Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

o Big y I Lleifiad.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

o Big y I Lleifiad. FUSILIERS AINTREE.—Y mae Garri- son Battalion o'r R. W .F. yn cael ei ffurfio gan mwyaf o Ddosbarth B ac a berthynant eynt naill ai i'r R.IN.F., y Welsh Regiment, a'r L'pool Kings. Gan y bydd y dynion, pan gyr- haeddont i'r Dw$rain, yngorfodllenwi eu hor- iauhamddeno fysg eu doniau hwy euhunain wydd,a'r fala,tiwn gael cystal cyflenwadag sy fodd gogyfer a hyn cyn cychwyn ar eu talth. Y mae offerynnau Seindorf Tabwrdd a Phib (Fife and Drum Band) eiaoes wedi eu cael, a chanddynt yr afr hefyd, a fyddai arfer a ph erthyn i'r London Welsh. Dyma'r hyn sy'n. eisiau'n awr: angenrheidiau'r Drum Major a'r B-ndvdd, a chot goch i'r$ £ r; a bydd y Cyrnol a'i swyddogion yn ddiolchgar iawu i bobl XiOrpwl—-Cymry'n enwedig—os cant ar ei-i calon druga:rhau wrth y gatrawd A ch asg Ju'r £ 30 neu £3,5 sy ijaid wrtho i gael y pethau hyn. Bydd Mr. R. Vaughan Jones, 52 Hertford Road, Boootle, yn falch o gael derbyn pob swm a anfoniriddo at yr amcaoa, ae a sicrha'u fforddoliad i'r Cyrnol. Hwyrach mai'r hyn a ogleisiai fwyaf ar ddychymyg rhai ohonoch fuasai crynhoi'ch cynhorthwy ar gael y got goch i'r afr, a gostiai tua seithbunt a ehweugain. Gafr a roes y Brenin i'r London Welsh ydyw; a rhwng ei chyrn troellog, ei blew a'i barf batriarchaidd, a'r gdt goch a gaffo gennyoh chwi a'ch tebyg. byddai yn batrwm o anifail i droedio o flaen y Garrison Battalion, ac i sberdynnu'r Cymry i gael ein gelyn y Kaiser ar ei dau gorn. Cofiwn yr aptI, a heliwn yr arian rhag blaen. DARLITH DEIVI WYN.-Daeth llond y lie i wrando darlith yr Athro J. Morris Jones, M.A., Bangor, ar Dewi Wyn gerbron y Gym- deithas Genedlaebhol yn Colquitt Street, nos Wener ddiweddaf,—y gynuUeidfa'n cynrych ioli pob plaid a dosbarth, ac yn deilwng o'r Gymdeithas ar ei goreu ym mlynyddoedd ei hanterth. Mor hyfryd ei gweld yn dal ei thir ar adeg inor enbyd, ac aelodau newyddion yn ymuno beunydd i g&dw'r cwlwm cenedlaethol cynnes hwn rhag datod. Mr. W. Garmon Jones, M.A., Prifysgol Lerpwl, oedd yn y gadair; ac wrth ei gyflwyno i'r cyfarfod, a sylwai fody darlithydd yn gyfuniad o'r ddau beth gwahaanl ond dymunol iawn i fod gyda'i gilydd—ysgolliaig ac awenydd fod yn rhaid wrth fardd i ddeall bardd a'i elfennu a'i fod ef a'i destun yn gweddu ei gilydd i'r dim. Diolchwyd i'r darlithydd ar y diwedd zan Mr. J. G. Rowlands, B.A., y Parch. D. Teewyn Evans, B.A., aPhedrHir, gan dalugwrogaeth iddo fel y Cymro mwyaf ei feistrolaeth o neb sydd yn fyw ar yr iaith Gymraeg, a mwy, fe ddichork,! na'r un a fu o'i flaen ychwaith. Diolchwyd i'r cadeirydd gan y darlithydd a Mr. Robert Roberts, Y.H., trysoiydd y Gym. deithas, ac