Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

o Big yI Lleifiad.

DAU TU'R AFON. I

News
Cite
Share

DAU TU'R AFON. I GWOBRWYO GWROLDEB.—'Bydd yn dda gan liaws cyfeillion y Preifat Tudor Owen. York and Lancaster Regiment, mab y Parch. W. Owen, Conwy, gynt o Webster Road, Lerpwl, ddeall fod yr awdurdodau wedi ei farnu'n deilwng o'r fedal filwrol am y gwroldeb a ddangesodd y nos y clwyfwyd ef fis Mai diweddaf yn Ffrainc. Clwyfwyd ef drwy ffrwydriad shrapnel, a'r funud hono gwnaeth y gelyn ruthr ar y ffos. Ni allai ein cyfaill ddefnyddio'i ddryll yn hylaw iawn, ac o'r diwedd dyrysodd peirianwaith hwnnw gan y gwaed a lifai o'r archoll yn ei law. Ond ni ildiodd, eithr gorweddodd yng ngwaelod y ffos i lanw clips i'w gyd filwyr, ac o'r diwedd gorfu ar y gelyn encilio a hynny pan oedd ein dynion wedi gollwng eu hergyd olaf. Bydd Mr. Owen yn mynd yn ol i Ffrainc ymhen ychydig ddyddiau a mawr hyderwn y dychwel oddiyno'n ddiogel. Mae ei frawd, Dr. Gwilym Owen, athro ym Mhrifysgol Auckland, New Zealand, hefyd wedi ymuno a'r Fyddin ers rhai Imisoedd. CYFARFOD MISOL.-Crosshall Street, Tach. 1; Mr. Bellis yn y gadair. Cydnab-Li'r ysgrif- ennydd lythyr oddiwrth Mr. E. D. Jones, myfyriwr, yn hysbysu ei fod yn cychwyn am Salonika gyda'r R.A.M.C.—dyna eglurai ei absenoldeb o'r Cyafrfod Misol o'r blaen. Hefyd gair oddiwrth y Parch. M. R. Moses, yn hysbysu ei fod yntau'n mynd i Ffrainc gyda'r R.A M.C. Cenadwri o Sunderland eu bod wedi dewis y Mri. John Williams, David Williams, a J. Parry yn flaenoriaid. Pasiwyd penderfyniad o gydymdeimlad a Miss Whel- don a Major Wheldon ar farwolaeth eu tad, y Parch. T. J. Wheldon. Hefyd a theuluoedd y bechgyn a ganlyn a gollodd eu bywydau ar faes y gwaed: Privates Griffith Jones, Chatham Street; Griffith Jones, Douglas Read; Arthur Pritchard a W. H. Jones, Stanley Road; T. Lloyd Jones, David Street Private Hughes, Webster Road J. E. Jones, Princes Road Sec-Lieut. R. H. Jones, Princes Road. Pasiwyd y penderfyn- iad trwy i'r Cyfarfod Misol godi ar eu traed. Yr dedd eglwys Southport wedi dewis pedwar o flaenoriaid Mri. J. R. Evans, W. D. Owen, J. Roberts a R. T. Williams* y rhai (a Mr. R. Hughes o Ashton-in-Makerlield) y gwran- dawyd eu profiadau gan y Parch. D. D. Williams; rhoddwyd cyngor rha^orol iddynt gan Mr. John Hughes, Garston, ac offrym- wyd gweddi gan y Parch. J. Hughes, M.A. Coffawyd am Mr. J. Ellis Jones, Whiston, gan y Parch. J. Williams a Mr. Thomas o'r un eglwys, ac am y diweddar Mr. Patton gan Mr. J. W. Rowlands a Mr. R. Roberts, o eglwys Newsham Park,—y cwbl yn dwyn tystiolaeth uchel i'w cymeriadau a'r teimlad o golled yn yr eglwysi ar eu hoi. Caed sylw ar y Dryaorfa Gynorthwyol gan y Parch. R. R. Hughes, B.A. adroddiad y Pwyllgor Bugeiliol gan Mr. Wm. Pritchard sylw ar y Saboth Dirwestol gan y Parch. O. Lloyd Jones. M.A.,B.D. Cymanfa Sulgwyn 1918 y pwyllgor i gyfarfod yn Crosshall