Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

0 Lofft y Stabal.

Rhyngoch Chwi a Finnau. ,…

News
Cite
Share

Rhyngoch Chwi a Finnau. .¡ I Ffosydd Ffrainc am ganu 1 Ebe swyddog o U-ymro ucheiddysg yn fy nghlust bore dydd Sul, wedi gwrando'r can- noedd Royal W elshFusiliers yn canu yn oedfa Gymraeg Capel Wilson's Lane, Litherland Ie ond yn y ffrynt y ir ae'r canu goreu o ddigon nid oes yma, yng ngwlad hedd- wch a hamdden, ddim a ddeil gannwyll "iddo gan ddangos fel y mae sefyll ar ddibyn angau a thragwyddoldeb yn angerddoli ysbryd y bechgyn, ac yn peri iddynt ganu o graidd eu henaid ac nid rhyw wawchio'n bwyliog ac anfeddylgar fel y gwnawn ni mor gysurus gartref. I TorriSTafod y»Ci. I Gwelaf yn y papurau fod y Blaid Gymroig yn deffro a i i chwilio i'r cwynion aglywir am iaith reglyd ac anniwair y swyddogion yng ngwersylloedd y catrodau Gymreig. Ac yn hen bryd iddynt ddeffro, canys y mae'r hyn a ddywedir yn rhy hyll ac aflan i'w brintio ar goedd, a'r bechgyn, rai ohonynt, yn gwrthod ail-adrodd y llysnafedd pan ofynnid iddynt gan yr hwn a anfonasid i'w h 1li. Clywais yr wythnos ddiweddaf am lane o Gymro a arddelai ei grefydd^yn un gwersyll, heb ofni neb na chywil- yddio dim oblegid ei Geidwad. Ac fel hyn y galwodd ei Sergeant amo :— You Jesus Christ, come here Ond yr oedd fErwt yn y bachgen, canys gofal- odd fod y Cyrnol yn cael gwybod a phan glybu hwnnw am sarhad mor annuwiol a rhyfygus, dyma f -) at y Sergeant i ofyn os gwir iddo ddywedyd y fath beth. Gorfu arno addef mai felly'r oedd. O'r goreu," ebe'r Cymol,ac a dynnodd ei streipiau ac a'i gwnaeth yn private, yn y fan. Ffordd effeith- iol ac i'r dim Englyn ar ei drwyn Cyd-deithiem ag un o Gymry'r Khaki'r wythnos ddiweddaf, y sydd mewn gwersyll yn Lloegr ac ebr y fo :— Sut y buasech chwi'n medru dioddef poth fel hyn ?—Yscogyn o Sergeant yn sythu ei doro'ch blaen, acmorllawno elyniaeth a dirinyg at y Cymry nes gwaeddi You bloody Welshman I t arnoch am y peth lleiaf. Ac yntau.'i huli yn swyddog mewn catrawd Gymreig a'r llythrennau R.W.F. ar ei ddwy ysgwydd." Pe dywetsai air mor ddu a gwaedlyd wrth Robin Morfa neu Nod Bach (jefn-Trefor neu Harri Berthen Gam neu Wil Rhyd Goch, fe gawsai englyn -Robin Ddu wedi ei brintio a gryn. dwrn ar ei drwyn smwt fel h n :— A rydd air, del air du,—chwerw anial, A chwyrnaidd iaith gabla, Caiff ar ei fant a'i w'rantu, Ddwrn gwr dig am ddarn gair du. Hysio 'n bechgyn i dywallt eu bywyd, ffor- syth wrth achub cam cenhedloedd bychain fel Belgium a Serbia a Poland ar y Cyfandir pell, a hynny, wrth eu paratoi a'u cymhwyso i fynd yno, yn sathru eu teimladau crefyddol mwyaf cu, a ninnau a'n Plaid SeneiMol Gym- reig, rhad arnom I yn ddigon llwfr a