yn cymell y llu dieithriaid oedd yn bresennol i ymuno a dod i chwyddo'r cylch llengar a geid ar aelwyd y Gymdeithas. Nid oesofodheddywi ddyfyniiu o'r ddarlith-dim ond dywedyd ei bod yn rhcddi lie uchel eithr- iadol i Ddewi Wyn, ac yn dywedyd, ez mai diffygiol oedd ei wybodaeth oblegid yr oes yr oedd yn byw ynddi, fod ei awen naturiol mor gyfoethog a chryf ei haden a'r un bardd a gododd Cymru. Aeth dros ei anffodion cystadleuol; dyfynnodd o'i linellauf chyr- haeddgar wrth gribo'i feimiaid cyfeiliornus ac a ddibennodd drwy ddethol amryw o deleidion goreu Elusengarwch, Molawd Ynys Prydain, ac yn y blaen, gan eu hadrodd mor eneiniedig a'uhegluro morglirnes fod ydyn a'i feddyliau yn fyw gerbron. DAFYDD A'I PERLEN-DafydO, Owen, fel y gwyddoch, oedd enw Dewi Wyn, ac yn ffermdy'r Gaerwen, Llangybi, y trigai. Yr oedd fy ewythr, y diweddar Barch. I bavid Jones, Bryn Llefrith—a fu farw'n ddiweddar yn agos i ddeng mlwydd a phedwar ugain oed—yn ei gofio; ac a ddywedai wrthym un tro y byddai ef a'i gyfoedion, wrth chwarae ar Ion Llangybi, yn adnabod Dafydd Owen a'i ferlen o bell cyn iddo ddod atynt. Pam ? ebwn innau. O, amy byddai'idraedheglog yn llusgo hyd y ffordd pan yn ei ffogeth, y ffrwyn yn llac yn ei phen, a hithau'n cael tragwyddol heol i bori'r tusw gwellt yma ar y dde a'r llall ar y chwith, fel y mynnai," ebe Dafydd Jones. Yr unig beth sydd yn y Gaerwen heddyw a ddengys mai hen gartref Dewi Wyri ydoedd ydyw'r D.O." sydd wedi ei sgrifio ar ygarreg sy'n d6 i'r out mochyn. Aed ei gorff yn fwyd i gwn, Aed ei enaid i Annwn, ebe Dewi wrth gystwyo Napoleon, bwgan ac arswyd mawr Ewrop yr oes honno, "ac eithaf ewpled," ebe'r Athro Morris Jones heno, i'w dywedyd am y bwgan arall sy'n arswyd Ewrop heddyw." TYSTEB PEDROG.-Dyma ragor o dan- ysgrifiadau sydd wedi cyrraedd at y dysteb Genedlaethol i'r Prifardd Pedrog :—. Mr, A. R. Price, Liverpool. 2 2 0 Cyng. p. R. Rogers, Birkenhead 1 1 0 Mr. Evan Evans, Liverpool 1 11 6 Mr. R. A. Griffith (Elphin).. 1 1 0 Mr. H. Humphreys Jones, Liverpool 110 Mr. R. E. Jones, Liverpool. 1 1 0 Mr. J. E. Buckley, Rhyl 1 0 0 Y Parch. John Owen, Anfield 0 10 6 Mr. R. J. Ellis, Liverpool 0 10 6 Mri. J. C. & G. M. Davies, Whalley Range. 0 10 6 Mr. J. R. Jones, London Road 0 10 6 Proff. J. Morris Jones, M.A., Bangor 0 10 0 Mr. David Roberts, Liverpool 0 10 0 Mr. J. Beynon, Ebenezer, Caerdydd 0 10 0 Mr. J. Lewis, etc 0 10 0 Miss Griffiths, Llanidan Hall. 0 10 0 Mr. G. T. Evans, Rhyl 0 10 0 DewiVychan, Caerdydd. 0 7 6 Mr. Hugh Foulkes, Liverpool 0 5 0 Y Parch. J. Bodvan Anwyl, Pont y pridd 0 5 0 Mr. Robert Evans, Camden z.-t., B'd 0 5 0 Mrs. E. Morfydd Evans, Liverpool. 