Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

YSTAFEU Y BEIRDD

IOn Ceoodl ym lansaioion.

) Poptreadu Progethwp.

News
Cite
Share

) Poptreadu Progethwp. I Yn goeth-ac yn eneiniedig hefyef. I Pwy ydyw, ys gwn i ? Bu'r ysfa borti-eadu cyhoeddwyr y cymod yn llonydd fisoedd rai deffrowyd hi o'i syrthni gan gennad hyfwyn ac ni ad i mi encyd o dawelwch onid ymgaisiaf at nyddu rhyw drefn ar y meddyliau. Dyma hwy i chwi, i wneuthur fel y mynnoch, eu dwyn i oleu dydd, neu ynteu eu bwrw yn tan. Wele ddyn cymharol ieuanc yn wrhir braidd du ei wallt a gwelw ei wedd wyneb di-flew, llydan, glandeg, dwys-ddifrifol, ond ymdaena gwen garuaidd drosto ar brydiau. Ei wisg yn anoffeiriadol; mae'r boneddwr yn amlwg yn ei holl osgo. Sieryd yn araf a chlir ei barabl; llais melodaidd, hyfryd i'w wrando, heb grac yn agos ato dyry floedd beraidd yn awr ac eilwaith. Ystumiau ei goilf yn dra gweddus ei ddwylo yn y golwg bron o hyd, a llawer o'i bwnc ar flaenau ei fyaedd." Pan eilw'r gwirionedd am bwyslais arbennig, teifl ei fraich dele i fyny ac yna allan at ei wrandawyr, i yrru'r argyhoeddiad adref. Mae ei bryd dymunol a swyn ei arddull yn dwyn y dorf yn fuan dan ei gyfaredd, a gwraiadewir "fel y byddo byw yr enaid." Ag ystyried mai mewn tref Seisnig y ganed ac y maged ef, ac iddo weinidogaethu blynydd- oedd gyda'r Saeson, dyna gampus ydyw ei Gymraeg. Rhaid y llafunodd yn ddyfal i gadw iaith ei fam, clod iddo Gwir nad oes ganddo lafar gwlad melys a chartrefol, megis eiddo'r cennad mwyn o Bwllheli iaith llyfr sydd yma'n bennaf, ond y mae'n amheuthun o gryf a choeth, o ran gair a phriod-ddull, er yn tuoddu i fod yn drymaidd os yr un. Rhydd brif ergydion ei bregeth yn y ddwy iaith Iaith ei fam yn gyntaf un, ac wedyn iaith Victoria." Grcsyn na chredai pawb, fel y gwr hwn, fod siarad Cymraeg yn iawn yn beth y rhaicl ei ddysgu, Wedi iddo ledio 'r emynau yn ystyrgar, darllen y Gair gan ddwyn meddwl yr adnodau i'r amIwg, clvyd ni i dir uehel ac ysbrydol yn ei weddïau, wrth ofyn yn claer a dwys am "bethau nad adnabu'r byd am i Dduw sancteidd!o'n gwareiddiad, puro'n bywyd dinesig, ein gwleidyddiaeth a'n cysylltiadau rhyng-wladwriaethol ein dwyn i gyd o'r pair hwn yn burach a'r bechgyn yn ol o'r brwydro yn genhadon eirias dros y Brenin lesu, fel y dileer y felltith a'r diefligrwydd sydd yn y byd. Dangosodd ei gymdogaeth dda hefyd drwy erfyn am lwydd ar Genhadaeth Edifeirwch a Gobaith yr Eglwys Wladol. Fel pregethwr, y mae'n hollol ar ei ben ei hun nid yw'n od, ond y mae yn anghyffredin. Beth yw'r gwahaniaeth ? Hyn, yn ol un o fawrion pulpud Cymru rhyw fychander a wna ddyn yn od, rhyw fawredd a'i gwna'n anghyffredin. Mae'r cennad hwn yn gweld y gwirionedd drosto'i hun, a thraetha ef yn ei ddull ei hun, ac nid rhedeg trivy'r hon rigolau byth a beunydd. Mae yma ysgolheigdod crwn dengys cyfan rwydd y cyfansodd- iad, coethter yr ymadroddion, a thrylwyredd yr ymdriniaeth, na afradwyd mo dymor y Coleg, ac nad ar chwarae baeli yr enillwyd y gradd dwbl. Eto nid oes yma ddim o goegni yscymun y gwr a fyn ddangos ei ddysg. 