Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Wheldon a Dewi Arfon.

Clep y Clawdd

News
Cite
Share

Clep y Clawdd sef Clawdd Offa [GAN YR HUTYN.] SISSIE'N COFIO'R MIL WYR.—Lion" nwyd milwyr clwyfedig Rhosneath, Gwrec- sam, gan gyngerdd o'r fath oreu drwy feddyl- garwch a gofal y fwynferch, Miss Cissie Hughes, Mus.Bac.. A.R.O.O., organydd fawr ei bri yng nghathedral y dref,sef Seicn (M.C.) Arlwyodd i'r milwyr brogram Ilawn o'r gerdd- oriaeth Jreu gan flaenion y gan, ynghyda'r Alaw 1al dihafal i'w llonni a'i ddawn adrodd. Mae holl filwyr y dref mewn cariad a Sissie, ond er na rydd ei chalon i neb mae ei mynwe? yn deml iddynt i gyd. Ni chyll ei gwohr. TAFODIAITH POBL Y RHOS. O. destun diddan ond gochelgar, sef e'dds'r Meddyg Jones yn yr Efail y nos o'r blaen. Be pe bae y Rhosiaid yn clywed fod y meddyg yn gwnev.d diagnosis o'u tafodiaith yn y dref? Byddent yno'n haid, er gwaetha'r drysor, i'w glywed a byddai ganddynt hwythau air i'w ddweyd ar y mater. Nid oes dim mewn byd yn debyg i barabl y Rhos ond y Rhos ei hun. Be pe bae beohgyn y Rhos yn darllen papur yn un o'u cymdeithasau llenyddol hwy ar dafodiaith meddygon ? Byddai ganddynt gryn dipyn i'w ddweyd, mi gredaf, ahwyrach y ceid diwygiad llesol iawn yn eu hieroglyphics .potelyddol. Mae gair o bobtu ar bob mater. Y BARDD CWSG YN YR EFAIL. Efail Lenyddol Gwraig Sam yw yr Eiail uchod. Y Dr. T. W. Jones sydd wedi ei benodi yn ben chwythwr am y flwydd- yn nesaf, a'r Parch. Lias Dans yn is- iddo. Hefyd y W.M." enwog yw'r ysgrifennydd, Alun Roberts yn delynor, loan Williams yn ddrysawr, ynghyda T. 0. Jones yn drysr- ydd. Y gweralyfr am yr dyfodol fydd Bardd Cwsc Elis Wynne, efo'r ysgolor gwyr1 Gwilym Peredur Jones, M.A., yn athro. Mae eisiau pil ddeffro'r wlad i geinion y Bardd Cwsc. Hwyraeh y gwna'r Efail hyn. Pob Ilwyddiant iddi. DYRNU R DDTOD.—Trefnwyd Cyfarfod Dirwdstol Cyhoeddus ynglvn a'r Undeb yn •Rhiwabon. Cadeiriwyd yn ddeheig gan yr "Hen. R. A. Jones. Caed anerchiadau pybyr gan Murray Hislop a Huw Edwards, A.S. Yr oedd y cyfarfod yn un brwdfrydig iawn. 'Dywedwyd fod y Fasnach wedi gorchfysu'r Breran wedi gorchfygu Argl. Kitchener wedi gorchfygu Lloyd George ac os na ofelir, fe orchfyga'r bobi hefyd. Yn awr yw'r amser i'w thorfynyglu, a gwneud diwedd ami. Ati, ddirwestwyr crai EIN PERYGL MWY AF-Sef yw hwn- nw, y Ddiod. Gwastreffir ein harian, ein hymborth a'n dynion ganddi. I orchfygu'r gelyn ar y Cyfandir, rhaid cael y tair M, medd -Huw Edwards, sef Men, Munitions and Money, a'r Ddiod yw'r rhwystr pennaf ar ffordd y rhai hyn. Allan, ynteu, a'r Ddiod. Da gweld miloedd y dyddiau hyn, o bob math o bobl, yn arwyddo yn erbyn y gelyn hwn. Y gelyn yn ein canol yw'r peryclaf. ARTAITH YR ESGOB.