gwlanen- aidd i oddef i bob rhyw ledfegyn o estron eu rhegi hwy a'u hiaith a'u cenedl ar ddarn o dir Cymru, ein gwlad ni a'n tadau Y mae'n gywilydd mawr iddynt hwy wneud y fath beth, ac yn gywilydd mwy fyth i ninhau lyweth ei oddef. Wrth Weld y Pedwar C-ant. Ond i ddod yn ol at y pedwar canb a ganai yn oedfa Gymraeg Litherland, yr oedd fy llygaid yn llenwi wrth edrych ar y bechgyn druain a phe gallwn sillafu fy nheimlad, yn debyg i hyn y darllenai :— Fechgyn annwyl y mae'n ddrwg gennyf drosocl, canys gwn ar eich gweddol magu mor dyner a eli refyddol sydd arnoch gwn ar eicb llygaid eich bod yn meddwl y funud yma am yr hen gartref yng Nghymru draw eich bod yn meddwl am eich mam a'ch tad, eich plant a'ch teuluoedd; yn hiraethu, fel y medr Cymro hiraethu'n anad yr un dyn ar y ddaear, am eich hen hen gynhefin; fod gwaith a chras-gyfeillach y Gwersyll yma'n atcas i'r eithaf l'ch teimlad eich bod yn cynddeiriogi drwyddoch wrth gael edrych i lawr amoch gan PniLstiaid rhagfarnllyd ac anwyb;)dus; fod sen a saeth wenwynig y rheini'n briwo mwy lawer amoch na shell a snrapnel y Germaniaid; ac yr ymladdech yn fil mwy calonnog ac e-ffeil-biol yn erbyn y gelill pe cawsech eich cadw gyda'ch gilydd mor gydnaws, yn lie cael eich taenu led y Fyddin i lenwi'r bylchau mewn catrodau Seisnig, Ysgotig a Gwyddelig. Yr ydych yma o bob Sir, Dde a Gogledd, aminnau'u rhyw ddychmygu gweld n, ap o Sir Fon wastad yn wyneb llyfn a llonydd un ohonoch ysgythredd Arfon a Meirion ym mochgernau y llall; Bannau Brycheiniog a sglein Mynydd. oedd Duon Epynt a'r Fenni yn llygad un arall; creithiau pwll glo Morgannwg ar dalcen a dyrnau'r pwt du yng nghongl y Set Fawr acw dacw Gardi Uygadlym tu ol iddo un o hil bugeiliaid hirgoes Bro Hiraethog yn y set wedyn Fflintyn byr a chydnerth ar y llaw dde yma Fflemin gwineu o Fro Gwyr yn ymyl lberiad crychddu o dre Ddinbyeh. Ac ynolaf, dyma wyneb deallus achadarn, fel dam o ithfaen Nantlle. Ymhle y mae Cromwell yr All? Wrth ddal i edrych ar y pedwar cant yn. canu, a'u gweld yn edrych mor raenua a glandeg, gresynwn wrth feddwl eu bod yn cael eu pesgi megis cynifer anifeiliaid gogyfer a'r lladd-dy, ac fod y crochan cawl sy'n berwi drosodd mor greulon ar y Cyfandir yn cael ei gadw'n llawn a draft ar ol draft o gig a gwaed goreu'n cenedl, a phob un mor annwyl gan ei fam. 0 Dduw! pa hyd ? Pan ddaw'r Eglwys i'w lie, a'r byd i'w synhwyrau, nid canu emynau lleddf eich gwlad mewn khaki y byddwch, 'y mechgyn annwyl i, ond yn canu Anthem Dangnef yr Oen yn eich gynnau gwynion. A dweyd y gwir yn blaen i chwi, yr ydwyf wedi hen flino—ydwyf, wir t- ar ganu Duw gadwo'r Brenin ac yn y blaen, canys y mawrion brenhinol ac ymherodrol yina-hwy a'u helgwn cynffonnog