Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

IV GOSTEG. j

--DYDDIADUR,-I

Cyhoeddwyr y CymodI

Advertising

Basgodaid olp Wlad. I

News
Cite
Share

Basgodaid olp Wlad. I CAERLLEON GAWR.—Llawen yw gallu tystio fod Cymry'r hen ddinas hon wedi cychwyn ar waith y gaeaf gyda'r gwahanol Gymdeithasau Lien etc. Agorwyd Cym- deithas Lenyddol St. John Street a Darlith gan Mr. Morys Parry ar Noson gydag Elfe(I a chaed amser da Mr. Thomas Pryce (Anni- bynwr) yn y gadair a Methodist yn cymryd Annibynwr yn destyn. Diolchwyd gan Mr. Wm. Davies.—Agorwyd Cymdeithas Albion Park (A.) gyda hwyl ar Pwllheh a'i Chymer- iadau un o blant y Pwll yn dwyn yr enw J.L.T., yn agor; Mr. Henry Price yn llywyddu; Alltud o Dreuddyn. Mr. Foster Williams, yn dweydgair, a' r Parch. If or Jones a Mr. J. Evans yn diolch.—Mr. T. E. Morris, B.A.,LI.M., a fu'n cyfarch Cymdeithas Cymry Caer. ar Gyfenwau Cymreig Sir Gaer a'r Gororau Mr. Clenyg Jones (Ilywydd y Gym- deithas) yn y gadair. Soniodd am enwau fel Priddey, Dye, Deakin, Dyer, Howle, a Probert-a geid mor fynych yn Siroedd Myn- wy, Amwythig, a Chaerloyw (Gloucestershire) —fel rhai wedi deillio o Gymru. Apeliai hefyd am i bob un, ymhob teulu, feddu cyfenw iddo'i hun, yn lle'r cyfenwau teulu sy'n peri lluosogi Jonesiaid a Williamsiaid a Roberts- iaid ac yn y blaen, ac yn peri'r fath ddyryswch a thrafferth. Disgwylir Mr. Ellis Davies, A.S., a Mr. E. T. John, A.S., yrnhellach ymlaen a dengys rhaglen ac adroddiad y Gymdeithas (Mr. F. Lloyd Williams yw'r ysgrifennydd) fod 1352 wedi ei gyfrannu a'i gasglu gan yr aelodau at Ysbyty Netley, sef digon i ddarpar pum gwely am flwyddyn. Da iawn, Gymry Cner. Llwyddiant di- gyffelyh fu gwasanaeth cerddorol yn addoldy y Wesleaid Cymreig—y Cor a'r Seindorf Linyn yn dangos gallu eithriadol, a'r cyfan o dan arweiniad medrus Mr. T. Davies Joney—■ Edrychwn ymlaen at glywed rhai o bigion Glannau'r Mersey-y Parch. D. D. Williams, Mr. R. H. Jones, a Mr. J. H. Jones (G)l. Y BRYTKON) .—Rhed ein cydymdeimlad at y brawd ieuanc E. Meirion Richards, Bouveri Street, sydd wedi ei glwyfo'n erchyll. Hyder- wn y caiff wellhad buan, er mor dost yr archoll.—Edrychir ymlaen at gyfarfod blyn- yddol Cymdeithas y Beiblau. Colled fawr oedd colli'r Cyrnol Evans-Lloyd, ei llywydd am flynyddoedd lawer. Deallwn mai'r Cym ro twymgalon, Mr. Henry Jones, a ddewisir i Ienwi'rbwlch sicr fod cydymdeimlad Cymry y cylch yn myned allan at ddau swyddog y Gymdeithas, sef Mr. Everett Lewis, yr ysgrif- ennydd, ar golli ohono ei annwyl fab ar faes y gwaed, a Mr. R. Mills, y trysorydd, oherwydd colli ohono ei frodyr hoff, un, sef Major Mills, yn Ffrainc.—Mae llu o bethau Cymreig eraill ar y meddwl, ond gadawn hwy y tro hwn, gan fentro gofyn i eraill anfon pwt. Dowch, y Mri. T. R., aM.P., a W.J., a J.L.T. Gadawaf i un ohonoch chwi ddweydsut ddarlith ageir gan Olygydd Y BRYTHON. Gwn y cawn un Gymraeg," EISTEDDFOD Q^EKNSFERRY.