Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
IV GOSTEG. j
IV GOSTEG. j J. Aelod Jones.-Adnebyddais eich llaw yn y fan, er eyd o amser a aeth heibio er pan welais hi. Y mae hi'n debyg iawn i law y. diweddar Mr. Tom Ellis. A pheth dlysach na honno ond ei gymeriad ? Diolch am lith mor ddoniol a chyrhaeddgar ar Gythraul y BlindsagododdMynyllod. Fe'i gollyngir o'i Affwys yn y rhifyn nesaf Dan y Llaw Faw-Clochydd Llan-bryn- mair biau'r llinell yr ymholwch amdani, ond pran glochydd ni wyddom. Dyma hi a'r llinell y cydia ynddi:— Awn i Nef i hendrefa, Dan law Duw-dyna le da. Ond nid oes gennym amcan yn y byd pwy biau'r englyn gwario a godasoch o'r hen lyfr cywyddau Gwden i ddyn a gadwo—ei arian I eraill eu gwario Mynned, cymred pob Cymro I Lawnder byd yn lan dra bo.
--DYDDIADUR,-I
DYDDIADUR, I TACHWEDD. 48—Oylarfod Oyatadleuol Mynydd Seion 19-Oyfarfod Pregethu Great Mersey Street RHAGFYR 13—Cyngerdd Mrs. Howard Stephens 13-Te Parti a Chyngerdd Peel Road 25-Te a Chyngerdd Crosshali-Strect 26-Bisteddfod Treuddyn 30—Xmas Tree York Hall CHWEFROL 24-Cyfarfod Cenhadol yn Everton Village 25-8ul Cenhadol y Beayddwyr
Cyhoeddwyr y CymodI
Cyhoeddwyr y Cymod Y Saboth nesaf. Y METHODISTIAID CALFINAIDD PRINCES ROAD—10 a 6. John Williams, Brynsiencvn DAVID STREET—10.30 a 6, R. Aethwy Jones FMCLARENCE STIZEET-10 a 6, R R. Hughes DOUGLAS ROAD—10 a 6, G. W. Griffiths CHATHAM STREET—10.30 a 6, G R Jones CROSSHALL ST-10.30 a 6, R H Watkins, Din*rwic ANFIELD ROAD-10.30 a 6. 0 J Owen NEWSHAM PARK—10 a 6, D D Williams BOOTLE—10 a 6, E. J. Evans PAEKFIELD—10.30 a 6, E Arfon Jones, Groeslon SEAOOMBE—10.45 a 6.30, W 0 Jones GARSTON—10.30 a 6, W H enry ROCK FERRY-10.30 a 6, J. Owen WALTON—10.30 a 6, 0 Llovd Jones WATERLOO-10.30 a 6, J. Daniel Evans 1' PEEL ROAD—10.30 a 6, W Owen, Conwy EDGE LANE-10.30 a 6, D J Hughes WEBSTER ROAD-10.30 a 6, R. W. Roberts LAIRD STREET—10.30 a 6, T. J. Rowlands WooDCHtTRCH ROAD—10.30 a.6, L. Lewis NEW BRIGHTON—10.30 a 6. H P Roberts, Beaumaris WEST KIRBY-ll a 6.30, J Talog Da vies SOUTHFORT—10.30 a 6, R Da vies HUYTON QUARRY-10.30 a 6, Lewis Andrews WHISTON—10.30 a 6, Chwaer Evans ST. HELENS-Ellis Lloyd, Bwele ST. HELENS JUNCTION—W Philip Jones, Bootle BRELNERSDALE-10,30 a 6, Griffith Jones "WIGAN—2-30 a 6, M. W. ELLESMERE PORT-10.30 a 6, ASHTON-IN-MAKERFIELD—10.30 a 6, John Williams UPPER WARWICK STREET—6.15, Owen Jones BANKHALL—6.15.— SMITH STREET-6, 0 Eilian Owen MIDDLESBROUGH-10.30 a 6.30, R. P. Jones SUNDERLAND-10.30 a 6, J T Williams SFENNYMOOR—10.30 a 5.30, Cyfarfod Ysgol EASINGTON—10.30 a 5.30, W Williams ELDON—10.30 a 5.30, T. J. Owen SUTTON OAK (lindebol)-10.30 a 5.30, E H Roberts :<iYR ACHOSION SEISNIG. OAKFIELD ROAD-10.30 a 6.30, J Lewis Jenkins EVERTON BROW—10.45 a 6.30, Oliver Williams j CATHARINE ST.—11 a 6.30, R G Jones SPELLOW LANE—11 a 6.30, LisCARD-10.45 a 6.30, Emlyn James BREEZE HILL-ll a 6.30, H. Ridehalgh Jones ORRELL, BOOTLE-ll a 6.30, J. Howell Evans WLLLMER RD.—10.45 a 6.30, G H Evans TR ANNIBYNWYR TABERNACL—10-45, G J Williams, 6, 0 L Roberts PARK RD-10.30, W Roberts, 6, J Vernon Lewis GROVE STREET—10.30, W Williams, 6; George Davies, Ffestiniog CLIFTON ROAD- 10.30, T C Jones, 6. J J Roberts GT MERSEY ST- 10-30, George Davies. 6, W Williams, Colwyn Bay MARSH LANE—10.30, A T Evans, 6, Albert Jones KENSINGTON-10.30, J J Roberts. 