Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

- YSl AfEll Y 13EIRDD

- ICHWITH ATGO'

News
Cite
Share

I CHWITH ATGO' am ein Samson gaUuog y ParCh. T. J. Wheidon, B.A. DYN a hyd ynddo oedd Mr. Wlteldon-liyd mwy na'r cyffredin. Yr oedd hyd yn nod- weddu holl aelodau ei gorff, a nodweddid holl gynheddfau ei enaid gan hyd. Rhaid fyddai i un fod o olwg hynod fyr i fethu ei weld ar yr hool, mewn pwyllgor, yn y pulpud, ac yn y Gymdeithasfa. Nid gormod dweyd mai ef fyddai'r talaf o ddigon pa le bynnag y di- gwyddai f)d. Ac os yn dal, nid yn gul. Llanwai ei le bob arnser hyd yr ymylon mewn araith, mewn cyngor, ac mewn pregeth. Dyn ar ei hyd ydoedd hefyd. Ceir ambell un yn ymnyddu drwy'r byd yn ei blygiad. Nid yw byth ar ei hyd ond yn ei fedd, ac nid yw ef ei hun na neb arall ddim elwach o'i fod felly yn awr. Nid yn ei ddwbl y diwylliai ei fedd- wl pan yn y Bala, yn bugeilio diadelloedd Maldwyn, Meirion ac Arfon, yn dadleu dros addysg yn Ffestiniog, yn eiriol am deml orwych ym Mangor, ac yn ymresymu dros gynhaliaeth y weinidogaeth ac undeb y Corff drwy Wynedd a Gwent. Nid rhyfedd iddo gadw'i gorff a'i feddwl mor syth hyd nes cyrraedd rhosydd Moab, gan ei fod yn gofalu am ddigonedd o ymarferiadau i'r naill a'r llall. Etyb i ddisgrifiad swydd Lancashire o ddyn uniawn, Six o'clock man," gan fod bysedd yr awrlais ar y chweched awr yn llinell union. Amheuwyd ei ddoethineb, ond nid yn fynych, ond ni phetrusid byth am ei uniondob. Nerth ac angerddoldeb oedd llinellau amlycaf ei gymeriad. Nid oedd dim simsan, sigledig, ar ei gyful. Pwy erioed a'i gwelodd ef yn gwegian ? Po uchaf ei gerddediad, cadamaf ei rodiad. Ehedai'n uchel a gwelai ymhell* Gwisgai gleddyf ar ei glun, a marchogai yn amlder ei nerth a chofier mai nid cleddyf pren oedd ganddo, ond cleddyf dur a hwnnw wedi ei hogi ar faen gwirionedd a phan fydd- ai galw, claddai ef hyd y earn yn ei elynion, gan fedi y maes o'i flaen, ond a gonnod o fin arno i wenwyno neb. Ystyrrid ef yn ddyn pendant, awdurdodol a phenderfynol. Dygai ddelw amgylchoedd ei frj enedigol,—ardal Llanb eris. Dywedai y caswir, digied a ddigitl nid am ei fod yn gaswir, ond or ei fod- traethai ei farn, costied a gostio, heb ddeilen ar ei dafod ac nid anfynycli na ddygai ei fam i fuddugoliaeth. Arwr brwydrau ydoedd a disgynnodd i'r bedd a'i fynwes wedi ei gorchuddio a medals y gwir filwr. Ond er mai ein Samson galluog ni ydoedd na feddylier mai dyn sur, sorllyd, ydoedd, yn gwylio'i gyfle i daro, heb ofalu fawr pa le i daro. O'i iawn adnabod nid oedd dichon peidio a'i barchu, a'i garu'n wir. Gwell gan ddyn cydwybodol gael ei gondemnio gan Mr. Wheidon na chael ei glodfori gan lawer un ohud. Er nad oedd ei gydwybod yn brin o bwysau, meddai galon eirias o gariad. Tywalltodd falm hedd ar friwiau'r anafus gan rwymo eu doluriau. Y cwyn ni wyddai a chwiliai allan bu'n