Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Wheldon a Dewi Arfon.

Clep y Clawdd

Ein Genedl ym Mancainion.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Ein Genedl ym Mancainion. CP- }u,don y Sul Nesat. Y METHODISTIAID CALFINAIDD Moss Side—10.»0 a 6 30, Thos Williams, Caergybi PENDLETON- I' Humphreys. 6, R Williams HEYWOOD St.-10.30 a 6, Edward Williams. Derwen VICTORIA Pahk—10.30. R Williams, 6, E Humphreys Faenwoeth—10.30, J B Williams, o,Wyn Roberts LEIGH-IO.30 a 6. Warrington—10.30 a 6, Simon G Evans, Lerpwl EARLESTOWN—10.45 a 5.30, Ashton-under-Ltne—10.45 a 6.30, EGLWYS Undebol ECCLES-ll a 6.30, YR ANNIBYNWYR CHORLTON ROAD-10,30, J M Jones, 6.15 M Llewelyn BOOTH ST-10.30, M Llewelyn. 6.15, J M Jones,Bangor Queen's ROAD-I0,30 a 6.15, D Jones, Crewe LD, DUNCAN STREET-I0,30 a 6.15, J Morris Hollinwood—10.30 a 6.15, W G Jones Y WESLEAID. Dewi SANT-10.30, 6. J. Felix HOREB-IO 30, 6, J T Ellis SETON-10.30, E R Evans; 6, BEULAH-2,30, 6.30, E R Evans Beulah—2.30, J Felix, 6, J E Williams CALFARIA-IO,30 J Felix, 6, J E Williams WEASTE-10,30, J E Williams, 6, J D Owen Y BEDYDDWYR- UP. MEDLOCK ST.-10.30, J. H. Hughes, 6, LONQSIBHT-10,30 6.30, J H Hughes ROBIN'S LANE, SUTTON-IO.30 a 5.30, EMYNYDDES OREU'R BYD.-Yng nghyfarfod y Gymdeithas Genedlaethol nos Wener, Ilannwyd y neuadd hyd onid oedd amryw'n sefyll yn y cefn, a rhoed gwran- dawiad boddhaol a theilwng i'r Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., wrth ddarlithio ar Ann Griffiths. Sylwodd yn fanwl ar hanes, cymeriad, gallu, cynhyrchion, a dylanwad yr emynyddes, a thystiolaecth uchel rhai fel Caledfryn a Syr O. M. Edwards amdani. Dangosodd mor dywyll ac anwybodus oedd Cymru yn 1730, ond mor oleuedig ydoedd yn 1830, ac fod Ann Griffiths wedi dod rhwng y ddau gyfnod, pan oedd y wawr yn torri. Derbyniodd Ann lawer oddiwrth ddylan- wadau'r aelwyd yn Nolwar Fach, a'r cym- dogion, a symudiadau sirol fel yr Eistedd- fodau a'r Cyfarfodydd Llenyddol; ac oddi- wrth yr enwadau crefyddol, a symudiadau crefyddol mawr y cyfnod, a'r cynyrfiadau gwleidyddol megis rhyfeloedd,haint a newyn. Yr oedd argyhoeddiad cydwybod yr eneth ieuanc yn rhyfeddod, a dangosodd y darlith- ydd wahaniaeth dau gyfnod ei bywyd,—y cyntaf yn llawn o nwyfiant ysgafn a dibarch i I grefyddwyr a dibris o Dduw, a'r ail yn gref- yddol ac ysbrydol, yn llawn o barch eithriadol ac awyddfryd tanllyd am burdeb a dedwydd- weh Dwyfol y nefoedd. Caed rhan o'r ddarlith ynglyn a llyfhyrau Ann Griffiths, a diddorol iawn oedd clywed dyfyniadau ohon- ynt, i gael syniad am eu difrifwch dwys a'u tlysni dwyfol farddonol.. Yn ddïau, y rhan fwyaf aruchel o'r ddarlith oedd ei ym- driniaeth feistrolgar ar ei hemynau ac y mae yn werth i Gymru gyfan glywed y ddarlith er mwyn hyn. Helaethed y darlithydd y rhan hon, ac yn lie egluro cwpledau yn unig, eglured benillion cyfain. Gresyn na chaem fwy o egluro emynau, obleqid yr ydym yn arfer cymaint ar eu canu heb geisio ymchwili ddirnad y syniadau ardderchog a gynhwysant yn eu safle briodol. Rhoddodd y darlithydd gystwyaeth drom i gyfnewidwyr emynau, a chondemniodd yr ysfa warawdyddus a diachos a feddianna bersonau yn y gwahanol enwadau am wneud hyn. Darn hwyliog ryfeddol oedd y darn criticyddol o'r ddarlith ond gwell fuasai i hynny gael ei wneud cyn traethu ar werth a theilyngdod emynau Ann Griffiths nag ar ol hynny, oblegid ar ol codi cywair y cyfarfod yn uchel iawn, teimlem ei fod yn sydyn yn disgyn gryn raddau i lawr cyn diwedd y ddarlith, er fod hynny'n cyn- hyddu brwdfrydedd ac ych wanegu swyn y gwrandawyr. Ynglyn a'r ddarlith hyawdl ac addysgiadol hon, canwyd amryw o emynau Ann Griffiths gan y gynulleidfa, a