-Cydyrndeirnlir yn fawr a'r Esgob Edwards o Lanelwy, ar gyfrif fr hyn y mae'r Rhyfel hwn wedi ei ddwyn iddo. Ymrestrodd tri o'i feibion glew ,dan y faner, sef y Lifftenant Lardley Ed- wards, R.W.F. Major Frank Edwards, K.R.R., A.D.C. a'rCapten Harold Edwards, R.F.A. Syrthiodd y cyntaf, sef y Lifftenant, yn Festubert, ac yn awr daw'r newydd trist fod yr olaf, sef y Capten, wedi ei archolli'n dost y dydd o'r blaen. Hyderir yn fawr y ca wellhad, ac y mae gweddiau'r Clawdd yn daer arei ran. Ni fu'r Esgob erioed mor dyner ym mynwes gwlad ag yn awr. Bendith amo yn ei alaeth chwerw. TALENT GARTRE.-Mae Cymdeithas Pobl Teuainc Coed Poeth yn mynd i ymroddi yn ystod y gaeaf i berfformio'r ddrama, sef drama boblogaidd o waith un ohonynt eu hunain. Joseph yw ei henw, ac Arthur Dafis yw ei hawdur. Well done! Gwnewch yn. dda a doeth. Dyma'r ffordd i gefnogi talent ac i werthawrogi pethau cartrei. Pa angen croesi'r Clawdd am bethau sal tra y mae eu gwell gennym yn ein plith ? Hwyl a llwydd fo ar yr yir drech CYNGERDD CYMORTH.—Yn Neuadd fawr y plwyf yng Nghoed Poeth, caed cyng- erdd llwyddiannus iawn nos Lun at gynorth- wyo'r Belgiaid. Cadeirydd gwych y Pwyll- gor ydyw Mr. Francis Carrington, a llywyddai yn y cy"ngerdd hefyd. Yr oedd yr Excelsior Party ýno yn gwneud gwaith canmoladwy iawn dan arweiniad Mr. E. J. Jones datgen- id hefyd gan Miss Gwladys Hooson, Mr Joseph Williams, Mr. Arthur Jones, Mr. John Edwards ar y comet a Miss Rosina Davies ar y piano. Caed drills, sketches ae adroddiadau hefyd. Yr oedd pob peth yn dda odiaeth. CYNGERDD DIOLCH.-Felly y gwnaed yn Llangollen y flwyddynhon pawb yn cyd- ddiolch am y cyrdiaeaf-pob enwad yn moli ynghyd. Caed cyfres o gyfarfodydd unol o nos Fercherhydnoslau yn y gwahanol gapeli. Da oedd gweld yr enwadau gyda'i gilydd, a neb yn tynnu'n groes. Mor ddaionus ac nwr hyfryd yw trigo o frodyr ynghyd." Casglwyd dros £ 3 yn y cyfarfodydd at y Groes Goch. Efelycbed ardaloedd eraill y peth hyn. CANTQiR ENWOG Y CEFN.—Bu Dafydd Ellis y Cefn, y tenor enwog, yn Llun- dain, yn cymryd rhan flaenllaw ym mher fformio'r Elijah yn y Royal Albert Hall. Mae gan Dafydd 1 lis melys a chyfoethog iawn, fel y gwyr Cymru i gyd. Mae'r Brifddinas wedi deall hynny erbyn hyn, a rhaid oedd ei gael yno. Cymro glan gloew yw Dafydd Elis, heb arno rith o lediaith y Sais. Parhaed felly bri arno. CAPLAN O' FFRAINC.—Da oedd gweld y Parch. John Rowlands (M.C.\ Llangollen, yn troi'n ol am dro o Ffrainc. Gyda'r Y.M.O.A. y mae, a dywedir gan y rhai sy'n hvsbys o'i waith nad oes hafal iddo yn ei swydd. Bu yng Ngwrecsam am ysbaid, a gwnaeth waith mawr, a rhaid oedd ei gael i Litherland gwnaeth yno'n gyffelyb. Y mae'n awr yn Ffrainc ers misoedd, ac nid oes neb mor hoff gan y milwyr. Bachgen diofn a didderbynwyneb yw Rowlands. Da oedd ei weld yn edrych mor dda, a'i glywed yn cymryd rhan yn y Cyfarfodydd Diolchgarwch. Y mae'n awr wedi troi eto yn ol tua Ffrainc. Pob bendith ar ei Jafur. HEN ACHOS PEN Y CAE.