Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Drwodd aThro 1

News
Cite
Share

Drwodd aThro 1 Gwmivl Caergyni.—Dycld Ian diweddat oedd un o'r dyddifiu duaf a welodd Caergybi erioed, pryd y cleddid deg o anffodusion a foddwyd oddiar y Connamara. Caewyd pob siop am oriau'r prynhawn yr oedd crya dair mil o dyrfa yn y fynwent, heblaw fod yr haolydd yr: dyn o bobl ar bob Haw. Y mae'r galar yi- un cwmwl dros y dref, ac a-fycid yn hir iawn cyn codi. Paladr o ddyn.—Yn. Llan, antffraid, Sir Drefaldwyn, ddydd Iau diweddaf, cleddid y cyn-is-brif gwnstabl Evan Ellis, a fu farw yn Nnrallwng yn chwech a phedwar ugain oed, ac oedd wedi ymneilltuo o'r heddlu ers wyth mlynedd ar hugain. Paladr o ddyn cryf, ac yn eithaf enghraiiTt o'r hen Gymry ar ou goreu o ran gewyn, migwrn, a chynheddfau meddwl. Arthur c6'i Frawd.-Mab Canon Davies, ficer Gwrecsam, yw'r 2nd Lieut. Arthur L, Davies sydd wedi ei glwyfo yn y rhyfel. Y mae iddo frawd a fu drwy'r Dardanels, ac a gafodd ei grybwyll am ei antur a'i lewder yn y ffwrn uffemol honno. IV[r. Mae,),Dynia rai o'r maerod newydd yog Nghymru Bangor, y Cyng. R. J. Will- iams, am y 4ydd tro'n ddilynol. Caernarfon, Mr. C. A. Jones, am yr eildro. Conwy, yr Hen. Edward Jones, arc, y pumed tro'n olyol. Gwrecsatn, y Cyng. R. L, Rowland. Ffhnt, Major Dyson, am y degfed tro. Pwllheli, Mr. Cornelius Roberts, am yr eildro. Tre- faldwyn, Mr. Henry Jones, ail etholwyd. Trallwng, Mr. Taos. Evans, ail etholwyd. Llanidloes, Mr. Rd. Jerman ail etholwyd. Beaumaris Mr' J. H. Burton. Abergafenni. Mr. The?. Wneatley. Aberafon Mr. T. S. Goslin. Caerdydd, Mr. J. Stansfield. Dlnbych, Mr. R. Owen, ail-etholwyd. LlarL ddyfri, Mr. Pryee Pryce, ail etholwyd. Llan. elli, yr Hen. D. J. Davies. Llanbedr, Mr. J. F. Jones. Penfro, yr Hen. W. Evans. Aber- t.awe, yr Hen. D. Davies. Dinbych y Pysgod, Capt. D. H. Morgan, ail-etholwyd. Bu Mr. Chas. Evans, gorsaf-feistr CyffordCi T.,offyniion, farw'n ddeunaw a deugain oed. Yng ngorsaf Sandycroft y byddai cyn hynny. Pedair Mil Sunli,ght. Y mae cynifer a 4,000 o weithwyr Port Sunlight yn gwasan- aethu gyda'r Fyddin neu ynteu gyda'r Llynges, ebe Syr Wm. Lever ddydd Iau di- weddaf, wrth siarad o'r gadair ddiwrnod rhannu'rtystysgrifau cyd-partneriaeth, sef yn unol a chynllun y co-partnership sydd mewn grym yn y gwaith enfawr hwnnw. o daeru i daro.-Wrth i ddau weinidog ddadlu'r pwnc o Dduwdod a Dwyfoldeb Person Crist" yn y Drafod--papur Cyinry Patagonia, aeth y llythyramorgrafog a'rgnec mor groes nes bu raid i'r Golygydd roddi taw ar y ddau, cyn iddynt golli pob arwyddion o'u dwyfoldeb hwy eu hunam, a mynd o daeru i daro. Tro G-ra-gol.-Dyiia beth tlws a thang- nefeddus a fu yn Llanrug y dydd o'r blaen. Yr oedd Lieut. Kelych Williams, mab Dr. Lloyd Williams, Y.H., wedimarw yn Ffrainc aeth Mr. Lewis, rheithor, at y teulu, a serch mai Ymneilltuwyr oeddynt, a'r tad yn flaenor gyda'r M.C., a a gynhygiodd gadw oedfa-goffa am y mab yn eglwys y plwyf. Derbyniwyd ei awgrym caredig aeth tyrfa fawr o Eglwyswyr a Chapelwyr i'r oedfa ac yn gweld y Pacrh. R. T. Williams, gweinidog y M.C., yn bresennol, galwodd y rheithor arno i gymryd rhan, a gwnaeth yntau. Gymaint o ddwyfoldeb ac o grefydd sydd mewn peth fel hyn rhagor mewn dadlu yn y Drafod ar Berson Crist. Dau Pefl.