Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

.Clep y Clawdd -sef Clawdd…

.CAER LLEON.

Advertising

IBasgodaid olpWiad. 1

News
Cite
Share

I Basgodaid olpWiad. 1 BROUGHTON Eisteddfod.-Nid oes lawer o hanes yr ardal boblog hon yn dyfod i'r BRYTHON, Mr. Gol., ond er hynny, ardal a llawer iawn o hanes iddi ydyw. Mae yma fechgyn medrus yn trigo yn y lie, sydd yn symud gyda phob achos da. Ceir ugeiniau sy'n hoff len a chlÎn, a gellir felly ddyfalu y bydd yma eisteddfodau lawer. Wedi bod yma yn yr Eisteddfod frwd lwyddiannus ddi- weddaf, yr oeddwn. wedi penderfynu, os oedd modd, bod yn hon hefyd, a chefais fy nymun- iad. Yn neuadd y Br6c ei cynhaliwyd,—- vstafell a ddeil o wyth cant i fil o bobl, a'r lie wedi ei lenwi hyd yr ymylon cyn cychwyn ar y gwaith. Mr. W. M. Roherts,. Gwrecsam, a Mr. Carrington, Coed poeth, oedd yn pwyso'r gerddoriaeth, ac amhosibl cael eu gwell, ei chyflawnasant eu gorchwylion yn y prawf a'r rhagbrawf yn ganmoladwy agonest. Y Parch. Wyn Davies, Rhos, oedd yn arwain ac yn cloriannu'r adroddwyr, a gwnaeth yntau ei waith yn rhagorol. Cadwodd y cyfarfod mewn hwyl drwyddo, a thraddododd areith- iau hirion a? addysgiadol ar yr adroddiadau. Carunolaj'l' pwyllgor am ddewis darnau clas- Uifol yn He rliyw be hau nambi-pambi diwerth. Mr. Trevor Evrvn>, y Moss, oedd y cyfeilydd, a chyflawiiodd ei waith yn ardderchog. Rhoddwyd idel,) ganmoliaeth uchel iawn gan y beirniaid cerdd r >1. Y Dr. Share Jones oedd i gadeirio. Ni fedrai ddod, ond gwnaeth y peth nesaf i oreu, sef anfon cil-dwm aur i'r trysorydd. Yr oedd y canu'n dda dros ben. Eto siomwyd ni na ddaeth ond un cor o blant i gystadlu, sef Cor Plant y Cefn ond gwnaeth- ant yn swynol dros ben, ac anodd fuasai eu euro. Refyd un cor cymysg o'r rhai mewn oed a ddaeth. Disgwylid tri, ond un gyr- haeddodd, sef Cor y Lodge, Brymbo, dan arweiniad gwr dieithr o Ffestiniog sydd ar hyn o bryd yn lletya ym Mrymbo. Can- asant yn llawn deilwng o'r wobr, a chawsant ganmoliaeth nid bychan. Y rhai a ganlyn a enillodd ar y pethau eraill :—Unawd tenor Tom Morris a Wm. Phillips yn gyd-fuddugol. Unawd soprano Mabel Jones Williams, Gwrecsare. Bass Arthur Jones, Coed poeth. Her-unawd: Mabel J. Williams, Gwrecsam, a" Arthur Jones, Coed poeth. Can wyd unawd her iawn gan Mr. Trevor Davies, y Rh,,s. i agor. Siomedig iawn oedd yr adroddwyr, fel y dywedcdd y beirniad, t neilltuol o siomedig oedd y rhai a ddaeth i'r llwyfan oddigerth un, sel Eileen Oolley, Aerfair. Yr oedd hon yn adrodd yn rhagorol iawn, a chafodd y wobr yn ddibetras. Daeth dau i'r llwyfan ar y Wreck of the Hesperu8, ond yr oeddynt yn sal ryfedclol. Dywedodd y beirnaid nad oedd wedi cael ei fodloni. Hawdd deall oddiwrth y feirniadaeth fod ei gwell lawer iawn yn y rhagbrawf, ond iddynt yn anffodus drwy anghof adael allan linellau neu ddamau. Credem mai cyhoeddi neb yn deilwng a wnai'r beirniad, ond gan mai cas- beth oedd hynny yn ei olwg rhoddodd y fedal aur i'r goreu o'r ddau, sef oedd honno, Miss Cunnah, Fflint. Yr oedd yr Eisteddfod hon yn llwyddiant mawr. Gwyr bechgyn Broughton sut i godi cyfarfod. Cynghorwn hwynt, gan fod yma y fath dalent yn y lie, i fynd i fewn am eisteddfod fawr, i'w chynnal drwy'r dydd. Hi fyddai'n llwyddiant ac yn lies mawr. Paratoid lluniaeth ar gyfer yr anghenus, ac yr oedd popeth yn gyfleus a hwylus. Penderfynaf, os byw ac iach, ddyfod i'r Eisteddfod nesaf yma eto, a da fyddai gwahodd golygydd Y BRYTHON yno hefyd, i gyfarfod a'r Brythoniaid brwd hyn.