymgymerodd a dysgu cantawd Plant yr Y sgol, a throdd allan mor llwyddiannus fel y derbyn- iodd Gosen elw o £ 20 Cynr> rthwyodd amrjrw achosion yn y cylchoedd hyn drwy ei pher- fformio, yn eu plith eglwys fa?h Bwlch y llyn (120 o elw clir.), cronfa'rMilwyr, Cymdeithas y Groes Goch, a Cuymdeithas y Famaeth ym mhlwyf Llandwnog. Arnoswei i i y gaeaf p r toa ddosbarthiadau ar gyfer arholiadauyr Undeb Cymreig a Chyfundeb Lleyn ac Eifion- ydd, a digon crybwyll mai 6 yn unig oedd yn llwyddiannus eleni yng Nghyfundeb Lleyn a' Eitionydd yn yr adran dai 16 oed arholiad yr Undeb Cymreig o'r 6 yr oedd 3 o eglwys Gosen sef y wobr gyntaf vn y Cyfun- deb a'r 4edd a'r 5ed Dywed hyn eto am ei allu a'i ddiwydrwydd gyda'r plant Gobeitli- iwn yn fawr y caiff ei ai briod-y- hon sydd fel yntau ag awydd a vzerddol i w ithio—nerth ac iecliyd a phob cysur fel y byddont yn ddedwydd a hapub yn ein plifh -Pl A 0 0 FETHESDA.—Newyddion drwg a ddaeth yma y dyddiau diweddaf o Ffrainc,— saith c fechgyn yr ardal wedi cwympo ar foes y gwaed yn eu plith Ritchie Williams, B.A.; Carneddi Road. Nid oedd yn y Fyddin fachgenm wy dymunol aglana?h eigymeriad. Yr oedd capel Brynteg ya llawn nos Ian ddi- weddaf, yn yr oedfagoffa am lano, ac ni ddy- wedwyd dim gorm.)d amdano. O drueni gweld bechgyn goreu'r wlad yn cwjmpo fel hyn. Yr oedd wedi cyrrasdd sale uchel ym myd addy-}g, ai wedi dechreu ar ei waith fel athro yn Norwich. Dyma gopi o lythyr a anfonodd at gyfajill ychydig ddyddiau'n ol :— Annwyl Ffrind,—Diolch yn fawr i chwi am dch llythyr a dderbyniais ddydd Llun. Yr oedd yn dda iawn genayf gael clywed oddi- wrthych a deidl eioh bod mewn iechyd iawn. Yr wyf finnau m-wa ieohyd, diolch i Dduw am hynny, ond yn byw mewn pryder o hyd. Y m v3 gwaith mawr far ein cyfer ym i, as y mae bywyd yn ansicr iawn.. Y mae o yn both braf iawn i'r rhai sydd adref i gael clywed ein bod yn symud ymlaen, ond 'does neb ond ambell i fam a ffrindiau yn gwybod beth mae pob m)dfedd or ffortld yn gostio mm byw-- ydau gwerthfawr. Byddaf yn teimlo'n galon- nog iawn ambell ddiwmod, ond tro arall bydd popeth yn ddn. Diwrnod felly y w hi heddyw. Y r y dym wedi cael clywed fo d gwaith neilituol i'w wneud i ni. 'Chaf i ddim dweyd beth yw, cewch weld y ewbl yn y papurau. 'Djes arnaf ddim pfn, 'rwyf wedi gwneud fy nyletswydd hyd yma ond buaswn yn leicio dod yn ol yn didanaf. Wel, mal) arnaf ofn fod fy llythyr yn drist iawn i chwi, ond rhaid i chwi faddeu. Byddaf yn treio bod yn siriol ym'iob llythyr i fy mam a Jini; mnd mae hi yn anodd iawn weithiau. Goboithio na ddaw Oscar ddim allan am hir iawn. Cofiwch fi ato pan welwch chwi o. Cofiwch fi yn enwedig at eich mam, ¡ a'ch tad, » Tom ac Annie. Hwi lwc y cawn weld ein gilydd yn fuan iawn,-Rya yn fyr, oddiwrth eich hen ffrynd, RICHARD.