0 "I:t offends me to the soul, chwedl tywysog Denmark, i glywed gwr mewn pulpud yn rhaffu rhyw ymadroddion smart, coegddysg, neu'n cymryd arno dorri cneuen galed rhyw brobiem a gefail synnwyr brau, heb feddu un ddirnadaetli o'r gwir ystyr. Meddyginiaeth Tomos Bartley gyda'r cywion yw'r oreu at wyr felly. Mae'r cennad dan syIw yn berffait h lan oddiwrth hynny ceir ynddo rhyw goeth- ter diail yn gymhleth a grym a beiddgar- wch meddwl. Cyfuna'r ysgolhaig a'r pro- ffwycl." Mawrha urddas ei swydd ni ellir ei ddych- mygu'n defnyddio ymadrodd eras na chym- hariaeth anarwd. Traetha'n rhwydd a natur- iol, ond yn ymwybodol o hyd mai "holl gyngor Duw sydd ganddo, ac na ellir llefaru hwnnw wrth eneidiau tan wamalu a gwag- rodresa. Soniwyd eisoes mor ddymunol ei bryd a'i wedd, ac y mae rhyw swyn yn ei holl ym- wneud a'r gwirionedd. Daeth hyn i'r amlwg yn arbennig wrth iddo drin ei bwnc ym mhregeth y bore, Prydfertliweh Aberth Crist." Mae ganddo gymariaethau a darlun- iau tlws odiaeth megis honno am yr eneth a'r cerflunydd y bachgen ar ddiwedd ei dymor ysgol; y felin a'r afon,—a dyma'r cymhwysiad "Mae yna afon wedi llifo o dragwyddoldeb,—afon o ras Duw mae mewn rhyw fwlch yng Nghalfaria, ond yn llifo'n gryf iawn; ac o'r fan honno Hi lifodd i'r anial Cenhedlig.' A diolch i Dduw, fe ddaeth i Gymru. Fe glywsoch amdani, onid do ? Do, yn sicr, Cymry ydych, ac y mae pob Cymro wedi cly wed. Ond ni wnelo' r afon yna ddim a. dy enaid di oni osodi di dy hun yn ei llwybr tafl dy hun iddi." Mor dyner ei sylw am Henry Martyn pan yn efrydydd ugain oed yn Llundain, yn ysgrif- ennu fel hyn yn ei ddyddlyfr I have made a covenant with mine eyes that I will not look upon iniquity and sin ymhen ychydig ddyddiau ysgrifennai It is hard to keep the covenant with mine eyes a thrachefn fel hyn The streets of London are full of temptations it is hard to keep the covenant with mine eyes." Mor debyg i Bantyce-lyn 0 cau fy llygaid, rhag im' weld pleserau gwag y byd." Yr oedd y dull y dywedwyd y pethau hyn megis Can cariacl un hyfryd- lais, ac yn canu yn dda denid ni i wrando. Eithr prif nodwedd y pregethwr hwn yw eneiniad mae ganddo genadwri, a honno'n eirias. Daw o'r galon oblegid iddi ddyfod i'r galon Oddifry. Ei bwnc yn oedfa'r nos oedd Sancteiddrwydd," a dyma'i ddeffiniad ;— Mae sancteiddrwydd yn dynodi ansawdd. neilltuol ar enaid nid un rhinwedd mohono. Aiff goleuni'r dydd, trwy ryw elfeniad, yn saith o liwiau