Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

I Tram I-..fy mrawd William…

ITrem 11-1' Y Brython " yn…

News
Cite
Share

Trem 11-1' Y Brython yn Dale Street. Pa mor enwog bynnag y gallasai'r BRYTHON fod o'r blaen, aeth \n llawer iawn mwy felly trwy ei ymweliad â Dale Street yn ddiweddar. Rhedodd y newydd fel tan gwyllt trwy'r ddinas, a mawr yr amrywiaeth yn y stori fel yr adroddid hi gan wahanol bersonau. Heb- law hynny, yr oedd yr achos yn cael ei brofi, a'r dyfamiad yn cael ei roddi 'mlaen Haw gan ami un. Ceid pen bamwr rhwng pob dwy ysgwydd. Nid oedd y barnwyr vn hollol unfarn, ond gwnai'r mwyaf ffafriol ohonvnt i mi ofni a chrynnu peth. WaJ, wel, ebwn i wrthyf fy hun, "tybed. mewn gwirionedd, y bydd i, III hen I gyfeillion mwyn, Huw Ifans 'a Je Aits I gael eu cymryd oddiarnom, a'u cau i fyny mewn cell dywyll, oer a llaith, a hynny'n eigion y gaeaf ? Os felly y rhedai cwrs 1 pethau, yr oeddwn yn ddiolchgar ein bod yn byw mewn cyfnod a ganiata beth rhyddid i ymweld a charcharorion. Nid wyf jm medd- wl fod yr un o'r ddau yn ysrnygu, a rhaid fuasai-gyda chaniatad yr awdurdodau- fynd a rhywbeth gwahanol i faco iddynt hwy. Ond buasai r Ryniad o'u bod hwy wedi?eu cyfyngu i cyn Heied He, a hwvthau wedi arfer bod yn agored i'r byd," yn ofid calon i mi. Beth bynnag, pan oeddwn i a chyfaill arall yn dyfalu a phryderu pa fodd y troesai pethau, pwy ddaeth i fewn ond Je Aits ei hun. OweJem ei fod hyd hynny'n rhydd, ond ofnem y gallai mai rhedeg i ddywedyd gair ffarwel wrthym a wnaethai. Ond symudwyd ein hamheuon a'n hofnau'n fuan, a deallasoni y cai'n dau gyfaill a'r BRYTHON ryddid i yzn. lwybro ffordd y mynnont, megis cynt. Wei, i fod dipyn yn ddifrifol ar y mater, deeller nad wyf yn ymyrryd fodd yn y byd ag agwedd gyfreithiol y mater. Yr wyf, ymysg eu miloeddcvfeillion, yn cyd-mdeimlo â h wynt yn eu trafferth a'u trwbl, ac yn eu llongyfarch ar derfyniad hapus yr achos. Syn fuasai'r syniad ddarfod i'r BRYTHON—yn anad un papur newydd--gael ei gosbi am anheyrngar- weh, pan y mae ei bolisi pendant a pharhaus wedi bod o blaid safle Prydain. Bu'n ddigon eangfryd i roi cyfle i'r ochr arall, mae'n wir ond mae'r BRYTHON ar y cyfan wedi gwneu- thur gwasanaeth helaeth i'n gwlad er dechreu y rhyfel. Nid wyf yn meddwl-a dyna fam llawer eraill-ddarfod i ddim cryfa.ch ym. ddangos o blaid hawliau'r Wladwriaeth, a ehyfiawnder achos Prydain, nag erthyglau D.P." yn Y BRYTHON. Ond i dynnu pen ar y Drem hon, gyda golwg ar y eyfeillion a wysiwyd, gwn y gallaf ddywedyd dros bawb a u hedwyn—ac mae'r cyfryw'n dra lluosog bellach,—na fuasai unrhyw ddirwyon, nac hyd yn oed garihar, mewn achos o'r fath hwn, yn cjTnylu dim ar ddisgleirdeb cymeriadau y ddeuddyn hyn yn ein golwg. Mae Mri. Hugh Evans a J. H. Jones yn rhy uchel eu parch, ac yn ei deilyngu mor gywir, fel na fyddai i neb o synnwyr feddwl dim yn Ilai am eu cymeriadau pe buasai i'r achos fynd yn eu herbyn. Da gennym. er hynny, mai fel arall y bu.

Advertising