—Cynhaliwyd hon nos Fercher ddiweddaf, dan nawdd Achos Cymraeg Cenhadol y M.C., yn y Co-Operative Hall. Mr. Bairstow, Caer, yn y gadair; Llew Deulyn yn arwain, a hynny'n ddeheig, doniol, digwmpas, ac yn ffraeth a phert ei air yn Gymraeg a Saesneg Mr. G. W. Jones, Prestatyn, yn bariiu'r canu Mr. J. H. Jones, Gol. Y BRYTHON, yr adrodd; a Mr. Nuttall, Mostyn, yn cyfeilio. Yr oedd y neuadd dan ei sang a'r gynulleidfa'n weddaidd ac astud ei hymddygiad dim debar na gwawdio anhymig cyn i'r gystadleuaeth orffen a'r cystadleuaethau mor felys eu bias ac uehel eu safon, yn y ddwy adran, nes bod pawb ac eithrio'r dieithriaid oedd eisiau dal tren, yn aros yno o saith ar y gloch hyd yn dyn ar un ar ddeg. Dyma'r enillwyr Unrhyw alaw Gymreig, gwobr 5 I- (rhodd Mr. J. G. Rob- (',ymrei1eg ),?ttr o vases (rhodd Mrs. Whitehead), 1, Winnie Lloyd, Ffynnon groew. Her- Adroddiad i rai dan 16-1 (4 ac oriawr werth 6/6, rhodd Mr. Willett, Chester werth 6 /6, rl-iodd N House), Miss Myfanwy Davies, o eglwys Vittoria Street, Birkenhead 2, 3/ Miss Leslie Booth, Birkenhead 3, 2 Master Ianto Williams, mab y Parch. Ward Williams, Gwre^sam. Deuawd, f 1, Mr. Frank Nichol- son, Gwespyr, a'i gyfaill. Her unawd i ferch, 21 /— ac ymbarelo sidan (rhodd Mr. Pierce y Llythyrdy), Miss Alice Edwards, Gronant. Her-unawd i feibion, Mr. Wm. Foulkes, Rhes y Cae, a Mr. F. Nicholson, yn gydradd am wobr o i 1 I-adres-sing case. Her adroddiad 1, 15 a chadair, Miss Doris Steventon, New Brighton, un o faewyaid Madame Gladys Williams, Birkenhead. Canu penhillion ? 1, 10/6 a fountain pen (rhodd Mr. Walton), Mr. Willie Hughes, Rhos llannerch rugog. Y mae brithiad go drwm o Gymry Arfon, Mon a Meirion wedi dod i'r ardal, sef i'r gweithfeydd maWrion sy'n lluosogi mor gyflym ar lannau'r Ddyfrdwy, ac yn dod a'r iaith Gymraeg a'r Eisteddfod a'r Achos Cenhadol a phethau goreu'r Hen Wlad gyda hwy, i lefeinio'r bobl- ogaeth gymysg, a chadw Sir Fflint rhagmynd fel Sir Faesyfed a Sir Fynwy. CYMRY CAERFFILI.-Symudiad pwysig ym mhlaid y Gymraeg yn y fro hon yw sefydlu cymdeithas ymysg plant Cymreig yr Ysgol Uchelfennol, dan arweiniad Miss Gwen Row- lands, B.A., athrawes ac ysgrifennydd Cym- reigyddion Caerffili. Nos Wener, caed oedfa flasus gan y plant dan nawdd y Gymdeithas, yn vstafell gynnull Windsor Road, dan lyw- ydefiaeth Mr. E. T. Griffiths. Cymerwyd rhan mewn canu ac adrodd gan nifer o blant Ysgol y Babanod, dan arweiniad Miss Catherine John a'i chynorthwywyr, yn cael eu dilyn gan unawdau gan blant yr Ysgol Uchelfennol, a chaed gwledd Gymreig o'r iawn ryw. Dyma gam yn yr iawn gyfeiriad, a'r unig ffordd y gellir cadw'r iaith yn fyw, sef ymhlith y macwyaid, prif gelofnau'r genedl yn yr oes a ddel. Melys, moes mwy.