6, T C Jones TRINITY ROAD-10.30, J Vernon Lewis, 6, W Roberts LISCARD-10.45, Albert Jones, 6.15, A T Evans VITTORIA ST-IO.30 0 L Roberts, 6, G J Williams HEATHFIELD RD.-10.30. Ysgol, 2.30, George Davies BALMORAL ROAD-10.30 a 6, Griffith Evans EARLESTOWN—10.30 a 5.30, M H Morris. Ashton PRESCOT—10.30 a 5.45. THATTO HEATH—5.45, M Roberts, Ashton SOUTHPORT-11 a 6.30, ASHTON-IN-MAKERFIELD-10.30 a 5.30, W. O. Jones GOLBORNE—10.30 a 5.30, WIGAN-2.30 a 6, Cyf. Gweddi; Y WESLEAID OAKFIELD—10.30, Philip Price 6, R W Jones SPELLOW LANE-10.30, R W Jones, 2.30,J Roger Jones 6, J Roger Jones BOOTLP-10.30, J Roger Jones, 6 T Isfryn Hughes EDGE HILL-10.30, T. Isfryn Hughes, 6, J Lloyd Jones KNOWSLEY RD-10.30,J LI Jones,6,Philip Price, C'poeth MYNYDD SEION-10.30. R W Davies,6,D Tecwyn Evans BIRKENHEAD—10.30, D Tecwyn Evans, 6, E Davies WIDNES-1030 a 6, P Lloyd GARSTON-10.30. R. W. Davies, 6, W R Williams EGREMONT-10.45. E Davies, 6, R W Davies ASHTON-IN-MAKERFIELD—10.30 a 6, ,0..1' EARLESTOWN—2 a 5.30. GOLBORNE—2 a 5.30, SPRING VIEW-10,30 a 6 LEIGH—10.30 a 5.45, 'R ST. HELENS— Y BEDYDDWYR. EVERTON VIL-10.30, J Davies, 6, D Powell F EARLSFIELD ROAD-10.30 a 6, T. MICHAEL F BOUSFIELD STREET-10.30 a 6. M. Griffith EDGR-LANE-10.30 a 6, H R Roberts BALLIOL ROAD—10.30 a 6, P. Williams WOODLANDS-10.30, D Powell, 6.15 J. Davies SEAOOMBE—10.45 a 6,15, T Jones PALMERSTON DRIVE-10.30"L.W. Lewis, 6, E. W. W ynne EGLWYS RYDD Y CANNING STREET—10.30 a 6, R G Hughes.Giyndyfrdwy HIGH PARK ST-10.30, W. O. Jones, 6, D Davies BOOTLE-10.30 a 6, Isaac Owen, Thatto Heath BIRKENHEAD—10.30,D Davies, 6. W 0 Jones DONALDSON STREET-10.30 a 6, J Davies DEINIOL SANT—11 a 6.30, YR EGLWYS SEFYDLEDIG DEWISANT-ll a 6.30, D niel E Hughes ASAPH SANT-10.45 a 6.30, S. Jones-Parry WINIFRED SANT—11 a 6.30, J. Hughes
Advertising
YN ElSIAU.# I YN EISIAV.-Bachien newydd adael yr JL ysgol, yn medru darllen a deall Cym- raeg yn dda, fel Egwyddorwas yn Swyddfa'r BBYTHON. Cyflog 7 yn yr wythnos i ddechreu. 1641 COOK GENERAL, age about 30 to 35 No children. Write stating salary Mrs. Bevin, The Cottage, Little Crosby, nr. Liverpool. MAMMA, DADDY, AND THE CHILDREN Are all catered for by us. For MAMMA and DADDY -we have cycles; for the CHILDREN we have juvenile cycles, tricycles, and Doll Prams in endless profusion. i ALL AT PRE-WAR PRICES at JS Rudge Whltworth, Ltd.. Bold Street <
Basgodaid olp Wlad. I
Basgodaid olp Wlad. I CAERLLEON GAWR.—Llawen yw gallu tystio fod Cymry'r hen ddinas hon wedi cychwyn ar waith y gaeaf gyda'r gwahanol Gymdeithasau Lien etc. Agorwyd Cym- deithas Lenyddol St. John Street a Darlith gan Mr. Morys Parry ar Noson gydag Elfe(I a chaed amser da Mr. Thomas Pryce (Anni- bynwr) yn y gadair a Methodist yn cymryd Annibynwr yn destyn. Diolchwyd gan Mr. Wm. Davies.—Agorwyd Cymdeithas Albion Park (A.) gyda hwyl ar Pwllheh a'i Chymer- iadau un o blant y Pwll yn dwyn yr enw J.L.T., yn agor; Mr. Henry Price yn llywyddu; Alltud o Dreuddyn. Mr. Foster Williams, yn dweydgair, a' r Parch. If or Jones a Mr. J. Evans yn diolch.