Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

o Big yI Lleifiad.

News
Cite
Share

o Big y I Lleifiad. TYRRU TUA COLQUITT STREET.— Dengys yr hysby&iad mewn colofn arall y bydd yr Athro J. Morris Jones, M.A., yn darlithio ar Demi W yn o flaen y Gymdeithas Genedlaethol nos yfory (nos Wener), a diau y bydd yno dyrfa fawr ac astud. Nid oes eisiau dweyd gair arall am y testyn na'r traethwr. A bydd gair y cadeirydd hyddysg yn werth ei glywed hefyd. BEIRDD Y BED YDD W YB.—Bu r Parch. H. R. Roberts, Edge Lane, yn traethu ar Awr gyda Beirdd y Bedyddwyr gerbron Cymdeithas Ieuenctid yr Woodlands, Birken- head—nos Fercher yr wythnos ddiweddaf sef ar Robert ap Gwilym Ddu, Dewi Wyn, lorwerth Glan Aled, Morleisfardd, Ceulanydd, Telynog, Cernyw, Gwili, a dibennu a'r anfarwol Ben Bowon, addewid farddonol fwya'i oes pe cawai fyw, druan. Cyfiwyn- wyd y diolch gan y Parch. Joseph Davies, Mri. J. S. Jone& ac E. Bernard Jones. Ar y diwedd, achubwyd y cyfle i anrhegu Mrs. J. Pritchard (Miss Grace Lloyd, Ty'r Capel) a llestryn arian tlws ar achlysur ei phriodas, Miss Lizzie Dayies yn ei gyflwyno; Mr. E. Bernard Jones (llywydd y Gymdeithas) a Mr. Rd. Roberts yn dywedyd gair, a Mr. a Mrs. Pritchard yn cydnabod y rhodd a'r galon garedig oedd tu ol i'r cwbl. OYNGOR GARU.—Dyma'r ail ar hugain o Lithoedd Llofft Stabal yr Hen Was wedi cyrraedd,—hon yn gorffen trin y pwnc a fu ganddo yn y Hall o'r blaen, rhag-gyfeillachu "ciaru," chwedl ynta>u. Y mae ganddo amryw gynghorion call wrth ddibennu, ac fe gewch eu gweled i gyd fore dydd Iau nesaf. Nid oes dim diwedd ar yr Hen Was, na neb eisiau ch waltli. DANGOS-A C.HUDDIO.-YmaeJ.D.R wedi cael bias ar bortreadu un arall a fu'n pregethu'n ddiweddar ar y Glannau yma. GaUem feddwl mae cennad cymharol ieuanc sydd ganddo'r tro hwn dyry le uchel iddo ymysg goreuon ei gyfundeb a'i genedl; a dywed ei fod yn medru bod yn gceth heb golli'r eneiniad a'r afiaith Peth go anodd hynny, at ei gilydd. Ond er craffu ar bob brawddeg, methu'n lan ag adnabod y darlun a ddarfum i, gan morfedrus y dangoswyd y dyn mewn un ffordd ac y'i cuddiwyd mewn ffordd arall. Ys gwn i a fedrwch chwi ddy- wedyd pwy yw hwn yn Oriel Hoelion Wyth J.D.R.? PWY FYDD DILYNYDD WILLIAM EVANS ?-Dy-i-na'n cydwladwr addfwyn a hybarch, y Cynghorydd Wm. Evans, Y.H., wedi cael ei godi'n Henadur, a'i le'n wag fel cynrychiolydd Anfield Ward. Dyma an- rhydedd a haeddwyd er ys talm, ac nid oes yn y ddwyblaid i gyd wr mwy cymeradwy a gloewach ei hanes a'i wasanaeth. Gward Gymreig yw Anfield, yn anad yr un o ward- au'r dainas, a Chymro, ar bob cyfrif, ddylai barhau i'w chynrychioli yn y Cyn-Šor Dinesig, megis rftai Gwyddel sydd dros Ward Scotland gerllaw. Y mae yno Gymry ieuainc cymwys agalluog, a plirofiadol o'r byd yno'n byw, ac y mae ein meddwl yn troi'r munud yma at rai a wnaethai aelod dan gamp. Deffroer mewn pryd, a chaffer o hyd i Gymro a naddo iddo'i hun le mor gynnes yng nghalon a meddwl pawb o bob cenedl ag a wnaeth Mr. Wm. Evans. OROESO ANFIELD.