—Yng nghyfarfodydd yr Undeb, sef Undeb y Bed- yddwyr, ym Mhen y Cae, yr wythnos ddi- weddaf,traddododdl.v cadeirydd araith ragorvl iawn, yn gosod allan hanes dechreu'r achos yn y lie. Dywedai fod yr eglwys hon y mae'r gweinidog medrus, y Parch. W. B. Jones, yn fugeilio, yn agos i wyth ugain mlwydd oed, ac yn un o rai hynaf y cylch. Da fai i'r cadeirydd osod ei hanes ar ddu a gwyn, oblegid gwyr fanylion y pethau nad ydynt ar gael ond yn brin heddyw. Ymchwiliwyd i hanes yr Ysgolion Sul yn y cylch. Yr oedd y darpariaethau ar gyfer y cynychiolwyr yn bopeth y gellid ei ddymuno. GAL W GWR O'R 'MERICA.—Felly y darfu eglwys Saesneg Albert Road, Croes- oswallt, Bu'r Parch. W. Phillips, B.A., ei gweinidog etholedig, yn yr America am rai blynyddoedd, er taw bachgen o'r Rhos yw. Geilw'r Cyfandir dwbl hwnnw lu o'n gweini- dogion ni yno o'r wlad yma. Da galw ar rai ohonynt yn eu hoi. Gwna Mr. Phillips waith da yn Albert Road yn ddiameu, oblegid gwr gwych yw, ac yn bregethwr ac ysgolor rhag- orol. Llwyddiant ar yr achos tan ei ofal. AGOR Y FORD GRON.—Agorwyd cyf- arfodydd y Ford y nos o'r blaen, trwy anerch- iad benigamp gan y cadeirydd hylaw, sef y Parch. Wyn Defis. Caed dad] frwd ar bwnc pwysicaf y dydd, sef Gwahardd ynteu Cenedl- aetholi y Fasnach Feddwol fydd y lle8 mwyaC ? Gohiriwyd y dyfarniad hyd y tro nesaf. Da fod mynd ar y Ford eto y flwyddyn hon BECHGYN Y OLAWDD YN ENNILL. Y GROES.Dyma, un eto wedi ennill y Military Cross, sef y Private Ifor Roberts, o FrynTeg. Cyflawnodd wr iydri mawr ar y maes. Aeth allan dan gawodydd o dan y gel- yn i feddyginiaethu a diogelu ei frodyr aiiffodus oedd wedi eu clwyfo'n drwm. Bu wrth y gwaith hwn mewn perygl mawr am oriau lawer. Hysbyswyd Swyddfa Rhyfel gan rai o'rswyddogion am ei wrhydri eithriad- ol, a phenderfynwyd rhoddi'r "groes iddo. Da was SWN SYRTHIO.—Yn ystod y dyddiau diweddaf hyn, ceir fod amryw o fechgyn y cylch wedi syrthio'n aberth i'r Rhyfel—yn eu plith Percy Harrop, y Westminster Colliery-, Moss Horace Rogers, Summerhill Edward Roberts, Gwrecsam George Edwards, Moss .L'red Roberts, Moss James Stanley. Will- iams, Gwrecsam Wm. Meredith, y Cefn. Mae'r Clawdd yn teimlo'n ddwfn o golli'r rhai hyn ac eraill. Fe fydd Roll y Clawdd yn un ddofn a du pan ei cwblheir. Dewrion ydych 1 gyd GWERSYLLU YN Y GWERSYLL.— Yn Undeb Annibynwyr Gogledd Cymru yn Rhiwabon, caed araith odidog a diddorol dros ben gan y Caplan Jones, sef y Parch. Edward Jones, M.A., B.D., ar Fywyd yn y Gwersyll Milwrol. Gwyr ef yr hanes drwy brofiad, a bachgen yw sy'n deall pethau, a chanddo galon i deimlo. Dywedodd bethau rhyfedd, a da oedd gan y frawdoliaeth wrando arno a dal ar yr hanes. Bydd hyn yn help i ddeall, y bechgyn yn well pan ddychwelant. Diolch i'r Caplan. BRAWDGARWCH Y RHOS.