-Dywed Y Tyst fod dau fefi ar seremoni dadorchuddio'r cerfddelwau a roddodd Arglwydd Rhondda (D. A. Thomas) i dref Caerdydd y dydd o'r blaen sef (1) na ddywedwyd yr un gair o Gymraeg o'r dechreu i'r diwedd a (2) fod Esgob Llandaf ac Arch- esgob Pabyddol Caerdydd ar dde ac aswy'r mawrion a'r urddasolion, ond dim un gweini- dog Ymneilltuol. A hyn yng Nghymru Ym- neilltuol Nid ar Argi. Rhondda yr oedd y bai, eithr ar yr awdurdodau Cenhedlig a drefnodd y peth. Rhywbeth yn clebyg ydyw hi yn Lerpwl parth Capel a Llan, canys pan fo rhyw liri mwy na'i gilydd yn Xouadd y Dref, bydd yr Esgobion yn amlwg, ond gweinidog Ymneilltuol ddim yn cael cymaint a gofyn benclith ar y bwyd. Bu yno un eithriad, pan oedd Dr. Watson (Ian Maelaren) yn fyw gelwid arno ef i siarad yn y seremonïau maerol a dinesig, canys yr oedd ef yn wr o gymaint bri ac annibyniaeth nef- fod ar bawt) ofn cau'r drws arno. Mab y Neuadd IVen.-Da clywed fod mab Syr 0. M. Edwards, Neuadd Wen, Llanuwch- llyn, yn gwella o'r afiechyd peryglus y bu dano'n ddiweddar. Llythyr yr Amlen Ddu.—-Gair yn cyrraodd Llanrwst ddydd Sadwrn diweddaf fod mab i'r Cynghorydd Ll. G. Jones wedi ei ladd yn y rhyfel, a mab arall wedi ei glwyfo,; ao i Bwcle, Sir Fflint, fod y Preifat Sam Jones, Ewlo Green, wedi ei ladd. Modrwy am ei medr.—-Bu Mrs. Nicholas, gwraig y rheithor, yn cyflwyno modrwy ddeiemwnt i Miss M. Evans, athrawes gyn orthwyol hynaf yn Ysgol Goffadwriaethol Eglwysig Fflint, am ei medr gyda'i gwaith, ac am ymroi mor ddifrif i wreiddio'r plant oedd dan ei gofal yn egwyddorion crefydd, ac am roddi cymaint o fri ar y Catecism a'r Bregeth ar y Mynydd, ac nid rhoddi'r cwbl i'r tweis wan ar tw." Troi tua Fjrainc.— Y mae'r Parch. L. Woolley, bugfil eglwys Annibynol Saesneg yr Wyddgrug, wedi ymddiswyddo ac yn troi tua Ffrainc i ofalu am neuadd y Y.M.C.A. Oorseddit Grimaldi.—Ddydd Sadwm cli- weddaf,_gorseddwyd yr Hybarch D. Grimaldi, Davies, D.D., cyn-ficer y Trallwng, a rheithor Llandudno ar hyn o bryd, yn archiagon Maldwyn, yn lIe y diweddar Archiagon Thomas, Defod ddwys iawn, ac yn golygu y caiff crefydd-a Chymraeg-gymaint o chwarae teg ag sydd fodd yn y ddeoniaeth o hyn ymlaen. ( Y Parch. J. Morgan, B.A., rheithor a deon gwledig Llanrwst, sydd wedi ei benodi yn ganon Prifeglwya Llanelwy. Dim o'r fath bath.