yn yr enfys, a'r cyfuniad ohon- ynt yn cynhyrchu'r goleu gwyn, claer. Felly sancteiddrwydd cyfuna'r rhinweddau nes cynhyrchu gwyndra enaid." Mae'n giyf a beiddgar ryfecldol weithiau, megis yn y sylw hwn 'Ddowch chwi ddim yn sanctaidd at random rhaid ymdrechu ymlanhawn. Mae Cristionogaeth yn tybio rhyw egwyddor- ion ac athrawiaethau arbennig, ac y mae'n hen bryd i'r Eglwys chwilio i mown i wir ystyr crefydd Mab Duw; ie, yn adeg rhyfel, nid wedyn. Os nad yw Cristionogaeth yn meddwl rhywbeth neilltuol, ar ei ben ei hun, unique, ni waeth i ni Fohametaniaeth neu Fwdiaeth ddim." Newydd a meddylgar. oedd hwn Yr oedd aberth Crist yn brydferth oblegid yr unoliaeth oedd ynddo cyflwynodd Ef ei Hun i'r un Amcan mawr. A dyna'r pam, yn y gwaelod, y mae Angau'r Groes yn achub. Ni fedri di ddim rhoi dy hun i'r Uchaf heb lesoli'r isaf. Daw angerdd i'w lais weithiau, megis pan soniai fod ar Dduw eisiau'r dyn i gyd yn deml iddo'i Hun. "Mae yna athrawiaethau yn gwrthweithio'r gwirionedd hwn oes wir ysgrifennwyd yn Saesneg. yn ddiweddar, War is a biological necessity (Y mae Rhyfel yn angenrheidrwydd anianyddol). Os felly, caewch eich capelau, llosgwch eich Beiblau, a gwnewch fel y mynnoch. Na, na A chan daflu ei olwg (a'i lygaid fel dwy fflam dan) ar yr ugeiniau o filwyr a frithai'r dyrfa, dyma'i apal My friends in khaki, wnewch chwi gredu fod ar lesu Grist eisiau pob un ohonoch i gyd, gorff ac ysbryd ? Nid darn o ddyn, ond y dyn i gyd." Dyma brif ergyd ei bregeth nos Sul, i mi: Byddwch yn son amdanoch eich hunain yn y Seiat fel pryfed gwael y llawr.' Mae rhywfaint o wirionedd yn hynny ond da chwi, peidiwch a dweyd hynny o hyd. Nid dyna ydych yng Nghrist. Clywch eiriau Pedr Chwychwi ydych rywogaeth ethol- edig, brenhinol offeiriadaeth, pobl briodol i Dduw.' Pe meddyliem fwy ohonom ein hunain fe bechem lai. Paid ag ildio i demtasiwn, nid yn unig am ei bod yn ddrwg, ond rhag briwio cariad y Fynwes Ddwyfol." Ni a'th wrandawn drachefn am y peth hwn." Gwnawn yn wir; ar wahan i'r mwynhad, teimlid y gwir eneiniad. Mawr glod fyddo i'r Tadau teilwng, ac mor chwith ar eu hoi ond llawenydd i ddaear a nef, a gogoniant iddo Ef, yw y dilynir eu traed ac y cymerir eu lie gan broffwydi y cyffyrddwyd eu gwefusau a'r Dwyfol Dan. 0 ydynt, mae'r Hen Bwerau eto yn y wlad ac mae gafael o hyd i Gymro yn y Gair a glybuwyd." Pan elo'r aflwydd hwn heibio," bydd galw mawr am wir genadwri, oblegid dangosodd y x-hyfel yn eglur na thai dim ond Efengyl. Ond bydd raid torri'r hen gylchau, ac nid cymwys yr lien gostrelau i ddal gwin y weled- igaeth newydd. Aml-io-Litliiin elywocl gwr fel y cennad hwn, ei eiriau mor wir gyfaddas, ei welediad mor glir ac eang, ac ysbrydolrwycld y gwir broffwyd yn eiddo iddo. J.D.R. I

Advertising