—Gwnaeth achos Methodistaidd Capel Mawr y Rhos beth teilwngo'i mawreddy Sul diweddaf, sef rhoi rhan o'r gwasanaeth i fyny er mwyn ymuno a'u brodyr perohynol i'r Eglwys Sefydledig yn eu cenhadaeth. Hefyd rhoddwyd y Seiat i fyny ar nos Fawrth i'r un amcan. Dyma i chwi ymddygiad brawdol, boneddigaidd a Christionogol. Dywedir fod y Methodistiaid wedi ennill yr Eglwys ar un stroke Dyma, yn ddiddadl, y peth rhagoraf a wnaed yn y Rhos erioed yn achos crefydd. Gwelir fod ysbryd y Parch. Wynn Defis lawn cyn Heted a'i frest, ac fod ei hobl o gyffelyb ysbryd. Rhagorol iawn, yn wir CERIDWEN PERIS AR Y CLAWDD. —Nid yn ami y ceir Ceridwen y ffordd hon, ond bu yma am dro, ac nid anghofir ei hym- weliad a'r Rhos yn fuan. Trefnwyd cyfarfod Dirwestol Unedig gan Undeb y Gwragedd. Ceridwen oedd y prif ddawn. Caed anerchiad byw ganddi i wragedd y Rhos ar felltith y ddiod. Yr oedd ei brawddegau'n Hawn tan. Cyflwynodd hefyd seren anrhydedd" i wraig y cadeirydd, sef Mrs. Wynn Defis, a chrogdlws hardd i Miss Annie Hughes, gan Mrs. Rowley, am eu gwasanaeth fel ysgrifen- nydd y Gymdeithas am amryw flynyddoedd. PLENYDD, YR ARCH DDIRWEST- WR.-Daeth Plenydd i ganlyn Ceridwen y tro hwn. Bu yma o'r blaen ddeugain mlyn- edd yn ol, meddai ef. Yr oedd hynny'n fore iawn yn ei hanes ond ni siaradodd erioed yn well. Pe bai hwn Sais o genedl fel o ddawn, efe fai prif orator Prydain a'r America ond Cymro yw, ond os nad yw'n siwr o'r byd hwn, mae'n sicrach o'r llaIl. 'CYFLOGAU'R ATHRAWON.-Nid oes fawr o godi wedi bod nac i fod, yn ol pob golwg, ar y rhai hyn Beth sydd o le ? Nid oes neb yn cael salach tal nag athrawon ysgol, na neb yn gwneud gwell a rhagorach gwaith; Sibrydir hefyd fod rhyw fath ar scale i fod i fynd wrthi yn y dyfodol ond y syndod yw nad oes scale o unrhyw fath wedi bodtrwy'rblynyddoedd. Beth a ddywedir am fasnachwr heb scale ? Ond am addysg, peth mor ddib wys, pa angen scale sydd ? Onid oes dichon i'r Rhyfel hwn wneud rhyw gyfnewid- iad er gwell yn hyn ? Ai ynteu a fydd rhaid cael rhyfel arall i symud rhai pobl ? Teilwng i'r gweithiwr ei fwyd. HOGYN GONEST AR Y CLA WDD. Collodd gweithiwr ei gyflog at ei ffordd gartref o Bwll Wynnstay y dydd o'r blaen, a dargan- fuwyd yr arian gan lane o'r enw Pumford, yr hwn a'i dygodd yn ddiymdroi i gwnstabl y lie yn Rhiwabon. Gallasai'n hawdd eu cadw a'u celu, ond ni wnaeth. Llanc gonest yd- oedd. Ar gyfrif ei onestrwydd, rhoddodd trigolion yr ardal oriawr iddo yn bresant, a choron yn ei boced, fel dangoseg o'u hed mygedd ohono. Ffordd ragorol o feithrin gonestrwydd. Dyma hogyn da mewn ardal dda, a gweithiwr anffodus mewn ardal onest. TROSEDDA U'R PLANT.-Dywedir fod y rhai hyn ar gynnydd mawr. Mae ambell lane gonest fel y llanc o Riwabon, ond megir llu o ieuenctyd anonest. Galwyd sylw 11 ys at hyn y dydd o'r blaen, a dywedir fod swydd Gaer yn dda iawn yn yr ystyr hon. Beth a wneir ? GWYLIAU'R CLAWDD.—Bwlch Gwyn (E.L.), y Parchn. D. Edwards Davies, M.A., Brymbo, a C. R. Davies, Eclwysham. (E.L.), y Parchn. D. Edwards Davies, M.A., Gwrecsam (W.), y Parchn. T. Isfryn Hughes ac Edward Davies, Lerpwl; (M.C.,S.), y Parchn. Wynn Davies, Rhos, Edward Pierce, Gwrecsam. Pen y cae (B.), y Parch. T. Gardd- le Davies, B.A., Brymbo. Rhos (W.), y Parch. J. Lloyd Jones. -0

Ein Genedl ym Mancainion.

Y Synod Wesleaidd ym ' Mhrestatyn.

Advertising