0 5 0 Dr. Richard Humphreys, Liverpool 0 5 0 Mr. R. O. Jones, Ebenezer, Caerdydd 0 2 6 Mr. J. D. Roberts, Bootle 0 2 6 Mr. Joseph Pritchard, Waterloo 0 2 6 Cyfan- ,wm.I. ;C296 W4 moODYMWYR Y DYSGEDYDD. Golwg pur loew sydd ar Y Dysgedydd Anni- b ynnol y misoedd hyn, ar Prifathro Rees Bangor, yn agor rhifyn Tachwedd ag ysgrif ar brif bwnc y dydd, sef Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru. O blaid diwygio'n cyfun- drefn addysg yn y cyswllt hwn y mae'r Prif- athro, a chael Diwinyddiaeth, Brenhines y Gwyddorau," i'w lie yng Nghymru ond bydd y Parch. D. Adams, B.A., yn ei ateb yn y rhifyn nesaf, ac yn gosod yr ochr arall gerb ron. DEWISOL GT. MERSEY ST.- Dengys yr hysbysiad mewn lie arall mai'r Parch. Ed. Jones, M.A., B.D., yr ef ngylydd dysgedig o'r Rhyl, ac un o bregethwyrmwyaf ffres a meddylgar y dydd, sydd i gadw cyfar- fod pregethu Eglwys Annibynnol Gt.Mersey Street ddydd Sul nesaf—dwy oedfa yn Gym- raeg a'rllaU.N prynhawn yn Sae&neg er mwyn dieithriaid a'r ail genhedlaeth. OYWIR AO I'R DIM.—Yr oedd hi'n Sul Pregethu ar Ddirwest ar y Glannau y Sskboth diweddaf ac mewn pregeth ragorol yn Laird Street yn y bore, dywedodd y Parch. T. J. Rowlands, M.A.,B.D., sylw tebyg i hyri Y mae masnachu a'r gelyn (trading with the enemy) yn bechod a thor cyfraith ar hyn 3 bryd. Ond gelyn mawr Prydain yn y rhyfel hwn ydyw'r Fasnach Feddwol. Y mae hi'n difa adnoddau'r wlad yn gwastraffu ei harian yn andwyo iechyd a grym corff ein pobl; yn aneffeithioli ymhob modd ein hymdrech galed i drechu Germani a'i chyd-alluoedd ac y mae pwy bynnag sydd yn yfed y diodydd ac yn cefnogi a chynnal y Fasnach, yn trading with the enemy, heb os nac onibai. Dyna ddywedyd yn gywir ac i'r dim. GWARD ANFIELD HEB GYMRO.—A hwythau mor amlwg a lluosog ynddi rhagor neb bron, disgwyliasem weld un o Gymry Gward Anfleld yn neidio i le'r Henadur William Evans fel cynrychiolydd iddi yn y Cyngor Dinesig ond mewn cyfarfod o'r Gymdeithas Ryddfrydol nos Lun ddiweddaf, dan lywyddiaeth y Cynghorydd Henry Jones, gwrthododd Mr. James Venmore, Y.H., adael i'w enw ddod gerbron felly hefyd y gwnaeth Mr. Arthur Venmore ac ar gynhygiad Mr. Jas. Venmore, a chefnogiad Mr. J. B. Tracy, penderfynwyd syrthio ar Mr. W. B. Stoddart fel ymgeisydd. WRTH ALLOR BODELWYDDAN.- Ddydd Sadwm diweddaf, yn eglwys Bodel- wyddan, Dyffryn Clwyd, drwy drwydded arbennig, priodid y 2nd Lieut. W. Owen- Williams, R.W.F., mab hynaf Mr. a Mrs. Owen Williams, Kenmulr Lodge, Upton (Glasnevin, Birkenhead, cyn hynny) a Miss Ruth Evans, merch hynaf Mr. a Mrs. Robt. Evans, 31 Waterbrook Road, Herne Hill, Llundain, a Liscard cyn hynny. Y DIWEDDAR MR. WM. WILLIAMS ST. JOHN'S I?OAD.-Bu of farw ddydd Gwener diweddaf, ar ol rhai wythnosau o gystudd caled. Cleddir heddyw (ddydd Mercher) ym mynwent Longmoor Lane, a chydymdeimlir a'r weddw ac a'r hell deulu. Yr oedd yn frawd i'r Parch. J. O. Williams (Pedrog), a gwelir amlinelliad serchog a thyner ohono yn Y Drych ar tudal. 