Street nos Fawrth, Tachwedd 21, am 7. Y Saboth diweddaf, cynhaliwyd Cyfarfod Ysgolion yng nghapel M.C. Rock Ferry, dan lywyddiaeth Mr. R. W. Roberts (llywydd yr Undeb). Y prynhawn, adroddwyd rhan o loan ii gan Miss Maggie Hughes, a gweddiodd Mr. Edward Roberts (Fitzclarence Street). Holwyd y plant ieuengaf yn Rhodd Mam i, a'r rhai hynaf yn h-anes y briodas yn Cana Galilea, gan y Parch. O. J. Owen, M.A. Yr oedd yr atebion yn lied dda ag ystyried nifer y plant. Darllenwyd papur da ac amserol gan Mr. W. W. Jones, Chatham Street, ar Bvrysigrwydd y cyfnod rhwng y Plentyn a'r Dyn. a chafwyd sylwadau pellach gan Mr. M. W. Humphreys, y Parch. O. J. Owen, a'r llywydd. Diben nwyd drwy weddi gan Mr. Thomas Jones, Parkfield. Ar y terfyn, ym- neilltuwyd at y byrddau te i fwynhau'r danteithion. Diolchwyd i'r ehwiorydd gan Mr. D. Jones (Douglas Road) a Mr. Ed. Richards (Fitzclarence Street). Cynhaliwyd pwyllgor o'r cynrychiolwyr cyn cyfarfod yr hwyr, ac ymhlith pethau eraill etholwyd swyddogion am y flwyddyn nesaf llywydd, Mr. R. Lloyd Phillips, Princes Road trys., Mr. Robert Griffiths, Stanley Road; ysg. cyffredinol, Ed. E. Williams, David Street ystadegydd, Mr. J. Williams, Stanley Road YSg. yr Arholiadau, Mr. Wm. Morris, Walton Park. Hysbysodd yr ysfzrifennydd fod ych- ydig o gyfnewid yn nhrefn y cyfarfodydd Ysgol y flwyddyn nesaf. Dyma'r drefn Ion., Woodchurch Road Mawrth. Chatham Street: Ebrill, Stanley Road; Meh.. Whis- ton Gorff., Parkfield; Medi, St. Helens Hyd., Webster Road Tach., Waterloo. Yr hwyr, adroddwyd rhan o loan iii. gan Mr. David Williams, a gweddïodd Mr. Cledwyn Hughes (Princes Road). Yna holwyd y rhai mewn oed ar Ail-Enedigaeth," seiliedig ar loan iii gan y Parch. O. J. Owen, yr atebion yn dda a chyffredinol. Cafwyd hanes yr Ysgol yn Rock Ferry gan yr ysgrifennydd, a sylwadau ar yr adroddiad gan Mr. H. R. Hughes (Edge Lane), Ystadegydd yr Undeb. ^Cafwyd ychydig sylwadau pellach gan Mr. W. L. Jones, arolygwr yr Ysgol. YSTAFELL GENHADOL UPPER WARWICK STREET.—Hydref 25, ymwelwyd a'r ystafell uchod gan gyfeillion o ystafell genhadol Smith Street. Cymerwyd rhan mewn canu ac ad- rodd gan y rhain Misses Ella Leece, Lizzie Roberts, Katie Roberts, Annie Evans. Gwladys Jones, Lillian Jones, May Parry Jones, Annie Jones, Annie Roberts, Mr. Llew Roberts, Gunner H. P. Morris, R. E. Roberts, Privates David Roberts ac Alf Lewis Miss Davies, A.V.C.M., wrth yr organ. Llywydd- wyd yn ddeheig gan Mr. Humphrey Rob- erts, Anfield. Diolchwyd i'r cyfeillion gan Sister Evans, Mr. Robert Evans, a Mr. Will- iams. Cyfarfod da drwyddo, a chynhulliad rhagorol. Y parti dan arweiniad Mr. Llanfor Roberts.-Un, oedd yno. TEML GWALIA, EDGE LANE.