phob enaid yn y lie yn ymuno a'u holl egni. Ni raid ofni dweyd na chafwyd cystal canu cynulleidfaol yn yr adeilad o'r blaen arweiniwyd yn rhagorol gan Mr. J. G. Jones, Moss Side. Y cadeirydd oedd Mr. P. Lloyd Rees, brodor o Edeyrnion, brawd y diweddar Mr. Rees, Corwen, a'i enw'n ddigon hysbys yma, ond ei bersonoliaeth yn dra anadnabyddus i'r cylch Cymreig. Er fod ei Gymraeg yn drwsgl, edmygwn ef am gadw at ei iaith, a'i defnyddio oreu y gallai yn y cyfarfod,—hynny'n ormod gorchest i lawer. Pan y mae ein cenedl a'i hiaith yn dyrchafu mor uchel mewn bri y dyddiau hyn, dylem ysgubo ymaith bob gwas- eidd-dra ieithyddol. Y peth mwyaf gwarad- wyddus i Gymdeithasau Cymraeg yw troi cyfarfodydd yn Saesneg i foddio ambell gadeirydd digwydd o Gymro di-Gymraeg, Yr oedd y ddarlith a'r cyfarfod diweddaf yn enghraifft o'r gwrthwyneb ac er cystal oedd nifer y gynulleidfa, dylai'r Gymdeithas gael ei chefnogi fwyfwy eto, modd y gallo ddringo i ystafell ehangach. Diolehwyd yn ddoniol gan gan y Parch. Wm. Owen a Mr. E. Mason Powell. TAN LAW CYFIEITHYDD.-Cyfeir- iodd y Parch. D. Tecwyn Evans at gyfieith- iadau i'r Saesneg o emynau Ann Griffiths. Un o'r rhain oedd llyfryn ficer o ymyl Blackburn, a dyfynnodd y darlithydd un o gwpledi gwaelaf y cyfieithydd hwnnw. Dichon nad oes ond ychydig iawn a wyr am y cyfieithiad na'r cyfieithydd, sef George Rd. Gould Pughe, ficer Mellor, Blackburn. Cyfieithodd yr emynau, nid er mwyn clod nac elw, oblerid rhannu'r llyfryn a wnaeth rhwng ei gyfeillion a'i gydnabod, ac oherwydd gweled ardderchowgrwydd y penillion yr ympeisiodd roddi i'r Saeson uniaith y pre- swyliaiyn eu mysg rhyw syniad am y cyfoeth a gaed trwy athrylith a myfyrdod merch o'r un ardal a'r ficer ei hun. Gwael yw ei gyf- ieithiad ef o'r emynau, ond na ddibrisiwn ei waith, oblegid gwnaeth yr hyn a allodd, ac y mae hynny'n fwy nag a wna llawer un a al wneud yn deilyngach, ond na wna. Wele'i gysylltiad a'r rhanbarth yn ei eiriau ei hun Forty years lived in Lancashire have not lessened my love for Llanfihangel yng Ngwyn- fa, where my father, the Rev. Richard Pughe, of Mathafarn descent, B.A. and a magistrate for Montgomery was for 29 years the Rector; —where also my brother-in-law, the Rev. Edward Evans, B.A., was rector for 39 years. Dolwar fach, a little, lonely farm house in their old parish, was the birthplace and abod9 of one who composed such pathetic hymns as will last while the British language endures. Her obelisk was erected in Llanfihangel churchyard in 1864. Old Dolwar fechan cannot now be found- Its fabric has been levelled to the ground, Nevertheless, imperishable fame Perpetuates that humble homestead's name For there was born,-there dwelt, declined and died, A mother,-but ten months before, a bride- Ann Griffiths,-whose effusions will be sung So long as our old language lives among The wooded wilds, the waterfalls and vales Of Home Sweet Home Incomparable Wales. Wele ddau bennill yn enghraifft o'r cyfieithu, -nid y rhai gwaelaf na'r goreu-periillion adnabyddus i ddarllenwyr Y BRYTHON, sef "Cofia, Arglwydd, Dy ddyweddi," etc., ac O am dynnu o'r anialwch, i fyny fel colofnau mwg," etc.— Lord, remember, I implore Thee, And defend from every foe, Thy poor spouse that bends before Thee Palpitating as a doe Be Thou unto her a Pillar To direct her in the night,- To illuminate and fill her With the lustre of Thy Light. 0 that, as a cloud ascending. Upwards to the skies above, We may rise, and with unendine Rapture realise Thy Love Three in one, the same as ever God proclaims His Name to be Alpha and Omega, never Failing in fidelity. o

Y Synod Wesleaidd ym ' Mhrestatyn.

Advertising