—-Mr. Silyn Roberts, M.A., oedd gwr gwadd Cymdeithas Lenyddol Un- debol Llangollen, nos Sadwrn ddiweddaf, ac yntau'n trin ar waith Bwrdd y Penodiadau Cymreig—y Welsh Appointments' Board. Dyma un o sylwadau Mr. Ll. Hughes. yn y cyfarfod Y mae yna ddiffygion diamheuol yn y dull o benodi pobl i swyddi a safleoedd yng Nghymru. Y cwestiwn cyntaf a ofynnid ydoedd, Sais ynteu Cymro yw'r dyn ? Yr ail, Eglwyswr ynteu Capelwr ? ac yn drydydd, Methodist ynteu Bedyddiwr ? Ac yn y Gogledd, yr ymgeisydd oedd yn cyfarfod y tri n6d angon—Cymro, Capelwr, Methodlst-a fuddugoliaethai'n ddieithr. iad yn y De, daliai'r un peth yii wir, ond newid y gair Methodist arn, Faptist. Ond dywedai'r Henadur W. G. Dodd—cadeir- ydd Pwyllgor Addysg Sir Ddinbych, a gwr o brofiad gyda golwg ar hya, nad oedd tri nod angen Mr. Hughes yn cael dim o'u hystyriaeth hwy wrth benodi i swydd. yn y byd, ao mai ffiloreg oedd y cwbl o'u rhau áwy. Am roi .fyny.- Y mao'r Parch. John Will- iams, bugail eglwys M,C. Hyfrydle, Caergybi, ers dwy flynedd ar hugain, wedi alygn ei fwriad i roi ei le i fyny. Disgyn ar ei drM,d.- Y mae Mr. Fred Protheroe, mab prif gwnitabl Sir Fon, wedi cael ei enwi'n llywydd Cymdeithas Gymreig Americanaidd New York. Gwlaclyehodd ym Mhrifddinas y Go rllewin wyth mlynedd yn ol fe'i ganed yng Nghaeraarfon a- ym Mori ah. cyn-gorlan y diweddar Barch. Evan Jones, y'i magwyd. Pa ryfedd, felly, iddo ddringo'n llywydd Cymdeithas Gyd-Genedlaethol, canys dyma'r dclameg a draethai Evan Jones wrth ieuenotyd ei ofal yn y Gymdeithas Lenydd- ol Llei chwi ddysgu meddwl a siarad ydyw hwn. Taflwch gath i'r entrych, bryd fyaoch yn y Ile ar dull a fyauoch, y mae Pws yn hicr o ddisgyn ar ei thraed ac nid ar wastad ei chefn. A pharl daflo Rhagluniaotli chwithau i bellteroedd byd, ac y dringech i'r amlwg yng nghylohoedd uchaf Cym- deithas, bydded gennycli y fath fin ar eich doniau a'r fath feistrolaeth ar eich meddyl- iau nes disgyn ohonoch ar eich traed gyda phob gorchwyl, lor dda gweld Ma^wyaid Evan Jones yn disgya ar en traed yn y Gorllewin a phob man. LtysyweIL y Betws.—Dyaa anghaffael ac .vtghysur a barodd llysywen i bobl Betws y n 'S Wener ddiweddaf. Lie tywyl] tuhwnfc yclyw hwnnw ar y gor eu efo'i goed ba,deH o bant ond yr oedd fei boi b.iwch," chwedl pobl y wlad r or berc,y n son dai silw. Aeth y goleu trydan allan -Ir..vy bob ty a gwe^ty. OLyn Elsie, yn y uynydd, y cynhyr,;hir y grym a'r goleu; a phan aed i edrych, caed mai cloben o lyaywen, bedair troedfedd a thri chwarter o byd, ac yn pwyso dros ddecpwys, oedd wedi mynd i fewn i'r beipen a thagu'r valve. Fe wnaeth rhyw fardd englyn i orsaf ffordd haearn (station) y lie, a Botwm at frest y Betws ebe f) gwneled un arall, yr un mor bert, i'r llysywen dorchog a barodd y fath dywyllwch —a r',legfeydd--nos Wener. Codi Cythrwfl.—Dirwywyd Robt. Jones, llyfchyrgludydd Capel Curig, i chweswllt a', costau ym Metws y Coed, ddydd Sadwrn diweddaf, am feddwi a chodi helynt. Ni ddaeth i'r llys; anfonodd 1,/thyr ond yroedd hwnnw'n garfaglau mor geimion ae annyall nes methodd clerc yr ustusiaid wrieud na rhych na gwellt ohono. Cymraeg ydyw ? gofynnai Cyrnol Johnston, y cadeirydd. iNage, y mae'n debycach i Chineaeg," ebe'r clero. Dywedodd y Sergt. Davies i'r diffyn- nydd fynd i'r gwasanaeth yn hen eglwys y phvyf, noson Medi'r 29ain, gan aflonyddu'r gynulleidfa drwy geisio taro bargen werthu cefiyl a'r dyn a eisteddai nesaf ato. Aeth y ddadl rhyngddynt mor boeth a ehyfirous nes y bu raid mynd a'1' diffynydd allan. Ynfalch o'i Ghasiell.