Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Advertising

DTDOIADUR-I

G ihoeMwyr y CymodI

Advertising

,DAU TU"R AfON.1

News
Cite
Share

,DAU TU"R AfON.1 WCwympodd v7Private J. E. Jones, mab hynaf Mr. a Mrs. R. E. Jones, 48 Kingsley Road, ar y 12fed o Hydref, yn Ffrainc, ac yntau ond 21 oed. Cyn ymuno, perthynai i staff y London City & Midland Bank, ac yr oedd wedi bod dan addyeg dda yn y Liverpool Institute. Teimla eglwys Princes Road chwithtod mawr o golli un mor selog. Yr oedd yn llawn brwdfrydedd gyda'r Gymdeith- as Lenyddol, yn un o ysgrifenyddion yr Ysgol Sabothal, ac yn un o ysgrifenyddion y Cyfarfod Cystadleuol diweddaf. Dengys y llu llythyrau a dderbvniwyd oddiwrth gyfeill- ion, y caplan, goruchwyliwr y bane, etc., ei fod yn fachgen addawol, ac yn gymeriad glan ac a fawr hoffid gan bawb. Gresyn ei golli mor ieuanc. O'r rhengoeddliwnt i'r angau—esgynnodd, 0 fysg anwar frwydrau A Nef yn awr ga' fwynhau Uwch oerion fyIlt carcharaAi. —J. E. Morris. PEEL ROAD.— Y Sul diweddaf a'r nos Sadwrn cynt, cynhelid yr Wyl Bregethu flyn- vddol. Y Parch. G. R. Jones, B.A.,B.D., Fitzclarence Street, yno'r tro cyntaf ol; le newydd, a'r Parch. J. E. Davies, Treflynnon, yn wr dieithr. Y mae Mr. Jones yn ddigon hysbys i ni oil, a'i ddawn a'i ddifrifwch yn ei waith. Nid oedd Mr. Davies mor hysbys yn bersonol i bobl Peel Road, ond yn sicr fe fydd yntau bellach. Fe ddichon y ca rywun hamdden i'w cloriannu fel arfer, ond rhaid i'r cyfryw fyned ati'n bur fuan onite fe a i ddyryswch, canys y fath oedd undeb amcan y ddau gennad nes bad y naill yn gefn i'r llall wrtb ddilyn ei gilydd. Pregethai Mr. Davies nos Sødwrn am y "lief" a dybiai rhai yn daran, eraill yn sibrydiad angel, pob un yn ol tuedd ei gydwybod, ond a ydoedd mewn g wir- ionedd yn lleferydd Duw. Mr. Jone- fore Sul, a eodurai gyfrinion dyryis addurniadau'r d?rni, eu h, yat,yr5n" a'rnnddycyneai'rceriwb. iaid. y palmwydd. a'r blodau adored, eu nod ar addoliad dyn. Mr, Davies, bryn lawn Sul, a gadwodd bawb yn holl)] effro i wrando ei I. bregeth oddiar y testun, "Ac a yr eglwys sydd yn dy dv di yr eglwys yn gartref, a'r cartref yn eglwys. Mr. Jones, nos Sul, o weledigaethau loan a ddug i'r amlwg wersi byw i'r eglwys sydd a thri phorth iddi o'r pedwar cyfeiriad. A Mr. Davies a derfynodd yr wylgyda Llyfr Cenhedliad lesu Grist," ac a ddug yn ddeheig a thyner eiriau Alun Mabon lie y cyinododd Arthur bach ei dad Vi fam, i ddangos fel y cyinododd Un mwy nag Arthur ei Dad a ninnau yn nhrefn laohawdwriaeth. CVMI>EITHAS LENYDDOL DOUGLAS ROAD. Nos Wener ddiweddaf, cafwyd dadl frwd ar Pa un ai y Pregethwr, y Bardd, ynteu y Cerddor yw qjmwynaswr goreu ei wlad ? Y Pregethwr, Mr. D. T. Jones y Bardd, Mr. Wm. Roberts ac yn absenoldeb Mr. Morriq Ellis, dadleiiodd Mr. Evan Jones o blaid y Cerddor. Siarad- wyd yryliellach gan Mri. David Jones, Joseph Bellis, Hugh Roberts, R. W. Roberts, J. J. Parry, W. H. Williams, a'r Parch. G. Wynne Griffith, B.A.,B.D. Oherwydd i'r amser redeg yn hwyr, gorfu gadael y cwestiwn heb bleid. leisio. Llywydd, Mr. Henry Hughes.— R.J.J. >' TFIITL GWALIA, EDGE I..ANE.-No&Fawrth yr wythnos ddiweddaf, cafwyd can There's a land, gany Chwaer Eluned Jones gair gan y Br. J. M. Evans, ar Les yr Urdd can gan y Chwaer Madge Roberts. Cystadleuaeth atob cwestiynau beirniad, Br. Glyn Roberts goreu, Br. Willie Williams. Cyfeiliwyd gan Mr. R. C. Williams. Llywyddwyd gan y Prif Demlydd, Br. John Willi ams.-Cymraeg. CYMRU FYDD UPPER PARLIAMENT ST.— Nos Sadwrn ddiweddaf, cynhaliwyd cyfarfod biynyddol y Gymdeithas. Gwahoddwyd yr aelodau i gyd-yfed te a Dr. T. J. Williams, y llywydd am y flwyddyn, a aeth heibio' Teimla'r pwyllgor yn foddhaol iawn ar sefyllfa ariannol y Gymdeithas yn wyneb yr argyfwng presennol. Y mae cynifer a 51 o'r aelodau wedi ymuno a'r Fyddin. Dyma'r swyddog- ion am yflwyddyn nesaf Llywydd, J. Smeath Thomas, B,Sc. is-lywydd, J. E. Owens trysorydd, Ellis P. Evans; ysgrif- enyddion, Miss Maggie Davies a Mri. Jas. Nicholas a Cledwyn Hughes. Y mae'r chwiorydd wedi ymgymeryd a pharatoi cyfres o gyfarfodydd ar gyfer tymor y gaeaf. Daeth y newydd trist ddydd Mercher Hydref 25ain, i Mr. a Mrs. David Jones, 128 Herschell Street, Everton, fod eu mab hynaf, Griff, wedi ei ladd yn Ffrainc, ar y 12fed cyf. Mae'r teulu hwn wedi cael amryw brofedig- aethau yn ddiweddar, a mawr yw'n cydym. deimlad a hwy. Ymunodd Griff a'r King's Liverpool Regiment tua blwyddyn yn ol, ac aeth trosodd i Ffrainc tua thri mis yn ol. Dyma'r ail o eglwys Douglas Road i syrthio ar faes y gwaed. Bachgen glandeg a hoffus oedd Griff, a chwith meddwl na chawn edrych ar ei wyneb siriol mwy. Teimlwn Ie gwag ar 01 y bechgyn annwyl hyn sy'n aberthu eu bywydau er ein cadw rhag y gelyn.

Family Notices

lEInGenedl ym Manceinion.

I PYTIAU CYMREIG.

Advertising