—Mr. T. E. Morris, B.A.,LI.M., a fu'n cyfarch Cymdeithas Cymry Caer. ar Gyfenwau Cymreig Sir Gaer a'r Gororau Mr. Clenyg Jones (Ilywydd y Gym- deithas) yn y gadair. Soniodd am enwau fel Priddey, Dye, Deakin, Dyer, Howle, a Probert-a geid mor fynych yn Siroedd Myn- wy, Amwythig, a Chaerloyw (Gloucestershire) —fel rhai wedi deillio o Gymru. Apeliai hefyd am i bob un, ymhob teulu, feddu cyfenw iddo'i hun, yn lle'r cyfenwau teulu sy'n peri lluosogi Jonesiaid a Williamsiaid a Roberts- iaid ac yn y blaen, ac yn peri'r fath ddyryswch a thrafferth. Disgwylir Mr. Ellis Davies, A.S., a Mr. E. T. John, A.S., yrnhellach ymlaen a dengys rhaglen ac adroddiad y Gymdeithas (Mr. F. Lloyd Williams yw'r ysgrifennydd) fod 1352 wedi ei gyfrannu a'i gasglu gan yr aelodau at Ysbyty Netley, sef digon i ddarpar pum gwely am flwyddyn. Da iawn, Gymry Cner. Llwyddiant di- gyffelyh fu gwasanaeth cerddorol yn addoldy y Wesleaid Cymreig—y Cor a'r Seindorf Linyn yn dangos gallu eithriadol, a'r cyfan o dan arweiniad medrus Mr. T. Davies Joney—■ Edrychwn ymlaen at glywed rhai o bigion Glannau'r Mersey-y Parch. D. D. Williams, Mr. R. H. Jones, a Mr. J. H. Jones (G)l. Y BRYTKON) .—Rhed ein cydymdeimlad at y brawd ieuanc E. Meirion Richards, Bouveri Street, sydd wedi ei glwyfo'n erchyll. Hyder- wn y caiff wellhad buan, er mor dost yr archoll.—Edrychir ymlaen at gyfarfod blyn- yddol Cymdeithas y Beiblau. Colled fawr oedd colli'r Cyrnol Evans-Lloyd, ei llywydd am flynyddoedd lawer. Deallwn mai'r Cym ro twymgalon, Mr. Henry Jones, a ddewisir i Ienwi'rbwlch sicr fod cydymdeimlad Cymry y cylch yn myned allan at ddau swyddog y Gymdeithas, sef Mr. Everett Lewis, yr ysgrif- ennydd, ar golli ohono ei annwyl fab ar faes y gwaed, a Mr. R. Mills, y trysorydd, oherwydd colli ohono ei frodyr hoff, un, sef Major Mills, yn Ffrainc.—Mae llu o bethau Cymreig eraill ar y meddwl, ond gadawn hwy y tro hwn, gan fentro gofyn i eraill anfon pwt. Dowch, y Mri. T. R., aM.P., a W.J., a J.L.T. Gadawaf i un ohonoch chwi ddweydsut ddarlith ageir gan Olygydd Y BRYTHON. Gwn y cawn un Gymraeg," EISTEDDFOD Q^EKNSFERRY.—Cynhaliwyd hon nos Fercher ddiweddaf, dan nawdd Achos Cymraeg Cenhadol y M.C., yn y Co-Operative Hall. Mr. Bairstow, Caer, yn y gadair; Llew Deulyn yn arwain, a hynny'n ddeheig, doniol, digwmpas, ac yn ffraeth a phert ei air yn Gymraeg a Saesneg Mr. G. W. Jones, Prestatyn, yn bariiu'r canu Mr. J. H. Jones, Gol. Y BRYTHON, yr adrodd; a Mr. Nuttall, Mostyn, yn cyfeilio. Yr oedd y neuadd dan ei sang a'r gynulleidfa'n weddaidd ac astud ei hymddygiad dim debar na gwawdio anhymig cyn i'r gystadleuaeth orffen a'r cystadleuaethau mor felys eu bias ac uehel eu safon, yn y ddwy adran, nes bod pawb ac eithrio'r dieithriaid oedd eisiau dal tren, yn aros yno o saith ar y gloch hyd yn dyn ar un ar ddeg. Dyma'r enillwyr Unrhyw alaw Gymreig, gwobr 5 I- (rhodd Mr. J. G. Rob- (',ymrei1eg ),?ttr o vases (rhodd Mrs. Whitehead), 1, Winnie Lloyd, Ffynnon groew. Her- Adroddiad i rai dan 16-1 (4 ac oriawr werth 6/6, rhodd Mr. Willett, Chester werth 6 /6, rl-iodd N House), Miss Myfanwy Davies, o eglwys Vittoria Street, Birkenhead 2, 3/ Miss Leslie Booth, Birkenhead 3, 2 Master Ianto Williams, mab y Parch. Ward Williams, Gwre^sam. Deuawd, f 1, Mr. Frank Nichol- son, Gwespyr, a'i gyfaill. Her unawd i ferch, 21 /— ac ymbarelo sidan (rhodd Mr. Pierce y Llythyrdy), Miss Alice Edwards, Gronant. Her-unawd i feibion, Mr. Wm. Foulkes, Rhes y Cae, a Mr. F. Nicholson, yn gydradd am wobr o i 1 I-adres-sing case. Her adroddiad 1, 15 a chadair, Miss Doris Steventon, New Brighton, un o faewyaid Madame Gladys Williams, Birkenhead. Canu penhillion ? 