1. LOES MR. WM. DA VIES.-Drwg iawn gennym glywed fod mab i Mr. a Mrs. Wm. Davies, Seymour Street, Birkenhead, wedi cael ei ladd yn y rhyfel. Y teulu'n hysbys a mawr iawn eu parch yn y cylch y tad yn un o swyddogion eglwys y Wesleaid Cymreig yn Claughton Road, ac yn llesg ei iechyd ers talm bellach. Derbynied ef a'i briod a gweddill y teulu ein cydymdeimlad dwysaf a hwy yn eu trallod a'u hiraeth mawr. Ni chawsom ddim ma lylion. 0 FLAEN Y FRAWDLE.-Wecli wyth- nos o oedi'r achos, ar ol bod gerbron y dydd Llun cynt, yr oedd golygydd a pherchennog Y BBYTHON 0 flaen y frawdle eilwaith yn Dale Street ddydd Llun diweddaf, ynglýn a pharagraff a ymddangosodd mewn ysgrif yn rhifyn Tachwedd 2, ac a fernid yn groes i osodiadau'r Defence of the Realm, Act. Am- ddiffynnid gan Mr. J. Bateman, twrne, a Mr. G. 0. Rees, A.S., bargyfreithiwr. Yr oedd Uiaws o Gymry'r cylch, yn wyr lien a lleyg, yn y llys, ond pan alwyd am yr achos, cododd Mr. Cripps, y twrne erlynol, i ofyn caniatad yr Ynad Tal (Mr. Stuart Deacon) i dynnu'r cyhuddiad yn ol yn erbyn y ddau. Nid oes gennyf finnau ddim i'w ddweyd," ebe Mr. G. C. Rees. Tynnwyd yr achos yn ol, a cherddodd y ddau o'r Ilys i dderbyn llon- gyfarchiadau eu caredigion o'r tuallan. Diolch i bawb a amlygodd eu cydymdeimlad. MAJOR PERIS WILLIAMS.-Byddyn dda gan ei liaws cyfeillion yn Lerpwl a'r wlad glywed fod y Parch. Peris Williains,-gweind dog eglwys Annibynol Gymraeg Queen Street, Gwrecsam, ac sydd wedi bod yn gaplan hynaf (senior chaplain) gyda'r Fyddin Gymreig yn Ffrainc ers hir o amser bellach-wedi cael ei ddyrchafu'n Major. GLEWDDYN Y VOELAS.¥¡;neCpt' (Temp. Major) Williams, mab hynaf Mr. Thos. Williams, Y.H., Llewesog, Dinbych, a Voela3, Birkenhead, wedi ennill y Groes Filwrol. Y mae'n perthyn i'r R W.F., aeth i Ffrainc yn gynnar y flwyddyn hon ac y mae iddo frawd yn Lieutenant yn yr un gatrawd. Graddiodd yn B.A. gydag anrhyd- edd yng Nghaergrawnt. o DYMtmA'r Dirprwywyr Yswiriant Cymreig alw sylw Cymdeithasau Cymeradwy, Pwyll- gorau Yswiriant Sirol, ac eraill sydd yn dwyn cysylltiad a. gwoinyddiad Yswiriant Iechyd, at y llyfr swyddogol sydd newydd ei gyhoeddi yn cynnwys yr holl Ddeddfau a Rheolau ynglku ag Yswiriant Iechyd sy'n awr mewn grym. Cynhwysa yn agos i 700 tudalen, a gellir ei gael trwy unrhyw lyfrwerthwr am y prig o 2 /6 neu yn uniongyrchol oddiwrth y Mri. Wyman, 54 St. Mary Street, Caerdydd, am 3 diwy'r post. Mae'r pris wedi ei roddi mor is Ji ag sydd bosibl ermwyn i'r Ilyfr fod o fewa eyrraedd pawb sy'n dymuno'i bwrcasu. Dirprwyaeth Yswiriant Iechyd Genedl- aethol (Cymru), Neuadd y Ddinas, Caerdydd, Tachwedd 1916. -0-

Family Notices

I DAU .Tll'R AFON.