—Orvrydryn. 0 FETHESDA.—Nos Sul ddiweddaf, rhodd- odd y Parch. J. T. Job rybudd i'w eglwys yng Ngharneddi ei fod yn ymddiswyddo. Deall- wn ei fod yn derbyn yr alwad a gafodd o Abergwaun. Bu yma'n agos i ugain mlynedd a chwith gan lawer fydd ei golli. Nid oes gennym ond dymuno pob llwyddiant iddo. O'r Mynydd i'r M6r yr a.—Yr oedd Sergeant Evan Thomas, Gordon Terrace, adref am dro o'r ysbyty yn Blackpool, agolwg gwella arno, wedi ei glwyfo fel ei frawd, Dan Thomas, B.A., sy'n gorwedd yn Bristol, ac yn gwella. Alf. Williams, Carneddi Road, wedi ei glwyfo. ond gartref ar dro. Brysied y dydd y cant ddod gartref eto.-Gwelais yn Y BRYTHON diweddaf y bu rhai o fechgyn y lie yma tua Glannau'r Mersey yma yn cynnal cyngerdd i helpu'r Groas Goch, ac i un gael canmoliaeth uehel am ei ganu nos Sul, a'i fod yn agos i Sam Jenkin. Nid yw hyn yn rhyfedd i ni s ydd yn ei adnabod yma. sef Wm. Roberts, I Mostyn Terrace, ond yn awr gyda'r Fyddin 1 yng Nghroesoswallt. Mae ei enaid yn ei ganu bob amser. Yn ol yn ddiogel, gyfaill.-Min Ogwen. 0 BBESTATYN.—Tachwedd 1, yng nghape* M.C. Prestatyn, gan y Parch. E. James Jones' M.A., Rhyl, priodwyd 2nd-Lieut. Wilfred G- Jon'es, 3 /7 R.W.F., unig fab Mr. R. Jones' Ithelfryn, Rhyl, a Miss Jennie Williams, Clwyd View, Prestatyn. Cyflwynwyd hi gan ei brawd, Mr. John Williams. Y forwyn oedd Miss Muriel Jones, chwaer y priodasfab, ac organydd eglwys Clwyd Street, Rhyl y gwas ydoedd Sergt. Ivor LI. Jones (R.W.F.), Manchester, cefnder y priodasfab. Caed detholion ar yr organ gan Miss M. J.Hughes, Gronant House. Ymhlith y gwahoddedigion yr oedd Mr. a Mrs. T. O. Vaughan, Belfast, chwaer y priodasfab (gynt o Birkenhead) Y pwyddion yn lluosog a drudion. Eiddun- wn hir oes iddynt.kJ.G. O'R HEN SIR, SEF SIR FON.Dydd I Iau a dydd Gwener cyn y diweddaf, pregethai dau o lewion Independia yng nghapel Bodffordd-corlan Annibynnol y Parch. Smyrna Jones, Llangefni, sef y Parchn. R. P. Williams, Caergybi, ac Owen Jones, Nant Ffrancon. Dau wedi bod yn gweinidogaethu ar yr un gorlan—Ebenezer, Arfon. Arlwy- wyd, gwleddoedd hefyd ym Methel (A.), Cemaes, ar ddydd Mawrth' a dydd Mercher, gan y Parchn. Gwylfa Roberts, Llanelli, a Stanley Jones,, Caernarfon.—Ar ffordd y Valley, ar nawn dydd Iau, digwyddodd peth pur alaethus aeth Mr. Henry Roberts, o ardal Llanfachraeth, dan olwyn y traction oedd dan ei ofal, a llethwyd ef i farwolaeth. Eiddo'r ynad, Mr. Rice Rowlands, Machraeth View, oedd y traction. Mor ddi-ddisgwyl y daeth y diwedd ac efe yn anterth ei ddydd, yn 46 oed.—Nos Fawrth bu cwrdd ymadawol y Parch. W. H. Cassam, a ofalai am achos yr Annibynwyr yn Niwbwrch, ac sydd yn mudo i Dde Cymru. Datganwyd teimlad o golled ar ei ol, a chyflwynwyd .anrhegion iddo.