1, 10/6 a fountain pen (rhodd Mr. Walton), Mr. Willie Hughes, Rhos llannerch rugog. Y mae brithiad go drwm o Gymry Arfon, Mon a Meirion wedi dod i'r ardal, sef i'r gweithfeydd maWrion sy'n lluosogi mor gyflym ar lannau'r Ddyfrdwy, ac yn dod a'r iaith Gymraeg a'r Eisteddfod a'r Achos Cenhadol a phethau goreu'r Hen Wlad gyda hwy, i lefeinio'r bobl- ogaeth gymysg, a chadw Sir Fflint rhagmynd fel Sir Faesyfed a Sir Fynwy. CYMRY CAERFFILI.-Symudiad pwysig ym mhlaid y Gymraeg yn y fro hon yw sefydlu cymdeithas ymysg plant Cymreig yr Ysgol Uchelfennol, dan arweiniad Miss Gwen Row- lands, B.A., athrawes ac ysgrifennydd Cym- reigyddion Caerffili. Nos Wener, caed oedfa flasus gan y plant dan nawdd y Gymdeithas, yn vstafell gynnull Windsor Road, dan lyw- ydefiaeth Mr. E. T. Griffiths. Cymerwyd rhan mewn canu ac adrodd gan nifer o blant Ysgol y Babanod, dan arweiniad Miss Catherine John a'i chynorthwywyr, yn cael eu dilyn gan unawdau gan blant yr Ysgol Uchelfennol, a chaed gwledd Gymreig o'r iawn ryw. Dyma gam yn yr iawn gyfeiriad, a'r unig ffordd y gellir cadw'r iaith yn fyw, sef ymhlith y macwyaid, prif gelofnau'r genedl yn yr oes a ddel. Melys, moes mwy.—Orvrydryn. 0 FETHESDA.—Nos Sul ddiweddaf, rhodd- odd y Parch. J. T. Job rybudd i'w eglwys yng Ngharneddi ei fod yn ymddiswyddo. Deall- wn ei fod yn derbyn yr alwad a gafodd o Abergwaun. Bu yma'n agos i ugain mlynedd a chwith gan lawer fydd ei golli. Nid oes gennym ond dymuno pob llwyddiant iddo. O'r Mynydd i'r M6r yr a.—Yr oedd Sergeant Evan Thomas, Gordon Terrace, adref am dro o'r ysbyty yn Blackpool, agolwg gwella arno, wedi ei glwyfo fel ei frawd, Dan Thomas, B.A., sy'n gorwedd yn Bristol, ac yn gwella. Alf. Williams, Carneddi Road, wedi ei glwyfo. ond gartref ar dro. Brysied y dydd y cant ddod gartref eto.-Gwelais yn Y BRYTHON diweddaf y bu rhai o fechgyn y lie yma tua Glannau'r Mersey yma yn cynnal cyngerdd i helpu'r Groas Goch, ac i un gael canmoliaeth uehel am ei ganu nos Sul, a'i fod yn agos i Sam Jenkin. Nid yw hyn yn rhyfedd i ni s ydd yn ei adnabod yma. sef Wm. Roberts, I Mostyn Terrace, ond yn awr gyda'r Fyddin 1 yng Nghroesoswallt. Mae ei enaid yn ei ganu bob amser. Yn ol yn ddiogel, gyfaill.-Min Ogwen. 0 BBESTATYN.—Tachwedd 1, yng nghape* M.C. Prestatyn, gan y Parch. E. James Jones' M.A., Rhyl, priodwyd 2nd-Lieut. Wilfred G- Jon'es, 3 /7 R.W.F., unig fab Mr. R. Jones' Ithelfryn, Rhyl, a Miss Jennie Williams, Clwyd View, Prestatyn. Cyflwynwyd hi gan ei brawd, Mr. John Williams. Y forwyn oedd Miss Muriel Jones, chwaer y priodasfab, ac organydd eglwys Clwyd Street, Rhyl y gwas ydoedd Sergt. Ivor LI. Jones (R.W.F.), Manchester, cefnder y priodasfab. Caed detholion ar yr organ gan Miss M. J.Hughes, Gronant House. Ymhlith y gwahoddedigion yr oedd Mr. a Mrs. T. O. Vaughan, Belfast, chwaer y priodasfab (gynt o Birkenhead) Y pwyddion yn lluosog a drudion. Eiddun- wn hir oes iddynt.kJ.G. O'R HEN SIR, SEF SIR FON.Dydd I Iau a dydd Gwener cyn y diweddaf, pregethai dau o lewion Independia yng nghapel Bodffordd-corlan Annibynnol y Parch. Smyrna Jones, Llangefni, sef y Parchn. R. P. Williams, Caergybi, ac Owen Jones, Nant Ffrancon. Dau wedi bod yn gweinidogaethu ar yr un gorlan—Ebenezer, Arfon. Arlwy- wyd, gwleddoedd hefyd ym Methel (A.), Cemaes, ar ddydd Mawrth' a dydd Mercher, gan y Parchn. Gwylfa Roberts, Llanelli, a Stanley Jones,, Caernarfon.