-Un oedd yno. GROESLON.—Ar ol cystudd maith, bu farw Mr. Owen Jones, Glynllifon Terrace, Groeslon, yn 68 oed. Yr oedd yn flaenor ym Mrynrod- yn ers 1900. Ei brif nodwedd oedd ffyddlon- deb, a chadwodd y ddyletswydd deuluaidd i fyny hyd y diwedd, ac nid a ei erfyniadau dros y teulu yn anghof, na'i gynghorion i'w blant, na'i esiaimpl. Aeth i chwarel Dorothea yn 9 oed, ac ni bu oddiyno nes yr ataliwyd ef rai blynyddoedd yn ol. Caed gwasanaeth coffa ym Mrynrodyn. Cydymdeimlir a'i weddw ac a'r ddau fab, Mri. R. O. Jones, Crosby, a G. O. Jones, Bootle,—y ddau yn aelodau yn Stanley Road.-R.J.G. O'R HEN SIR, SEF SIR FON.-Trwm i lawer iawn yn y Sir oedd derbyn y newydd i'r meddyg galluog a phrofiadol, Doctor E. Parry Edwards, Mynydd y Gof, Bodedern- syrthio i'w hun olaf ar y Saboth. Clywsom droeon nad oedd yn teimlo'n dda ers amser, ond bychan feddyliodd neb fod y diwedd cyn agosed. Bu fel angel tirion am yn hir, yn sirioli llwybrau afiechyd a dioddefaint, a bu'n foddion i ddwyn gwrid i lawer Ilwydrudd, ac i estyn einioes llawer claf. Erbyn hyn wele hybwr bywyd, fu a'i ddogn yn fahn a'i fedd- yglyn yn iechyd, mwyach wedi gorfod plygu ei ben i oruchwyliaeth angau, sydd erioed wedi bod yn fuddugwr ar feddygon." Adwaenem y Doctor yn dda,, ac ni cheid neb hynawsac-i na'i alluocach yng Nghymru. Llawer tro y'i galwyd fel specialist mewn achosion neilltuol. Claddwyd ddydd Gwener ym Modedern-angladd cyhoeddui i ddynion. Efe'n frawd yng nghyfraith i'r Cadfridog Owen Thomas. Y ddau fab sydd ar ei ol yn ddau feddyg medrus Doctor Tedd Edwards yn swyddog meddygol Sir Gaernarfon, a'r Doctor O. J. Parry Edwards yn bartner a'i, dad, ac yn fab yng nghyfraith i'r Ynad R. E. Jones, Plas Rhosneigr; ei unig ferch yn briod a'r Doctor Evans, Ffetiniog. Cydymdeimlir yn ddwys a'r weddw a'r plant a'r teulu. Yr oedd y Doctor yn un o wyr cyhoeddusaf y Sir, yn ynad hedd, yn henadur y Cyngor Sir, yn gadeirydd llys y Valley, etc. Ond wele bob cadair a swydd yn wag a' r bedd yn Hawn. Bu farw ar fin ei ddwy a thrigain oed.-Dyna rodd haed,dol a help i gerdded a roes eglwys Bethel (B.) Caergybi, i'r hen frawd ffyddlon nad oes mo'i anwylach mewn set fawr yn unlle —Mr. John Ellis, yn ei henaint, sef ffon hardd a chadam, yn gydnabyddiaeth o'i waith a'i ffyddlondeb fel diacon am ddeng mlynedd ar hugain.—O'r diwedd rhoes heddgeidwad ei law ar wegil y ffoadur Pittman a ddiangodd o garchar Caergybi. Yn yr Aber, meddir, y'i daliwyd. Dwys oedd deall fod Mif-s Will- iams, o Gaergeiliog, stiwardes ar y Connemara, a gollwyd mor alaethus, ar ei mordaith olaf, ac yn bwriadu cefnu ar y mor, i briodi ie, ar ei mordaith olaf am byth Bu cryn fynd' ar gyrddau pregethu blynyddol yn y Sir yn ddiweddar,—cwrdd pregethu yn Rhosfawr (Soar) ac Elfed a'r Parch. J. M. Williams, Pen y groes, yno yn Nhabernacl Newydd Caer- gybi, y Parch. Gwylfa Roberts, Llanelli, a'r Parch. S. T. Jones, Rhyl; yng nghapel ei frawd Rheidiol, Gwylfa a'r Parch. W. LI. Lloyd ym Maes y llan, Gwylfa a'r Parch. Hawen Rees. Nos Fawrth a dydd Mercher, bu cwrdd pregethu Belan (B.), pan wahodd" wyd y Parch. D. R. Owen, Seion, Cefn mawr un blant y Sir, ac un o'i meibion hyotlaf. a'r Parch. J. S. Jones, Calfpria, F'festiniog Caed cyrddau i'w cofio, a bias y Nefoedd arnynt.