Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Advertising

DTDOIADUR-I

G ihoeMwyr y CymodI

Advertising

,DAU TU"R AfON.1

Family Notices

lEInGenedl ym Manceinion.

I PYTIAU CYMREIG.

News
Cite
Share

PYTIAU CYMREIG. Un galed yw'r gneuen.- Y mae Mr. HaydU Jones, yr aelod dros Feirion, yn gryf dros Genedlaetholi'r Fasnach Feddwol ond y Parch. H. CemywWilliams, D.D., Corwen, cvn gryfed yn erbyn. A phwnc dyrys a dreiniog ydyw a dynion da a chydnilb-idol mewn penbleth pa ochr sy'n iawn. Gweddi'r Addfed.-Dyma dri a gymerai ran yng nghyrddau diolch am y cynhaeaf Dol. gellau Edward Griffith, Y.H., dros ei bedwar ugain oed; Rd. Mills, yn 86; a Rowland Williams (tad Llew Meirion) yn llencyn 96. Beth hyfrytach gan y Nof ei gwrando na gweddi'r gwir brofiadol ? Forty-five years in Chirm ydyw teitl cyfrol newydd, o wasg Fisher Unwin, Llundain, gan Dr. Timothy Richards, Cymro ac un o gen- hadon tramor mwya'r byd, a aned yn Ffald y Brenin, De Cymru, yn 1845. Marw'Mhell.- Y mae Philip Ernest Davies brawd i Dr. Mary Davies, y gantores enwog, wedi marw yn Neheudir America, yn 46ain oed. Bu'n godwr y gan, fel ei dad o'i flaen, yn hen gapel M.C. Nassau, Llundain ond i'r Christian Scientists y perthynai ors rhai blyn- yddoedd bellach. Un o'r Prifon yn Gaplari.-Y mae'r Proff. David Williams, M.A., Aberystwyth, wedi mynd yn gaplan atfllwyr Cymreig Bedford. Natur Dysgu.-Exiillodd Mr. Emrys Evans, B.A., LLB. (Caergrammt Y__Yr hynaf o ddau fab Mr. E. W. Evans, y Cymro, Dolgellau- wedi ennill Ll.B. Prifysgol Llundain gydag anrhydedd yn y 3ydd dosbarth. At y Presbyteriaid. Y mae'r Parch. J. Garnon Owen, brodor o Gaernarfon a gweinid(t M.C. Llanarmon-yn-Ial cyn ym- fudo i Awstralia, wedi ymddiswyddo o'r ofalaeth Gymraeg a'i dderbyn yn weinidog gyda Phresbyteriaid y wlad honno. Achubir Pawb rhyw dro.-Bu'r Pareli. Eynon Davies yn pregethu yn y City Temple y Sul cyn y diweddaf ac a ddywed mai Universal,ist-dyn yn credu yr achubir pawh rhyw dro !—yw'r Dr. Fort Newton, Cedar Rapids, America, sydd wedi cael gwahoddiad i fugeilio hen gorlan y Parch. R. J. Campbell. Ymae'r Eynon ffraeth yn cael hwyl mawr yn Y Tyst wrth gribo Newton a'r dyrnaid dylan- wadol a roes alwad iddo. Ichabod t ehe fo wrth son am ddyfodol y He. Llygedyn i FJestinioq.- Y mae gwaith m wn zinc Moelwyn, Ffestiniog, wedi cael ei agor gan gwmni newydd, ar ol bod yng nghau am flynyddoedd. Da clywed fod rhywbeth yn dod a thamaid i'r trigolion, ac y ceir gweled rhai o'r cannoedd tai gweipiona di.ffenestr yn cael on hail wydro, a swn hyfryd plant yn chwarae yn diaspedain eilwaith drwy Dan y Grisiau. Gyrru'r Caled yn Galetach.Wrtil gael ei ddedfrydu i ddwy flynedd o garchar yn Llys Chwarter Caernarfon am ddwyn dwy lif ym Metws y Coed, crefai Arthur Fitzgeoi^e— milwr a fuasai yng ngharchar ddwsino dmeon o'r blaen—am gael penyd-wasanaeth. Mor galed yr a dyn o'i fynych garcharu Bugeilydd Mr. Lloyd George.—Sefydlid y Parch. James Nicholas, Ton y Pandy, yn fugail Eglwys Castle Street (B.), Llundain, yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd Mr. Lloyd George yn b resennol, ac yn yreglwys Gymraeg honno y mae'n aelod. Nid yw ef ddim yn ddigon uchel yn y byd eto i ymuno a'r Inglis Cos. 1 Y n galon i gyd.