droed i'r cloff ac yn llygad i'r dall. Pwy a wyr ddyfnder ei garedigrwydd ef a'i briod hawddgar ? Erys eu troeon da'n golofnau i fytholi ac anwylo eu coffadwriaeth. Os oedd weithiau'n ysgwyd ei deyrnwialen, pwy a warafunai, gan ei fod wedi dysgu handlo y cledd ? Ni fu gwoinidog yn y Corff mwy mawrfrydig a Jiael- frydig. Os oes rhywun eisiau esboniad ar air Emrys ap Iwan, Bronlieilyn," darllened bennocl neu ddwy o hanes bywyd Wheidon. Tirionid ei nerth gan dynherwch, a grymusid oi dynlierwch gan nerth. Chwiliai am le i dosturio, ac nid anodd credu fod rhai wedi cymryd camfantais ar hynny. Craig ydoedd mewn cadernid, ond gorchuddid y graig gan flodau grug cymwynasgarweh. Tra'n cadw ein llygaid ar ei ornestau, peidiwn ag anghofio agor ein hemrynt arno'n cael ei lorio gan gwyn y weddw a chyni'r amddifad, a delw Whel- donaidd ar y naill a'r llall. Gwelsom ef yin mlynyddoedd ei anterth, a dilynasom ef yn araf-ddisgyn grisiau'r glyn, ond yr oedd pryd- ferthwch hydref ar ei ecsodus. Yr wyf yn ysgriblo hyn o goffa amdano i chwi rhwng dwy oedfa. Nid oes dim cyfle i nodi ei safle yng Nghyfarfod Misol Arfon. Daeth yno pan oedd cysgod dwy gedrwydden —Evan Jones, Caernarfon, a Thomas Rob. erts, Betliesda-yn cysgodi'r rhanfwyafo'r brodyr, ond safodd Mr. Wheldon ysgwydd wrth ysgwydd a'r cedyrn hyn, a chyflawnai y naill ddiffyg y Hall. Gwyn fyd y Cyfarfodydd Misol hynny y mae folly iddynt. Nid yw'r Hong yn debyg o fynd ar y graig tra bydd dynion fel hyn ar ei bwrdd. Dechreuodd ei daith pan nad oedd gweledigaoth eglur yng nghylcii y Fugeiliaeth, ond bu ar air ac ar weithred yn help i'w sefydlu yn yr enwad. A gaf fi ddwyn hyn o ysgrif i ben drwy ddy- tynnu rhan o'i Gyngor gwych ar Ordeiniad yng Nghaernarfon—fy hen dref enedigol—fel y darlun perffeithiaf o'r gwi-thrych ei hun ? Cnewyllun rhan gyntaf y Cyngor ydyw, I EIslau gwyr sydd ar yr eglwysi." Dyma fel y traethai, ac nid oes dim a rydd well syniad amdano :—■ Pa fath un yw g*r ? Un sydd yn I I gysgod rhag y gwynt, trwy sefyll eihunan a'i gefn at y corwynt, a chysgod o'i flaen. Lloches rhag y dymest-1, trwy roddi ei gefn i'r curwyr a chreu felly gilfach a glan yn harbour of refuge rh wng ei freichiau ar led. Afonydd dyfroedd mewn sychtir, gan roddi posibilrwydd llwyddiant He nad oedd, a lie nad oedd ond ychydig, gwna i ddau flodeuyn a dau welltyn darddu lie nad oedd ond un. Cysgod craig fawr mewn tir sychedig,' lie y mae gorffwysfa i'rblinedig,yn wyr, gwragedd, gweddwon, amddifaid,—y myrdd sydd yn troedio tir blin. Hwn a newidia farn gwlad am bendeflaactli. Pyla gwagedd yr afradlon ariangar, a'r cybydd castiog, gwaedol- iaeth a safle, o flaen y brenin digoron a'r tywysog di-eiddo hwn. Dyma y gwr i ni." A'r cynghorwr yn rhaeadru ei feddyliau allan fel pelenni o dan. Llansantjfraid W, All JONES' I

I PYTIAU CYMREIQ.

BARA BRITH. I

Advertising