Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

IV GOSTEG. j

--DYDDIADUR,-I

Cyhoeddwyr y CymodI

Advertising

Basgodaid olp Wlad. I

I Goreu Cymro, yr un Oddieartre

I CYDNABOD" D.P." I

News
Cite
Share

I CYDNABOD" D.P." NOSON yr edrychid ymlaen ati yn eiddgar yn Everton Village,,oedd nos Fawrth Hydref 31 ar gyfrif eu hawydd cryf i anrhydeddu'r gwr a gerir ganddynt, sef y Parch. David Powell, eu gweinidog llafurus. Am chwech ar y gloch yn yr hwyr cafwyd arlwy ddan- teithiol, wedi ei pharatoi gan chwiorydd caredig yr Eglwys yn y lie, i'r neb a ddymunai gyfranogi ohoni. Daeth. llu mawr ynghyd a mwynhasant eu hunain hyd berffeithrwydd. Am hanner awr wedi saith cafwyd math ar ymgomwest, dan lywyddiaeth y Parch. D. Powell, yr hwn oedd i fesur helaeth yn y tywyllwch am yr hyn oedd i ddigwydd fel yr elai ymlaen a'r gwaith. Wedi i Pedr Hir-iarad yn gyffredinol, fel y. dywedir, gofynnodd Mr. D. E. Roberts am ganiatad i ddweyd gair Hysbysodd y cyfarfod am bender- fyniad yr Eglwys i gydnabod llafur mawr a gwasanaeth ei hannwyl weinidog. Yr oedd hyn yn ei bryd ddwy flynedd yn ol, pan gwblhaodd Mr. Powell* ei bumed mlwydd ar hugain yn eu mysg ond daeth y rhyfel ac andwyodd eu cynlluniau. Er yr holl rwystrau gweithiasant yn dawel, ac yr oedd- ynt heno'n alluog i gyflwyno i'w hannwyl weinidog cheque am swm neillduol, etc. Yna gaJwyd ar Mrs. Wynne Jones i'w gyf- lwyno i arwr y cyfarfod, yr hyn a wnaeth yn wir fedrus, mewn geiriau dethol. Datganai Mr. Powell ei syndod mawr. Ni wyddai hyd yr awr hon am fwriad y frawdoliaeth, ,I ac ni ddisgwyliai am yr arwydd yma o'u parch tuag ato a'u gwerthfawrogiad o'i wasanaeth. Anerchwyd y cyfarfod ym. hellach gan y Parchn. J. Davies; O. L. Roberts; Myles Griffiths; J. Vernon Lewis, M.A., B.D. a T. Michael, B.A., B.D. Cafwyd gair oddiwrth y Prifardd Pedrog yn datgan ei ofid o herwydd ei anallu i fod yn bresennol, ac anfonodd yr englyn canlync)]. Y PARCH DAVID POWELL. Dewr enaid ar ei annel-am y gwir,—■ Am y gamp o'i arddel Ac i'r un mewn cur a wel, Wyneb huan yw Powell. Anfonwyd cofion cynnes y cyfarfod at Pedrog gyda dymuniad diffuant am iddo gael adferiad buan a Ilwyr o'i gystudd blin. Traethodd yr holl siaradwyr yn frwd am ragoriaethau Mr. Powell, mewn amrywiol ffyrdd, a dymunent iddo ef a'r Eglwys lawer blwyddyn hapus a llwyddianus i ddod. Yn ystod y cyfarfod canwyd Yr Arglwydd yw fy Mugail, gan barti o chwiorydd. Cafwyd unawd gan Mr. R. Wynne Jones, deuawd gan Miss Hughes a L. T. Jones, ac unawd ar y crwth gan Mr. A. Edwards. Gorfodwyd ys- grifennydd hyn o linellau i adael y cyfarfod cyn cael hamdden i dalu teyrnged o barch i'r gwr a anrhydeddid. Y mae Mr. Powell yn un o brif dynion ein cenedl, mewn amryw gyfeiriadau. Saif yn y rhenc flaenaf fel Esboniwr. Prawf o hyn yw ei Esboniad diweddar ar Y Llythyr at yr Hebreaid. Darllena y llyfrau diweddaraf ar Ddiwin- yddiaeth, Athrawiaeth a Beirniadaeth Feibl- aidd, ac y mae ganddo lawer iawn o ani an y bardd. Pe cesglid ei holl ysgrifau at ei gilydd, ffurfient lawer o gyfrolau trwchus- gwerth eu darllen a'u myfyrio. Ni wyr beth yw seguryd, ac ni thrig llwfrdra na malais yn ei fynwes. Nodweddir ei holl gyflawniadau gan gydwybodolrwydd uchel. Dyn cyflawn ydyw ef yn ei bulpud ac mewn pwyllgor a chynhadledd. Anrhydeddir ef gan ei enwad trwy ei osod yn ei safleoedd pwysicaf. Hyderwn ei weled yn fuan yng Nghadair Undeb Bedyddwyr Cymru— H.R.H.

Family Notices

Advertising