- Golchodd ton erwin dros deimladau'r Parch. W. Llewelyn Lloyd ym marwolaeth ei fam ragorol, a mawr y bwlch fydd yn y teulu a'r eglwys ym Methel, Bodorgan, ar ei ol. Un o'r boneddigesau anwylaf, meddir, parod ei chalon, ei chyngor a'i llaw. Nid oeA chwerw- ach gofid na cholli mam dcla.-Wesleaid Amlwch wedi colli colofn gadarn yn angau Mr. W. H. Thomas, Madynfa, a rhoed iddo angladd tywysog, a'r gweinidogion yn datgan mor ddifloesg na chafodd y Wesleaid y fath golled ers llawer blwyddyn. A dyna golled i gapel Ty'n y maen (M.C.), Llanddeusant, a gafwyd ym marwolaeth yrhenbererin duwiol, Mr. Henry Williams, a fu yno'n ddiacon a dechreuwr y gan am bedair blynedd ar ddeg a deugain. Y fath gyfnod hir yn arweinydd mawl y Cysegr! Nid oedd ym Mon mo'i dduwiolach. Bu farw yn nhy ei ferch, Mrs. Pritchard. Tremoelgoch bach, yn 82 'mlwydd oed. Efe'n frawd i'r Parch. R. P. Williams, Tabernacl, Caergybi. Ym mynwent Glan- adda, Bangor, bore dydd Llun, am ddeuddeg ar gloch, rhoed Mrs. Jane Owen, priod werth- fawr Mr. Wm. Owen, Tan dderwen, Penrhos, ger Porthaethwy, i orwedd. Rhoed gair uchel iawn i'w chymeriad a'i henw da gan ei gweinidog, y Parch. J. Evans, Beulah (A.), a chan y Parch. Davies, Capel y Graig. Hefyd caed gair gan ei nai, Ap Huwco. Daeth teulu mawr yngbyd, yn eu mysg Mrs. Williams, Mona View, chwaer yng nghyfraith, a Mrs. Owen, Cilmelyn, eto ac o oehr yr ymadawedig, Mrs. Closs, Bryn- tirion, Llanrug, cyfnither, ac eraill rhy luosog i'w henwi. Gadawodd o'i hoi ddau fab, Mr. Wm. Owen a Mr. H. D. Owen, sy'n bre- gethwr disglair gyda'r Annibynwyr, ac yn fardd cadeiriol, ond sydd yn swn y brwydro yn Salonica draw. Hefyd tair merch, Miss Maggie Owen, Mrs. Tnos. Jones, a Miss Jeannie Owen. Draw yn hedd Glanadda dawel Rhoed ei llwch ar fore Llun, Ni ddaw yno swn y Rhyfel Byth i dorri ar ei hun Am ei phlanf a'i gwr mynwesol Cofia, Arglwydd, yn Dy Net; Hefyd am ei mab sy'n nghanol Swn y brwydro—cofia ef. -T,lyg,ad Agor d. LLANELIDAN-Fel ymhob ardal arall, mae amryw o fechgyn y plwyf hwn oedd yn y ffosydd yn Ffrainc, wedi dod yn ol yn wael eu hiechyd: Private David Jones, R.W.F., Gwegil y Bryn gynt, mewn ysbyty yn Llun- dain, wedi bod yn y frwydr am bum mis; Private Robert Thomas Williams, R.W.F., mewn ysbyty yn Glasgow, yntau wedi bod rai misoedd yn y ffosydd, ac yn troi ar wella. Corp. Howell Edwards, y llythyrdy, wedi ei glwyfo, ac mewn ysbyty yn Llundain, wedi bod am fisoedd yn y frwydr, ac yn disgwyl dod adref cyn bo hir. Da oedd gennym weld I y Private Edward Hughes, Ty Newydd, adref am ychydig ddyddiau ar ol hod. am bedwar mis ar ddeg gyda'r R. A.M.C. yn Belgium. Edrychai'n rhagorol, achanddo amlhanesyn I cyffrous i'w adrodd. Mae wedi dychwel.— L.E.P.

I Goreu Cymro, yr un Oddieartre

I CYDNABOD" D.P." I

Family Notices

Advertising