—Ar ffordd y Valley, ar nawn dydd Iau, digwyddodd peth pur alaethus aeth Mr. Henry Roberts, o ardal Llanfachraeth, dan olwyn y traction oedd dan ei ofal, a llethwyd ef i farwolaeth. Eiddo'r ynad, Mr. Rice Rowlands, Machraeth View, oedd y traction. Mor ddi-ddisgwyl y daeth y diwedd ac efe yn anterth ei ddydd, yn 46 oed.—Nos Fawrth bu cwrdd ymadawol y Parch. W. H. Cassam, a ofalai am achos yr Annibynwyr yn Niwbwrch, ac sydd yn mudo i Dde Cymru. Datganwyd teimlad o golled ar ei ol, a chyflwynwyd .anrhegion iddo.- Golchodd ton erwin dros deimladau'r Parch. W. Llewelyn Lloyd ym marwolaeth ei fam ragorol, a mawr y bwlch fydd yn y teulu a'r eglwys ym Methel, Bodorgan, ar ei ol. Un o'r boneddigesau anwylaf, meddir, parod ei chalon, ei chyngor a'i llaw. Nid oeA chwerw- ach gofid na cholli mam dcla.-Wesleaid Amlwch wedi colli colofn gadarn yn angau Mr. W. H. Thomas, Madynfa, a rhoed iddo angladd tywysog, a'r gweinidogion yn datgan mor ddifloesg na chafodd y Wesleaid y fath golled ers llawer blwyddyn. A dyna golled i gapel Ty'n y maen (M.C.), Llanddeusant, a gafwyd ym marwolaeth yrhenbererin duwiol, Mr. Henry Williams, a fu yno'n ddiacon a dechreuwr y gan am bedair blynedd ar ddeg a deugain. Y fath gyfnod hir yn arweinydd mawl y Cysegr! Nid oedd ym Mon mo'i dduwiolach. Bu farw yn nhy ei ferch, Mrs. Pritchard. Tremoelgoch bach, yn 82 'mlwydd oed. Efe'n frawd i'r Parch. R. P. Williams, Tabernacl, Caergybi. Ym mynwent Glan- adda, Bangor, bore dydd Llun, am ddeuddeg ar gloch, rhoed Mrs. Jane Owen, priod werth- fawr Mr. Wm. Owen, Tan dderwen, Penrhos, ger Porthaethwy, i orwedd. Rhoed gair uchel iawn i'w chymeriad a'i henw da gan ei gweinidog, y Parch. J. Evans, Beulah (A.), a chan y Parch. Davies, Capel y Graig. Hefyd caed gair gan ei nai, Ap Huwco. Daeth teulu mawr yngbyd, yn eu mysg Mrs. Williams, Mona View, chwaer yng nghyfraith, a Mrs. Owen, Cilmelyn, eto ac o oehr yr ymadawedig, Mrs. Closs, Bryn- tirion, Llanrug, cyfnither, ac eraill rhy luosog i'w henwi. Gadawodd o'i hoi ddau fab, Mr. Wm. Owen a Mr. H. D. Owen, sy'n bre- gethwr disglair gyda'r Annibynwyr, ac yn fardd cadeiriol, ond sydd yn swn y brwydro yn Salonica draw. Hefyd tair merch, Miss Maggie Owen, Mrs. Tnos. Jones, a Miss Jeannie Owen. Draw yn hedd Glanadda dawel Rhoed ei llwch ar fore Llun, Ni ddaw yno swn y Rhyfel Byth i dorri ar ei hun Am ei phlanf a'i gwr mynwesol Cofia, Arglwydd, yn Dy Net; Hefyd am ei mab sy'n nghanol Swn y brwydro—cofia ef. -T,lyg,ad Agor d. LLANELIDAN-Fel ymhob ardal arall, mae amryw o fechgyn y plwyf hwn oedd yn y ffosydd yn Ffrainc, wedi dod yn ol yn wael eu hiechyd: Private David Jones, R.W.F., Gwegil y Bryn gynt, mewn ysbyty yn Llun- dain, wedi bod yn y frwydr am bum mis; Private Robert Thomas Williams, R.W.F., mewn ysbyty yn Glasgow, yntau wedi bod rai misoedd yn y ffosydd, ac yn troi ar wella. Corp. Howell Edwards, y llythyrdy, wedi ei glwyfo, ac mewn ysbyty yn Llundain, wedi bod am fisoedd yn y frwydr, ac yn disgwyl dod adref cyn bo hir. Da oedd gennym weld I y Private Edward Hughes, Ty Newydd, adref am ychydig ddyddiau ar ol hod. am bedwar mis ar ddeg gyda'r R. A.M.C. yn Belgium. Edrychai'n rhagorol, achanddo amlhanesyn I cyffrous i'w adrodd. Mae wedi dychwel.— L.E.P.