—Dywedodd Mr. C. A. Jones, maer Caernarfon, ao is-gwnstabl y Castell, yng NghyngoryDref ddydd Tou di- weddaf, fod deng mil arhugaiu o bunnau wedi cael eu gwario gan office of works y Llywodr- aeth ar algyweirio a cliadamhau'r adeilad liwnt-iw ergwanwyn 1911, sef blwyddyn urddo Tywysog Cymru o fewn ei furiau. Y mae'r dref yn fach o'i chavtell ar lawer cyfrif, ond cyfrif Ellis Jones, swyddfa'r Herald eratalwm yw'r goreu ohonynt i gyd, a dyma fo hwnnw Sefyll yr oedd Ellis rhyw dro wrth ymyl y Castell, a thoc wele Sais o ymwelydd ysgornllyd ei wep heibio, gan ddywedyd fod y Castell mawr a chryf yn brawf o wroldeb ei hynafiaid ef y Sais ac o'u buddugoliaeth ar y Cymry. Wel, nag ydyw, wir," ebe'r Elis, a'i waed Cymreig yn cochi ei ddeurudd ac yn c-di ei wryohyn, "prawf ydyw'n hytrach o wroldeb fy hynafiaid i fod yn rhaid i gened] mor luosog a dy genedl di godi cestyll mor fawr ac ami at guro trechu a darostwng dyrn- aid o fynyddwyr mor faeh eu rhif. rhagor y chwi." Ffwrcld a'r Sais am y ste-pion a'i gynfEon rhwng ei afl, a'i hone wrth gerdded yn peri i chwi gofio am yr hen ddywediad gwlad, Y mae o naill ai mewn baw neu ynteu ar garreg lithrig o hyd." Onid oes sug a bias ar yr 1 en eiriau gwlad yma rhagor ar iaith galico a chelfyddyd y dref ? Flys rhoi fyny.Y mae'r Parch. Thos, Roberts wedi bugeilio eglwys Annibynnol Gymraeg Bethel, yr Wyddgrug, ers dwy flynedd a deugain. Y mae bellach yn ddeu- naw a thrigain oed, ac wedi ymddiswyddo oherwydd llesgedd ac afiechyd. Cyn dod i'r Wyddgrug, bugeiliodd ym Mon am chwe blynedd, sef yn eglwysi Llanddeusant, Llan- fachraeth, a Seilo. Y mae'r Wyddgrug sydd ohoni heddyw yn Wyddgrug go wahanol rhag- or ydoedd pan aeth ef yno i ddechreu, ac yn wag iawn o Roger Edwards a Glan Alun a Daniel Owen a Chynhafal Jones a'r Twr Tew- dws athrylith oedd ynddi'r blynyddoedd hynny. Gresyn mawr /—Y mae Cyngor Caernarfon wedi methu cytuno ag Ystad y Faenol parth prynnu Marchnadfa'r Dref; a'r c,anlyniad. ydyw fod y Cyngor wedi rhybuddio tenant pob stondin i ymadael. Y mae'r lie wedi ei gau erbyn hyn. Na chymraf -Yr oedd y Parch. Evan Jones, ficer Wyddgrug, wedi cael cynnyg ar fywoliaeth Llanrhaeadr, Dyffryn Clwyd ond ar ol ystyried pethau, atebodd mai gwell ganddo arcs man y mae. Y mae eglwys yr Wyddgrug yn un ) rai mwyaf a harddaf Cym- ru, a rhywbetli yn ei ffurf a'i gosodiad sy'n angau i wamalrwydd a phenchwibandod anaddolgar. Ac ym mynwent hon y gor- wedd llwch Richard Wilson, yr arlunydd bydenwog. Yn llyS sirol yr Wyddgmg, ddydd Llun diweddaf, cytunodd Cwmni'r Mold Collieries, Ltd., i dalu tri chant o bunnau'n iawn i Walter Davies, Sychtyn, am y niweidiau a gafodd wrth ddilyn ei orchwyl yn eu pyllau hwy.

Advertising

o LoUt y Stabal.

BLEINDS-US.

Advertising