Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

Trem I-Sut mae pethau'n .mynd…

News
Cite
Share

Trem I-Sut mae pethau'n mynd ? NIED wyf wedi dilyn hynt y rhyfel yn agos i fanwl ers tro bellach, ac ni feddaf fawr hyder ynof fy hun i son am y sefyllfa filwrol fel y cyfryw. Cafodd darllenwyr Y BRYTHON y fantais o ddarllen nodiadau gohebydd llawer craffach na mi, ar y mater hwn, yn ystod yr wythnosau diweddar. Teimlaf yn hyf i haeru na chaf wyd mewn unrhy w newyddiadur gryn- hodeb mwy cynhwysfawr a chraffus o'r rhyfel fel yr oedd ar y pryd nag a gaed yn yr ysgrif yn Y BRYTHON diweddaf ar Rediad y Rhyfel. Nid oes dim neilltuol wedi digwydd er hynny, am a wn i. Yn Ffrainc, beth bynnag, ym- ddengys fod y Cynghreiriaid yn graddol gael y Haw uchaf ar y gelyn, ac y gellir disgwyl Ilwyddiant pellach cyn hir. Ennill a cholli, bob yn ail, yw hanes y gelyn a'r Rwsiaid yn y Dwyrain. Parha'r Italiaid i ennill tir, ac mae eu hofn ar Trieste-y nod y maent yn bur debyg o'i gyrraedd cyn hir. Ond mae lie. mawr i welliant yn y Balcanau. Anfoddhaol iawn yw'r sefyllfa yn Rumania, ac mae'r teimlad yn gyffredinol na fu'r cydsymud rhwng y Cynghreiriaid a'r Rumaniaid yn ffodus o gwbl, a bod y gelyn, unwaith eto, wedi cael y blaen arnynt. Eddyf pawb mai mater difrifol i ni fyddai gorchfygiad Rumania, gan y byddai i hynny, o leiaf, barhau y rhyfel- trwy gyflenwi Germani a defnyddiau ymborth ac olew, byrhau y llinellau sydd ganddi i'w hamddiffyn, rhoi iddi gyflawn reolaeth dros y Danube, ac felly roi agoriad rhwydd i'w submarines i'r Mor Du. Fel hyn, fe ddygid y Balcanau tan allu'r gelyn, a chadarnheid Brenin Groeg yn ei safiad yn erbyn y Cyng- hreiriaid, gan ei gwneuthur yn hawdd iddo argyhoeddi llawer o'i bobl ei hun, ac eraill y tj? gh y t i hynny, fod Germani'n mynd i ennill y dydd yn y rhyfel. Byddai i hyn gryfhau safle Tino, a gwanhau safle Venizelos, a pheryglid gosod ein byddin ni yn Salonica rhwng dau dan. A fydd 1 hyn ddigwydd yw' r cwestiwn mawr ar hyn o bryd. Gweithia'r Rumaniaid yn lew yn ddiweddar, ac mae at- gyfnerthion o Rwsia'n prysur chwyddo'u grym. Gwyr ygelyn mai ar frys y gall gyrraedd ei nod yn Rumania, os y gall o gwbl ac nid yw'n arbed dim arno'i hun i geisio rhuthro trwy'r bylchau. Erbyn hyn, mae pob rhithyn o amheuaeth wedi ei symud gyda golwg ar ochraeth Tino at Germani, a'i gyfrwys ddichellion yn erbyn y Cynghreiriaid. Ac un o'r pethau mwyaf nodedig yn sefyllfa Groeg yw'r ansefydlogrwydd a berthyn i wrthsafleoedd y Brenin a Venizelos. Gellid tybio weithiau fod peha ym min dod i bwynt rhwng y Brenin a'r Cenedlaetholwyr, ond daw rhyw ddylanwad sydyn i'w hatal. Gwnant inni gofio llinellau loan Arfon i'r ddau glogwyn eyferbyn, Ond er bygwth canrif eto, Byth ni byddant nes i daro. Ond, er hyn oil, mae rhagolygon buddugol- iaeth derfynol yn cryfhau o blaid y Cyng- hreiriaid.

Trem ilm-6; Cofiwch y Morwyp."

Ffetan y Gol.

Advertising