I Goreu Cymro, yr un Oddieartre
I Goreu Cymro, yr un Oddieartre CYMDEITHAS LENYDDOL GYMREIG CREwE- -Er i golofnau Y BRYTHON fod yu, ddistaw ynglYn a'r uchod ers peth amser bellach, nid yw hynny'n sail i neb dybio fod y Gymdeithas wedi Viarw, neu ei bod bron ar ddarfod am- dani. Na, y mae hi mor fyw ag erioed, a'i gafael ynom yn tynhau fwyfwy. Fel y bydd ambell chwarelwr ar lethrau'r Eryri draw ar fin myned i orffwys yn pacio'r tan or mwyyn iddo ddal hyd y bore, felly'n union yr ydym ninnau yma, yn yr amserau duon hyn, pan yw'r nos wedi ein dal fel gwlad-rhyw bacio'r tan yr ydym—y tan Cymreig-er mwyn iddo ddal erbyn y tyr y wawr, a'r adeg pan ddel y bechgyn gwladgar yn eu hoi i'w hen gynefin. Purion peth fydd cael aelwyd gynnes iddynt pan ddelont, a honno'n un drwyadl Gymreig. I'r perwyl yna yr ym- gynhullodd nifer dda nos Fawrth ddiweddaf i gapel Cymraeg Derrington Street, lie y traddodwyd pregeth benigamp gan y Parch. D. Tecwyn Evans, B.A. Ni raid i ni ym- helaethu yma, a cheisio mesur a phwyso dawn y brawd hyglod hwn. Haws fuasai inni a'n costreli bach fesur y dwfr sydd yn y llyn sy'n dwyn ei enw. Y mae ei ddawn, fel pregethwr, yn ddihysbydd. Gyda llaw, wrth s6n am lyn Tecwyn, cofiaf glywed un hen wraig dduwiol yn cyffelybu gweinidogion yr Efengyl yn debyg i'r pibelli oedd yn cariot'r dwfr o rhyw lyn bach oedd ar oehrau Dyffryn Clwyd i lawr i'r pentre bychan lle'r oedd yn byw Y mae pibelli Duw," ebe hi, "yn lluosog iawn, ac yn gwahaniaethu cryn dipyn o ran mesur. Main pipes ydyw rhai, a'r lleill dipyn bach yn llai, a rhai yn fach iawn. Ond y mae'n dda iawn eu cael i gyd i gario'r dwr bywiol, nid o ryw lyn bach, ond o'r mor mawr diderfyn sydd gan y Brenin Mawr i fyny acw. Credaf yn ddilys, Mr. Golygydd, ein bod wedi tapio un o'r main pipes yma nos Fawrth ddiweddaf, a llannwyd ein costrelau hyd yr ymylon. Diolchwn yn gynnes i'r brawd hoff am ei wasanaeth. Cawsom oedfa i'w chofio. —T.S.J. BETHEL (A), ASHTON-IN-MAKERFIELD.— Cynhaliwyd cyngerdd dan nawdd y Band of Hope, Hyd. 28. Dyma'r eadorion:- Misses Crompton, Eleanor Griffiths, Gwen- nie Roberts, a Master Evan L. Jones. Canodd plant y Band of Hope a pharti o'r eglwys. Adroddwyd gan Misses Doris Hughes a Katie Glazier a Meistri Jno. Williams, Rd. Jones, Caradoc a Llywelyn Griffiths, a Thomas Smith a chafwyd cystadleuaethau buddiol. Llywyddwyd yn ddeheig gan Mr. Rd, Hughes, llywydd pwyllgor y Band of Hope, a thraddodwyd anerchiad grymus a chalonogol iawn gan y Parch. Robert Edmunds, Llanbedrog. Der- byniwyd swm sylweddol ar gyfer treuliau y tymor. Y Sul dilynol mwynhawyd preg- ethau cyfoethog a chysurlawn iawn gan Mr. Edmunds. Cynulliadau lluosog er gerwined yr hin.-Aelod. TYLDESLEY.—Capel M.C., Saboth a Nos Lun ddiweddaf cynhaliwyd pyfarfod diolch am y cynhaeaf. Bore Saboth cafwyd cyfarfod gweddi, a'r prynhawn a'r hwyr bregethau grymus ac amserol gan ein hen weinidog y Parch. Hugh Jones, yn awr o Golwyn Bay. Cafwyd hefyd triawd ac unawdau gan Miss L. Pugh, a'r Mri. Wm. Pierce a D. Pryce Williams. Yr oedd yr addoldy wedi ei addurno a phob math o ffrwythau, a'r rhai hynny'n rhodd aelodau —T.J.H. o
I CYDNABOD" D.P." I