mewn Uys r a senedd—sydd wedi ffaglu Ewrop yn wen- fflam, a swn miliynnau eneidiau'r werin wirion yn clecian wrth farw yw'r swn a glywir o Ffrainc a'r Dwyrain ers dros ddwy fiynedd bellach. Werin annwyl! pa faint sydd rhyngom a'r dydd dedwydd hwnnw pan welir rhyw Gromwell yn ddigon dewr a P-werinaidd i godi yng nghyd-Senedd y Cen- hedloedd ym Mhans Yr wyf yn cynnyg, frodyr, na bo'r un brenin nac ymherawdr yn cael ei oddef yn Ewrop mwyach a chan gydio ym mace a theyrnwialen pob un o'r teyrnasoedd a fo'n rhyfela, Take away that bauble ebe fo a digon o dan dwyfol yn ei drem i beri i'r glymblaid swatio mewn ufudd-dod nes bad neb yn teyrnasu'n Ewrop n.wyach ond Demos-a Duw Canmol y Llestri I Gwelwn fod gan Dr. Maurice Jones air uchel eithriadol i LestriW Trysor yn Y Beirn- iad diweddaf, sef yn ei ysgrif faith a threidd- gar ei threm ar Y Testament N ewydd yng NgoleuniW Wybodaeth Ddiweddaraf. Gan ei fod ef yn Eglwyswr, a'r Llestriyn waith Ymneilltuwyr Cymreig, y mae'n werth dyfyn- nu rhan o'i sylw ami, i ddangos ei ryddfrydig- rwydd gonest ef a'i theilyngdod hithau :— Cynnyrch mwyaf tarawiadol y symudiad hwn, foddbynnag, ydyw Llestri'r Trysor, o dan olygiaeth y Parchn. D. Tecwyn Evans ac E. Tegla Davies. Nid yn unig y mae'r gyfrol hon yn glod i'w hawduron ac i'r Cyfundeb y perthynant iddo, ond y mae'r ddau olygydd wedi gwneuthur gwasanaeth na elhr en hawdd ei or-brisio i Gymru Gymreig. Yr ydwyf yn gydna- byddus a lliaws o lawlyfrau mewn gwa- han)l ieithoedd sydd yn cynnwys rhag- arweiniad cylfredinol i'r Beibl, ond ni wn "am un o fewn terfynau cyffelyb sydd lawer gwell na Llestri'r Trysor, ac y mae araryw ohonynt nad ydynt i'w cymharu t a'r gyfrol Gymraeg mewn arddull a sylwedd. Y .mae'r ifaith fod yna alwad arrt ail argraffiad o'r Llestri o fewn llai na blwyddyn ar 01 ymddangosiad yr argraff- "iad cyntaf yn un o'r arwyddion mwyaf gobeithiol mewn cysylltiad a chytlwr gw-ybodaeth grefyddol yng Nghyrurui Dengys hyn fod y Cymro'n sychedu am y gwirionedd a'i fod wedi cael bias rhy- feddol ar y defnynnau cyntaf o lygad y ffyniion, ac y mae'n amlwg na fodlonir mohono nes bod yn feddiannol ar y cwbl o'r gwirionedd sydd ar gael ynghylch y j Beibl. Buasai beirniadaeth deilwng ar y Beibl. Buasai beirrtiad ?eth deiiwng ar y ¡ ".gyfrol yn hawlio ysgrif gyfan, ac felly ) rnaid cyfyngu ein sylwadau at rai o brif j raguriaethau y llyfr ac at ychydig o J wendidau y bydd yn hawdd eu gwella j j pan ddaw'r alwad am yrargraffiad nesaf. 