Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

GOSTEG. 1

-DYDDIADUR.I

Qyhoeddwyr y Cymod

Advertising

Gorea Cymro, yr an Oddieartre…

News
Cite
Share

Gorea Cymro, yr an Oddieartre I WARRINGTON.-NOS Lun, Tachwedd 13, cynhaliwyd un o gyfres cyfarfodydd y Gym- deithas Lenyddol, dan lywyddiaeth y Parch. R; Parry Jones, pryd y cafwyd darlith ragorol gan Mr. R. Roberts, WhiteStreet, ar y doniol a'r duwiol Billy Bray. Y Darlithydd yn ei hwyliau goreu, a'r gwrandawyr wrth eu bodd. Diau mai teimlad pawb ydoedd y carent feddu deuparth o ysbryd Billy Bray, ac o'i gred mewn gweddi. PRESCOT.Nos Iau, Tachwedd 9, yn ysgol* dy Ebenezer, dan nawdd y Gymdeithas Ddiwylliadol, caed cyfarfod amrywiaetkol. Cynhulliad rhagorol: brithiad pur dda o'r milwyr. Da gennyf ddweyd fod rhai yn ffyddlon neilltuol i'r holl gyfarfodydd, wyth- nosoi a Sabothol. Yn canu Mrs. D. J. Foulkes, Mrs. Henry Evans, Cpl. Evans (Llanberis), Mr. D. J. Foulkes. Adrodd Marian Blackwell, Pte. William Williams (Pen y mynydd, Mon), Edward Williams. Cystadleuaeth adrodd emyn i blant goreu, Tryphena Williams; 2, Isaac H. Blackwell; 3, Gwennie Blackwell. Goreu am gyfieithu, a'r araith ddifyfyr-testun, Bore Saboth yng Nghymru, Edward Jones. Canodd Dafydd Foulkes Cwm Llewelyn yn dda iawn hefyd Cpl. Evans, Hoff wlad fy ngenedigaeth, A Bmthyn yr Amddifad, yn dyner a theimladwy. Llywydd, Mr. John Williams. Beirniad a chyfeilydd, Cpl. Evans, Pen y cae, sydd yn gerddor gwych, ac yn rhaid iddo wrth ddwy ffon cyn y gall symud cam. Diolchwyd i bawb gan Mr. Isaac Williams a Mr. Edward Jones. Dibennwyd trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau, Cpl. Evans yn arwain.-E.W. CROESO HEY WOOD.—Prynliawn dydd Iau, Tachwedd 2, rhoddwyd te a chroeso yn ysgoldy capel Heywood Street i'r milwyr Cymreig clwyfedig sydd yn ysbytai y cylch. Daeth nifer dda iawn ynghyd, a chafwyd cwmni amryw o'r milwyr sydd yn Heaton Park, ac amlwg oedd eu bod yn mwynhau'r wledd ardderchog a ddarperwyd ar eu cyfer gan bwyllgor o chwiorydd o eglwysi'r cylch. Ar ol y te, cafwyd cyngerdd tan lywyddiaeth y caplan Cymreig, y Parch. E. Wyn Roberts. Cafwyd amryw ganeuon gan Miss Kitty Thomas, Turkey Lane,—y Tqae hi, fel eraill ('r dref, yn barod ei chymwynas i'r milwyr clwyfedig, a Miss S. Parry hithau yr un modd yn barod a'i chaneuon, a phleserus oedd clywed y milwyr yn uno yn y cydganau; Corporal Jenkins, efe'n adnabyddus iawn yn y cylch erbyn hyn Lance-Corporal Thomas, yntau'n swynol iawn a chafwyd adroddiad penigamp gan Se gt. Jones, Heaton Park. Cyfeiliwyd yn fedrus iawn gan Mrs. Lloyd, Heywood Street. Teimlad pawb ar y terfyn oedd Melys, moes mwy.

Ffetan y Gol. I

Advertising

Cymdeithasfa Connah's Quay.

[No title]

Advertising

I DAU .Tll'R AFON.