I CYDNABOD" D.P." NOSON yr edrychid ymlaen ati yn eiddgar yn Everton Village,,oedd nos Fawrth Hydref 31 ar gyfrif eu hawydd cryf i anrhydeddu'r gwr a gerir ganddynt, sef y Parch. David Powell, eu gweinidog llafurus. Am chwech ar y gloch yn yr hwyr cafwyd arlwy ddan- teithiol, wedi ei pharatoi gan chwiorydd caredig yr Eglwys yn y lie, i'r neb a ddymunai gyfranogi ohoni. Daeth. llu mawr ynghyd a mwynhasant eu hunain hyd berffeithrwydd. Am hanner awr wedi saith cafwyd math ar ymgomwest, dan lywyddiaeth y Parch. D. Powell, yr hwn oedd i fesur helaeth yn y tywyllwch am yr hyn oedd i ddigwydd fel yr elai ymlaen a'r gwaith. Wedi i Pedr Hir-iarad yn gyffredinol, fel y. dywedir, gofynnodd Mr. D. E. Roberts am ganiatad i ddweyd gair Hysbysodd y cyfarfod am bender- fyniad yr Eglwys i gydnabod llafur mawr a gwasanaeth ei hannwyl weinidog. Yr oedd hyn yn ei bryd ddwy flynedd yn ol, pan gwblhaodd Mr. Powell* ei bumed mlwydd ar hugain yn eu mysg ond daeth y rhyfel ac andwyodd eu cynlluniau. Er yr holl rwystrau gweithiasant yn dawel, ac yr oedd- ynt heno'n alluog i gyflwyno i'w hannwyl weinidog cheque am swm neillduol, etc. Yna gaJwyd ar Mrs. Wynne Jones i'w gyf- lwyno i arwr y cyfarfod, yr hyn a wnaeth yn wir fedrus, mewn geiriau dethol. Datganai Mr. Powell ei syndod mawr. Ni wyddai hyd yr awr hon am fwriad y frawdoliaeth, ,I ac ni ddisgwyliai am yr arwydd yma o'u parch tuag ato a'u gwerthfawrogiad o'i wasanaeth. Anerchwyd y cyfarfod ym. hellach gan y Parchn. J. Davies; O. L. Roberts; Myles Griffiths; J. Vernon Lewis, M.A., B.D. a T. Michael, B.A., B.D. Cafwyd gair oddiwrth y Prifardd Pedrog yn datgan ei ofid o herwydd ei anallu i fod yn bresennol, ac anfonodd yr englyn canlync)]. Y PARCH DAVID POWELL. Dewr enaid ar ei annel-am y gwir,—■ Am y gamp o'i arddel Ac i'r un mewn cur a wel, Wyneb huan yw Powell. Anfonwyd cofion cynnes y cyfarfod at Pedrog gyda dymuniad diffuant am iddo gael adferiad buan a Ilwyr o'i gystudd blin. Traethodd yr holl siaradwyr yn frwd am ragoriaethau Mr. Powell, mewn amrywiol ffyrdd, a dymunent iddo ef a'r Eglwys lawer blwyddyn hapus a llwyddianus i ddod. Yn ystod y cyfarfod canwyd Yr Arglwydd yw fy Mugail, gan barti o chwiorydd. Cafwyd unawd gan Mr. R. Wynne Jones, deuawd gan Miss Hughes a L. T. Jones, ac unawd ar y crwth gan Mr. A. Edwards. Gorfodwyd ys- grifennydd hyn o linellau i adael y cyfarfod cyn cael hamdden i dalu teyrnged o barch i'r gwr a anrhydeddid. Y mae Mr. Powell yn un o brif dynion ein cenedl, mewn amryw gyfeiriadau. Saif yn y rhenc flaenaf fel Esboniwr. Prawf o hyn yw ei Esboniad diweddar ar Y Llythyr at yr Hebreaid. Darllena y llyfrau diweddaraf ar Ddiwin- yddiaeth, Athrawiaeth a Beirniadaeth Feibl- aidd, ac y mae ganddo lawer iawn o ani an y bardd. Pe cesglid ei holl ysgrifau at ei gilydd, ffurfient lawer o gyfrolau trwchus- gwerth eu darllen a'u myfyrio. Ni wyr beth yw seguryd, ac ni thrig llwfrdra na malais yn ei fynwes. Nodweddir ei holl gyflawniadau gan gydwybodolrwydd uchel. Dyn cyflawn ydyw ef yn ei bulpud ac mewn pwyllgor a chynhadledd. Anrhydeddir ef gan ei enwad trwy ei osod yn ei safleoedd pwysicaf. Hyderwn ei weled yn fuan yng Nghadair Undeb Bedyddwyr Cymru— H.R.H.