-Beth yda?h chwi'n feddwl o hwn ?— Er yawn a'r corwynt,—e>r y nos, Er y niwl ar f'emrynt, Hyderaf y caf, fel cynt, Weld yr haul wedi'r helynt. Pan mao rhai yn cwympo mae era ill yn gwneud gwrhydri ar faes y frwydr. Clywais fod Wm. Edwards, Pen y graig, wedi ennill bathodyn y D.C.M. am achub bywyd ei swyddog, pan oedd hwnnw bron wedi ei gladdu o'r golwg.Ma'e'r Milwr John Rcberfcs, Brittania, gartref am dro o Lundain. Da fydd gan ei gyfeillion wybod ei fod wedi ei ddewis allan o saith a gystadlai yn bandmaster y Gatrawd y perthyn iddi. I Di,* iawn, Johnny. Dyna fachgen araU sydd wedi dringo'n uchel yw Bob Morris, Tros y ffordd, ers rliai blynyddoedd yn awr yn brif ganwr Coleg Magdalen, Rhydychen. Dymvr Go leg yr oedd Tywysog Cymru'n efrydydd ohono, ac fe dderbyniodd Bob anrheg werthfawr ganddo am ei ddiddori a'i ganu. Deallwn ei fod wedi cael ei apwyntio'r wythnos o'r blaen yn organydd un o eglwysi mwyaf y dref bwysig. Bydd pawb yn falch o hyn. Pob llwyddiant, gyfaill.-——Cymdeithas Lenyddol y Gerlan dyma un o'r Cymdeitha au lleol goreu'n dcliameu. A phob un arall bron wedi rlioddi fyny, dym T. hon eleni wedi rua rori ami ei hua, fel y dengys y rhaglen ganiynol Llywydd, y Parch. R. W. Jones-, M.A. is- lyw., Mri. Wm, Roberts ac E. R. Jones: ysg., Miss J. Roberts, Mr. R. W. Griffith I ysg. ariannol, Mr. E. W. Jones ;$trys., Mr. EVlm William i. Tach. 1 -David Livingstone y Prifa,iiro T. Rees, M.A., Bangor Ilywydd, y Parch. R. W. Jones,\M.A. Ta-h. 15 Rhyfel a Christionogaeth, y Parch. J. It Howard, Colwyn Bay Ilywydd, Mr. Jere- miah Tnomas. Rhag. I3-Ar ol y Rhyfel, Mr. Evan R. Davies, Pwllheli; llywydd, Mr. G. Roberts, Lome House. Rhag. 20 Canu Alawon Gwerin, trefnydd—Mr. J. S. Williams, A.C., cantores-Miss Madge Jones, Bangor; llywvdd, Mr. Wm. Roberts. Ion. 17-Dewi ?/t, yr Athro J. Morris Jones, M.A., Bangor; Uywydd, y Parch. J. T. Job. Chwef. 14— Olion Hen Hanes Cymru (gyda darluniau), Mr. S. Mauriae Jones, A.R.C.A., Caernarfon llvwvdd, Mr. J. Jones, Brynteg. Chwef. 28 Morgan John Rhys, y Jacobin Cymreig, y Parch. T. Shankland, Bangor; llywydd, y Parch. James Jones. Mawrth 14-Y Dyn OrYl, yr Athro W. R. Jones, Ysgol y Garti, llywydd, Mr. E. R. Jones. Ni fuasai modd caal ei gwell, a da iawn y gwnaethant trwy e3tyn ei therfynau rhyddid i'r neb a fynno ymuno a hi.-illin Ogwen.

KEEP SMILING I

Advertising