-Cleddid priod y diweddar Ddr. Robert Owen ym Mhen y Groes, Sir Gaernarfon, ddydd Iau diweddaf: angladd mawr iawn, canys gwraig garedig tuhwnt wrth bob tlawd a rheidus oedd hi, a'i chlust yn clywed pob cwyn. Gorchest y Gofeb.-Cyfarfu Cyngor y Gofeb Genedlaethol yn nhre'r Mwythig ddydd Gwener diweddaf, ac adroddiad Mr. D. S. Evans yn dangos y triniwyd cynifer a phum mil o gleifiony darfodedigaeth yn ysbytai a chartrefi'r Gofeb yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf. Hyn hefyd yn 1912, dim ond 31 o welyau neilltuedig at ddarfodedigaeth oedd yng Nghymru a Mynwy yr oedd gan- ddynt fil o welyau i'r diben hwnnw erbyn heddyw. Dyna daw go effeithiol ar y bobl Sy'n cnoi a thraflyncu'r Welsh Memorial beu- nydd a byth. lfor Hael Caerckydd.-Y mae Capt. W. R. Smith—-un, o fawrion masnach longau Caer- dydd-wedi estyn deng mil o bunnau at yr Aingueddfa Genedlaethol sydd yn y ddinas honno. Morgan John Rhys oedd testun anerchiad y Parch. T. Shankland, Bangor, gerbron Cyniro dorion Colwyn Bay yr wythnos ddiweddaf y Parch. T. Llechid Jones, rheithor Llysfaen, yn y gadair. Hawlial'r darlithyddmai M.J.R. oedd y cyntaf i gychwyn Ysgol Sul yng Nghymru, ac nid Thomas Charles y Bala. Maldwyn dan dduw.-Parodd glaw a llifog- ydd yr wythnos ddiweddaf i'r Hafren orlifo'i glannau, a rhoddi dolydd Sir Drefaldwyn dan ddwr am filltiroedd. Dioddefodd y Dre- newydd y tuhwnt i ddim a ddigwyddodd yng nghof lyr hynaf o'i thrigolion. Y cenllif, gwaetha'r modd, yn dod fel lleidr yn y nos yn llenwi'r tai, gyrru'r dodrefn i nofio, difetha'r bwyd a'r dillad, a chadw'r plant a phawb yn y llofftydd i rynnu gan oerfel a chlemio bron gan eisiau bwyd. Rhai pobl yn gorfod mynd drwy ddwr dwfn i nol te poeth a thamaid o frechtan o'r tai mwy ffodus ac uwch i fyny. Teulu un ty wedi cipio'u pum porchell o'r cwt, a'u llusgo i fyny i lofft y ty a dyna lie gwelid y pump yn edtych mor syn drwy'r ffenestr ar yr olwg ryfedd islaw. A phob tro y bydd rhyw lif tebyg i hyn, bydd pobl Sir Brefaldwyn yn clywed yr hen ias w., ofn hwnnw'n cripio drostynt—-ofn iWaithDwr Llanwddyn roddi ffordd dan bwysan Hyn, a'u hysgubo hwy a'u tai a'u cwbl fel dall yr Hydref ar frig ei don. I Balchter y Port.-Daeth haid fawr o bobl Porthmadog ynghyd ddydd Sadwrn diweddaf i weld anrhegu'r Corp. Rhys Emrys Jones R.W.F., un o fechgyn leuamc y dref a eniUodd y Groes Filwrol am ei lewder yn Ffrainc. Yr oedd yn un o dri yr ymddiriedwyd. despatch iddynt Iladdwyd y dda-u arall; ond llwyddodd Rhys Emrys i fynd a'i neges i'w lIe ac i ddianc yn fyw o'r gawod bwledi a ch wibiannai o gwmpas ei ben, Dyma deyrnged Tryfanwy i Emrys Rhoi diddan eirda heddyw-yr ydym, I frodor diledryw A rhoi gwers rhag llwfrdra gwyw Mae Rhys Emrys i amrvw. A'i deyrnged eto i'r Private Alun Roberts un arall o blant y "Port" a fu yn y Dat danels :— Aeth Alun dros faith heli—i ganol Gwres gwynias ac oerni; Glynodd heb ddigalonni Dan wae llosg, a'i waed yn lli'. Prydcr y Towyn.—Yr oedd y Parch. J. T Williams, mab Mrs. Williams, Lion Street TowynMeirionydd, yngenhadwryn Gottnan East Africa pan dorrodd y rhyfel ah an a charcharwyd ef a'i briod a'u cynorthwywvr am fisoedd gan y gelyn a phan y'u gonyng wyd, yr oedd Williams ar go 11" Mawr cedd tristwch ei fayti ond dydd Sadwr6 di weddaf dyma air oddiwrth y Prifathro Jenkins, Coleg Hexham, fod Williams wedi ei gael yn fyw, ac yn iach gyda hynny

Advertising