Family Notices
GENI. HUGHES-Hydrof 7, yn 10 Crosfield Street Warrington, ganwyd mab i Mr. a Mrs. Evan Hughes.
Advertising
Prynir Dodrefn Outright. Distance no object. Sale* by auction on owners' premieei. GREETHAM & SON (Est. 1848). Auctioneers, 27 Newington, Liverpool; 18 Rydal Bank & 106 Liscard Road, Liscard Tel. 646 Royalo UNDER CORAWL GYMREIG, PerSormiad o'r "MESSIAH" Yn y Philharmonic Hall. NOS SADWRN, BHAG. 16, 1916. Dan .t1 rweiniad- VINCENT THOMAS, Llundain. Cynheliry Rehearsals ar gyfer y 'Messiah,' bob Nos Fercher, yn y Small Picton Lecture Hall (y tu cefn i'r Museum, Wm. Brown Street), am 7.45 o'r gloch. Y mae He i leisiau da, yn ar- bennig tenor a bass. Ymofynneryn y rehearsals a'r Ysgrifennydd- Mr. LLEW WYNNE, 317 Walton Breck Rd. Diolchir yn fawr am gynorthwy cyn-aelodau'r Cor ar yr achlysur hwn. Cymdeithas GenedlaetholJ Gymreig Lerpwl. TYMOR 1916-17. Cynhelir yr AIL GYFARFOD Nos Wener, Tach. 10, 1916, yn y ROYAL INSTITUTION, COLQUITT ST., pryd y traddodir ANERCHIAD gan y Proff. J. Morris Jones, M.A., ar y testyn U DEWI WYN," Cyme rir y Gadair am 7.45 gan Mr. W. GARMON JONES, M.A.. Y mae pob croesaw a dymuniad ar i gyfeillion, yr aelodau fod yn bresennol gyda hwy. R. VAUGHAN JONES, Ysg. Myg. 52 Hertford Road THE 22ND ANNUAL WIDNES EISTEDDFOD. Thursday, February 32nd, 1917. Musical Adjud cator- DR. CARADOG ROBERTS CHIEF CHORAL, not under 25 voices «1)" 0 First Created Beam (Samson), (b) Hymn-Tune, own choice. JUVENILE CHOIRS (under 16) not over 35 Voices, Sweet and Low (J. Barnby), S.S.C. SCHOOL CHALLENGE SHIELD, CHOIRS (under 14) 20 to 30 voices, There's a Friend for little children (A. P. Morgan), S.C. LADIES' CHOIR (over 18), not under 20 voices, The Ash Grove," Welsh Air, arranged for S.S.C.C. by D. Emlyn Evans. Vocal and Instrumental Solos, Grand Challenge Solo, Needlework, Elocution, Art and Compositioni Taer erfynir am gynorthwy Cymry'r cylch. Arweinyddion Corau'r Eglwysi, a Chantorion, ysgrif- ennwch am y testynau. Full list of Subjects, Prizes and Conditions free (by post, ld. stamp) from the Hon. Gen. Secretary, J. G. JONES (Collenfab), Bryn Awel," Fairfield Road, Widnes.A ANWYD, PESWCH, INFLUENZA-Mae f rhain gyda ni bob amser. Pair hinsawdd gyfnewidkol. fod llawer o ddioddef oddiwrth Beswch, Bronchitis, Pat, Dolur Gwddf, Crygni, Caethdra, Diffyg Anadl. Y mae'r hen feddyginiaeth DAVIES'S COUGH MIXTURE eto ar y blaen, ac yn cael ei gwerth- fawrogi yn fwy nag erioed, bob amser wrth law, ya felys, yn cynheau y frest, ac yn rhyddhau'r phlegm. Bydd dose mewn pryd yn ddigon. is. I d. a M. 941- (postage, 3<I.)-HuGH DAVID, Chemist, Machynlleth SARZINE BLOOD MIXTURE. CROEN IACH A GWAED PUP-Dyna yr hys y mae Sarzine Blood Mixture yn ei sicrhau, a dim. arall. Nid yw yn honni gwella popeth fel Yankee Patent Medicines, ond os blinir chwi gan groes afiach, ysfa, pimples, toriad allan, tcurvy, doluriau., pendduynod, etc., yn tarddu o waed drwg ac amhur, mynnwch botelaid o Sarzine Blood Mixture gan y druggist nesaf atoch, 21. 9d. y botel, neu gyda 3L at y cludiad yn ychwanegol oddiwrth y perchennog- HUGH DAVIES, Chemist, Machynlleth. Eisteddfod Genedlaethor 1911 ilw chynnal yn BIRKENHEAD. Rhestry Testynau YN AWR YN BAROD. l'w eael gan y Llyfrwerthwyr nen oddlurrtb y Cyhoeddwyr. Pris Sch. Drwylr Post 7je, Cyhoeddedig gan HUGH EVANS A'I fEIRION, Sw,yddfalr it Brython." Printed and Published by the Pr prietors, Hugh Evans and Sons,, 3.6.8 Stanley Road, Uverpool, In the County f Lancaster. Tel., I Beotle. i