16au sy'r ochr chwith i'rlClawdd. I Y mae yna an 1 i D.D. a D-Litt. ar gael tua'r jBrifdinas ondprinfodyno'rundyfnach na jdysgedicach na'r ddau Gymro Eglwysig sy'n jrheithora mor agos i'w gilydd ar gyrion Llundain, sef y Parch. G. Hartwell Jones, D.D.,D.Litt., rheithor Nutfield, a'r Parch. Maurice Jones, D.D.,D.Litt., rh either Henley- on-Thames. Y cyntaf yn frodor o Lanrhae- adr ym Mochnant, a'r olaf o Drawsfynydd, ac yn llythyru at Gymry yn Gymraeg—peth pur eithriadol i glerigion yr Hen Wlad, mwya'u colled. Yn rheitiacli lawer fod dau mor ddysgedig a gwladgar yn esgobion yng Nghymru, ac nid yn alltudionmor anewyllys- gar or wiad a garaw- ac ymedrent roddi'r f ath ddelw Gymreig ar ei hoffeiriaid pe cawsent. Y mae rhai o Gymry mwyaf galluog a dysgedig y Fam-Eglwys i'w cael y tudraw i Glawdd Offa, ac yn cael eu cadw'r fan honno gan bolisi Seisnigol dau neu dri o Gymry llawer llai eu gallu a'u dysg, ond mwy eu hystryw, sydd y tu yma i'r Clawdd. Pe newidid eu lie, ac y dodid y ddau Ddr. Jones yr ochr yma a'r lleiil yr ochr arall, fe ddeuai'r Eglwys yn un wir Genedlaethol, ac fe welem galon y genedl yn ail ddechreu cynhesu tuag ati. Qwylia dy liw, lodes I Er rhyfel a phob drudaniaeth, a'r galw mawr sydd arnom i gynhilo, cerddwch drwy heolydd y dinasoedd a chwi gwrddwch ddegau o'r benywod balch a phenchwiban yma sydd mor lwm o brydferthwch Natur nes troi ati i ymbincio a phrydferthweh benthyg. Ond ni waeth i chwi, heb, wir; canys fe wyr y dylaf ohonom y rhagor sy rhwng gwrid Natur a gwrid gwneud-a-gosod yr Apothecari. Un mor dlws a chyntiesol, a'r llall mor atcas a gwrthun ei efelychiad; unm^t dda am ddal; y llall mor ddiflanedig ac eisiau ei ail baentio bob rhyw deirawr. A'ch helpo dowch a'r coch-a-gwyn drutaf sydd yn siopau Paris a Llundain a Lerpwl yma os mynnwch,a gwneweh eich dwyrudd yn drwch ohono fe nolaf innau lodes iach i'w dodi wrth eich ochr,-Iodes ddeg oed oddiar un o ffriddoedd gwledig Meirion draw, a Duw wedi paentio ei bochau a gwrid yr awelon balmaidd a ddaw o groth y wawr ac nid o ddror yr un fferyllydd. Wy ddoch chwi beth, y mae hi'n dlysach filwaith na'r un ohonoeb. na'i lliw'n dod i ffwrdd pan gusanoch hi. Gair bach arall, wrth eich gweld yn gwrido o gywilydd Arwydd yw'r rhith-gochni yma o wegni calon a balchter pen, canys fel modrwy aur yn nhrwyn hwch yw benyw lan heb synnwyr," ebe Solomon mor dwt. Ac wrth wisgo amdanoch, ac ymharddu'n baunes fraith ucheldrem o flaen y drych, cofiwch yr adnod honno sydd yn Salm xxxix ;— Datodit felgwyfyn ei ardderchowgrwydd ef." Pa lyfr tebyg i'r Beibi "am froddegu'n gryf ac i'r dim o gywir Cofiwch hefyd mai'r lliw tlysaf a welodd y byd yma ar ruddiau merch yw lliw gwyn diweirdeb a gosodwch gwpled Robin Ddu ar eich dressing table Mogel fod, fy Ngwyndodeg, Dy liw yn erbyn dy les. A'th las moesol oedd o flaen meddwl Robin, wrth gwrs. Llygad y Waw a.JA..Jr. I

UNDEÐ EGLWYSI ANNIBYNNOL LIVERPOOL,…

Advertising