-Nos Fawrth yr )wythnos ddiweddaf, cafwyd cyfarfod pur ddiddorol Pianoforte Solo gan y Chwaer Phyllis Edwards. Adroddiad, Y Weddw aW Pytatws, y Chwaer Dora Jones. Cân, Bendith. iaist Goed y Meysydd, y Chwaer Jenny Jones. Darllen hanes un wedi syrthio ar faes y rhyfel, y Br. J. E. Davies. Pianoforte Solo, Mr. R. E. Williams. Can, A long, long trail. y Chwaer Mary Thomas. Llawenydd oedd gweled y Corporal Griffiths, sef nai'r Br. Henry Davies, yn bresennol. Pasiwyd i anfon cydymdeimlad a'r chwiorydd C. ac A. Jones, Prenton, hen aelodau ffyddlon o'r DemI, yn eu profedigaeth chwerw o golli eu brawd, Lieut. R. Jones, yn y rhyfel. Derbyn., iwyd Miss Annie Jones, Holt Road, yn aelod o'r newydd. Dewiswyd swyddogion newydd am y chwarter nesaf P.D., y Br. J. M. Evans cyn B., y Br. J. Williams is- Demlydd, Chwaer Mrs. Davies, Botanic Road; caplan, y Chwaer Mrs. Evans, Botanic Road ysg., y Br. J. E. Davies; is ysg., y Br. R. C. Williams gwyliedydd, y Br. O. H. Williams trys., Br. G. Davies ysg. ariannol, y Chwaer Dora Jones rhingyll, y Chwaer Phillips. Cyfeiliwyd gan y Chwaer Madeline Davies a Miss Mei Jones, o Glyn Farm, Cricieth. Llywyddwyd gan y P.D. Br. John Williams.—Cymraes. CYMDEITHAS LLEN A CHERDD CHATHAM STREET.—Nos Fawrth, Hydref 31, cafwyd papurau gan ch wech o ferched ieuainc, ar Merched Enwog: Nurse Cavell, gan Miss Nancy Davies Mary Jones, Miss G. Lloyd Jones Ann Griffiths, Miss B. Lloyd Jones; Queen Victoria, Miss Buddug Lewis Florence Nightingale, Miss Myfanwy Pritchard Ann Griffiths,MissNesta, Roberts. Cafwyd papur- au da iawn gan y cwbl, a siaradwyd gan am- ryw o'r aelodau. Llywyddid y cyfarfod yn ddeheig gan Miss K. L. Chaloner. Yr oedd nifer da iawn yn bre,ennol.-R,.E.R. Dyma destynau Cymdeithas Lenyddol Capel Bethlehem Douglas Road:—Hyd. 13 —Anerchiad Agoriadol gan y Parch. G. Wynne Griffith, B.A.,B.D.; 29-Dadl, Pa un ai y Pregethwr, y Bardd, ynteu'r Cerddor yw cymwynaswr goreu ei wlad ? Tach.10--Dadl, A ddylai Prydain fabwysiadu Gorfodaeth Filivrol (Conscription) ar ol y rhyfel ? 24- Dadl, Pa un ai mantais ai anfantais i grefydd. fyddai uno'r enwadau ? Rhag. 8-Dadl, A ddyla.i pob cylch fod yn agored i gydymgais cydrhwng y ddau ryw ? Ion. 5—Darlith gan y Parch. G. Wynne Griffith, B.A.,B.D., 0 Fabilon i Bethlehem; 19—Darlith gan y Parch. D. D. Williams, Williams Pantycdyn Chwef. 2- Dadl, Pa un ai bywyd y wlad ynte bywyd y dref yw'r mwyaf manteisiol i Jeithrin y cymeriadau cryfaf ? 16-Darlith gan Mr. J. R. Jones (Gol. Y BRYTHON), Y Gadair Wichlyd. NosongydaDewiSant Atgofion. LAIRD STREET.—Nos Fawrth yr wythnoS hon, yn y Gymdeithas Lenyddol, caed anerchiad diddorol ac addysgiadol iawn gan Mr. J. H. Jones (Y BRYTHON) ar Gymraeg Testament William Salisbury, a llawer o ddyfyniadau. Taloddwrogaeth i'r hen gyf- ieithwyr ac ereill a fu'n llafurio gyda'r Beibl a ninnau'n mwyrillau eu llafur. Gresyn na fuasai aelodau'r Ysgol Sul wedi manteisio ar y cyfarfod. Eu colled hwy ydoedd. Y llywydd oedd Mr. Rd. Hughes, a diolchwyd gan Mr. John Evans a R. J. Griffiths.-Aelod. « -0-

I ITysteb Genedlaethol i Pedrog

Advertising