- Y mae eglwys M.C. Anfield Road wedi trefnu rhoddi gwledd a chyngerdd i filwyr yr ysbytai bob mis yn ystod y gaeaf Caed cyntaf y gyfres nos Fawrth yr wythnos ddiweddaf; cryn hanner cant o'r bechgyn yno'n mwynhau Mrs. J. Owen a Mrs. Cernj^w Jones, a nifer o chwiorydd eraill, yn hulior byrddau a gweini, law a throed yr holl draul yn cael ei ddwyn gan frawd sy'n dewis i'w enw fod yng nghudd—urdd ardderchog yw URDD YR ANAD. yma Arvon Hope a Mr. Cernyw Jones yn trefnu'r cyngerdd a ddilynodd y wledd; y rhain yn canu Misses Lilian Hum- phreys, Bessie Hughes, Ethel Roberts, Lily Davies (ac yn adrodd a chanu), a Masters Willie Jones a Glyn Roberts (Ap Arvon Hope, ac yn dynwared ei dad i'r dim) Miss Jennie Hughes, A.L.C.M., a gyfeiliodd. Caed hwyl tuhwnt ar gystadleuaeth trimio hetiau i'r meibion, ac ar gystadleuaeth curo hoelion (ond nid yr Hoelion Wyth) i'r merched. Cafwyd anerchiad gan y Parch. J. Owen a'r diolchgarwch oedd sglein y mwynhad oedd ar wynebau'r bechgyn. DEFFRO DRA YTON.-Bu'r doniau a ganlyn yn cadw cyngerdd yn Neuadd Dre Market Drayton, Sir Amwythig, nos Iau ddi- weddaf Miss Louie James, R.A.M., Llun- dain" Miss Freda Holland, Birkenhead; Mr. W. W. Mortimer, o'r Green, Dinbych Mr. J. Halton Morris ac Arvon Hope o Ler- pwl heblaw rhai doniau lleol. Dan nawdd yr Eglwys Annibyn)l Saesneg yr oedd y cyngerdd, a Chymro, y Parch. Henry Jones a fugeilia honno. Cawsid rai penhillion Saesneg i'w canu gyda'r tannau, ond nid oedd y delyn yn malio fawr am yr iaith fain, ac yn ddig wrthi am frathu ei phen drwy ddrws sancteiddiolaf Cysegr yr Hen Iaith ond cafwyd hwyl byddarol gyda gweddill y rhaglen, a pobl dawel, doeslyd Sir Mwythig wedi colli cymaint arnynt eu hunain nos gor- foleddu, yn eu ffordd hwy o orfoleddu. DEUCANT BANKHARhwng 180 o filwyr, ac eraill, yr oedd tua deucant yn mwynhau ail gyngerdd croeso a roddwyd i fechgyn Cymreig y khaki yn Ysgoldy Bank- hall nos Sadwrn ddiweddaf. Cafwyd nos- weithiau campus o'r blaen, ond tybed nad hon oedd yr oteu ohonynt. i gyd. Bu'r Parch. Venmore Williams, y caplan newydd, yno'n siarad, a'r Parch. T. Michael, B.A.,B.D., Earlsfield Road. Ac yno'n eistedd, a chystal a siarad drwy'r amneidio a'r llygeidio direidus ar ei f ilydd yr oedd y rhain, Pedr Hir,Madryn, ac Ap Lleyn. Mr. Blampton oedd y telynor y Proff. Roscoe oedd y dewin a'r consurwr (coniurer) chwim ei gast canodd Miss Read For Killarney and you ac England canodd Miss Gwen Taylor (wyrss Iolo Trefaklwyn) benhillion telyn caed Until, Ohwech o Eifr, Gwlad y Delyn, a'r Bugail gan Mr. J. Halton Morris Yr Hen Simdde Fawr, gan Mr. J. G. Jones Y Ddau Frython gan Mri. Lewis Lewis a Griff Jones a chafwyd penhillion telyn gan Lance-Corp. W. O. Hughes a'r Preifat Morris Owen—a bias ffriddoedd a phertrwydd yr Hen Wlad arnynt Miss Nellie Lewis oedd yn cyfeilio Mr. R. Vaughan Jones yn arwain a bydd yn dda tuhwnt gan y trysorydd—Mr. R. O. Williams —gael pob tanysgrifiad at y draul yn y Lon- don City & Midland Bank, Castle Street. Ac os haeddodd mudiad danysgrifiad erioed, dyma fo. Y mae'r Lieut. J. C. Evans, mab Mr. David Evans, Cynlais, Birkenhead, wedi cael ei glwyfo yn Ffrainc ond nid yn dost, o drugaredd. Disgwylir ef gartref yn fuan.

DAU TU'R AFON. I

I ITysteb Genedlaethol i Pedrog

Advertising