-Chwith gan lawer fydd deall fod yr hen fam fonheddig a duwiol yn Israel,Mrs. Ann Jones, priod Mr. Rd. Jones, y Library, Beaumaris, wedi wynd i orffwys am byth oddiwrth ei llafur, yn bedwar ugain oed. Ystyrrid hi yn Fedyddreg selog, hynod oleu- edig yn yr Ysgrythyrau, yn wraig ddoeth a deallus, ac ynddi rhyw fwyneidd-dra a'n denai ati. Adwaenem hi yn dda, a braint i ni oedd cael hynny. Ei phriod a hithau wedi bod yn gryn swcwr i'r achos Bedyddiedig yn y lie, ac yn') y mae'n ddiacon ers dros banner canrif. Meibion iddi yw Mr. W. LI. Jcnes, ysgolfeistr Llanfachraeth, 0, phregethwr da gyda'r Bedyddwyr; y Parch. Rd. Jones, Pontlottyn; a Mr. J. W. Jones, Church J Street, diacon ac ysgrifennydd byw hen eglwys ei dad a'i fam. Parhaodd y cwlwm priodas am drigain mlynedd, a dyna gwlwm tyn yn cael ei ddatod. Tarawiadol yw'r hanes am gladdu Mr. Henry Roberts, y truan a laddwyd ar ffordd y Valley. Bu ei angladd ym myn- went Pont yr erw, Llanfachraeth, a rhoed ei lwch i orwedd mewa rhan o'r fynwent a fu unwaith yn ardd i'w daid a'i nain, yng nghys- god coeden a blannwyd gan ei daid. Deil y goeden i dyfu a deilio, ac yntau yn ei chysgod mor wyw ei wedd.-Llygad Agored. TREGARTH.-A,mlhau y mae lladdedig. ion yr Aceldama yn y cylch hwn, fel pob cylch arall. Yr olaf i syrthio yn Ffrainc a'r gym- dogaeth hon oedd y brawd ieuainc, Griff. Richard Roberts, y Dole. Brawd hoffus a dymunol. Wedi ei glwyfo'n dost y waith gyntaf, fe'i dygwyd i'r wlad hon i wella. Modd bynnag, wedi mynd yr eilwaith ni fu'n hir cyn derbyn yr ergyd a brofodd yn angau iddo. Gedy wraig a thri phlentyn, malP, a chwaer, i alaru'n ddwys ar ei ol. Mae lladd- edigion y teulu hwn yn eithriadol luosog. Gwyr y fam sy'n fyw, trwy brofiad chwerw, beth yw colli tad, ewythr, priod, a brawd, trwy gael eulladdyny chwarel. Brawd arall yn cael ei ladd ym mwnglo ddiau aur Cali- ffomia, a dyma'i hunig fab, Griff., wedi ei ladd ar feysydd Ffrainc. Mae cydymdeim- lad yr ardal a'r teulu yn eu trallod yn ddwfn. PENYGROES.—Cawsom gyfarfod da iawn ddydd Iau yn ysgoldy Calfan Ia (a.). Cyfarfu Cymdeithas Ddirwestol y Chwiorydd, o dan lywyddiaeth Mrs. J. Elias Jones. Cawsom anerchiad gwych gan Mrs. Walters, priod y Parch. W. Walters, Groeslon. Siaradodd Miss Jones, Hendre Villas, a chaed adroddiad dirwestol gan Miss Mallt Williams. Y cyfan yn rhagorol, ac fe fwynhawyd ewpaned o de i derfynu.-Bu Cyfarfod Adloniadol yng Nghar mol nos lau. Daeth tyrfa dda ynghyd o wrandawyr astud. Caed gwledd o radd uchel. Gwasanaeth wyd gan y talentau adna- byddus Miss Mallt Williams, Penygroes Miss J. Blodwen Williams, Carmel; Miss Lizzie Thomas, Cilgwyn; Miss Blodwen Williams; Miss Maggie Williams, Pisgah Mri. R. Lewis, Cesarea; H. Thomas, R. F. Price, Pisgah. Swynol oedd datganiad y corau, o dan arweiniad Mr. R. R. Lloyd. Arweiniwyd yn fedrus gan y Parelf. W. G. Hughes (M.C.) a'r corddor adnabyddus Pencerdd Llifon yn cyfeilio.

Advertising